Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar gyfer eitem rhif 5 ar y rhaglen (Cyllideb 2024/25 – Cam 2), datganodd y Cadeirydd a Carolyn Preece gysylltiad personol fel llywodraethwyr ysgol. Cafodd cysylltiad personol ei ddatgan gan y Cynghorydd Fran Lister hefyd, gan fod ei phlant yn ddisgyblion yn un o ysgolion Sir y Fflint.
Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd rhaid i Aelodau o’r Pwyllgor sy’n llywodraethwyr ysgol ddatgan cysylltiad personol yn y cyfarfod os oedd eu rôl fel llywodraethwr wedi’i chynnwys ar eu ffurflen cofrestr cysylltiadau. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey i’w henw gael ei gynnwys yn y cofnodion, gan y bu hi’n bresennol. Ar y sail honno, cymeradwywyd y cofnodion.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Yn ogystal â’r awgrym i symud y Cynllun Ysgolion Iach i fis Gorffennaf 2025, cytunwyd hefyd i drefnu eitemau ar gyfer y dyfodol ar addysgu gartref a chludiant dewisol i’r ysgol.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Cyllideb 2024/25 - Cam 2 Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) er mwyn adolygu pwysau o ran costau a risgiau cysylltiedig ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid a chyllidebau ysgolion, o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:
· Hysbysu Llywodraeth Cymru (LlC) o effaith y toriadau i gyllid ar gyfer ysgolion a cheisio ystyried newid rhai ffrydiau cyllid grant yn gyllid statudol; · Bod penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu hariannu’n llawn. · Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. · Pwysigrwydd cynnal cyllid grant ar gyfer darpariaeth arbenigol i gefnogi disgyblion ag anghenion meddygol. · Cymorth i gynnal y pwysau o ran costau ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i unigolion cymwys yn ystod y gwyliau ac awgrymu bod modelau/ cyfleoedd amgen yn cael eu harchwilio gyda sefydliadau allanol a grwpiau gwirfoddol, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau i drechu tlodi plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mewn ymateb i gwestiwn, cytunodd yr Hwylusydd i ganfod pa Bwyllgor fyddai’n derbyn manylion am bwysau ychwanegol o ran costau ar gyfer llyfrgelloedd a hamdden, unwaith y byddai’r cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben. Yn ogystal, cadarnhaodd y byddai’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet.
Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysau o ran costau y portffolio Addysg ac Ieuenctid, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac yn cadarnhau y dylid dwyn ymlaen y pwysau o ran costau fel rhan o gyllideb 2025/26;
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y pwysau o ran costau i Ysgolion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac yn cadarnhau y dylid dwyn ymlaen y pwysau o ran costau fel rhan o gyllideb 2025/26;
(c) Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i amlinellu pryder y Pwyllgor ynghylch yr her i’r Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid mewn perthynas â’r ansicrwydd o ran ffrydiau cyllido Grant a gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i newid y ffrydiau cyllido grant hynny yn gyllid statudol yn y dyfodol; ac
(d) Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref oherwydd anghenion dysgu ychwanegol, yn sgil cyflwr meddygol. |
|
Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2023-24 Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad y gwasanaeth yn gyffredinol gan gynnwys Canlyniadau Dysgwyr. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ynghylch canlyniad yr hunanwerthusiad blynyddol o berfformiad a gwasanaethau o fewn y portffolio Addysg ac Ieuenctid, er mwyn darparu sicrwydd o ran ansawdd y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint.
Manteisiodd y Prif Swyddog ar y cyfle i ddiolch i’w Huwch Dîm Rheoli am eu cyfraniadau gwerthfawr i’r adroddiad. Yn ogystal, mynegodd y Cynghorydd Mared Eastwood ei diolch i’r Prif Swyddog a’i thîm. Yr un oedd y neges gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer y cyfnod 2023-2024; ac
(b) Ysgrifennu llythyr at y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’w rannu â’i thîm, er mwyn diolch iddynt am y canfyddiadau cadarnhaol o ran Adroddiad Hunanwerthuso’r Gwasanaethau Addysg 2023-24. |
|
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Rhoi diweddariad ar sut mae’r Cyngor yn bodloni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, yn unol â datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) ynghylch y cynnydd o ran bodloni gofynion y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, yn unol â datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd ynghylch y cynnydd a wnaed o ran nodau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Addysg a’r Gymraeg. |
|
Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2024 Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Datblygu Chwarae adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ynghylch Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2024, a oedd yn tynnu sylw at gyflawniadau sylweddol, mentrau cyfredol a risgiau posibl, er mwyn sicrhau bod budd-ddeiliaid yn deall gwerth y rhaglenni hyn a phwysigrwydd eu cefnogaeth barhaus i’w llwyddiant. Bu iddo hefyd awgrymu cael sesiwn briffio Aelodau ar yr Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Darpariaethau Chwarae yn y Gymuned drwy gydol y Flwyddyn, er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd chwarae diogel, dan oruchwyliaeth i blant yn eu cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan galedi;
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen PlayPals: er mwyn hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno menter PlayPals i Ysgolion, sef rhaglen 6 wythnos o hyd sydd wedi’i llunio er mwyn awdurdodi plant gyda gwybodaeth am eu hawliau i chwarae a’u hannog i ddod yn llysgenhadon chwarae yn eu hysgolion a’u cymunedau; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol: er mwyn mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd chwarae i blant yn Sir y Fflint, drwy gefnogi’r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn ymdrechion eiriolaeth, mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan mewn digwyddiadau lleol. Trwy hynny, cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cynllun Cyfleoedd Chwarae Digonol cadarn ar gyfer 2025-2028, gan sicrhau bod chwarae yn parhau’n flaenoriaeth yn y gymuned. |
|
Rhaglen Bwyd a Hwyl 2024 Darparu trosolwg o ddarpariaeth Rhaglen Bwyd a Hwyl 2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) ynghylch cyflwyno’r Rhaglen Bwyd a Hwyl i ddeg ysgol yn ystod Haf 2024.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a phawb oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen am eu cyflawniadau.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cydnabod effaith gadarnhaol y Rhaglen Bwyd a Hwyl ar ddysgwyr yn ysgolion Sir y Fflint a’u teuluoedd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |