Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Hilary McGuill gysylltiad personol gan fod ei merch yn athrawes yn Sir y Fflint.

21.

Cofnodion pdf icon PDF 141 KB

I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021, a chyfarfod y Pwyllgor ar 13 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

29 Mehefin 2023     

 

Derbyniwyd cofnodion cyd-gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y wybodaeth yr oedd y Cynghorydd Hilary McGuill wedi gofyn amdano yngl?n â’r pedwar plentyn nad oedd mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, a chadarnhaodd y Cynghorydd McGuill bod y wybodaeth wedi cael ei ddosbarthu trwy gyfrwng e-bost.

 

Cafodd cofnodion y cyd-gyfarfod eu cymeradwyo, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’r Cynghorydd Carolyn Preece.

 

13 Gorffennaf 2023

 

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 i’w cymeradwyo. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan NEWydd gyda disgyblion am y fwydlen newydd, a gofynnodd a fyddai modd rhoi diweddariad ar ôl yr hanner tymor i gynnwys adborth gan y disgyblion oedd wedi blasu’r fwydlen newydd.  Fe awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod nodyn briffio yngl?n â sut roedd y fwydlen yn cael ei dderbyn gan ddisgyblion yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd.

 

Cafodd cofnodion y cyfarfod eu cymeradwyo, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey a’r Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin a 13 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

22.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

YstyriedRhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, fe amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sy’n cael eu cyflwyno yn y cyfarfodydd sydd i ddod, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1, a dywedodd y byddai eitem ychwanegol ar yr ymgynghoriad am Ddisgrifiadau o Rôl Aelodau’n cael ei chyflwyno i’r cyfarfod nesaf ar 19 Hydref 2023.  Fe ddywedodd hi hefyd bod gweithdy i bob Aelod am y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Hydref ac y byddai cadarnhad o’r dyddiadau ac amseroedd yn cael eu hanfon i Aelodau maes o law. 

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod cyfarfod cyntaf Gr?p Tasg a Gorffen Parcio Ysgol wedi’i drefnu ar gyfer 19 Medi er mwyn ystyried a chytuno ar Gylch Gorchwyl i’r Gr?p. Unwaith y caiff ei gytuno, bydd yn cael ei rannu gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.   Roedd pob cam gweithredu arall wedi’i gwblhau.

 

Fe awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiadau canlynol yn cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfod 1 Chwefror 2024:-

 

·         Trosolwg o ganlyniadau Lefel A a TGAU yr haf ar ôl eu gwirio ym mis Rhagfyr 2023; ac

·         Adolygu Strategaeth Ôl-16 - amlinellu sut yr oedd y comisiwn cenedlaethol newydd yn datblygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y datganiad a gyhoeddwyd gan Townlynx a’r amharu posibl i ran o’r gwasanaeth bws ysgol.  Er ei bod yn cydnabod eu bod bellach wedi rhoi sicrwydd i’r cyhoedd nad oedd newidiadau i’r gwasanaeth yn cael eu cyflwyno, gofynnodd am sicrwydd hefyd gan y Cyngor yngl?n â pha asesiadau risg oedd yn cael eu cynnal petai rhywbeth tebyg yn digwydd eto.  Fe eglurodd y Prif Swyddog mai ei chydweithwyr yng Ngwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth oedd yn darparu cludiant ysgol felly byddai’r mater yma yn dod o dan gylch gwaith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.  Dywedodd fod y mater yma ar gofrestr risg y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ar gyfer gwasanaethau bws ysgol, a rhoddodd deyrnged i’w chydweithwyr yn y gwasanaeth a fu’n gweithio’n eithriadol o galed i ddod o hyd i ddatrysiadau cludiant amgen i 1100 o blant.  Roedd hi hefyd yn falch bod y mater wedi cael ei ddatrys a bod y gwasanaeth bws wedi parhau i redeg. 

 

O ran asesiadau risg, cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at bibell dd?r a fyrstiodd yn Ewlo, gan olygu bod yr ysgolion yn yr ardal wedi rhedeg allan o dd?r.  Dywedodd ei fod yn bryderus nad oedd y cwmni d?r wedi cysylltu â’r Cyngor na’r ysgolion i roi arweiniad/gwybodaeth am y mater yma.  Wrth ymateb, cytunodd y Prif Swyddog i adrodd yn ôl i’r Tîm Rheoli Argyfwng yr hyn roedd y Cynghorydd Mackie wedi’i ddweud.  Fe eglurodd y Prif Weithredwr bod materion o’r natur yma’n cael eu hystyried trwy gynllunio wrth gefn a bod materion fel hyn yn cael eu trin yn lleol  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Newid I Drefn y Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai yna newid i drefn y busnes a byddai eitem rhif 6 ar y rhaglen yn cael ei ystyried cyn eitem rhif 5 ar y rhaglen.

 

24.

Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2022-23 pdf icon PDF 168 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 22-23 a Chanlyniadau Dysgwyr ar gyfer 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a diolchodd y Rheolwr Cyllid Strategol am y gwaith a wnaed yn dod â’r adroddiad at ei gilydd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Fforwm Cyllideb yr Ysgol.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda phob Pennaeth hefyd.

 

            Cyn cyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at dabl 3 yn yr adroddiad a dywedodd fod fersiwn diwygiedig wedi cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.  Roedd yr adroddiad yma wedi cael ei ymestyn i gynnwys chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol i roi amlinelliad o’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a thynnodd y Rheolwr Cyllid Strategol sylw at y gostyngiad mewn cyllid o 3% ar ben y cynnydd mewn chwyddiant i ysgolion yn y flwyddyn ariannol bresennol.  Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa o ran y cronfeydd wrth gefn ac roedd Tabl 1 yn amlygu’r cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu â 2021/22.  Rhoddwyd gwybodaeth am yr effeithiau ar gyllidebau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, gyda gostyngiad o £12.5miliwn i £7miliwn, ac roedd yr atodiad yn tynnu sylw at y canrannau ar sail ysgol wrth ysgol.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at Dabl 2 oedd yn amlygu sut roedd y cronfeydd wrth gefn wedi symud dros y 5 mlynedd ariannol ddiwethaf.  Roedd yna bryderon o ran cadernid y sector uwchradd wrth reoli amgylchiadau annisgwyl, megis absenoldeb hir dymor a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar lefel y cronfeydd wrth gefn sydd ar gael.  Rhoddodd yr adroddiad ddadansoddiad hefyd ar gyfer y sector cynradd, roedd gan chwe ysgol gynradd gronfeydd wrth gefn negatif ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, roedd tri o’r rhain yn gymharol fach, ond roedd y tri arall yn sylweddol.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod pob ysgol wedi cyflwyno eu cynlluniau cyllideb 2023/24 oedd yn amlygu cynnydd mewn ceisiadau am gefnogaeth gan y Tîm Cyllid, cydweithwyr AD a chydweithwyr mewn Gwella Ysgolion.  Bu yna lefelau uwch o ddiswyddiadau gwirfoddol, ac roedd y wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn Nhabl 5 yr adroddiad.  Byddai’r Cyfrifiad Gweithlu Blynyddol a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Tachwedd yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol, ond teimlwyd nad oedd y sefyllfa o ran diswyddo drosodd eto gan fod ysgolion yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn i reoli eleni gyda risgiau yn 2023/24 neu 2024/25. Roedd Tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi amcangyfrif o’r sefyllfaoedd ym mhob ysgol a rhoddwyd trosolwg o’r wybodaeth a ragwelir o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod yr amseroedd heriol yn parhau gyda gostyngiadau cyffredinol yng nghronfeydd wrth gefn ysgolion a theimlwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa gydag ysgolion yn glir.  Diolchodd i Benaethiaid a chyrff llywodraethu am eu gwaith yn ceisio lleihau costau, ac roedd hi’n llwyr ddeall eu rhesymau dros siarad gyda’r Cyngor a GwE i gael help a chymorth.

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey am glustnodi cyllidebau ysgolion, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion (GwE) pdf icon PDF 101 KB

Cael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol, GwE a’r effaith ar ysgolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg manwl o waith Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol gydag ysgolion Sir y Fflint yn ystod blwyddyn academaidd 2022 -2023.

 

Fe nodwyd yn yr adroddiad fod yna berthynas gref rhwng Cyngor Sir y Fflint a Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE). Roedd yna weithdrefnau cadarnhaol ar waith i osod cyfeiriad a dwyn y gwasanaeth rhanbarthol

i gyfrif. Roedd rolau penodol yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol mewn gwella ysgolion yn amlwg ac yn glir i bob budd-ddeiliaid ac roeddynt yn cael eu dwyn i gyfrif yn effeithiol gan weithdrefnau craffu lleol.

 

            Gwahoddodd y Prif Swyddog Mr. Phil McTague, Mr. Bryn Jones a Mr. David Edwards o GwE i gyflwyno’r adroddiad ymhellach.

 

            Tra’n cyflwyno’r adroddiad, fe eglurodd Mr. Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd), fod y gwasanaeth  wedi symud ymlaen o’r pandemig i ail ddylunio'r Cwricwlwm. Rhoddodd fanylion y pedwar prif faes mewn cysylltiad ag ysgolion uwchradd, sef:-

 

Maes Allweddol 1 – Gwella Arweinyddiaeth

Maes Allweddol 2 - Gwella Addysgu a Dysgu

Maes Allweddol 3 - Cwricwlwm a Darpariaeth

Maes Allweddol 4 - Cynnydd a Safonau Dysgwr

 

            Tynnodd Mr. McTague sylw’r Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad oedd yn cynnwys crynodeb o’r pedwar maes allweddol ar gyfer ysgolion uwchradd.  Dywedodd fod gwella arweiniad mewn ysgolion yn hanfodol i dwf unrhyw ysgol, ac amlinellodd newidiadau mewn Penaethiaid a heriau y mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu ar draws Sir y Fflint.  Rhoddwyd gwybodaeth am broffil Penaethiaid, ac fe gadarnhawyd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i wella ansawdd arweiniad gyda systemau hunanwerthusiad cadarn oedd yn rhai mewnol, dan arweiniad gwasanaeth, gyda gwybodaeth gan Awdurdod Lleol ond roeddynt bellach wedi’u proffilio’n genedlaethol drwy Fframwaith Gwella Ysgolion.

 

Rhoddwyd trosolwg o gynllunio data mewn ysgolion uwchradd ac roedd gan y mwyafrif o ysgolion brosesau hunanwerthuso clir ar waith yn enwedig gyda’r hyfforddiant wedi’i ddarparu ar gynllunio gwella. Darparwyd gwybodaeth am y cynlluniau cefnogi wedi’u targedu oedd ar waith ar gyfer rheoli perfformiad mewn ysgolion uwchradd.   Darparwyd amlinelliad o’r gwersi oedd wedi cael eu harsylwi mewn ysgolion a chweched dosbarth, ynghyd â throsolwg o’r meysydd yr oedd angen eu datblygu dros y flwyddyn i ddod.

 

Cyfeiriodd Mr. McTague at y Cwricwlwm, ac eglurodd fod pob uwch arweinydd yn yr ysgolion uwchradd yn gweithio’n galed wrth atgyfnerthu’r weledigaeth i ddylunio’r  Cwricwlwm, gan gydnabod cryfderau a  gweithio gyda budd-ddeiliaid. Roedd pob ysgol yn Sir y Fflint yn rhan o gynghreiriau gydag ysgolion eraill a rhoddwyd amlinelliad o’r manteision a byddai’n rhan o’r fframwaith gwella wrth symud ymlaen.  Roedd yna feysydd i fynd i’r afael â nhw megis parhau i weithio ar y cyfnod pontio a dulliau cyson o flynyddoedd 5 i 8, parhau i gynnal cyfarfodydd gyda’r cynghreiriau a sefydlwyd er mwyn rhannu arfer da a bod GwE a Sir y Fflint yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ysgolion i ddatblygu dulliau a phrosesau asesu i dracio disgyblion yn unol â’r newidiadau yn y Cwricwlwm. 

 

Gan gyfeirio at gynnydd Dysgwyr a safonau, fe eglurwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2022-23 pdf icon PDF 99 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 22-23 a Chanlyniadau Dysgwyr ar gyfer 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad wedi cael ei lunio yn unol â Fframwaith Estyn presennol ar gyfer Archwilio Gwasanaethau Llywodraeth Leol oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, cydraddoldeb gwasanaethau addysg, arweinyddiaeth a rheoli.  Fe gadarnhaodd bod Estyn yn dod at ddiwedd y gylched arolygu, a’u bod yn disgwyl bod wedi gorffen eu harolygon erbyn diwedd haf 2024.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod Estyn wrthi’n llunio fframwaith newydd o hydref 2024 ymlaen.  Fe eglurwyd er bod yr Awdurdod wedi cael ei arolygu yn 2019, roedd yn debygol y gallai’r arolwg nesaf fod yn agos at ddechrau’r fframwaith newydd, gyda gwaith cynllunio yn parhau ar gyfer cychwyn y gylched nesaf o arolygon.  Fe amlygwyd yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn yr adroddiad a oedd hefyd yn darparu crynodeb fanwl o waith sy’n cael ei wneud i ymateb i’r argymhellion. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill am eglurhad am y Graddau Cyflwr a restrwyd yn A, B, C a D a nodwyd yn rhan o’r Arolwg Addasrwydd. Fe eglurodd y Prif Swyddog fod arolygon yn cael eu cynnal ar ystâd yr ysgol ar sail gylchol, oedd yn cynnwys arolygon am addasrwydd yr adeilad i ddarparu darpariaeth addysg briodol.  Roedd yna hefyd arolwg am gyflwr adeiladau ysgolion yn erbyn safonau’r diwydiant ac roedd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i benderfynu lle’r oedd angen gwaith cynnal a chadw hanfodol neu raglen moderneiddio ysgolion radical.  Fe awgrymodd fod yr Uwch Reolwr Cynllunio Lleoedd Ysgol yn rhoi nodyn briffio byr ar ôl y cyfarfod er mwyn egluro’r gwahaniaethau yn y graddau cyfle i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuil, a’i eilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.                

      

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2022 - 2023.

 

27.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.