Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cyngor wedi penderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol y byddai’r Gr?p Llafur yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Cafodd y Pwyllgor wybod mai’r Cynghorydd Teresa Carberry oedd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Enwebwyd y Cynghorydd Carol Preece fel Is-gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Gladys Healey.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley.

 

            Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Carolyn Preece yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Mawrth 2023.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023 eu cymeradwyo 

a gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey a’r Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

5.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r eitemau a oedd yn cael eu cyflwyno i’r cydgyfarfod blynyddol gyda’r Pwyllgor Trosolwg a chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 29 Mehefin.   Gan gyfeirio at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cadarnhaodd bod yna un newid, Adroddiad Blynyddol GwE a oedd nawr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn gobeithio dod â thair eitem ychwanegol i gyfarfod mis Gorffennaf, sef Ysgolion Iach, y Gwasanaethau Prydau Ysgol a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y materion TG o amgylch y seilwaith cenedlaethol a’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau.  Gan gyfeirio at y Gr?p Tasg a Gorffen Parcio Ysgol, cadarnhaodd bod e-bost wedi’i anfon yn ceisio enwebiadau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.   Roedd y Cabinet yn cefnogi ffurfio’r Gr?p Tasg a Gorffen ond roedd yn awgrymu y dylai’r aelodaeth gynnwys nifer o feysydd ar draws Sir y Fflint a chynnwys ardaloedd gwledig a threfol.    Roedd hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yn cysylltu ag Aelodau gyda gwybodaeth ar gyfarfod cyntaf y Gr?p Tasg a Gorffen ar ôl ei sefydlu. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at yr ymateb a ddarparwyd i’r cwestiynau a godwyd ganddo yn ystod cyfarfod diwethaf ar adroddiad Datblygu Cynllun y Cyngor 2023/28 yngl?n â chyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol.  Diolchodd i swyddogion am yr ymateb ond dywedodd nad oedd yn ateb y cwestiynau a godwyd ganddo.    Eglurodd fod ei gwestiynau yn ymwneud â’r ffigyrau llinell sylfaen ar gyfer 2021/22.    Roedd yr Uwch Reolwr (Cynnwys a Chynnydd) yn awgrymu ei bod yn darparu’r wybodaeth hon fel rhan o’r drafodaeth ar yr adroddiad Presenoldeb a Gwaharddiad yn ddiweddarach yn y cyfarfod.  

 

Cafodd yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.                  

      

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.

6.

Presenoldeb a Gwaharddiadau pdf icon PDF 116 KB

Darparu trosolwg i’r Aelodau o bresenoldeb a gwaharddiadau mewn ysgolion, a rôl y gwasanaethau cefnogi’r Portffolio yn yr ardal hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bosibl bod y ffigyrau yn ymddangos yn bryder, ond nid mater Sir y Fflint yn unig oedd hwn, roedd yn un cenedlaethol.    Roedd plant yn ei chael hi’n anodd ailymgysylltu gydag addysg gyda rhai ddim yn dymuno dychwelyd i’r ysgol.     Roedd ysgolion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r problemau hynny gyda gwaith creadigol a sefydlu cysylltiadau gwell gyda’r Gwasanaeth Lles Addysg a GwE.  

 

                      Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) orolwg o’r pwyntiau allweddol ar gyfer 2021/22, oedd yn seiliedig ar y data a gynhelir yn Sir y Fflint gan fod y data cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru wedi’i oedi yn ystod y cyfyngiadau Covid.    Roedd presenoldeb yn Sir y Fflint yn parhau islaw lefelau cyn y pandemig oedd yn bryder ar draws holl awdurdodau gyda swyddogion ac ysgolion yn gweithio’n galed i ail-ymgysylltu â’r dysgwyr hynny.     Roedd yna gynnydd bach mewn lefelau presenoldeb ar draws ysgolion cynradd Sir y Fflint gyda gostyngiad mewn ysgolion uwchradd, oherwydd lefelau uchel o orbryder ac anawsterau iechyd meddwl.   Roedd salwch yn parhau y prif feini prawf ar gyfer absenoldeb a chynhaliwyd trafodaethau gyda’r Penaethiaid i sicrhau eu bod yn herio rhieni’n briodol ar pa un ai i dderbyn y rhesymau a roddwyd dros absenoldeb eu plant ai peidio.    Roedd diffyg argaeledd nyrsys ysgol yn heriol ac roedd gwaith yn parhau gyda chydweithwyr iechyd i sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael mewn ysgolion.   

 

                      Roedd yr Uwch Reolwr yn cyfeirio at bwynt 1.04 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r ffordd greadigol yr oedd rhai ysgolion uwchradd yn gweithio i helpu disgyblion wneud y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg, gyda darpariaeth amgen wedi’i darparu mewn ysgolion a safleoedd cymunedol allanol fel y Canolbwynt Cymunedol.  Nid oedd ysgolion yn gallu gwneud hyn eu hunain ac roedd pwynt 1.05 o’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar yr ystod o wasanaethau oedd yn gweithio i’w cefnogi.    Gan gyfeirio at Adroddiad Estyn 2019 blaenorol, rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar y data disgyblion ar gyfer presenoldeb a’r ymyriadau a dargedwyd gyda’r disgyblion hynny oedd mewn perygl o waharddiad neu ostyngiad mewn presenoldeb.   Rhoddwyd enghraifft o’r gwaith peilot o flynyddoedd 6 i 7 oedd wedi arwain at lefelau presenoldeb yn cael eu cynnal gyda gorolwg o’r newidiadau a wnaed a leolir ym mhwynt 1.07 yn yr adroddiad. 

 

Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y broses Cosb Benodedig wedi’i ailsefydlu eleni a’i ddefnyddio i gefnogi presenoldeb.   Roedd 10 Rhybudd Cosb Benodedig wedi eu cyflwyno gyda rhai yn arwain at achos llys ac yn cael eu cadarnhau. Y gobaith oedd y byddai hyn yn pwyso ar rieni bod presenoldeb yn bwysig ac yn cael ei gymryd o ddifrif gan ysgolion a’r awdurdod lleol.  Roedd lefelau presenoldeb yn achosi pryder gyda iechyd meddwl a gorbryder yr her fwyaf wrth symud ymlaen a rhoddodd wybodaeth ar y gwahanol wasanaethau yn cefnogi ysgolion oedd yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Roedd Ymarfer sy’n Seiliedig ar Drawma yn cael ei hybu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg pdf icon PDF 119 KB

Darparu adroddiad diweddaru i amlinellu’r camau gweithredu â blaenoriaeth i ysgolion sy’n dilyn yr archwiliad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad diweddaru, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgol) bod hwn yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2021 ac roedd yn cynnwys gwybodaeth ar waith lleol a chenedlaethol a wneir i gefnogi plant y lluoedd arfog mewn ysgolion.   

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr fod yr awdurdod yn gweithio’n agos gyda Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac roedd yn falch fod Jane Borthwick (Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd) yn bresennol yn y cyfarfod.   Eglurodd fod yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn arwain ar hyn, gan weithio’n agos gydag ysgolion, SSCE a’r Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol a thrwy’r gwaith hwn roedd yn bosibl cynyddu’r arian grant oedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion i ddeall eu rolau i gefnogi plant y lluoedd arfog yn well.  Roedd hyn hefyd yn galluogi adnoddau a gweithgareddau ymgysylltu i’r dysgwyr hynny.   Er mai swm bach o arian yn unig oedd ar gael, roedd yn bosibl gweld yr effaith gadarnhaol yr oedd hyn yn ei gael.   Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth ar y gwaith oedd wedi cael ei wneud dros y dair blynedd ddiwethaf i ddeall anghenion plant y lluoedd arfog a gallu darparu cefnogaeth wedi’i thargedu.  

 

            Soniodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd am y diwrnod ardderchog a gynhaliwyd yn Nh? Calon yng Nglannau Dyfrdwy gyda nifer o ysgolion yn bresennol gyda phlant o 5 i 11 oed yn mwynhau chwarae gemau gyda’i gilydd.  Roedd yn galonogol gweld rhieni y lluoedd arfog yn bresennol hefyd.    Yn dilyn y digwyddiad hwn roedd prosiect cyfaill gohebol yn cael ei sefydlu fel y gallai’r plant gadw mewn cysylltiad, yn arbennig y sawl sy’n symud i fyny i’r ysgol uwchradd.    Roedd gwaith yn parhau i godi proffil plant y lluoedd arfog mewn addysg a darparu cefnogaeth iddyn nhw a’u teuluoedd.    Roedd hyn yn gadarnhaol iawn ac roedd digwyddiad arall wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin yn Ysgol Uwchradd y Fflint gyda mwy o ddysgwyr ysgol uwchradd yn cymryd rhan.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Bill Crease i swyddogion am yr adroddiad ac roedd yn falch o weld effaith gadarnhaol y gefnogaeth ar blant y lluoedd arfog ac roedd yn darparu amlinelliad o’i brofiad personol ei hun.  

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r Uwch Reolwr a’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd am eu gwaith gyda phlant y lluoedd arfog mewn ysgolion.  Hefyd, estynnodd wahoddiad i Aelodau’r pwyllgor sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad ym mis Mehefin ac roedd yr uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn cytuno i gysylltu â’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i ddosbarthu’r wybodaeth i Aelodau.

 

            Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd hefyd yn cynnig y cyfle i Aelodau ymuno â’r cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda’r rhanddeiliaid eraill.  Roedd y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cadeirydd wedi rhoi eu henwau ymlaen.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd yngl?n â gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Mynd i'r afael ag Anghydraddoldeb pdf icon PDF 153 KB

Amlinellu sut mae’r Cyngor yn cefnogi addysg a gofal blynyddoedd cynnar, addysg gynradd ac uwchradd a holl ffurfiau o addysg ôl-16, hyfforddiant a dysgu gydol oes i sicrhau system addysg deg i bawb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) bod yr adroddiad yn rhoi gorolwg o effaith tlodi a bwlch cyflawni i ddysgwyr ar draws Cymru rhwng y rhai o aelwydydd mwy cefnog i’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig.    Roedd hyn wedi bod yn her ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd ac wedi’i amlygu ers y pandemig gyda Mynd i’r Afael â Thlodi ac Anfantais yn thema allweddol ar gyfer y portffolio yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/28.   

 

Roedd yr Uwch Reolwr wedi cyfeirio’r Aelodau at adran 1 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r dangosyddion cenedlaethol oedd yn mesur cynnydd a’r prif ganfyddiadau o’r ymchwil diweddar ar effeithiau anghydraddoldebau addysgol.    Roedd pwynt 1.07 yn yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y ffocws cenedlaethol a’r ymchwil o effeithiau’r pandemig, gyda phwyntiau 1.08 ac 1.09 yn rhoi gwybodaeth ar sut yr oedd ysgolion yn gallu defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i gael mynediad i gyllid i gefnogi’r disgyblion hyn.   Roedd Estyn yn gwerthuso sut yr oedd ysgolion yn defnyddio’r cyllid hwn ac roedd gan yr awdurdod broffil cryf yn y cyswllt hwn.    Yna, adroddodd yr Uwch Reolwr ar enghreifftiau o arfer da o’r Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Tîm Ysgolion Iach a’r ymrwymiad i bob plentyn ysgol dderbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie, cytunodd yr Uwch Reolwr ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i alluogi’r awdurdod i ymgymryd â chefnogaeth yn effeithiol.   Roedd yn anodd cymharu Cymru gyda Lloegr gan fod Cymru yn cynnwys prosesau ychydig yn wahanol, canlyniadau, prosesau arholi a’r cwricwlwm newydd.    Y prif thema oedd bod y ddwy genedl angen gwella gyda’r ddwy yn dechrau o bwynt anfantais gyda dysgwyr yn cynnwys mwy o rwystrau ac nid yn cyflawni’r un lefelau â’r dysgwyr hynny nad oedd wedi eu hanfanteisio.    Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi adolygu hyn ac yn edrych ar ffyrdd i gyflymu’r cynnydd ar draws Cymru. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y data ONS oedd yn nodi nad oedd plant difreintiedig oedd â’r un cymwysterau addysg yn cyflawni’r un fath o ran cyflogau uwch a chyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd.    Roedd yn ymddangos mai’r rheswm oedd ymgysylltu â’r farchnad lafur ac roedd yn meddwl tybed a ellir gwneud mwy o ran profiad gwaith ac ymgysylltu gyda’r diwydiant i alluogi plant difreintiedig i gael y sgiliau cymdeithasol ynghyd ag addysg i’w galluogi i lwyddo. 

 

Cytunodd yr Uwch Reolwr gyda’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud i adolygu’r meysydd hyn i gyd, cysylltu â chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru ar y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yr Ymgynghorydd Dysgu Ôl-16 a’r Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd.  Byddai hyn yn galluogi dealltwriaeth well o’r farchnad lafur, cyfleoedd gwaith a dyheadau gyrfa oedd hefyd yn cynnwys y Rhwydwaith Seren ar gyfer gwneud cynnydd i fynd i’r brifysgol i ddysgwyr mwy galluog.  Hefyd, bwriadwyd datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i sicrhau bod gan Sir y Fflint  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Aelodau'r wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.