Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol ar gyfer eitem 6 ar y Rhaglen (Cynllun Busnes Theatr Clwyd) gan ei fod yn aelod o Theatr Clwyd.
Datganodd y Cynghorydd Carolyn Preece gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 6 ar y rhaglen (Cynllun Busnes Theatr Clwyd) gan ei bod yn aelod o Theatr Clwyd ac roedd aelod o’i theulu yn astudio doethuriaeth yr oeddynt yn ei ariannu’n rhannol. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mai, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2024 i’w cymeradwyo.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at argymhellion (e) ar y dudalen olaf, oedd yn nodi pa adroddiadau pellach fyddai’n dod yn ôl gerbron y Pwyllgor. Yna fe gyfeiriodd at erthygl ddiweddar yn y wasg mewn cysylltiad â chytundeb contract mewn egwyddor, a gofynnodd pam nad oedd gwybodaeth bellach wedi cael ei roi i’r Pwyllgor cyn i’r wybodaeth yma ddod yn gyhoeddus. Cytunodd yr Hwylusydd i siarad gyda swyddogion perthnasol ar ôl y cyfarfod i holi pryd fyddai adroddiad diweddaru yn cael ei roi i’r Pwyllgor.
Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2024 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith ac Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at dudalen 19 o Adroddiad Olrhain Cam Gweithredu, eitem Trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng, a gofynnodd pam nad oedd cofnodion cyfarfod EMRT wedi cael eu darparu i’r Pwyllgor. Cytunodd yr Hwylusydd i ystyried hyn fel cam gweithredu o’r cyfarfod.
Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Cynllun Ysgolion Iach a'r Cynllun Lleoliadau Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Diweddaru’r Pwyllgor ar gynnydd hyd yma, a chynllunio ar gyfer cyflwyno’r Cynllun Ysgolion Iach a’r Cynllun Lleoliadau Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd Lles a Diogelu) yr adroddiad a rhoddodd gefndir i Rwydwaith Cymru i Gynllun Lleoliadau Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy, sydd bellach yn cael ei gefnogi gan bob ysgol a 50 o leoliadau cyn ysgol. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys cysylltiadau gydag Addysg ac Iechyd oedd yn hyrwyddo ethos cwricwlwm ysgolion iach ar draws cymuned yr ysgol gyfan gyda chyfathrebu a phartneriaeth yn ganolog i’r cynllun.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd darparu enghreifftiau dienw o bryderon a fynegwyd gan staff ac i ble y cawsant eu cyfeirio a’u cefnogi. Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i rannu’r astudiaeth achos pan fyddai’r holl arolygon wedi cael eu derbyn a’u dadansoddi ar ôl y cynllun peilot. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd cynnwys hyn ar y Rhaglen Waith unwaith y byddai’r casgliadau wedi cael eu dadansoddi.
Gofynnodd y Cadeirydd bod copi o’r Polisi D?r yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Cytunwyd i rannu hyn ar ôl y cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece a fyddai modd darparu gwybodaeth o ddigwyddiad Llais y Dysgwr, yn cynnwys pa adborth a ddarparwyd gan ddysgwyr ac a dderbyniodd NEWydd rai o’r awgrymiadau a wnaed. Fe awgrymodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr adborth o ddigwyddiadau Llais y Dysgwr yn cael eu cynnwys yn adroddiad NEWydd. Roedd hynny’n golygu y gallai Steve Jones ymateb i’r rheswm pam fod awgrymiadau’n cael eu hystyried neu beidio. Fe awgrymwyd hefyd efallai y bydd Aelodau eisiau mynychu’r digwyddiad nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer tymor yr hydref.
Cynigiodd y Cadeirydd fod trydydd argymhelliad yn cael ei gynnwys i ddweud “bod y Pwyllgor yn diolch yn ffurfiol i’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) am yr adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud gydag Ysgolion.” Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Cafodd yr argymhellion gyda’r argymhelliad ychwanegol eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cael ei friffio mewn cysylltiad â’r gwelliannau sydd wedi’u cynllunio i raglen Ysgolion Iach yn 2023/24 a 2024/25.
(b) Dylai Aelodau o’r Pwyllgor ddod i’w casgliadau a’u hargymhellion yn seiliedig ar yr wybodaeth yn yr adroddiad a’r drafodaeth yn y cyfarfod; a
(c) Bod y Pwyllgor yn diolch yn ffurfiol i’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) am yr adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud gydag Ysgolion.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am eglurhad yngl?n â pham fod hwn yn cael ei ystyried o dan gweithgareddau Rhan 2. Fe eglurwyd fod yna rywfaint o sensitifrwydd masnachol o ran y Prosiect Cyfalaf.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol Rhoi cyfle i Aelodau weld Cynllun Busnes terfynol Theatr Clwyd 2023-29, a chael diweddariad blynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun.
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Theatr Clwyd bod y Cynllun Busnes, Adroddiad Effaith a Chyfrifon Theatr Clwyd at fis Mawrth 2023 wedi’u cynnwys yn y dogfennau a gyflwynwyd heddiw.
Fe ymatebodd Rheolwr Corfforaethol (Eiddo ac Asedau Corfforaethol) a Chyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Theatr Clwyd i gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd, y cyflawniadau fel y nodwyd yn yr Adroddiad Effaith, a’r sefyllfa ariannol fel y manylir yn y cyfrifon a ddarparwyd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |