Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd David Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Evans wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd David Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Cynghorydd Mike Allport fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Hodge. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Mike Allport fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 8 Chwefror 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a David Evans.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.
|
|
AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|