Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Cynghrair Annibynnol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd ei fod wedi ei gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Rosetta Dolphin wedi cael ei phenodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Rosetta Dolphin fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Joe Johnson y Cynghorydd David Evans yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd David Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2020.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Gorffennaf 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar) Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai o a’i Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.
PENDERFYNWYD:
Nodwyd. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 85 KB Pwrpas: Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yngl?n â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor yn cynghori fod pob un o’r Pwyllgorau wedi eu newid o ganlyniad i’r adolygiad. Mae’r Gwasanaethau Adfywio wedi eu trosglwyddo i’r Pwyllgor hwn o’r hen Bwyllgor Cymuned a Menter:-
· Cymunedau’n Gyntaf · Datblygu Economaidd a Thwristiaeth · Menter · Partneriaeth Adfywio · Cynllun Datblygu Gwledig · Croeso Cymru
Symudwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd arno gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi. |
|
Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi PDF 85 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.
Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:
· Argymhellion gan y Cabinet · Amcanion y Strategaeth Adferiad · Amcanion yr Ymateb · Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb · Adferiad – trefniadau trosglwyddo · Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol · Amcanion Adferiad - Gwasanaethau · Gweithgareddau Adferiad · Adferiad Cymunedol · Cynllun a Pherfformiad y Cyngor · Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd
Aeth y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drwy'r rhan o'r adroddiad sy'n ymdrin ag Adferiad Cymunedol, ac roedd wedi ei rannu yn ddau is-gr?p Economi a Phobl Ddiamddiffyn a Thlodi. Rhoddodd gefndir pellach yngl?n â’r gr?p Adferiad Cymunedol Is-ranbarthol, sydd yn fenter Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam. Roedd pedair thema adferiad wedi eu nodi er mwyn gweithredu arnynt a dywedodd fod Arweiniad ar y Cyd o ran ffrwd waith yr Amgylchedd a Lleihau Carbon. Rhoddodd ddwy enghraifft o’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig er mwyn helpu’r Amgylchedd; Llefydd Gwyrdd er mwyn gwella ansawdd, defnydd o ddarpariaeth, hygyrchedd er mwyn hyrwyddo llefydd gwyrdd, ac yn ail Lleihau Carbon er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ar lefel leol.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Gynllun y Cyngor a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol ond oherwydd y tarfu a fu yn yr argyfwng, a gychwynnodd ganol Mawrth, ni chafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill. Eglurodd fod y Cabinet wedi tynnu ohono ac wedi diweddaru pethau allweddol oedd yn hanfodol i adferiad rhwng r?an a’r gwanwyn nesaf, pan fyddai’r Cyngor a’i Wasanaethau, gobeithio, yn gallu cael eu hadsefydlu oherwydd y tarfu mawr, a chyflwynodd Gynllun drafft y Cyngor wedi ei atodi i’r adroddiad.
Hefyd ynghlwm roedd fersiwn wedi ei diweddaru o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â’r ddau bortffolio yn dangos ble roedd rhaid gwneud newidiadau i uchelgais a thargedu oherwydd y tarfu gan yr argyfwng neu oherwydd bod peth o’r data bellach yn amherthnasol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) beth oedd ffurf yr adroddiad oedd yn seiliedig ar Adfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn unig, ynghyd â 4 atodiad ynghlwm. Cyfeiriodd at yr 14 amcan adferiad a rhestrwyd, oedd wedi eu gosod ym mis Gorffennaf 2020 a’u bod eisoes wedi mynd i’r afael â rhai ohonynt.
Adroddodd fod mwyafswm y portffolio heb ei ddynodi’n wasanaethau hanfodol, er eu bod yn dal i weithio, ac eithrio Safonau Masnach, Trwyddedu, Swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogaethau Diogelwch Bwyd yn ogystal ag Iechyd a Diogelwch, oedd yn cynorthwyo gyda sefydlu model Cyfarpar Diogelu Personol a phob un ohonynt yn gorfod parhau.
Nododd risgiau:- · 20 risg agored dros Reoli Portffolio, Gweithlu, Rheoliadau Allanol, TGCh ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Recovery Strategy - Planning Environment Economy Presentation PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) PDF 90 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad oedd yn rhoi cefndir yngl?n â risgiau a nodwyd. Gyda’r Uwch Dîm Rheoli, roedden nhw wedi nodi 47 risg gwahanol ar draws Cyllid, Gweithlu, Asedau Eiddo, Llywodraethu/Cyfreithiol, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau, Cyflenwi Gwasanaeth, Polisi Priffyrdd, Fflyd, Strategaeth Gwastraff a Pharcio a Gorfodi, ac roedd 2 o’r rhain wedi eu cau ond yn cael eu hadolygu’n wythnosol. Wrth symud i fisoedd y gaeaf roedd risgiau newydd yn dod i’r amlwg a byddent yn parhau i gael eu monitro.
Rhoddodd fwy o wybodaeth yngl?n â’r meysydd penodol canlynol: Cyllid ST09 - Marchnad ar gyfer ailwerthu deunydd eildro yn hynod anwadal. Adroddodd fod newid mawr yn y prisiau maen nhw’n eu derbyn am blastig, papur a gwydr ayyb ac yn anffodus mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llithro gan osod pwysau sylweddol ar fusnesau ond yn creu problemau hefyd i staff sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd parod ar gyfer y deunydd.
ST10a – Gwastraff cyffredinol y codi rhwng 10 - 20% yn rhanno oherwydd nifer y bobl sy’n gweithio o gartref, yn treulio mwy o amser yn y cartref a heb deithio ar wyliau gan arwain at gadw’r gwastraff yn yr ardal hon. Mae nifer y tunelli ar gynnydd sy’n achosi pwysau o ran ffi glwyd ychwanegol ond mwy o waith i staff hefyd wrth gasglu gwastraff o ochr y ffordd.
Gweithlu ST12 – Gostyngiad yn nifer y gweithwyr a’r contractwyr rheng flaen i gyflawni gwasanaethau yn ddiogel oherwydd lefelau uwch o salwch.
ST17a – Cynnydd yn y perygl o ddioddef oherwydd iechyd a lles meddyliol, materion personol ac/neu deuluol.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i'r Gwasanaethau Stryd am ddychwelyd i sefyllfa fwy arferol yn enwedig o ran torri gwair yn ei ardal ef. Rhoddodd wybod fod y Goruchwyliwr Dros Dro wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Cei Connah er mwyn cynnig yr ardaloedd oedd angen eu glanhau’n ddifrifol, yn debyg i’r un ddigwyddodd yn Shotton.
Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas wybod am Ymgyrch Ailgylchu yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei lansio, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol o’r enw ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’.Ychwanegodd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd yngl?n â hyn er mwyn annog pobl i ailgylchu a chodi’r cyfraddau unwaith eto, fyddai hefyd yn atal gollwng sbwriel hefyd gobeithio.
Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â’r ail argymhelliad. Holodd beth fyddai’n digwydd i bopeth arall fyddai wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod fod aelod o’i dîm wedi bod yn nodi eitemau oedd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyn Bwyllgorau Trosolwg ac Archwilio'r Amgylchedd a Chymuned a Menter, o ran eitemau parhaus fyddai’n cael eu bwydo i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor. Byddai pwyslais ar eitemau adfer, ond byddai’r rhaglen gwaith i’r dyfodol hefyd yn cydnabod fod angen dod ag eitemau rheolaidd o flaen y Pwyllgor ac hefyd materion yn ymdrin â swyddogaethau rheolaethol.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen meddwl am y risgiau ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Recovery Strategy - Streetscene and Transportation Presentation PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau o'r cyhoedd a'r wasg yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |