Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau wedi eu derbyn.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 7 Mehefin 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Lloyd a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 84 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, fe amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd Medi a Hydref. Fe soniodd hefyd am yr eitemau parhaus yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a thynnu sylw at y rhai a oedd wedi’u cwblhau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a oedd wedi’i anfon at aelodau’r pwyllgor yn gofyn am awgrymiadau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Oherwydd bod nifer fawr o awgrymiadau wedi dod i law, roedd y rhain wedi cael eu rhannu â’r Prif Swyddogion er mwyn eu hystyried. Gofynnodd a oedd yr aelodau’n hapus i roi amser i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Medi ar y ffordd orau i ymdrin â’r rhain. Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y byddai cynnwys amserlenni ar gyfer bob eitem yn ddefnyddiol iawn. Yna cafwyd trafodaeth fanwl am yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhai o’r amserlenni y tu hwn i reolaeth swyddogion. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), ei bod yn bwysig bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ym mis Medi ac y byddai’n cadw’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers yngl?n ag amserlenni mewn cof. Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Allport a Mike Peers.
PENDERFYNWYD: (a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chymeradwyo; (b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Pwpras: Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddog wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny. Tynnodd sylw’r Aelodau at y Cylch Gorchwyl presennol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 gyda’r newidiadau a wnaed i’w gweld yn Atodiad 2. Unwaith i’r Cylch Gorchwyl gael ei gymeradwyo, byddai wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 36, yr eitem ar drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gofynnodd oni fyddai hyn yn fwy addas i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd neu wedi’i rannu ar draws dau bortffolio. Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r rheswm am hyn oedd bod y tîm yn cael ei reoli gan ei bortffolio ac wedi’i alinio â’r tîm diogelwch cymunedol. Derbyniodd y pwynt a dywedodd y byddai hyblygrwydd lle’r oedd pynciau yn gorgyffwrdd gyda gwahoddiadau’n cael eu hanfon i bwyllgorau eraill ymuno â’r pwyllgor hwn pan yr oeddent yn cael eu trafod.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2.
|
|
Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021-22 PDF 118 KB Pwrpas: Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ei fod yn seiliedig ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2021/2022, a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mehefin 2021. Amlinellwyd targedau perfformiad a blaenoriaethau’r Cyngor yn erbyn y blaenoriaethau hynny a oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Stryd, Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, ym mhwynt 1.05 yn yr adroddiad. Yna, darparodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybodaeth am y broses fonitro a oedd ar waith drwy gydol y flwyddyn.
Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth am y tri dangosydd coch, sef:-
· Cefnogi busnesau lleol i leihau eu hôl-troed carbon a darparodd fwy o fanylion am hyn. · Nifer yr unigolion sy’n mynd i gyflogaeth, addysg neu waith gwirfoddol. · Nifer yr unigolion sy’n derbyn cefnogaeth.
Yna, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybodaeth fanwl am y 5 dangosydd perfformiad coch ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Sef:-
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod targed perfformiad ailddefnyddio, compostio ac ailgylchu Llywodraeth Cymru yn 64% y llynedd gyda’r Cyngor yn cyflawni 60.5%. Roedd hyn oherwydd y cynnydd i 70% yn 2024/25 gyda’r Cyngor yn cael dirwy o £200 am bob tunnell yr oedd yn cael ei hanfon i safle tirlenwi os nad oedd y targed hwnnw yn cael ei gyrraedd. Darparodd wybodaeth am y lefelau cynyddol o wastraff dros ben a gasglwyd yn ystod y pandemig wrth i bobl weithio gartref a chael gwared ar eu gwastraff ailgylchu gyda’u gwastraff bin du oherwydd bod y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi cau. Wrth symud ymlaen fe eglurodd, unwaith y byddai’r wybodaeth o’r dadansoddiad cyfansoddol wedi dod i law, byddai’n ein galluogi i ymgysylltu â thrigolion i annog mwy o ailgylchu yn enwedig gyda defnydd y gwasanaeth gwastraff bwyd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ailgylchu gwastraff a thargedu’r ardaloedd gwaethaf, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn edrych ar astudiaethau RFID, a rhoi sglodion electronig ar finiau i wneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon, ond nid oedd y data ar gael eto. Gallai hyn ddarparu gwybodaeth ar sut mae trigolion yn ailgylchu ond fe ychwanegodd bod y rhan fwyaf o’r trigolion yn ailgylchu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â gwefan y Cyngor a’r dudalen ‘gwirio eich diwrnod casglu’, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn ymwybodol o’r broblem. Roedd y dudalen wedi cael ei hanalluogi ac roedd yr Adran TG yn gweithio i drwsio hyn ar hyn o bryd a gobeithiwyd y byddai’n ôl yn weithredol yn fuan. Cynghorwyd trigolion i ffonio Canolfan Gyswllt y Gwasanaethau Stryd neu gyfeirio at eu calendr casgliadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2022-23 ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint PDF 94 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2022-23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), fod hyn yn ddychweliad i’r drefn arferol. Roedd yr awdurdod yn ffodus iawn o fod wedi gallu cadw tîm mor brofiadol o swyddogion ac roedd hefyd wedi recriwtio swyddogion eraill a oedd wedi darparu cefnogaeth ar draws y Cyngor.
