Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

47.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Carolyn Preece ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar gyfer eitem rhif 8 ar y Rhaglen – Cynllun Busnes Theatr Clwyd a dywedodd y byddai hi’n gadael y cyfarfod cyn y drafodaeth ar yr eitem hon. 

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Andrew Parkhurst ddatgan cysylltiad personol ar gyfer eitem 8 ar y Rhaglen - Cynllun Busnes Theatr Clwyd, gan ei fod yn aelod o Theatr Clwyd.

 

            Dywedwyd wrth yr aelodau y dylen nhw, fel Llywodraethwyr Ysgol, sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn eu ffurflen Cod Ymddygiad ac os nad yw wedi’i chynnwys, dylen nhw ddatgan cysylltiad personol ar gyfer eitem 5 ar y Rhaglen.  Datganodd y Cynghorydd Roy Wakelam gysylltiad personol gan fod aelod o’r teulu wedi’i benodi’n Llywodraethwr Ysgol.

 

48.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Chwefror 2023.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023 eu cymeradwyo a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cynghorydd Carolyn Preece.

 

Materion yn Codi

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at ei gwestiynau ar fodel y strwythur codi tâl ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth yr ysgol, a ddangosir ar dudalen 8 y cofnodion.  Dywedodd mai'r pwynt yr oedd yn ei wneud yn y cyfarfod oedd bod y tâl fesul awr o £38.20 yr un peth ar gyfer sesiynau gr?p a sesiynau unigol yn wir o ran y gost i ysgolion.  Nid dyma’r sefyllfa o ran y gost i rieni neu i eraill sy’n ariannu gwersi cerddoriaeth eu plant, gan fod cymhorthdal yn cael ei gynnig ??i sesiynau gr?p ond yr oedd gwersi unigol felly’n ddrytach ac yn costio mwy nag y gellid ei gyflawni gan wersi preifat.

 

            Cytunwyd diwygio'r cofnodion i adlewyrchu'r pwynt a wnaeth y Cynghorydd Parkhurst. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023 yn cael eu cymeradwyo’n

gofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

49.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a rhoddwyd trosolwg o'r eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 11 Mai.

 

Gan gyfeirio at y Camau Gweithredu o'r cyfarfod diwethaf, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod hysbysiad e-bost wedi'i anfon at yr Aelodau ar gyfer y Gweithdy ar Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig a fydd yn cael ei gynnal ar 26 Gorffennaf am 2.00 pm.  Mae llythyr hefyd wedi’i anfon at bob Pennaeth am y Gwasanaeth Cerddoriaeth i Ysgolion.  Gan gyfeirio at y cwestiynau a gododd y Cynghorydd Dave Mackie, cadarnhawyd bod y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi cael ymateb gan Aura yn egluro bod y data dangosyddion perfformiad yn cael ei ddarparu'n flynyddol.  Byddai adroddiadau perfformiad chwarterol diwedd y flwyddyn yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor ym mis Gorffennaf a chytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i wirio bod y wybodaeth hon wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.

 

50.

Parcio Ysgolion pdf icon PDF 195 KB

Darparu gwybodaeth ar y broses rheoli traffig a’r ddarpariaeth orfodi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd fod pryderon wedi’u mynegi gan drigolion i bob Aelod ynghylch parcio mewn ysgolion. Dywedodd hi fod hyn yn dal i fod yn fater sy’n parhau, na ellir dibynnu ar un ateb i’w ddatrys. Gwnaeth hi ddiolch i’r Aelodau a oedd wedi anfon e-bost ati yn mynegi eu pryderon a’u pwyntiau yr oedden nhw’n dymuno eu codi i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu a chroesawodd hi Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi i’r cyfarfod, a oedd wedi’u gwahodd o ganlyniad i fater o fewn cylch gwaith y ddau Bwyllgor. Gwnaeth hi ddiolch i awduron yr adroddiad am egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau'r partïon i gyd a weithiodd i ddatrys y mater hwn.

 

Gwnaeth y Cadeirydd hefyd groesawu Mr Andrew Dunbobbin, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i’r cyfarfod, sy’n bresennol er mwyn rhoi gwybodaeth am swyddogaeth yr Heddlu pan fo pryderon yn ymwneud â pharcio mewn ysgolion.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg i’r Aelodau o’r problemau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng nghyffiniau ysgolion y Sir, ac amlinellodd swyddogaethau a chyfrifoldebau’r partïon i gyd er mwyn ceisio dull cydweithredol a datrysiad effeithiol. Rhoddodd wybodaeth ynghylch sut yr oedd y timau ym Mhortffolio’r Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth wedi’u trefnu, yr adnoddau oedd ar gael i gefnogi hyn, sut yr oedd y ddeddfwriaeth yn gweithio a’r hyn y gellid ei gyflawni.

 

            Dywedodd y Rheolwr Cludiant fod parcio ger ysgolion yn broblem hanesyddol sydd wedi effeithio ar bob awdurdod lleol a'r rhesymau am hyn oedd lleoliad ysgolion, gyrru anystyriol a pheryglus a pharcio gan unigolion oherwydd bod mwy o rieni yn gyrru i'r ysgol yn hytrach na cherdded. Rhoddwyd gwybodaeth am fesurau Teithio Llesol a gwell isadeiledd a oedd yn cynnwys llwybrau mwy diogel yn y cynlluniau cymunedol, ynghyd â throsolwg o’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gyflawni ar safleoedd ysgolion.  O safbwynt diogelwch ar y ffyrdd, ymddygiad rhieni a achosodd lawer o’r problemau yn ymwneud ag ysgolion, a oedd hefyd yn gysylltiedig â’r tagfeydd ehangach ar y rhwydwaith ffyrdd, llygredd, ac allyriadau.

 

Adroddodd y Rheolwr Cludiant y cafwyd llawer o gwynion ynghylch parcio a thagfeydd traffig ynghyd â cheisiadau am adolygiadau diogelwch ffyrdd a bu'n rhaid i'r tîm Traffig a Chludiant bach sy'n cefnogi hyn gynnal asesiadau, dylunio cynlluniau ac yna gwneud cais am arian grant oedd ar gael.  Gan gyfeirio at Orfodi, rhoddodd wybodaeth am y tîm bach o Swyddogion Parcio Sifil yr oedd gofyn iddyn nhw hefyd gyflawni dyletswyddau gorfodi eraill.  Cafodd amlinelliad o’r ardaloedd gorfodi priffyrdd y cafodd eu cwmpasu gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Cyngor a'r hierarchaeth o ran cyfrifoldeb yn ymwneud â rheoli traffig a pharcio, ei nodi yn yr adroddiad. 

 

            Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drosolwg o'r Tîm Gorfodi Parcio Sifil, a oedd yn cynnwys 10 Swyddog, 1 Goruchwyliwr ac 1 Rheolwr.  Roedd gan y tîm hwn gylch gwaith eang iawn, ac amlinellodd hi’r traffig, yr amgylchedd a meysydd gwaith eraill yr oedden nhw’n ymwneud â hwy, a  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol pdf icon PDF 146 KB

Amlinellu sut mae’r Cyngor yn bodloni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, yn unol â datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyn ystyried yr adroddiad, croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a dywedodd fel cyn-athrawes ei bod hi’n ymwybodol o'r gwaith a gaiff ei wneud mewn ysgolion i dynnu sylw at y mater hwn.  A hithau’n aelod o Ddinas Noddfa Sir y Fflint cymeradwyodd fod Cymru’n Genedl Noddfa a dywedodd fod amrywiaeth yn cyfoethogi bywydau a bod bywydau unigolion yn gwella drwy gael profiad o ddiwylliannau ychwanegol.  Roedd addysg yn fodd o sicrhau newid cymdeithasol, chwalu stereoteipiau a chelwydd a dyna pam y croesawodd hi’r adroddiad.  

 

            Gwnaeth Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau a chyflwynodd Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y cafodd ei ddatblygu ar y cyd ag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ledled Cymru.  

 

Ar 20 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth weithio yn ôl y Camau Gweithredu a nodir yn y Cynllun.  Roedd y weledigaeth yn y Cynllun yn weithredol, yn ddeinamig ac yn caniatáu ar gyfer newid pan fo angen i sicrhau bod y Cynllun yn briodol i fodloni gweledigaeth 2030 a osododd LlC.  Amlinellodd yr Uwch Reolwr y meysydd polisi sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun sy’n ymwneud ag Addysg a’r Gymraeg a rhoddodd wybodaeth am yr amcanion a’r blaenoriaethau ar gyfer Addysg ac ysgolion yn enwedig yn y Cwricwlwm newydd wrth i Gymru fod y wlad gyntaf i wneud elfen o’r Cwricwlwm yn orfodol sef bod disgyblion yn dysgu am amrywiaeth ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach.  Roedd rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion trwy weithdai penodol, cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a modiwlau e-ddysgu ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion sy'n gweithio gyda phartneriaid ar gyfer Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru.  Roedd ysgolion hefyd yn cael eu cyfeirio trwy Hwb at adnoddau y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. 

 

            Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a wnaed ar y portffolio i gefnogi'r Cynllun Gweithredu oedd yn amrywiaeth eang o weithgareddau a mesurau y gellid eu defnyddio wrth symud ymlaen.  Trafododd y Bwrdd Cydraddoldeb Corfforaethol ymateb y Cyngor i’r Cynllun Gweithredu y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Wrth gyfeirio at yr argymhellion yn yr adroddiad, gofynnodd yr Uwch Reolwr am farn y Pwyllgor ar ba mor aml y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru i gyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a’r Athroniaeth ar gyfer Plant, Cydweithwyr a Chymunedau (P4C) a oedd, yn ei farn ef, yn caniatáu i blant ofyn cwestiynau am yr hyn sy’n deg, yn annheg, yn gyfiawn ac yn anghyfiawn. Cyfeiriodd at ei amser yn gweithio fel Swyddog Addysg i UNICEF a oedd yn egluro i blant beth oedd eu hawliau nhw yn yr ysgol yr oedd yn eu galluogi nhw i ddeall nid yn unig beth oedd eu hawliau nhw ond hawliau disgyblion eraill hefyd ac yr  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 95 KB

Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2023-28.  Dywedodd fod adolygiad llawn wedi'i gynnal i sicrhau priodoldeb a pherthnasedd y blaenoriaethau, yr is-flaenoriaethau a’r amcanion lles wrth symud ymlaen.  Roedd hwn yn cynnwys adolygiad o Gynllun cyfredol y Cyngor 2022-23 i bennu:

 

·                Camau blaenoriaeth a fydd yn parhau o 2023 ymlaen ar gyfer sylw parhaus;

·                Camau blaenoriaeth y gellir eu tynnu gan eu bod nhw wedi’u cwblhau neu’n weithredol (mynd yn eu blaen yn ôl yr arfer); a

·                Meysydd blaenoriaeth, camau gweithredu a mesurau newydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer 2023-28

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-28 sy'n berthnasol i'r Pwyllgor wedi'u hamlinellu a'u hatodi yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y mesur ar gyfer gostwng nifer y gwaharddiadau parhaol neu waharddiadau cyfnod penodol fel y dangosir ar dudalen 50 yr adroddiad a chwestiynodd bod cynnydd i’w weld o ran y targed o'r data sylfaenol.    Mewn ymateb i hyn, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwahaniaeth rhwng y data sylfaenol a'r targed oherwydd iddo gael ei gofnodi yn 2021/22 yn ystod cyfnod pan nad oedd data’n cael ei gasglu o ganlyniad i’r pandemig.  O ganlyniad i’r pandemig bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn cael anhawster cynnal eu presenoldeb yn yr ysgol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst o ba rif y gostyngodd y niferoedd.  Os nad oedd y llinell sylfaen yn briodol o ganlyniad i’r pandemig, beth oedd niferoedd y llinell sylfaen bresennol.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) nad oedd ganddi'r ffigyrau cyfredol wrth law ond y byddai'n fodlon rhoi’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod adroddiad ar waharddiadau o’r ysgol i fod i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Gofynnodd a allai'r adroddiad gynnwys yr hyn yr oedd ysgolion yn ei wneud a pha gyfleusterau ychwanegol oedd yn cael eu cyflenwi.  Credai fod hwn yn fater ehangach oherwydd bod ysgolion wedi newid sut maen nhw’n gweithio er mwyn effeithio ar nifer y gwaharddiadau parhaol neu eu lleihau nhw, a oedd yn amlygu pa mor fawr oedd y broblem hon.

 

            Mewn ymateb i hyn, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at y troednodyn a oedd yn nodi bod y ffigur hwn wedi ystyried y sefyllfa cyn Covid o ran nifer y gwaharddiadau.  Dywedodd hi y byddai adroddiad manwl yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai a fyddai'n amlinellu'r dulliau a'r systemau newydd yr oedd yr awdurdod lleol wedi'u mabwysiadu.  Byddai’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae'r ysgolion yn ei wneud fel addasiadau i'r cwricwlwm, eu cynigion o ran modelau amgen a gwaith ar draws y Portffolio gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd David Mackie fod y darpariaethau ychwanegol yr oedd eu hangen yn gostus iawn i bob ysgol yr oedd eu cyllidebau dan bwysau. Gofynnodd a oedd y cyfleusterau ychwanegol yn debygol o  ...  view the full Cofnodion text for item 52.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol oherwydd ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

53.

Cynllun Busnes Theatr Clwyd

Ystyried Cynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2023-2029.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Liam Evans-Ford a'r Rheolwr Corfforaethol i'r cyfarfod. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol a Mr. Liam Evans-Ford yr adroddiad ar y cyd a oedd yn amlinellu cyfrifon masnachu Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd a chrynodeb o elfennau allweddol Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-2029. 

 

Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.                         

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad i’r Cabinet.

 

54.

Aelodau'r wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.