Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 119 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Mai 2023.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i siarad â'r Hwylusydd i sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023 eu cymeradwyo

fel y’u cynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

12.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd i ddod a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Nid oedd unrhyw eitemau ychwanegol i'w cynnwys ar wahân i'r eitem a nodwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a chytunodd i ymgynghori â'r Hwylusydd i sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys. Yna darparwyd gwybodaeth am y Gweithdai Aelodau ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chyllideb 2024-24 a Rhianta Corfforaethol.

 

Yna rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2. Byddai angen i'r cynigion ar gyfer Hyfforddiant Rhianta Corfforaethol gorfodol aros nes bod canlyniadau ymgynghoriad Adolygiad Penn yn hysbys ond cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ei fod ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at yr Hyfforddiant Rhianta Corfforaethol ar-lein a theimlai fod sesiynau wyneb yn wyneb i Aelodau yn well. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod sesiwn ar-lein wedi'i threfnu yn dilyn y cais i'w chynnal cyn y toriad ac ar fyr rybudd. Byddai'r sesiwn yn rhoi golwg gyffredinol ar Rianta Corfforaethol ac yn cynnwys llawlyfr CLlLC ac atodiad yn amlinellu beth oedd y rôl yn ei olygu.  Roedd y Cyngor ar hyn o bryd yn adolygu ei Strategaeth Rhianta Corfforaethol a chynigiwyd cyflwyno dwy sesiwn arall, un wyneb yn wyneb ac un ar y we, yn yr Hydref unwaith y byddai'r Strategaeth wedi'i diwygio a'i hadnewyddu.  Byddai’r hyfforddiant yn cynnwys themâu penodol ar gyfer Sir y Fflint, a chynigiwyd hefyd gwahodd rhai o’r Bobl Ifanc i siarad ag Aelodau ac ateb cwestiynau.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i'r swyddogion am ddarparu'r data ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal ac wedi'u gwahardd o'r ysgol. Roedd y ffigwr o 20% yn llawer uwch na disgyblion eraill a chyfeiriodd at ddata cenedlaethol a oedd yn dangos bod plant sy'n derbyn gofal yn fwy tebygol o gael eu gwahardd am ddangos yr un math o ymddygiad cythryblus â'u cyfoedion.  Fel Rhieni Corfforaethol roedd yn ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau nad oedd plant sy'n derbyn gofal yn cael eu trin yn wahanol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.               

      

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.

 

13.

Adroddiad Estyn ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 119 KB

Cyflwyno’r cynllun gweithredu manwl a’r camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod yr adroddiad diweddaru yn dilyn Adroddiad Arolwg Estyn cadarnhaol ar gyfer y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned a gynhaliwyd ym mis Mai 2022. Roedd yr aelodau wedi gofyn am ddiweddariad ar gynnydd yr argymhellion a dderbyniwyd yn dilyn yr Arolwg hwnnw gydag Estyn yn cydnabod meysydd cryfder a datblygiad y Partneriaethau. Amlinellwyd y pedwar argymhelliad a throsolwg o'r gwaith a wnaed ar gyfer pob argymhelliad yn yr adroddiad.

 

            Diolchodd yr Uwch Reolwr i Dawn Spence, yr Ymgynghorydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) a'r Ymgynghorydd Dysgu Ôl-16, a ddywedodd hi oedd y grym i weithredu'r argymhellion ochr yn ochr â'r gwaith a wnaed yn y Cynllun Gwella Ansawdd i wella a datblygu'r ddarpariaeth dysgu oedolion.

 

                      Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece y tîm am y cynnydd rhagorol a wnaed a dywedodd nad oedd addysg gymunedol wedi'i hyrwyddo'n flaenorol ond roedd y Cynllun yn gwella hyn.

               

            Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm am ei ddull partneriaeth gyda'r Cyngor am fod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn yn enwedig yr ymrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg.  Roedd hi hefyd yn falch bod y dysgwyr eu hunain yn rhan o hyn.
               

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd a wnaed yn erbyn Arolwg Estyn yn cael ei nodi; a

(b)       Bod y Pwyllgor wedi'i sicrhau gan drylwyredd y cynllunio a gwerthuso gwelliant o fewn y Bartneriaeth.

 

14.

Cynllun Ysgolion Iach a Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS) pdf icon PDF 150 KB

Rhoi trosolwg o’r Rhaglen Ysgolion Iach, gan gynnwys heriau yn dilyn y Pandemig, gwybodaeth am y Cynllun Gwên a’r risg o ddisgyblion yn defnyddio E-sigaréts i iechyd y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu – Iechyd, Lles a Diogelu yr adroddiad diweddaru ar gyfer Ysgolion Iach a oedd wedi bod yn bresennol mewn ysgolion ers dros 20 mlynedd ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ond a arweiniwyd ar lefel Awdurdod Lleol. Roedd y Cynllun Cyn-Ysgol Iach yn dilyn model tebyg gyda'r Cynllun yn darparu arfer gorau i'r ysgolion weithio tuag ato ac roedd amlinelliad o'r pynciau iechyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.  Cyn Covid, aseswyd ysgolion ar sut y casglwyd tystiolaeth i gefnogi datblygiad ac roedd gwybodaeth am yr hyn yr oedd ysgolion wedi'i gyflawni wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor.  Ers Covid roedd y Cynllun o dan adolygiad cenedlaethol a oedd wedi cyd-daro â diwygiadau’r Cwricwlwm a chynigiwyd ail-lansio’r Cynllun yn genedlaethol yng ngwanwyn 2024.  Roedd y Cynllun Ysgolion Iach yn uno â’r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Lles a byddai hefyd yn ei lansio yng ngwanwyn 2024.

 

            Y flaenoriaeth oedd cefnogi ysgolion i fynd i’r afael â’r ymagwedd ysgol gyfan i arfarnu eu darpariaeth eu hunain ar gyfer llesiant wrth gefnogi dysgwyr a staff, i gryfhau’r meysydd cadarnhaol, mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru gyda 82.1% o ysgolion Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y broses hon, a oedd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 52%.  Roedd mwy na 67% wedi cwblhau'r Teclyn Hunanasesu a gafodd dderbyniad da yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.  Rhoddwyd diweddariad ar y Cod ACRh / Cwricwlwm i Gymru a Bwyd a Maeth mewn ysgolion uwchradd. Ymgynghorwyd â dysgwyr ar draws ysgolion uwchradd ac roedd eu hargymhellion ar gyfer gwelliannau wedi'u cynnwys.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am Gydgysylltu Rhaglenni ar gyfer y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, Bwyd a Hwyl ac Urddas Mislif. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y Diffiniad Fêpio a oedd yn arbennig o heriol i Benaethiaid mewn ysgolion. Gwerthwyd fêpio yn lle ysmygu i oedolion ond nid oedd tystiolaeth hirdymor ar gael ar hyn o bryd ar oblygiadau fêpio.  Darparwyd gwybodaeth am ffurfio'r Gr?p Ymateb i Ddigwyddiad ac roedd yr Awdurdod yn darparu hyfforddiant i arweinwyr mewn Ysgolion Uwchradd ar y dyfeisiau fêpio, y gwahanol lefelau o gemegau sydd ynddynt a sut i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau cysylltiedig.  Roedd polisi di-fwg wedi'i ddatblygu a byddai'n cael ei lansio yn nhymor yr Hydref a darparwyd amlinelliad o sut y byddai'r hyfforddiant yn hysbysu Penaethiaid ysgolion uwchradd a chynradd yn well.

 

Parhaodd ysgolion i gael cymorth ynghylch cwblhau'r Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) a fyddai'n cael ei gynnal yn yr hydref mewn ysgolion uwchradd er mwyn gallu casglu mwy o ddata lleol.  Unwaith y byddai'r data cywir o bob ysgol uwchradd wedi'i gasglu, byddai'n cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.  Yna byddai angen newidiadau ar lefel y DU gyfan i fynd i'r afael â hyn a byddai'r papur briffio gan Ash Cymru yn cefnogi'r angen hwnnw am newid.

 

            Dywedodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint 2023-2026 pdf icon PDF 367 KB

Cyflwyno’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd yr Uwch Reolwr, Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint drosolwg o'r gwaith statudol a wneir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint.  Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol ynghlwm wrth y Cynllun yr oedd angen ei gyflwyno i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol.  Roedd y Cynllun yn ymgorffori’r weledigaeth a rennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ‘Plant yn Gyntaf’ a sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma gyda chymorth partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Glynd?r. Roedd y gwasanaeth wedi bod yn rhan o gynllun peilot yng Nghymru o’r blaen gan ddefnyddio’r Model sy’n Ystyriol o Drawma drwy’r peilot Rheoli Achosion Uwch, ac roedd hyn yn adeiladu ar lwyddiant y peilot a’r canlyniadau cadarnhaol a gafwyd.  Roedd y gwasanaeth am sicrhau bod cyfranogiad o fewn yr amcanion strategol gweithredol yn galluogi lleisiau'r plant a'r bobl ifanc i gael eu clywed er mwyn llywio cyfeiriad, dulliau ac adnoddau'r gwasanaeth wrth symud ymlaen. Roedd y rhain wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Cyfranogiad y cytunwyd arni y llynedd, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am ganlyniadau'r plant a'r bobl ifanc a ddaeth i'r System Cyfiawnder Troseddol a'r cymorth a gawsant gan y tîm ymroddedig.

               

            Bu newidiadau hefyd yn y math o droseddau a gyflawnwyd y llynedd gyda phandemig Covid yn effeithio ar y data yr oedd modd ei gasglu.  Bu gostyngiad mewn troseddau trefn gyhoeddus, cynnydd mewn troseddau lladrad ond trais oedd y prif drosedd o hyd a rhoddwyd blaenoriaeth ychwanegol iddo.  Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Ddyletswydd Trais Gwasanaeth statudol a’r Cynllun Gweithredu Ieuenctid ynghylch trais ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i asio hyn â’r Strategaeth Trais Difrifol.  Roedd trais difrifol yn cyfeirio at gyfran fechan o'r garfan ond yn parhau i fod yn bryder.  Pryder arall i’r gwasanaeth oedd y defnydd cynyddol o’r ddalfa a remand, gyda’r cyfraddau yn Sir y Fflint yn parhau’n eithaf isel ond bu cynnydd bychan o fewn y 12 mis diwethaf a oedd yn ymwneud â throseddau mwy difrifol. Fel gwasanaeth roedd defnyddio’r ddalfa yn cael ei weld fel y dewis olaf ond yn anffodus mewn rhai amgylchiadau roedd yn rhaid ei ddefnyddio gan fod heriau o gwmpas y sector gofal cymdeithasol ar gyfer lleoliadau priodol i blant a phobl ifanc.  Roedd angen cydbwysedd rhwng cefnogi person ifanc a chadw'r gymuned yn ddiogel.

               

            Adroddodd yr Uwch Reolwr ar gynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a'r effeithiau ar y garfan i sicrhau eu bod i gyd yn cael profiad cadarnhaol ynghyd â mynd i'r afael â materion anghymesuredd o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.

 

            Wrth amlinellu'r heriau ar gyfer y flwyddyn i ddod, roedd yr adroddiad yn amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau a'r ffordd unigryw y derbyniodd y gwasanaeth arian grant. Darparwyd hyn gan LlC, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid statudol fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd a gwasanaethau eraill.  Eglurodd yr Uwch Reolwr sut yr oedd yr arbedion effeithlonrwydd a’r heriau costau byw a wynebwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 131 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer diwedd y flwyddyn i’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Amlygwyd bod 77% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gyda 62% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau ar gyfer y flwyddyn.  Roedd Adran 1.04 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r graddfeydd cynnydd cyffredinol yn erbyn gweithgareddau ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y ganran fechan o weithgareddau Coch, gyda’r Prif Swyddog yn egluro nad oedd blwyddyn adrodd y Cyngor yn cyd-fynd â’r flwyddyn Ysgol Academaidd ac mai’r prif ffocws mewn ysgolion eleni oedd yr ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol ac archwiliadau sylfaenol y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y cyfarfod. Roedd ysgolion ar y trywydd iawn o ran cwblhau eu harchwiliadau sylfaenol a chreu eu cynlluniau gweithredu a fyddai'n cael eu hadlewyrchu yn adroddiad Ch1.  Gan gyfeirio at Adran 1.08 o'r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl am yr is-flaenoriaethau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol a sesiynau dysgu digidol a ddarperir yn Gymraeg.

 

            Mewn ymateb i sylw’r Cynghorydd Dave Mackie ar y diffyg gwybodaeth gan Brifysgol Agored Cymru, eglurodd y Prif Swyddog fod y wybodaeth hon gan Aura gan ei bod yn un o’u targedau.  Cytunodd fwydo hyn yn ôl iddynt. Gofynnodd y Cadeirydd am i gynrychiolydd o Aura fynychu cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi cefndir i'w adran hwy o'r adroddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie ar Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen a chynnydd mewn gwaharddiadau disgyblion, dywedodd y Prif Swyddog fod gan y portffolio gefnogaeth y Tîm Cynhwysiant ond mai rhan o’r Strategaeth oedd defnyddio arbenigedd yr Uned Cyfeirio Disgyblion gan fod y rhain yn unigolion medrus iawn a oedd yn delio â phlant ag ymddygiad heriol.  Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r heriau a wynebir o ran staffio a’r ffocws i ailsefydlu eu huwch dîm arweinyddiaeth a mynd i’r afael ag argymhellion Arolygiad Estyn.  Yn wyneb hyn roedd y Penaethiaid Uwchradd yn deall y sefyllfa yn llawn ac yn cydymdeimlo.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad Plas Derwen oedd yr unig ffynhonnell oedd ar gael i ysgolion gan fod cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus eu staff eu hunain o ran rheoli ymddygiad drwy'r cyllid datblygiad proffesiynol a dysgu.  Yn dilyn y pandemig a’r heriau yr oedd disgyblion yn eu hwynebu wrth ddychwelyd i’r ysgol, teimlai llawer o staff nad oedd y strategaethau a oedd ar waith cyn y pandemig yn llwyddiannus mwyach.  Roedd y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol yn bwysig fel elfen gefnogol o’r archwiliadau a’r cynlluniau yr oedd yr ysgolion yn eu rhoi ar waith i gefnogi’r materion hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gladys Healey ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a'r tîm a oedd yn cefnogi hyn, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Roedd y tîm yn cynnwys Swyddog ymroddedig a ganolbwyntiodd ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Gwasanaeth Prydau Ysgol pdf icon PDF 126 KB

Darparu gwybodaeth ar newidiadau i’r model darparu, y ffocws parhaus ar ddarpariaeth o ansawdd mewn ysgolion a datblygu’r cynllun peilot hefo Well-fed.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad esboniodd Mr Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar brydau ysgol am ddim i bawb.  Er bod hwn yn gam cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru (LlC), fel busnes roedd wedi amlygu rhai risgiau gan ei fod yn gwneud y cwmni yn fwy o darged i gwmnïau sector preifat.  Roedd ysgolion yn gwneud y penderfyniadau hyn eu hunain, felly blaenoriaeth NEWydd oedd darparu gwasanaeth da i gadw’r busnes.

 

Dechreuodd y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim ym mis Medi 2022 gyda disgyblion oed derbyn ac yna gyda blynyddoedd 1 a 2 ar ôl Pasg 2023. Roedd y gwasanaeth ar y trywydd iawn i'w gyflwyno i flynyddoedd 3 a 4 ym mis Medi 2023 gyda blynyddoedd 5 a 6 yn gymwys o fis Ebrill 2024 ymlaen.  Roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud mewn ysgolion a oedd yn cynnwys gwelliannau i isadeiledd, offer, adnoddau a sicrhau bod prosesau ar waith.  Sefydlwyd gr?p prosiect trawsbleidiol i oruchwylio hyn a oedd yn cynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynrychioli NEWydd a chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd. Cynrychiolodd y Gr?p y Cyngor yn genedlaethol hefyd mewn cyfarfodydd a arweiniwyd gan LlC neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i drafod cyllid ac arlwyo.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at adran 2 o'r adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am y gwelliannau i'r isadeiledd gyda gwybodaeth a ddarparwyd ar y gegin ganolog a grëwyd 2 flynedd yn ôl a'r gwaith a wnaed yn dilyn ei gyflwyno gyda mwy o brydau ysgol yn cael eu darparu. Roedd pob pryd yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ac mae gwaith ar y gweill i ailgyflwyno, er enghraifft, mwy o ryseitiau cartref a phobi ar y safle tebyg i’r hyn a ddarparwyd cyn y pandemig.  Rhoddwyd gwybodaeth am y bartneriaeth beilot gyda Well Fed a disgwylir y canlyniadau'n fuan.

 

Mewn perthynas ag adnoddau, cadarnhawyd bod y cyllid refeniw gan LlC yn seiliedig ar gyfradd uned brydau o £2.90 y pryd, gyda llawer o Gynghorau gan gynnwys Sir y Fflint yn nodi nad oedd hyn yn talu am y gost o'i ddosbarthu.  Roedd Gr?p wedi'i sefydlu i adolygu gwir gost pryd ysgol gan gynnwys yr holl gostau nid y bwyd yn unig gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfod ar 17 Gorffennaf.  Gan gyfeirio at Gyllid Cyfalaf roedd LlC wedi dyfarnu £3m o gyllid cyfalaf i'r awdurdod a oedd wedi galluogi gwelliannau i isadeiledd, gwelliannau i gyflenwadau nwy a thrydan i geginau, gwaith awyru a phrynu offer. Roedd hefyd wedi galluogi mwy o gapasiti coginio o fewn y ceginau, a diolchodd i'r ysgolion am eu cefnogaeth yn ystod y gwaith hwn.  Roedd nifer fach o ysgolion yn aros i’r gwaith isadeiledd ddechrau a chynlluniwyd amserlen waith gyda thîm eiddo’r Cyngor yn ystod tymor yr haf i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau erbyn mis Medi.  Rhoddwyd trosolwg o'r trefniadau eistedd gwell, y goleuadau a'r llestri.

 

Gan gyfeirio at risgiau  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

TG Ysgolion pdf icon PDF 47 KB

Darparu nodyn briffio ar sut yr eir i’r afael â materion mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG y gwaith a wnaed gan ei dîm mewn Ysgolion o ran cymorth TG ac isadeiledd.  Roedd y Nodyn Briffio yn cynnwys gwybodaeth am yr heriau isadeiledd cenedlaethol a Rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) a oedd yn darparu mynediad rhyngrwyd i bob ysgol a'r Cyngor.  Amlygwyd gwybodaeth gefndir ar y Nodyn Briffio o ran sut y darparwyd y gwasanaethau a heriau isadeiledd diweddar ynghyd â'r camau lliniaru a gymerwyd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Bill Crease i’r Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd am y Nodyn Briffio.  Adroddodd ar ymweliad diweddar ag ysgol lle'r oedd yn llywodraethwr ysgol a'r problemau cyson a wynebai staff o ran cyrchu'r system gan ddefnyddio'r gwasanaeth WiFi yn yr ysgol.  Roedd hyn drwy'r ysgol gyfan, a theimlai mai naill ai'r isadeiledd o fewn yr ysgol neu'r modd y gosodwyd y dyfeisiau sy'n cyrchu'r gwasanaeth oedd angen eu gwirio.  Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Isadeiledd i siarad â'r Cynghorydd Crease y tu allan i'r cyfarfod i gael mwy o fanylion ac i siarad â'r ysgol.  Roedd pob ysgol wedi cael buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd TG, dyfeisiau diwifr a defnydd terfynol gyda miliynau wedi’u gwario ledled Cymru.  Roedd yn fwy na pharod i godi hwn i ganfod pam yr effeithiwyd ar yr ysgol fel hyn.

 

            Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i Reolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG a ddylai'r ysgol fod wedi uwchgyfeirio hyn drwy drefniadau Technegydd TG yr ysgol.  Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG fod hynny'n gywir ond roedd am ymchwilio ymhellach i'r mater. Diolchodd y Cynghorydd Crease i'r Rheolwr Gwasanaeth a dywedodd fod nifer yr offer yn yr ysgol yn wych gyda'r prif anhawster i gael y ddyfais ar y system.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

19.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 3.48pm)

 

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd