Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 83 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.
Dywedodd y byddai diweddariad ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei roi ar y rhaglen pan fo’n briodol a thynnodd sylw at yr eitemau eraill oedd wedi eu rhestru i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Gofynnodd i’r Aelodau anfon unrhyw awgrymiadau ati hi o ran yr eitemau yr oeddent eisiau eu cynnwys ar y Rhaglen.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin am i eitem ar Farchnadoedd Canol Tref gael eu cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Gofynnodd hefyd am i eitem ar Gynllunio a Gorfodi oedd i fod i gael ei hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2021 gael ei dwyn ymlaen fel mater brys. Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn trafod cwmpas a phwrpas yr eitem â’r Cynghorydd Dolphin ynghyd ag unrhyw bryderon, yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol a oedd wedi eu cwblhau a gofynnodd i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) roi diweddariad ar gasgliadau a fethwyd dros y penwythnos. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai e-bost yn cael ei anfon at bob Aelod ar y manylion cyswllt.
Canmolodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y Prif Swyddog a’i dîm am y gwasanaeth a oedd wedi bod yn rhagorol yn gyffredinol meddai.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell am ddiweddariad ar Gronfa yr Ardoll Agregau. Dywedodd yr Hwylusydd na chafwyd ymateb hyd yma i’r llythyr a anfonwyd at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor yn gofyn am adfer y gronfa.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn cael awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill. |
|
Adfywio Canol Trefi PDF 114 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar yr heriau sy’n wynebu canol trefi ac i nodi ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu gweithredu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndirol a chyflwynodd yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr heriau presennol sy’n wynebu canol trefi a’r ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu rhoi ar waith.
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad gan amlinellu’r cyd-destun strategol, dull strategol Sir y Fflint o adfywio canol trefi a’r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i’w gefnogi, a’r rhaglenni gwaith sydd ar y gweill yn Sir y Fflint. Eglurodd fod yr adroddiad hefyd yn cynnig mwy o bwyslais ar ymyrraeth i greu defnydd mwy cynaliadwy o eiddo yng nghanol trefi.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton sylwadau am eiddo gwag a blêr mewn trefi ac ar y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer buddsoddiad yn nhrefi Sir y Fflint. Er ei fod yn croesawu’r cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru, dywedodd ei fod un ai angen ei ad-dalu neu arian cyfatebol a gofynnodd a fyddai hyn yn broblem i’r Cyngor yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai’r rhaglen orfodi yn dechrau ym mis Mehefin eleni i osod rhaglen waith realistig a chadarn o ran eiddo gwag. O ran y pryderon am gyllid a fynegwyd gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio, pan oedd arian grant ar gael, roedd angen isafswm o 30% o gyllid gan ffynhonnell arall a byddai angen talu benthyciad yn ôl. Os na ellid dod o hyd i arian cyfatebol, ni allai’r Cyngor gymryd rhan mewn prosiectau.
Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon na fyddai siopau ar gael mewn canol trefi yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at gyllid oedd ar gael i’w fuddsoddi yn nhrefi Sir y Fflint gan holi a oedd cyllid ar gael ar gyfer Canol Tref Bwcle, gan enwi adfer Baddonau Cyhoeddus Bwcle fel prosiect oedd angen cyllid brys. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) at ddatblygiad cynlluniau gweithredu ar gyfer pob canol tref i ddangos i gyllidwyr sut oedd pecyn eiddo ac ymyraethau (eraill) yn ffitio gyda’i gilydd yn un. Dywedodd fod angen awgrymiadau gan y gymuned leol i ddechrau i benderfynu ar y prosiectau i’w dwyn ymlaen. Ymatebodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Menter ac Adfywio i’r Cynghorydd Hutchinson hefyd ar ei gais penodol am gymorth â chyllid i adfer Baddonau Cyhoeddus Bwcle.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell nifer o bryderon am y cyllid oedd ar gael ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan ofyn a fyddai’r cyllid yn dal ar gael am beth amser fel bod asesiadau’n cael eu gwneud yn llawn ar geisiadau i’r dyfodol.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer adfywio canol tref a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mawrth 2020;
(b) Nodi’r goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer cyflawni’r rhaglen ac ystyried eu cynnwys yn natblygiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Rhaglen Gyfalaf; a
(c) Bod y Pwyllgor yn ... view the full Cofnodion text for item 55. |
|
Mynediad at Berfformiad Tîm 2019/20 a 2020/21 PDF 133 KB Rhoi gwybod i aelodau o’r Tîm Mynediad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a thynnu sylw at eu perfformiad wrth reoli a chynnal y rhwydwaith a datblygu cyfleoedd mynediad at iechyd a lles a hamdden awyr agored. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am gynnydd y Tîm Mynediad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a thynnu sylw at eu perfformiad wrth reoli a chynnal y rhwydwaith a datblygu cyfleoedd mynediad at iechyd, lles a hamdden awyr agored.
Rhoddodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol wybodaeth gefndir. Cyflwynodd yr adroddiad oedd yn rhoi manylion am y mesurau perfformiad dros 2019/20 a 2020/21, yn enwedig edrych ar sut oedd y Tîm Mynediad wedi ymateb yn ystod y pandemig Covid-19 ac wedi addasu i anghenion y rhwydwaith yn ystod y cyfnodau clo.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at gau llwybrau troed cyhoeddus, fel yr amlinellwyd yn adran 1.05 yr adroddiad a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol. Dywedodd yr Arweinydd Tîm - Mynediad fod yr holl lwybrau troed wedi ailagor. Ymatebodd Swyddogion hefyd i’r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Evans am lwybrau troed, llwybrau ceffylau ar archwilio llwybrau troed. Awgrymodd y Cynghorydd Evans y dylid hyfforddi Aelodau i archwilio llwybrau troed yn wirfoddol yn eu Wardiau i helpu’r gwasanaeth. Croesawodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr awgrym bod Aelodau a gwirfoddolwyr yn tynnu sylw at unrhyw broblemau â llwybrau troed yn eu hardaloedd fel bod y Tîm Mynediad yn gallu datrys unrhyw broblemau fel maent yn codi.
Canmolodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu gwaith caled a’u cyflawniadau.
Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton waith y ceidwaid ar lwybr yr arfordir a chyfeiriodd at y cynnydd yn nefnydd y cyhoedd o lwybr yr arfordir oherwydd y pandemig. Soniodd am waith gwirfoddol gr?p codi sbwriel Glannau Dyfrdwy, oedd wedi gwneud gwaith clodwiw wrth glirio ardal llwybr yr arfordir. Canmolodd y Cynghorydd Vicky Perfect waith gwirfoddol gr?p codi sbwriel y Fflint hefyd.
Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryder am gostau cynnal a chadw llwybrau troed nad oedd yn cael eu defnyddio ar draul y rhai oedd yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ac felly oedd angen eu cynnal a’u cadw’n aml. Gofynnodd a oedd cynghorau tref a chymuned yn rhan o gynnal a chadw a gwneud penderfyniadau am lwybrau troed/hawliau tramwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at faterion yn ymwneud â llwybrau troed a safleoedd tirlenwi yn ardal Bwcle ac yn benodol y safle tirlenwi Safonol. Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson gan egluro bod gwaith ar y gweill ar y llwybrau troed/hawliau tramwy penodol yr oedd yn cyfeirio atynt, er mwyn eu codi i’r safon ofynnol.
Tynnodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sylw at ddyfyniad yn adran 3.01 yr adroddiad gan Gymdeithas y Cerddwyr Sir y Fflint, oedd yn adlewyrchu’r berthynas bositif iawn rhwng y Gymdeithas a thîm Hawliau Tramwy’r Cyngor Sir ac roedd yn dymuno diolch a llongyfarch y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol, Arweinydd Tîm - Mynediad a’u staff ar eu gwaith caled a’u cyflawniadau.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans yr argymhellion yn yr ... view the full Cofnodion text for item 56. |
|
Diweddariad arolwg Clefyd Coed Ynn PDF 119 KB Derbyn adroddiad ar gynnydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith i liniaru’r risgiau’n gysylltiedig â’r clefyd, yn dilyn y gwaith o archwilio’r coed a effeithiwyd sydd ger priffyrdd yn ystod Haf 2020.
Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad oedd yn rhoi manylion sut oedd Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2020/21 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, er mwyn cymedroli a rheoli’r risg yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn, cynhaliwyd cyfres o arolygon i asesu dosbarthiad ac i ddosbarthu’r clefyd ar goed ynn ar ochr ffyrdd sy’n flaenoriaeth a ffyrdd eilaidd. Roedd rhaglen torri coed wedi dechrau ar goed yr oedd Cyngor Sir y Fflint yn berchen arnynt, a chysylltwyd â thirfeddianwyr â choed oedd wedi heintio i dynnu sylw at glefyd coed ynn, gyda’r disgwyliad y byddent yn rheoli eu coed eu hunain i liniaru’r risgiau. I grynhoi, amlinellodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y camau nesaf fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Holodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson os oedd unrhyw broblemau wedi codi o ran tirfeddianwyr oedd yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros glefyd coed ynn ar y coed oedd ar berthi oedd yn ffinio â phriffyrdd, a gofynnodd sut oedd perchnogaeth o’r tir a’r coed yn cael ei gadarnhau. Eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol bod ymholiadau’n cael eu gwneud â’r tirfeddiannwr, y Gofrestrfa Tir ac yn lleol i benderfynu ar berchnogaeth. Mewn rhai achosion pan oedd cyfrifoldeb yn cael ei rannu, neu dir heb ei gofrestru o ran coed ar y ffin, byddai lefel y risg yn flaenoriaeth o ran rheoli coeden oedd wedi’i heintio.
Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r swyddogion yn eu gwaith parhaus yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn. |
|
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd PDF 107 KB Cael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn rheoli gwaith cynnal a chadw eu priffyrdd er mwyn bodloni eu rhwymedigaethau statudol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor ac egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio egwyddorion y Cynllun i arwain y strategaeth ar gyfer rheoli a chynnal a chadw isadeiledd priffyrdd. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar dreialu’r defnydd o ddeunydd eildro yn y deunydd ail-wynebu priffyrdd.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir a chyflwynodd y prif ystyriaethau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Soniodd hefyd am Bolisi’r Cyngor ar Archwiliadau Diogelwch ar y Priffyrdd, lefelau ymyrraeth ac amseroedd ymateb, oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn falch a’i bod yn galonogol darllen yn yr adroddiad bod y defnydd o wastraff plastig wedi cael ei dreialu’n llwyddiannus ac yn cael ei ystyried i’w ddefnyddio mewn deunydd ail-wynebu ar gyfer gwaith ffordd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog bod rhai pryderon wedi cael eu mynegi o ran effaith amgylcheddol defnyddio plastig eildro mewn deunydd ail-wynebu ffyrdd a gofynnwyd i’r cyflenwr wneud gwaith ymchwil i benderfynu a oedd y cynllun yn fuddiol fel datrysiad hirdymor cynaliadwy ac economaidd ar gyfer defnyddio cynnyrch plastig.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Bob Connah o ran rheoli/monitro amserlenni gwaith y contractwyr a ddefnyddir gan y Cyngor.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas ar gynnal a chadw rhwydweithiau ffyrdd traws-ffiniol, eglurodd y Prif Swyddog fod gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i archwilio a chynnal a chadw ei ffyrdd ei hun. Cytunodd i godi’r pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Thomas gyda’r Cyngor perthnasol ar ei ran. Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod y Cyngor yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol cyfagos pan oedd angen. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Shotton am y gymhariaeth ag awdurdodau lleol eraill, cyfeiriodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd at y data a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018/19 oedd yn dangos bod y Cyngor yn gyntaf gyda ffyrdd A a B ac yn chweched gyda ffyrdd C. Dywedodd fod gwybodaeth ddiweddaraf y Cyngor ei hun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai gan y Cyngor oedd y nifer lleiaf yng Nghymru o ffyrdd mewn cyflwr gwael.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson am waith atgyweirio dros dro i dyllau yn y ffyrdd, eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd efallai nad oedd bwriad ar unwaith i newid twll oedd wedi ei atgyweirio, ond bod ymwybyddiaeth y byddai angen cymryd camau pellach gyda’r mesur dros dro yn y dyfodol, ac eglurodd beth oedd y meini prawf ar gyfer penderfynu sut oedd gwaith atgyweirio parhaol yn cael ei ddefnyddio yn y rhaglen rhwydwaith ffyrdd.
Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Nodi’r trefniadau presennol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd yn unol â’r ... view the full Cofnodion text for item 58. |
|
Proses Ymgynghori Teithio Llesol PDF 112 KB Hysbysu Craffu o’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar y gweill ar ddyheadau Teithio Llesol y Cyngor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd yr adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am yr ymgynghoriad strategol 12 wythnos sydd i ddod ar Fap Llwybrau Presennol Teithio Llesol a Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor, sydd i fod i ddechrau ym mis Awst 2021. Gofynnwyd i Aelodau roi sylwadau neu awgrymiadau ar y broses ymgynghori arfaethedig. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog bwysigrwydd cynlluniau oedd yn cael eu cynnwys ar y Map Rhwydwaith Integredig i ffurfio sail ceisiadau grant y Cyngor i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Anogodd yr Aelodau i ychwanegu eu hawgrymiadau ar gyfer cynlluniau lleol ar y Map Rhwydwaith Integredig i gefnogi ceisiadau yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r amserlenni’n gysylltiedig â’r ymgynghoriad sydd i ddod ar gyfer Map Llwybrau Presennol Teithio Llesol a Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor; a
(b) Bod y Pwyllgor yn gofyn am adroddiad pellach yn manylu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ffurfiol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2021. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG HEFYD YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |