Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Fe heriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y penderfyniad i wahardd y wasg a’r cyhoedd ac fe ddyfynnodd o Adran 12A Deddf Llywodraeth Leol sy’n nodi bod rhaid i gyfarfodydd gael eu cynnal yn gyhoeddus oni bai bod cynnal y gwaharddiad yn drech na’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth. Roedd yn teimlo os oedd y cydbwysedd i ddatgelu neu gelu’r wybodaeth yn gyfartal, yna mae’n rhaid rhyddhau’r wybodaeth. Fel rheol roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, a’r rhai oedd yn dymuno cyfyngu ar fynediad oedd angen profi eu hachos a darparu enghreifftiau o’r rhesymau pam y dylid gwneud hyn. Fe ddywedodd fod yr holl ddadleuon yma’n berthnasol yn yr achos yma gan fod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd yn effeithio ar bob preswylydd yn y Sir, ac roedd yna lawer o drafodaeth ymysg y cyhoedd wedi bod amdano. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys miliynau o arian cyhoeddus ac roedd yr opsiynau yn cynnwys risg sylweddol gyda’r disgwyliad bod y Cyngor yn gorfod defnyddio ei arian prin wrth gefn i ariannu costau ychwanegol na gyllidebwyd ar eu cyfer. Roedd angen herio rhai o’r honiadau a wnaed yn y papurau, a hyd yn oed ar ôl i’r cyfan gael ei ddadlau, dim ond hanner stori oedd gan yr Aelodau gan nad oedd yna gyfle i’r parti arall gyflwyno ei achos i’r Aelodau. Petai trafodaethau yn mynd i feysydd eithriedig, roedd hi o fewn p?er y Pwyllgor i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r trafodaethau penodol hynny. Oni bai y gellir darparu dadl gymhellol oedd yn gwrthbwyso’r pwyntiau hynny yr oedd wedi’u gwneud, fe ddywedodd y dylai Aelodau wrthod y cynnig i wahardd y wasg a’r cyhoedd.
Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y Swyddog Monitro wedi rhoi sylw dyledus i’r holl bwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst ac fe ddaeth i’r casgliad y dylai’r cyfarfod hwn gael ei gyfarfod mewn sesiwn breifat. Y sefyllfa bresennol oedd bod y Cyngor mewn trafodaeth fasnachol gyda pharti arall ac felly roedd y rhain yn sensitif ac yn gyfrinachol. Dyna’r rheswm pam fod y cyfarfod yma’n gyfrinachol.
Dywedodd y Cadeirydd mai natur agored a thryloywder oedd egwyddorion craidd llywodraethu da fel yr amlinellwyd gan y Cynghorydd Parkhurst. Nid ar chwarae bach y dylai’r penderfyniad ar gyfer yr adroddiad gael ei ystyried mewn modd cyfrinachol gan Aelodau. Byddai materion o natur sensitif masnachol yn cael eu trafod ac roedd angen iddynt aros yn gyfrinachol tan yr amser priodol.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Dewisiadau i’r dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd Pwrpas: Cyflwyno adroddiad ar y dewisiadau hirdymor ar gyfer darparu gwasanaethau a cheisio barn yr Aelodau ar y dewisiadau sydd ar gael. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o drefniadau gweithredu presennol ar gyfer darpariaeth Gwasanaeth Hamdden, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd a gwerthusiad o opsiynau at y dyfodol ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Hamdden i’w ystyried a rhannu barn ar ddewisiadau a ffefrir i’r Cabinet.
Fe amlinellodd y Swyddog Gweithredol Strategol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad ac eglurodd fod y trefniant ariannu gwreiddiol rhwng y Cyngor ac Aura wedi cychwyn ar 1 Medi 2017, ac fe gafodd ei ymestyn tan 31 Mawrth 2024 yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2021. Roedd yr estyniad terfynol yn golygu bod rhagor o amser i adfer ar ôl y Pandemig ac fe alluogodd amser i edrych ar y dewisiadau newydd o fis Ebrill 2024. Fe eglurwyd y byddai’n well pe byddai yna drefniant hirdymor rhwng y ddau barti, ac fe wnaed gwaith comisiynu i lywio’r broses gwneud penderfyniadau a oedd yn cynnwys adolygu meincnodi, asesu anghenion strategol a chyngor cyfreithiol.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth am gyngor Cyfundrefn Rheoli Cymhorthdal yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn a oedd yn eithaf newydd ac a oedd yn disodli’r Cymorth Gwladwriaethol gyda grant newydd a oedd yn cael ei ystyried yn gymhorthdal o ddiddordeb penodol oherwydd lefel y cyllid.
Gofynnodd Aelodau nifer o gwestiynau oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:-
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn dilyn y drafodaeth a’r sylwadau a wnaed gan Aelodau, awgrymodd fod angen rhagor o wybodaeth ac y dylid eu diwygio i adlewyrchu hyn.
Yn dilyn trafodaeth, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion canlynol:-
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth gwasanaeth hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd;
(b) Bod cynrychiolwyr FMG Consulting Ltd yn cael eu gwahodd i gyflwyno’r adroddiadau a gomisiynwyd i bob ... view the full Cofnodion text for item 55. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |