Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ar Gyfer y Cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd wrth y Pwyllgor y byddai angen penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie enwebu’r Cynghorydd Paul Cunningham a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley. Ar ôl cynnal pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Cunningham yn Gadeirydd y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cynghorydd Paul Cunningham yn cael ei benodi yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Eitem 5 ar yr Agenda a gofynnodd am eglurhad ynghylch a ddylai ddatgan cysylltiad gan ei fod yn aelod o ddau Gyngor Tref a Chymuned. Dywedodd yr Hwylusydd wrth yr Aelodau, cyn belled â bod y wybodaeth hon wedi'i chynnwys ar eu Ffurflen Cod Ymddygiad, nid oedd angen iddyn nhw ddatgan cysylltiad yn ystod y cyfarfod.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB YstyriedRhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig, ond cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at yr eitemau ychwanegol sydd wedi’u cynnwys ar gyfer cyfarfod 1 Chwefror 2024.
Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhawyd bod gweithdy'n cael ei drefnu i edrych ar y fwydlen newydd, y byddai’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn mynd iddo, a bydd yr adborth yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. O ran yr Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2022-23, cadarnhawyd y byddai Jennie Williams yn paratoi Nodyn Briffio ar raddau cyflwr ysgolion a fyddai'n cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr atodiad data hyfforddiant o Adroddiad Blynyddol GwE, yr oedd wedi’i ddosbarthu i'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod diwethaf. Eglurodd fod y wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani fel a ganlyn:-
• Pa hyfforddiant oedd yn cael ei gynnig i athrawon yn Sir y Fflint; • Pa hyfforddiant oedd yn cael ei ddyfeisio; • Beth oedd pwrpas yr hyfforddiant; • Faint o bobl a ddisgwylir i ddod i’r hyfforddiant.
Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a fyddai modd mireinio’r ddogfen data hyfforddiant i gynnwys y wybodaeth uchod gan egluro y byddai’n fodlon cwrdd â swyddogion i drafod hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i godi hyn gyda swyddogion yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie hefyd at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a soniodd am weithdy a gynhaliwyd nifer o flynyddoedd yn ôl a fu o gymorth. Gofynnodd a ellid cynnwys hyn yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn i'r Aelodau gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy’n rhan ohono yn ogystal â chynorthwyo, efallai, ag atebion posibl i'r pwysau o ran y gyllideb. Awgrymodd hefyd y dylid darparu gweithdy i Aelodau ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir ar ôl pob etholiad Cyngor Sir.
Dywedodd yr Hwylusydd fod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn dod dan gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Cytunodd drosglwyddo'r cais ar ôl y cyfarfod a gofynnodd bod y Pwyllgor yn cael ei wahodd i unrhyw gyfarfod sy’n ystyried y mater hwn. O ran y cais ar gyfer gweithdy, cytunodd i drafod â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ofyn iddo gael ei gynnwys yn y broses flaengynllunio ar gyfer gweithdai i Aelodau yn y dyfodol.
Siaradodd y Cynghorydd Gladys Healey o blaid y sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Mackie ynghylch Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a chyfeiriodd at gynnig yn ei ward hi a fyddai'n cefnogi pobl ifanc ac yn helpu i leihau'r gorwariant yn y gyllideb. Gofynnodd hi a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i siarad â swyddogion yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cais y Cynghorydd Healey am wybodaeth.
Cafodd yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
|
|
Cyllideb 2022/23 - Cam 2 PDF 123 KB Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a'i ddiben oedd adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau o ran y gyllideb a lleihau costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Phennu Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid:
· Pwrpas a Chefndir · Y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer y Cyngor · Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – Risgiau Parhaus · Y Sefyllfa Gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol · Crynodeb a Chasgliadau · Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Addysg ac Ieuenctid · Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid · Her Cyllideb 2024/25 – ein dull ni · Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (1) · Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (2) · Crynodeb o Ostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid · Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (3) · Pwysau o ran Costau ar Ysgolion · Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Ysgolion · Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion · Portffolio Addysg ac Ieuenctid a Risgiau Parhaus mewn Ysgolion · Y tu allan i’r Sir · Y Camau Nesaf ar gyfer y Broses o Bennu Cyllideb 2024/25 · Proses y Gyllideb – Cam 2 · Proses y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
· Recriwtio a Chadw Staff – Adroddiad ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff yn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid; a · Demograffeg – Adroddiad ar ddemograffeg a sut y byddai hyn yn effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod lefel yr achosion cymhleth mewn ysgolion wedi cynyddu ers y pandemig. Eglurwyd bod gan ysgolion gyfrifoldebau sylweddol o ran Diogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r portffolio’n rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion ynghyd â chyngor ac arweiniad cyfredol. Roedd diogelu yn gymhleth ac yr oedd yn newid yn barhaus yn enwedig o ran diogelwch ar-lein. Oherwydd bod Diogelu yn cael ei flaenoriaethu, eglurwyd bod hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y tîm a'u gallu i gefnogi ysgolion.
Wrth ymateb i'r awgrym a wnaeth y Cynghorydd Mackie ar gyfer yr eitemau ychwanegol yn ymwneud â recriwtio a chadw a demograffeg, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) fod y materion yn ymwneud â recriwtio a chadw yn fater ehangach sy'n effeithio ar bob portffolio, felly byddai angen ystyried sut y gellid bwrw ymlaen â hyn. Eglurodd hefyd fod tystiolaeth o newidiadau mewn demograffeg ac y dylid disgwyl y rhain yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ddemograffeg yn y ddarpariaeth arbenigol yn cynyddu o ran niferoedd a chymhlethdod. Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac eglurodd hi fod gr?p mwy o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd eleni a bod y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn llai. Byddai hyn yn anffodus yn effeithio ar ysgolion ... view the full Cofnodion text for item 31. |
|
Cynllun Chwarae Gwyliau'r Haf Sir y Fflint 2023 PDF 121 KB Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2023. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint) adroddiad i roi adborth ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf Sir y Fflint 2023.
Rhoddodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) ddiweddariad manwl ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf 2023, gan nodi bod Sir y Fflint yn cynnig cyfanswm o 56 o leoliadau diogel ar gyfercynlluniau chwarae, ac mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cynnal dros gyfnod o 3, 4, 5, neu 6 wythnos, yn dibynnu ar ofynion penodol y Cynghorau Tref a Chymuned. Cofrestrodd cyfanswm o 3,681 o blant ledled y sir ar gyfer y Cynlluniau Chwarae, gan arwain at gyfanswm o 11,907 o gofrestriadau dyddiol. Cynhaliwyd 1,200 o sesiynau chwarae, neu 8,000 o oriau o amser cyswllt. Roedd 69 o aelodau o staff wedi’u cyflogi ar gontractau tymor byr ar gyfer yr Haf a chawson nhw 5 diwrnod o hyfforddiant cyn cynnal y cynllun. Yn ogystal â'r ymrwymiad i fynd i’r afael â bod yn llwglyd dros y gwyliau, darparwyd 5,000 o boteli o dd?r a 3,000 o fariau byrbrydau.
Gwnaeth Cynlluniau Chwarae Gwyliau’r Haf eleni gyflwyno’r Gymraeg i weithgareddau chwarae ym mhob safle a oedd yn cyd-fynd â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir y Fflint. Yn ogystal â hyn, yr oedd o leiaf un aelod o staff a oedd yn siarad Cymraeg yn bresennol mewn 10 safle a oedd yn galluogi darpariaeth ehangach ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Hefyd, yn ystod haf 2023, cofrestrodd 32 o blant ac unigolion ifanc ar y Cynllun Cyfeillio, gan roi mynediad iddynt i Gynllun Chwarae eu cymuned leol. Roedd y Cynllun Cyfeillio yn cefnogi cynhwysiant, hygyrchedd ac ymgysylltiad i bob plentyn, waeth beth fo'u gallu. Sicrhawyd y cyllid ar gyfer y Cynllun Cyfeillio trwy grant Teuluoedd yn Gyntaf.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) fod y Cynlluniau Chwarae yn cael eu cefnogi gan 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a bod amrywiaeth o gynlluniau yn cael eu cynnig. Yn rhan o argymhelliad 3, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, cynigiwyd newid hwn naill ai’n gynllun 3 neu 6 wythnos. Byddai hyn yn helpu i reoli a staffio'r safleoedd, ac eglurwyd sut y gallai cael dau safle 3 wythnos fod o fudd i gymuned. Roedd yn anodd datblygu'r gwasanaeth ar hyn o bryd a chyfeiriodd at yr argymhelliad bod Cynghorau Tref a Chymuned yn ystyried y posibilrwydd i ymrwymo mewn egwyddor i gylch ariannu 3 blynedd a fyddai'n galluogi i ddarpariaeth ac amcanion hirdymor mewn cymunedau gael eu hystyried.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) hefyd fod Datblygiad Chwarae Sir y Fflint yn cynllunio dyfodol arloesol a chynaliadwy i ddarpariaeth ac ymrwymiad i blant yn Sir y Fflint. Gan ddefnyddio’r ddarpariaeth lwyddiannus yn ystod gwyliau’r haf fel patrwm, y nod oedd cynnig darpariaethau gwyliau yn ystod pob gwyliau ysgol. Amlinellwyd manteision yr ymrwymiad hwn yn yr adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Ryan McKeown faint o blant a oedd yn mynd i gynlluniau chwarae’r haf yn 2023 a oedd yn cael prydau ysgol am ddim, sut yr oedd hyn yn cymharu â blynyddoedd ... view the full Cofnodion text for item 32. |
|
Aelodau o'r Wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 4.04 pm)
………………………… Cadeirydd
|