Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Grwp Llafur yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Teresa Carberry yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cyngor wedi penderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol mai’r Gr?p Llafur fyddai’n cadeirio’r Pwyllgor hwn. Cafodd y Pwyllgor wybod mai’r Cynghorydd Teresa Carberry oedd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Ryan McKeown y Cynghorydd Carolyn Preece a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bill Crease.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Carolyn Preece yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jason Shallcross gysylltiad personol yn eitem rhif 11 ar y rhaglen gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant.

 

Datganodd y Cynghorydd Ryan McKeown gysylltiad personol yn eitem rhif 10 ar y rhaglen gan ei fod yn Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gynradd Brychdyn ac yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant.  Cafodd ganiatâd hefyd gan y Swyddog Monitro i siarad cyn gadael yr ystafell. 

 

Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol yn eitem rhif 11 ar y rhaglen gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Uwchradd Penarlâg. 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 115 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 eu cynnig ac fe eiliwyd y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

5.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith ac Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

Gan ymateb i gais am eitemau i gael eu cynnwys ar y Rhaglen Waith am daliadau diswyddo, ymddiswyddiadau penaethiaid a  hyblygrwydd y broses gosod cyllideb, awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cynghorydd Mackie yn anfon e-bost ati gan nodi pa wybodaeth benodol yr oedd ei angen.   Byddai’r adroddiad Balansau Ysgolion a fyddai’n cael ei gyflwyno ym mis Medi yn cynnwys gwybodaeth am lefel ailstrwythuro gweithlu mewn ysgolion.   Gallai datganiad sefyllfa glir am ddiswyddiadau athrawon gael ei ddarparu ar yr un pryd.

 

Wrth ymateb i gais yngl?n â dulliau o gefnogi ysgolion drwy heriau cyllidebol, cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu adroddiad oedd yn amlinellu’r gefnogaeth yr oedd y Portffolio yn ei roi i ysgolion yngl?n â chyllidebau, adnoddau dynol a lles pennaeth tra’n trafod y prosesau hyn.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am y risg posibl i’r Awdurdod petai TAW yn cael ei roi ar ffioedd ysgolion preifat, dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) bod adolygiad o gapasiti darpariaeth arbenigol o amgylch y Sir yn cael ei gynnal.   Roedd gwybodaeth hefyd yn cael ei gasglu am bwysau ariannol yr oedd ysgolion yn eu hwynebu o ran cefnogi plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Fe awgrymwyd bod adroddiad oedd yn ymwneud â’r materion yma’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn nhymor yr hydref.  

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog mai un o’r dulliau a ddefnyddir i fodloni’r angen hwnnw oedd darpariaeth Y Tu Allan i’r Sir.   Byddai gweithdy’n cael ei drefnu i Aelodau yn nhymor yr hydref a fyddai’n cynnwys gwybodaeth yngl?n â sut roedd y ddarpariaeth honno’n cael ei rheoli.

 

Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a gofynnodd am ddiweddariad o ran a fyddai trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng yn cael eu dosbarthu i Aelodau.   Cytunodd yr Hwylusydd i wirio hyn a’i ddosbarthu i Aelodau.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.

 

6.

Newidiadau i Fodelau Cyflawni Gwella Ysgolion yng Nghymru pdf icon PDF 128 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i newid y mecanwaith ariannu ar gyfer yr holl gonsortia rhanbarthol ledled Cymru. Yn ogystal, darparu canlyniad yr adolygiad haen ganol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at oblygiadau sylweddol i’r trefniadau presennol ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru (LlC) i  newid dull ariannu ar gyfer pob consortia rhanbarthol ar draws Cymru, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniad Adolygiad Haen Ganol yr oedd LlC wedi’i gomisiynu. Rhoddwyd eglurhad am y newid o ddull rhanbarthol i fodel a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol unigol a oedd yn cynnwys y cyfnod pontio rhwng mis Mai 2024 a mis Mawrth 2025.   Cyfeiriwyd hefyd at Grant Addysg Awdurdod Lleol LlC a’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod rhwng y chwe Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru.  Roedd ysgolion hefyd yn derbyn cyllid uniongyrchol gan LlC i gefnogi cynlluniau dysgu proffesiynol.   Roedd yr Adroddiad a Gomisiynwyd gan Awdurdod Lleol bron a chael ei gwblhau cyn cael ei arwyddo gan y Prif Swyddog, Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg a Diwylliant a’r Uwch Dîm yn GwE. 

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi cael digon o wybodaeth am y newidiadau a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru drwy’r Adroddiad Haen Ganol, y newidiadau i’r dulliau ariannu i gonsortia rhanbarthol a’r trefniadau i wasanaethau gwella ysgolion yn Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod angen llawer o reoli newid er mwyn cyflawni cynigion Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus ar gyfer model gwella ysgolion diwygiedig yn yr hirdymor.

 

 

 

7.

Fframweithiau Diwygiedig Estyn ar gyfer Arolygu Ysgolion a Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 111 KB

Darparu gwybodaeth ar y Fframwaith Arolygu newydd ar gyfer Ysgolion gan Estyn a’r Fframwaith Arolygu Llywodraeth Leol ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y newidiadau yn dilyn Adolygiad Estyn o ran arolygu ysgolion a gwasanaethau addysg awdurdod lleol.   Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn cynnwys nifer o argymhellion a ystyriwyd gydag Estyn yn cyflwyno addasiadau i’r broses arolygu o ganlyniad i hynny.  Byddai cylched yr arolygon ar gyfer gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn dechrau ym mis Medi, ac roedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn awr yn rhan o arolwg yr awdurdod.  Roedd Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol mewn trafodaethau gydag Estyn i sefydlu sut y byddai’r newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y fframwaith newydd ar gyfer y dyfodol.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor eu bod wedi derbyn gwybodaeth ddigonol am y trefniadau arolygu newydd ar gyfer arolygon Estyn mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.

 

8.

Presenoldeb Ysgol a Gwaharddiadau pdf icon PDF 112 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Cynhwysiant a Chynnydd yr adroddiad a gyflwynir yn flynyddol ac roedd yn cynnwys gwybodaeth am lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ar draws ysgolion Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.   Amlygwyd pwyntiau allweddol yn yr adroddiad. 

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid trefnu sesiwn friffio ar Ymarfer sy’n Seiliedig ar Drawma ar gyfer yr Aelodau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd hefyd bod gwybodaeth am Fenter Perthyn yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r data yngl?n â phresenoldeb a gwaharddiadau yn ysgolion Sir y Fflint a’r camau a gymerodd y swyddogion i hybu cyfranogiad, diogelwch a lles ein plant a phobl ifanc.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

9.

Adolygiad Rhwydwaith Ysgolion Saltney a Broughton

Ystyried y dewisiadau rhwydwaith ysgolion arfaethedig ar gyfer ardal Saltney/Brychdyn cyn cymeradwyaeth y Cabinet.

Presented By: The public interest in withholding the information outweighs the interest in disclosing the information until such time as the proposals within the report have been implemented. Mae budd y cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn ôl yn drech na’r diddordeb mewn datgelu’r wybodaeth hyd nes y bydd y cynigion yn yr adroddiad wedi’u gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth) y wybodaeth ddiweddaraf o ran dewisiadau rhwydwaith ysgolion ar gyfer ardal Saltney / Brychdyn.  

 

Yn dilyn cais am wybodaeth o ran terfynau amser yn y dyfodol, cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ardal Saltney a Brychdyn; a

 

(b)       Bod arsylwadau’r Pwyllgor ar gyfer y dull o foderneiddio ysgolion yn ardal Saltney a Brychdyn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet cyn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

 

 

10.

Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru

Ystyried Cynllun Amlinellol Strategol y Cyngor, sy’n nodi anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ystâd yr ysgol dros y saith mlynedd nesaf drwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth) y wybodaeth ddiweddaraf ar gam nesaf Rhaglen Dreigl Llywodraeth Cymru.   Darparwyd gwybodaeth ar gyfer Band A a B a oedd yn cynnwys cyfeiriad at gyllid grant, Ysgolion Arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.   Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried Cynllun Amlinellol Strategol y Cyngor, sy’n nodi anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ystâd yr ysgol dros y saith mlynedd nesaf drwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst o ran pwysau costau ac effaith refeniw, cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’n trafod y mater ymhellach gydag ef y tu allan i’r cyfarfod.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod arsylwadau’r Pwyllgor yn cael eu rhannu gyda’r Cabinet.

11.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.