Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Hydref a 15 Tachwedd 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Hydref a 15 Tachwedd 2022.
Materion yn Codi
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd a’r drafodaeth a gafwyd, fel yr oedd wedi’i chofnodi ar dudalen 15 ar y Rhaglen, yngl?n â thrwyddedau faniau. Gofynnodd y Cynghorydd Peers am gadarnhad bod y Polisi wedi’i newid fel y cytunodd y Pwyllgor. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod y Polisi wedi’i newid gyda’r geiriad diwygiedig yn ôl y cais.
Cynigiwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Hydref a 15 Tachwedd 2022 gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ian Hodge.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i gael ei gynnal ar 10 Ionawr 2023 a soniodd am yr eitemau i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Rhoddodd yr Hwylusydd hefyd ddiweddariad ar gynnydd i drefnu gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i ystyried parcio y tu allan i’r ysgol.
Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill i’w cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen.
Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad am waith ar y gweill ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y bwriad o gynnal gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i fynd i’r afael â pharcio cerbydau y tu allan i ysgolion a gofynnodd a fyddai modd cynnal hwn cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Chwefror 2023. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y cyfarfod ar y cyd ym mis Chwefror i roi gwybod i’r Pwyllgorau Craffu am y sefyllfa bresennol a phennu ffordd ymlaen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Mike Peers.
PENDERFYNWYD: (a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2) Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach. Cofnodion: Cynigiwyd symud i 2il Ran y cyfarfod gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ian Hodge.
Darparwyd cyflwyniad ar y cyd gan Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Hodge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi pwysau costau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;
(b) Nodi opsiynau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i gwtogi cyllidebau;
(c) Nodi pwysau costau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a
(d) Nodi opsiynau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant i gwtogi cyllidebau.
|
|
AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.40am)
|