Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

41.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Andrew Parkhurst a Carolyn Preece gysylltiad personol fel aelodau o Theatr Clwyd. 

 

Datganodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth.

42.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Rhagfyr 2022.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 fela gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey a’r Cynghorydd Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

43.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol gan dynnu sylw at y diweddariadau a wnaed ers y cyfarfod diwethaf.   Dywedodd y byddai’r adroddiad parcio ysgol yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Mawrth ac y byddai Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.   Bu iddi hefyd gadarnhau y byddai adroddiad Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023/28 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mawrth. 

 

 Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau.  Derbyniwyd dyddiad arfaethedig ar gyfer y gweithdy ar y Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig a bu iddi gadarnhau unwaith y bydd hwn yn cael ei gadarnhau bydd e-bost yn cael ei gylchredeg i Aelodau.  

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett.                           

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.

 

44.

Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd pdf icon PDF 151 KB

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y Gwasanaeth Cerdd, yn cynnwys nifer y dysgwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Liam Evans Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Mr Aled Marshman, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd i’r cyfarfod, a fyddai’n amlinellu sut y gwnaethon nhw ac aelodau o Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio i wella’r cyfleoedd dysgu a phrofiadau myfyrwyr.  

 

Ychwanegodd y Cadeirydd bod cael eu haddysgu am gerddoriaeth a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â dysgu sut i chwarae offeryn wedi helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu sgiliau rhesymu, eu sgiliau dysgu’n gritigol a sensitif ac fe all ddiffinio datblygiad sgiliau echddygol a gwella’r cof.   Mae ochr greadigol a pherfformio’r pwnc ynghyd â gwell dealltwriaeth o’r rôl mewn cerddoriaeth a hanes a chymdeithas gyfoes i gyd yn ychwanegu at addysg lawnach i’r myfyriwr.   Fel awdurdod, roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhagweithiol yn eu hymdrechion i sicrhau bod bob myfyriwr yn cael y cyfle i wella eu profiad dysgu a hyrwyddo eu doniau, waeth pwy oeddent.  Roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n derbyn grant disgyblion a ddyfarnwyd i ysgolion i gefnogi myfyrwyr a oedd yn gymwys am un ai prydau ysgol am ddim neu a oedd yn derbyn gofal.   Roedd hwn yn grant wedi’i dargedu a roddwyd i oresgyn y rhwystrau a allai atal myfyriwr rhag cyrraedd ei botensial llawn.   

 

Cyflwynodd Mr. Liam Evans-Ford adroddiad i roi diweddariad a throsolwg o Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn dilyn ei 18 mis cyntaf o ddarpariaeth, fel y gosodwyd yn erbyn egwyddorion trosglwyddo cytunedig yn 2019 gan y Portffolio Addysg o fewn y Cyngor i Theatr Clwyd.  Dyluniwyd y trosglwyddiad hwn i ddiogelu i ddechrau, ond hefyd i wella darpariaeth cerdd gwasanaethau addysg ymhellachi blant a phobl ifanc Sir y Fflint a oedd o danfygythiad oherwydd y pwysau ariannol cynyddol ar y Cyngor.  

 

            Wrth gyfeirio at yr adroddiad, amlinellodd Mr. Aled Marshman yr effaith negyddol yr oedd y pandemig Covid wedi’i gael ar gerddoriaeth a’r celfyddydau, gyda gostyngiad o 75% mewn dysgwyr rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2020.   Dywedodd y myfyrwyr hynny a oedd wedi aros gyda’r gwasanaeth pa mor bwysig yr oedd wedi bod i’w hiechyd a’u lles.   Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y trafodaethau a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 o ran y ffordd ymlaen gyda’r penderfyniad i barhau ar-lein am y flwyddyn ond roedd hyn yn heriol ac roedd y cynnydd mewn niferoedd yn araf.    Ym mis Medi 2021, gwelwyd niferoedd y dysgwyr yn dyblu wrth ddychwelyd i’r ysgol ond y nod oedd tyfu ymhellach i alluogi pob myfyriwr i gael y cyfle i fwynhau buddion cerddoriaeth yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

 

Rhoddodd Mr. Marshman wybodaeth fanwl am y ddogfen gwmpasu, y polisi codi tâl a’r pum ensemble, a oedd wedi cynyddu i wyth yn dilyn y niferoedd cynyddol ym mis Medi 2022.    Rhoddwyd mwy o bwyslais ar y dechreuwyr newydd i greu taith bwysig iddynt a rhoddodd wybodaeth ar hyblygrwydd y system sydd ar waith i ysgolion.   Darparwyd gwybodaeth hefyd ar y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru a fyddai’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig mewn ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 111 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.   Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Ar hyn o bryd roedd un gweithgaredd yn dangos statws COG coch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor o ran uwchsgilio gweithwyr portffolio trwy gynnig dysgu proffesiynol GwE a chyfleoedd hyfforddiant priodol eraill.   Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth at ei gilydd gyda manylion cylchredeg holiadur i weithwyr portffolio i ddeall pa hyfforddiant yr oeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol iddyn nhw.   Roedd yr holiaduron wedi’u dychwelyd ac roeddent yn cael eu coladu ar hyn o bryd er mwyn galluogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd o angen datblygiadol ar gyfer y portffolio a byddai hwn ar waith erbyn mis Ebrill 2023.  

 

Croesawodd y Cadeirydd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 yn cael ei fonitro’n gyson a bod ei gynnydd yn cael ei adolygu a’i fesur yn erbyn y meini prawf ar gyfer llwyddiant y camau gweithredu oddi fewn iddo.   Bu iddi ddiolch i staff y portffolio addysg am yr adroddiad addysg a sgiliau cadarnhaol gyda’r data yn tynnu sylw at y sgorau COG oedd yn disgyn rhwng oren, lle’r oedd y camau gweithredu yn cael eu datblygu neu wyrdd, lle’r oedd y camau gweithredu yn gyflawn neu ar y trywydd iawn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dysgu digidol a Gwasanaethau Ieuenctid Integredig, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd wedi darparu cymorth ardderchog i ysgolion gydag adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar yr offer, meddalwedd a chaledwedd sydd ar gael i alluogi gwelliannau yn y strwythur digidol.   Roedd gwaith hefyd yn parhau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cael mynediad at y cyllid helaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer hyn a gafodd ei adrodd i gyfarfodydd Bwrdd Digidol Hwb.   Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion, y gwaith a wnaed ar draws Cymru o ran cyflwyno’r rhaglen Hwb gyda’r Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r 24,000 o ddysgwyr ar draws yr holl ysgolion yn Sir y Fflint.   Cynhaliwyd trafodaethau gydag ysgolion hefyd, a oedd gyda’r cysylltiad o ddydd i ddydd hwnnw gyda rhieni, i ddeall unrhyw newid mewn amgylchiadau neu anawsterau a wynebwyd gan ddisgyblion wrth gael mynediad at yr isadeiledd digidol y tu allan i’r ysgol.   Cynhaliwyd trafodaethau parhaus gyda LlC o ran symud hwn ymlaen a chynnal buddsoddiad cenedlaethol trwy’r Rhaglen Hwb i wella’r strwythur digidol a darparu’r cwricwlwm newydd.  

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynllun cyflawni ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Integredig ac eglurodd bod y targedau yng Nghynllun y Cyngor wedi’u gosod cyn y flwyddyn adrodd hon ac y  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Aelodau'r wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.