Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Fran Lister a Carolyn Preece gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y Rhaglen – Theatr Clwyd a Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion.
Datganodd y Cynghorydd Teresa Carberry gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y Rhaglen – Theatr Clwyd a Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion.
Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol ag eitem 5 – Arlwyo NEWydd – darparu prydau ysgol ac eitem 6 – Theatr Clwyd a Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Hydref a 6 Tachwedd 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion (eitem rhif 3 ar y rhaglen) y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Hydref a 6 Tachwedd 2024.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Hydref a 6 Tachwedd 2024. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst, wrth gyfeirio at y trafodaethau a gafwyd pan ystyriwyd Cyllideb 2024/25 – Cam 2, fod y cam gweithredu i gadarnhau pa bwyllgor fydd yn derbyn manylion y pwysau cost ychwanegol ar gyfer hamdden a llyfrgelloedd ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad heb ei gynnwys yn y ddogfen olrhain camau gweithredu. Dywedodd yr Hwylusydd fod Hamdden a Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn dal yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor ond byddai’n gofyn am wybodaeth ynghylch pa bwyllgor y dylid cyflwyno unrhyw adroddiad ar orwariant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Preece at Gynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Sir y Fflint fel eitem i’w chynnwys a gofynnodd a oes modd cyflwyno’r eitem hon i’r Pwyllgor cyn gynted â phosibl, cyn i’r Aelodau ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Dave Healey i wahodd disgyblion Castell Alun sy’n rhan o’r Pecyn Hinsawdd i gyfarfod o’r Pwyllgor, awgrymodd y Prif Swyddog y dylid eu gwahodd i’r cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2025.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Arlwyo Newydd - darpariaeth prydau ysgol Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yngl?n â’r gwasanaeth a ddarperir mewn Ysgolion, gan gynnwys manylion yngl?n â meithrin cyswllt â disgyblion, yr awgrymiadau a wnaeth y disgyblion yn y digwyddiad Llais y Dysgwr a’r hyn a wnaed ar sail yr awgrymiadau hynny. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr (Arlwyo a Glanhau NEWydd) a’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y gwasanaeth a ddarperir i ysgolion Sir y Fflint, yn cynnwys gwybodaeth am ymgysylltiad disgyblion ac awgrymiadau gan blant a phobl ifanc yn ystod y gweithdai Llais y Disgybl, gan amlinellu sut mae’r rhain wedi dylanwadu ar y ddarpariaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y contractau dyfarniad uniongyrchol a fanylir yn yr adroddiad a gofynnodd a oes modd darparu rhagor o wybodaeth, yn gyfrinachol, ynghylch y broses gaffael ar ôl y cyfarfod. Cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr i ddarparu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.
Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â lefel ymgysylltiad disgyblion â’r ddarpariaeth prydau ysgol;
(b) Bod y Pwyllgor yn fodlon gyda chynnydd NEWydd wrth ddarparu gwasanaeth prydau ysgol sy’n gwneud y gorau o effaith gadarnhaol menter Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn cynradd Llywodraeth Cymru ar les a datblygiad disgyblion; a
(c) Bod adroddiad ar Arlwyo NEWydd – Darparu Prydau Ysgol yn cael ei ychwanegu at raglen waith y Pwyllgor fel adroddiad blynyddol. |
|
Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion Derbyn adroddiad yngl?n â chyfranogiad pobl ifanc yng ngweithgareddau Theatr Clwyd yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Theatr Clwyd a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Theatr Clwyd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a throsolwg o waith Theatr Clwyd gyda phobl ifanc yn dilyn symud yr holl weithgareddau i ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yn 2021.
Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd ac Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd ers eu creu yn 2021;
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod Ymddiriedaeth Theatr Clwyd a’r Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth yn cyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn Sir y Fflint mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac mewn meysydd darpariaeth eraill, ac yn parhau i adeiladu ar y Cynllun Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.
(c) Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor i ofyn am ymrwymiad i setliadau ariannol aml-flwyddyn ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol; a
(d) Bod y Pwyllgor yn gofyn i Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio tuag at wneud y gwasanaeth cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |