Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

34.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

35.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 14 Medi a 19 Hydref 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14 Medi 2023

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 i’w cymeradwyo.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease a Carolyn Preece.

 

19 Hydref 2023

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 i’w cymeradwyo.

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Mrs Lynne Bartlett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Medi ac 19 Hydref 2023 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

36.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 a chyfeiriodd at yr Adolygiad Cymheiriaid Cyfiawnder Ieuenctid a oedd wedi'i symud i gyfarfod mis Chwefror.

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhawyd bod mwyafrif y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf wedi'u cwblhau.   Roedd yr adroddiad Allsirol wedi'i gynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyda chais am Weithdy ar Leoliadau Allsirol ar gyfer Aelodau newydd wedi'i drosglwyddo i'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.   Rhoddwyd diweddariad ar y cais am adroddiad ar Gadw a Recriwtio.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dylid diwygio pwrpas yr eitem Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg Cymru a restrwyd ar gyfer y cyfarfod Craffu ar y Cyd ar 27 Mehefin i adlewyrchu trosolwg cyfan o Addysg cyn ac ôl-16.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst pam fod “Mynd i’r Afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ganlyniadau Addysg” yn dal i gael ei restru fel eitem i’w hamserlennu.  Cytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i gymryd hyn fel cam gweithredu o'r cyfarfod i sicrhau y neilltuwyd dyddiad cyfarfod ar ei gyfer.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd David Mackie at ei gais yn y cyfarfod diwethaf am restr o gyrsiau dysgu proffesiynol a gynigir gan GwE ac at y ddogfen a dderbyniodd gan ddweud ei bod yn anodd ei deall.  Roedd y wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani yn ymwneud â:-

 

    Pa hyfforddiant oedd yn cael ei gynnig i athrawon yn Sir y Fflint;

    Pa hyfforddiant oedd yn cael ei ddyfeisio;

    Beth oedd pwrpas yr hyfforddiant;

    Faint o bobl a ddisgwylir i ddod i’r hyfforddiant.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y wybodaeth hyfforddi a ddarparwyd gan GwE a theimlai y byddai'n ddefnyddiol cynnwys mwy o fanylion ynghylch pa gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi oedd ar gael i ysgolion.  Credai y gellid cael gwell dealltwriaeth wedyn pe gellid cymharu dadansoddiad o hyfforddiant yn ysgolion Sir y Fflint â Siroedd eraill.  

 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr atodiad yr oedd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) wedi'i anfon at y Cynghorydd Mackie wedi'i ddarparu gan GwE a'i fod yn amlinellu'r holl hyfforddiant a chymorth proffesiynol a ddarperir i ysgolion Sir y Fflint.  Cadarnhawyd hefyd fod cyfarfod wedi'i drefnu rhwng y Cynghorydd Mackie, yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a Swyddogion GwE er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y cam gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a oedd yn ymwneud ag adroddiad ar ddemograffeg a gofynnodd pam nad oedd yn dangos yn yr eitemau i'w hamserlennu.   Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r wybodaeth am effeithiau demograffeg disgyblion yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau cyllideb, fodd bynnag, pe bai angen mwy o wybodaeth ar yr Aelodau, yna gellid trefnu gweithdy.   Roedd y Cynghorydd Mackie yn meddwl tybed a ellid darparu adroddiad diweddaru rheolaidd, yn debyg i'r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch balansau ysgolion, gan ei  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Y Diweddaraf ar Gymunedau Cynaliadwy ar Gyfer Dysgu pdf icon PDF 116 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed gyda rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Jennie Williams, yr Uwch Reolwr, (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) i'r pwyllgor ac amlinellodd y meysydd gwaith yr oedd hi'n ymdrin â nhw.

 

            Wrth gyflwyno'r adroddiad amlygodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, y cyfeiriwyd ati yn flaenorol fel y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.  Cyflwynwyd y diweddariad diwethaf i’r pwyllgor ym mis Chwefror 2022 ac roedd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd ac yn cynnwys gwybodaeth am yr heriau a’r pwysau a oedd yn eu hwynebu.    Darparodd yr Uwch Reolwr wybodaeth am y cyllid grant a oedd ar gael a'r tîm bach a gafodd y dasg o gyflawni hyn.   Yna tynnodd sylw at rai pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Gofal Plant a safle Ysgol Croes Atti a fyddai’r ail ysgol ddi-garbon net a'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf.   Darparwyd diweddariad ar Gampws 3 i 16 ym Mynydd Isa a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y tîm gwerth cymdeithasol rhagorol a'r effeithiau yr oedd yn eu cael o fewn y gymuned a'r rhwydwaith ysgolion ehangach.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y portffolio wedi gweithredu'r cynigion statudol i gynyddu capasiti yn Drury a Phenyffordd a gwblhawyd ym mis Rhagfyr 2022 a bod cam nesaf yr estyniadau a'r adnewyddu wedi cychwyn.  Yna darparwyd gwybodaeth am y broses ymgysylltu ar gyfer Adolygiad Ardal Saltney a Brychdyn a oedd wedi'i chwblhau ac a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r Cabinet.   Yna rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar y Grant Cyffredinol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim Cynradd a oedd yn dod yn ei flaen yn dda ac roedd hyn wedi galluogi rhai newidiadau o ran adnoddau ac adnewyddu mewn ysgolion cynradd.   Gan gyfeirio at Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod cyllid grant cyfalaf o £2m wedi ei dderbyn a chadarnhawyd bod peth arian wedi ei neilltuo i’r Pwll Hydro a ddefnyddir gan yr Ysgolion Arbennig a dysgwyr eraill.   Roedd gwaith yn cael ei wneud i gynyddu'r capasiti ar gyfer dysgwyr yr oedd angen cymorth ADY arnynt.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y gwasanaeth wedi defnyddio'r Grant Cyfleusterau Cymunedol a Grantiau Chwaraeon Cymru a oedd wedi galluogi i waith gael ei wneud ar safleoedd ysgolion i gefnogi mynediad cymunedol i'r cyfleusterau hynny.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Bill Crease at Adolygiad Ardal Saltney Brychdyn ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chododd nifer o gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus, yr arolwg cyflwr a chyllid ar gyfer cynnal a chadw’r ysgol.  Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw Uwch Swyddogion neu Aelodau wedi mynychu'r ysgol eleni i weld beth oedd yn digwydd yno.

 

            Mewn ymateb, cydnabu'r Uwch Reolwr bod yr adolygiad hwn wedi cymryd peth amser i symud ymlaen gan fod amgylchiadau cymhleth o amgylch safle'r ysgol a llifogydd yn yr ardal hon.  Byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Cabinet a'r Pwyllgor ynghylch canlyniadau'r broses ymgysylltu.   Eglurodd ei bod hi a swyddogion eraill wedi ymweld  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.