Dechreuodd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnesau ac Arweinydd y Tîm Diogelwch Bwyd ar y cyflwyniad a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol: -
· Cynllun y Gwasanaeth Bwyd 2022 – 2023 · Cefndir Ø Mae Cynllun y Gwasanaeth Bwyd yn cynnwys Diogelwch Bwyd, Safonau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Ø Mae’r Cynllun yn ofyniad blynyddol o’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol. Ø Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid gyda Chanllawiau Ymarfer cysylltiedig sy’n llywodraethu beth rydym yn ei wneud, pryd a sut. Ø Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnwys Clefydau Trosglwyddadwy ac elfennau eraill o ddeddfwriaeth Safonau Masnach.
· Cynllun Adfer Bwyd · Sylfaen ofynnol y Cynllun Adfer · Adolygiad o 2021-2022
Ø Cyflawnwyd yr holl archwiliadau a oedd wedi’u trefnu yn unol â’r Cynllun Adfer ar gyfer Diogelwch a Safonau. Ø Busnesau newydd - archwiliwyd 91.4% o’r holl fusnesau newydd ar gyfer Hylendid a 88.6% ar gyfer Safonau. Ø Codwyd y ffigwr ‘Cydymffurfio’n Fras’ i 98.5%. Ø Symudwyd yn gynt na’r cynllun adfer mewn perthynas â Chategori B ac C Hylendid Bwyd a Chategori A-C Ymyriadau Safonau Bwyd. Ø Ni chwblhawyd yr holl ymyriadau bwyd anifeiliaid ar ffermydd - cwblhawyd ymyriadau ar 32 o 50 safle. Ø Archwiliwyd dogfennaeth pysgod cregyn o Aber Afon Dyfrdwy yn fanwl i wella cydymffurfiaeth ac olrhain yn y diwydiant pysgod cregyn.
· Ymrwymiadau ar gyfer 2022 – 2023
Ø Holl archwiliadau Hylendid Bwyd (Risg Uchel) Categori A, B ac C. Ø Holl archwiliadau Hylendid Bwyd nad ydynt yn cydymffurfio’n fras Categori D. Ø Holl archwiliadau Safonau Bwyd (Risg Uchel) Categori A a’r holl safleoedd Categori B sydd hefyd angen archwiliad Hylendid Bwyd. Ø Archwilio Hylendid a Safonau 90% o’r holl fusnesau newydd. Ø Bwyd Anifeiliaid - 72 o ymyriadau fferm a 40 safle risg uchel ar draws yr ystod o fathau busnes bwyd anifeiliaid. · Crynodeb
Roedd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd yn falch bod hyn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor. Roedd y gwaith a wnaed gan y tîm yn ystod y pandemig yn arbennig, ac ni fuasai tracio ac olrhain wedi bod yn weithredol hebddynt. Tynnodd sylw’r aelodau at dudalen 117 a oedd yn rhestru’r 1,452 o leoliadau bwyd yn Sir y Fflint, ac roedd ar bob un ohonynt angen un archwiliad y flwyddyn. Roedd yr adroddiad blynyddol yn darparu sicrwydd bod y broses ‘o’r pridd i’r plât’ yn dal ar waith, diolch i waith parhaus y tîm ac roedd wir yn glod iddynt mai pur anaml oedd problemau yn codi.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf, gydag argymhelliad y Pwyllgor y dylid ei ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru PDF 89 KB Pwrpas: I wneud sylw a chefnogi ardystiad Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, ceisiodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sylwadau’r Pwyllgor ar Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru gyda’r bwriad iddo gael ei gefnogi gan y Cabinet yr wythnos nesaf. Darparodd drosolwg o Uchelgais Gogledd Cymru o ran cyllid, darpariaeth ar draws y rhanbarth ac fe eglurodd bod y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu gan Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC). Tynnodd sylw’r Aelodau at Atodiad 1 a oedd yn amlinellu sut y byddai hyn yn datblygu dros y 5 mlynedd nesaf i fynd i’r afael ag adfer yr economi yng Ngogledd Cymru. Darparodd wybodaeth am y bwlch economaidd a’r cynllun cyflawni a fyddai’n cael ei adrodd i’r pwyllgor. Byddai unrhyw sylwadau gan y pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet a chadarnhaodd fod pob awdurdod lleol ledled Cymru yn ceisio cymeradwyo’r ddogfen hon.
Yn ôl yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, gyda LlC a chynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio er lles economaidd y rhanbarth, roedd posibilrwydd i Ogledd Cymru chwarae rôl arweiniol, yn enwedig mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai un o raglenni Uchelgais Gogledd Cymru oedd ynni carbon isel, a’r prosiect ynni’r llanw ar Ynys Môn oedd y cyntaf. Gan gyfeirio at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd y byddai pob un o’r Rheolwyr Rhaglen yn bresennol i amlinellu’r gwaith yr oedd pob rhaglen yn ei wneud, gyda’r Rheolwr Tir ac Eiddo yn bresennol ym mis Medi ac y gallai ynni carbon isel fod nesaf.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Allport ac Ian Hodge.
PENDERFYNWYD:
Bod drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru’ yn cael ei argymell i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
|
|
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin PDF 142 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â datblygiad y rhaglen a’r drefn ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol erbyn 1 Awst 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan nodi nad oedd rhywfaint o’r wybodaeth ar gael ar hyn o bryd. Mae Rhaglen Llywodraeth y DU wedi disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE, sy’n seiliedig ar refeniw gyda £2.5b o gyllid dros y tair blynedd nesaf. Amlinellodd yr amserlen dynn rhwng y rhyddhad dechreuol a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Roedd gofyn i Ogledd Cymru gyflwyno Strategaeth ar gyfer Datblygu Rhanbarthol erbyn 1 Awst, ac fe esboniodd sut y gellid defnyddio’r arian hwn. Yna, darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth fanwl am y Blaenoriaethau, a oedd yn agored i newid, ar gyfer pob un o’r tair thema, cymuned a lle, cefnogaeth a roddir i fusnesau lleol a phobl a sgiliau. Hefyd, darparodd wybodaeth am y cyllid o £10.8m a nododd y byddai recriwtio’r aelodau staff a oedd eu hangen i gyflawni hyn yn her. I gloi, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf gyda chymeradwyaeth LlC ym mis Hydref. Cadarnhaodd y byddai hyn yn dod yn ôl i’r pwyllgor yn dilyn cymeradwyaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi bod y sefyllfa yn newid o hyd a bod yr un tîm hefyd yn gysylltiedig â’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro. O ran cyllid, roedd Sir y Fflint yn yr ugeinfed safle o 22 awdurdod ac felly roedd yn teimlo’n ddigalon bod y swm o £10.8m dros dair blynedd mor isel.
Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod yn rhaid cyflwyno’r Blaenoriaethau erbyn 1 Awst a byddent yn nodi pa ymyriadau yr hoffai’r Cyngor eu dewis o’r rhaglen. Hyrwyddwyd y gweithdai drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a phartneriaid, a daeth 20 o gyfranogwyr i bob un. Roedd y sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur o ran y dadansoddiad ariannol a byddai’r gwaith i nodi pa brosiectau oedd yn bodloni’r meini prawf yn parhau. Y Cabinet fyddai’n arwain hyn, ond byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor eto yn yr hydref. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod Llywodraeth y DU wedi gosod y mecanwaith ar gyfer hyn ond bod Awdurdodau Cymru yn cael mwy o gyllid na’u cymdogion yn Lloegr, oherwydd bod hon yn rhaglen fwy yng Nghymru. Wedi dweud hynny, roedd y cyllid wedi’i anelu’n bennaf at Orllewin Cymru a’r Cymoedd.
Cafwyd trafodaeth ac fe gytunodd y Cynghorydd Mike Peers a’r Pwyllgor i newid geiriad yr argymhelliad i “Bod Aelodau yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Craffu yn y dyfodol.”
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item 13. |
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Bws Newydd PDF 121 KB Pwpras: Cynghori Craffu ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bws newydd ac ymateb arfaethedig Sir y Fflint a gofyn am sylwadau gan y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cludiant fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn ceisio adborth ar y cynigion Papur Gwyn a fyddai’n newid y ffordd y byddai gwasanaethau bws yn cael eu llywodraethu a’u gweithredu yng Nghymru. Rhoddwyd trosolwg manwl o weledigaeth LlC a’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd, ynghyd â gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol (Deddf Cludiant 1985 a 2000) a chyfrifoldebau’r Cyngor. Darparwyd gwybodaeth gefndir ar y darparwyr bysiau masnachol gyda manylion yr adolygiad o’r rhwydwaith craidd a oedd yn cynnwys canolfannau, prif drefi a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus a gefnogwyd gan y Cyngor gyda llai o wasanaethau yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig. Darparodd wybodaeth hefyd am effeithiau dadreoleiddio dros y blynyddoedd o ran gwasanaethau a’r cymorth ariannol a ddarparwyd gan y Cyngor a Grant Cefnogi Rhwydwaith LlC. Roedd y pandemig wedi amlygu natur fregus y gwasanaethau a’r effeithiau oherwydd y gostyngiad yn nifer y teithwyr.
Yna, fe adroddodd y Rheolwr Cludiant ar fentrau LlC i alluogi rheoleiddio gwasanaethau bws ar draws Cymru, a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd yn manylu ar y rhestr o fesurau a sut y byddai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith gyda LlC, awdurdodau lleol a darparwyr, ac yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac allyriadau. Roedd Awdurdodau Lleol o’r farn bod angen gwneud gwelliannau ond roedd ganddynt bryderon mewn perthynas â lefel y cyllid ar gael i gefnogi hyn, yn ogystal â darpariaethau ar gyfer gwasanaethau gwledig. Gan gyfeirio at Holiadur LlC, darparodd wybodaeth fanwl am y risgiau a’r goblygiadau ariannol allweddol ac fe gadarnhaodd y byddai sylwadau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu hadrodd yn ôl.
Cytunodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi gyda’r pryderon a godwyd a soniodd am ei ddeiseb ar-lein i LlC, “Bysiau i Bobl Nid Er Elw”, gyda’r cyn-Gynghorydd Carolyn Thomas. Roedd yn credu bod y fenter hon yn ceisio dad-wneud niwed dadreoleiddo gan ganolbwyntio ar ecwiti cymdeithasol a lleihau allyriadau carbon, ond bod yna hefyd gwestiynau heb eu hateb mewn perthynas â chymunedau gwledig. Roedd yn deall yr effeithiau ar gwmnïau bysiau bach (busnesau bach a chanolig) yn enwedig mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, ac y gallai LlC ymyrryd a chymryd cyllid o un cynllun er mwyn ei roi i un arall heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdod lleol. Gallai’r awdurdod fod yn gyfrannwr uchel gydag adnoddau yn mynd i fannau eraill a holodd a fyddai’r holl lwybrau yn ein cymunedau gwledig yn cael eu blaenoriaethu pan fyddai’n weithredol.
Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers sawl pryder yngl?n â darpariaeth y rhwydwaith craidd o fysiau a gwasanaethau trawsffiniol a’r angen i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cadw eu gwasanaethau. Roedd yr amwysedd ynghylch cyfuno adnoddau hefyd yn bryderus. Gan gyfeirio at y gwasanaethau trên, roedd yn credu y gallai’r rheilffordd Wrecsam - Bidston, yn cynnwys Parcffordd Glannau Dyfrdwy, fod yn ganolbwynt defnyddiol ond roedd y materion yn Castle Cement yn achosi problemau.
Mewn ymateb i bryderon yngl?n â rheilffordd Wrecsam - Bidston, parcffordd Glannau Dyfrdwy a Castle Cement, adroddodd ... view the full Cofnodion text for item 14. |
|
Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer Ailgylchu PDF 111 KB Pwrpas: I ymgynghori gyda Chraffu ar gael gwared ar safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu ar draws y Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybodaeth fanwl am bwrpas y safleoedd, y cyfraddau casglu a gyflawnwyd a’u lleoliadau ar draws y sir. Ers eu sefydlu, roedd y gwasanaethau casglu ailgylchu o ymyl y palmant wedi cael eu cyflwyno ac roedd yna hefyd 5 o safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref i drigolion eu defnyddio. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y safleoedd hyn yn cefnogi perfformiad ailgylchu’r cyngor, ond eu bod yn safleoedd heb staff a heb eu rheoleiddio a’u bod yn aml yn profi achosion o dipio anghyfreithlon oherwydd bod y banciau hyn ar gyfer gwydr a thecstilau yn unig. Roedd llawer o’r safleoedd hyn wedi’u lleoli mewn meysydd parcio cyhoeddus a meysydd parcio tafarndai, a oedd yn galluogi busnesau, megis y diwydiant lletygarwch, i gael gwared ar eu gwastraff, ac nid hynny oedd eu bwriad. Yna, roedd yn rhaid i Dîm Glanhau Ardal y Cyngor glirio’r gwastraff tipio anghyfreithlon, a oedd yn cael ei waredu fel gwastraff sachau duon, ac roedd eu costau yn awr yn cynyddu. Ni allai’r Cyngor dalu’r costau gyda’r gwydr a gasglwyd. Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn oherwydd bod sawl safle yn darparu’r gwasanaethau ar y cyd â’r casgliadau wythnosol o ymyl y palmant i’r trigolion hyn eu defnyddio. O ran tecstilau, gellid mynd â’r rhain i safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu fe allai trigolion ddefnyddio’r bagiau elusen yr oedd aelwydydd yn eu cael drwy eu blwch llythyrau neu ddefnyddio tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yna hefyd gais gyda LlC ar hyn o bryd i dreialu gwasanaeth casglu o garreg y drws ar gyfer tecstilau.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers pam yr oedd trigolion yn mynd â gwydr i safle dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu pan yr oedd yn cael ei gasglu o ymyl y palmant ac roedd yn amlwg pwy oedd yn defnyddio’r safleoedd hyn. Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio bod y safleoedd hyn heb staff ac felly nid oedd yn glir os oedd hwn yn wastraff gan fusnesau neu’n eitemau cartref gan drigolion. Nid oedd unrhyw wybodaeth fanwl a theimlwyd bod y gwastraff yn dod gan fusnesau yn bennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Lloyd ei fod wedi gweld achosion o dipio anghyfreithlon yn ei safleoedd lleol ac os oedd cost gynyddol i gael gwared ar hyn, yna roedd o blaid cael gwared arnynt, yn enwedig gan fod trigolion yn gallu defnyddio’r casgliadau ymyl palmant.
Mewn ymateb i gwestiwn am decstilau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid parhau i gael gwared ar decstilau yn y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref ond byddai argymhellion hefyd yn cael eu gwneud i drigolion i ddefnyddio elusennau lleol yn eu hardal hefyd. Byddai pecyn gwybodaeth cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i drigolion os bydd y safleoedd hyn yn cael eu gwaredu.
Gofynnodd y Cynghorydd Dan Rose os oedd astudiaeth wedi cael ei chynnal ar gyfer yr ardaloedd hynny nad oeddent mewn meysydd parcio tafarndai i weld os oedd angen gwirioneddol am ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|
Attendance by members of the press and public Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |