Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

30.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar  21 Hydref 2021.                   .

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021. 

 

Materion yn codi:

 

            Ar dudalen 9, cyfeiriodd y Cadeirydd at ddatganiad ar y cyd diweddar a gyhoeddwyd gan Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ar addysg ddewisol yn y cartref. Dywedodd bod hwn yn ddatganiad cadarn yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar gofrestru plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi pwyso ar hyn a dywedodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn edrych ymlaen i hyn symud ymlaen.

 

                Cyfeiriodd Mrs. Lynne Bartlett at y frawddeg gyntaf yn y chweched paragraff ar dudalen 10 y cofnodion, a gofynnodd os ellir newid y gair ‘dosbarth’ i ‘ysgol’. Cytunwyd ar hyn.

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwywyd y cofnodion yn rhai cywir gan y Cynghorydd Janet Axworthy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Martin White. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

32.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad a chadarnhau’r newidiadau a wnaethpwyd i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Gan fod nifer o eitemau wedi’u rhestru ar gyfer cyfarfod mis Chwefror, roedd y diweddariad Moderneiddio Ysgolion wedi’i symud i gyfarfod mis Mehefin. Ychwanegodd yr Hwylusydd efallai bydd angen gwneud newidiadau ychwanegol i’r Rhaglen gwaith i’r Dyfodol oherwydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Bydd yn cysylltu â Chadeirydd a Phrif Swyddog yngl?n â hyn a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Gan gyfeirio at Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y Gweithdy ar ‘#Be Kind Pledge a Chyfryngau Cymdeithasol’ yn cael ei drefnu ac ar ôl cadarnhau, bydd y dyddiad yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y mwyafrif o gamau gweithredu a amlinellwyd wedi’u cwblhau, gyda llythyrau yn cael eu hanfon at Mr Jeremy Miles AC, Gweinidog Addysg, ar Addysg Ddewisol Yn Y Cartref a’r Rhaglenni Gwella Ysgol, a bydd copi o’r rhain yn cael eu dosbarthu i’r Aelodau er gwybodaeth. 

 

Mewn perthynas ag un cam gweithredu sydd heb ei gwblhau, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion wedi darparu’r wybodaeth a geisiwyd i’r Cynghorydd Dave Mackie, felly mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau yn awr.

 

Roedd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd David Mackie a’r Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)   Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)   Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.

33.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg pdf icon PDF 124 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sut mae ysgolion Sir y Fflint yn cefnogi plant y lluoedd arfog.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r Adroddiad, croesawodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr Peter Hawley o Ysgol Uwchradd Cei Connah i’r cyfarfod a oedd wedi’i wahodd i ddarparu gwybodaeth am ei rôl yn cefnogi Plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol.           

 

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr Gwelliant Ysgolion adroddiad i ddarparu trosolwg i’r Pwyllgor ar sut mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cefnogi ysgolion sydd gan ddisgyblion gyda phlant y lluoedd arfog. Yn ogystal, amlinellodd yr adroddiad sut mae’r cyllid i’r Cyngor wedi’i ddyrannu ar draws ysgolion Sir y Fflint a roedd gwaith yn cael ei gyflawni ochr yn ochr Cefnogi Plant Y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru (SSCE) i gasglu data ar y nifer a lleoliad Plant Y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

Eglurodd yr uwch-reolwr ers dechrau’r rhaglen yn 2014, roedd SCCE Cymru wedi gweithio fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi a darparu sail adnodd ar gyfer holl Awdurdodau Lleol ac ysgolion annibynnol yng Nghymru. Siarad gyda Plant y Lluoedd Arfog i gael dealltwriaeth o’u profiadau wedi galluogi darparu gwell gefnogaeth i’w helpu, a chadarnhaodd yr Uwch-Reolwr ei bod wedi eistedd ar Fforwm y Lluoedd Arfog Sir y Fflint ac wedi amlinellu meysydd lle roedd Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli a oedd yn galluogi darparu’r gefnogaeth ac arweiniad orau i ysgolion gael symud ymlaen.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. Cyfeiriodd at wefan SSCE Cymru a gofynnodd a oedd Sir y Fflint yn rhan o’r rhaglen Ysgolion Sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ymrwymedig yn ceisio symud hyn ymlaen, a bod Ysgolion yn anelu i gael eu hadnabod am eu harferion da. Awgrymodd y bydd adroddiad arall i amlinellu’r camau blaenoriaeth i’r Ysgolion yn dilyn yr archwiliad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng ngwanwyn 2022.  

 

            Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y ffordd yr oedd cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ddyrannu a’i ddosbarthu i ysgolion unigol, ac awgrymodd y bydd angen cyllid os bydd cynnydd yn y nifer o ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu unigolyn sydd â mwy o anghenion mewn un ysgol, lle’r oedd gofynion mewn ysgol arall wedi’i wrthod.Cytunodd yr Uwch-Reolwr i roi adborth ar yr awgrym hwn i SSCE Cymru yn dilyn y cyfarfod.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Hawley i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor. Rhoddodd Mr Hawley drosolwg o’i wasanaeth milwrol fel Uwch-ringyll gyda Chatrawd Swydd Efrog, ac ymddeolodd yn 2012 ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth. Roedd wedi bod ar daith o amgylch y byd a roedd ei deithiau mwyaf diweddar yn Irac ac Affganistan.  Eglurodd yn ystod ei amser yn y fyddin, bod ganddo 60 o ddynion dan ei orchymyn a roedd wedi gweithio i sicrhau bod eu bywyd yn mynd rhagddynt mor esmwyth â phosib gan bod gan nifer ohonynt deuluoedd ifanc gartref tra roeddynt i ffwrdd yn brwydro.  Siaradodd am effaith ar ei deulu ei hun tra’r oedd yn y fyddin, a’r effaith ar ei blant pan roeddynt  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Cynllun Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 pdf icon PDF 134 KB

Rhoi’rnewyddion diweddaraf am Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a threfniadau ymgynghori statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyn cyflwyno’r adroddiad, soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am ymrwymiad y Cyngor i gynyddu nifer y ‘siaradwyr rhugl yn y Gymraeg’ o fewn ei ysgolion ac ymestyn y sgiliau Cymraeg i’r gymuned ehangach.  Awgrymodd bod y gair “rhugl” yn cael ei dynnu gan ei fod yn teimlo fod cael gwared o’r angen am siaradwyr rhugl yn y Gymraeg yn sicrhau gwell gyfranogiad. Roedd yn teimlo bod y term ‘sgwrsio Cymraeg’ yn fwy priodol. Rhoddodd y Cynghorydd Jones ddiffiniadau derbyniol i’r termau siaradwyr “rhugl” a “sgwrsio”.

 

Mewn ymateb, diolchodd yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion i’r Cynghorydd Jones am ei awgrym a chytunodd i rannu’r awgrym fel rhan o’r broses ymgynghori. Roedd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Jones. Dywedodd yr Hwylusydd bod yr awgrym a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Jones yn cael ei nodi fel cam gweithredu o’r cyfarfod.

 

            Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr yr adroddiad a rhoddodd drosolwg i’r Pwyllgor o’r cynllun drafft ar gyfer y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) nesaf a fydd yn cael ei gynnal rhwng mis Medi 2022 tan 2032. Bydd  y cynllun cyntaf deg mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2022 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2032, a bydd rhaid i’r Cynllun gynnwys targed yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn y nifer o ddysgwyr Blwyddyn 1 sy’n cael eu dysgu drwy’r Gymraeg yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod hyd bywyd y Cynllun. Yn ystod pandemig COVID-19, cafodd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 eu diwygio, felly cafodd cylchred WESP cyfredol Sir y Fflint ei ymestyn 1 blwyddyn, a bydd yn dod i ben erbyn mis Medi 2022.

 

            Rhoddodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth ar y Fforwm Strategol Cymru sefydledig ac effeithiol, a oedd yn cyfarfod bob tymor i ddatblygu rhaglenni gwaith. Amlinellwyd cylch gwaith y Fforwm yn yr adroddiad. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Martin White i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. Cyfeiriodd at ymweliad diweddar i Ysgol Uwchradd Cei Connah, yn ystod taith o amgylch y dosbarthiadau, cafodd yr holl gyflwyniadau eu gwneud yn y Gymraeg. Croesawodd hyn a dywedodd bod yn galonogol clywed cynnydd o ran siarad Cymraeg ar draws yr ysgol. 

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r Uwch-Reolwr am ei gwaith caled fel yr arweinydd strategol ar gyfer Strategaeth Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.  Amlinellodd waith Ms Sian Hilton, cyn Bennaeth yn Sir Ddinbych wrth holi’r Fforwm i sicrhau bod pob dogfennaeth mewn lle i greu llwybr ar gyfer y cynllun, a dywedodd na fyddai wedi bod yn bosibl i fodloni’r dyddiad cau yr ymgynghoriad a nodwyd gan LlC heb waith caled Ms Hilton a’r uwch-reolwr. Diolchodd yr Uwch-Reolwr i’r Prif Swyddog am ei sylwadau a dywedodd bod ymdrech tîm da wedi bod o fewn y Fforwm. Diolchodd i’r Cynghorydd White am ei sylwadau a dywedodd wrth y Pwyllgor bod hyn yn cael ei ailadrodd mewn Ysgolion ar draws Sir y Fflint, gyda tîm dynodedig o Athrawon Ymgynghorol Cymru yn cefnogi Ysgolion. 

 

            Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb a oedd wedi cyfrannu i’r WESP  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Cynllun Haf o Hwyl Sir y Fflint a Chynlluniau Chwarae'r Haf pdf icon PDF 121 KB

Rhoigwybodaeth i’r Pwyllgor am lwyddiant Cynlluniau Chwarae’r Haf a rhaglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a rhoddodd fanylion ar sut mae’r Cynlluniau Chwarae yr Haf a Haf o Hwyl yn cael eu darparu yn Sir y Fflint. Dyma’r 26fed flwyddyn mae’r Cyngor wedi darparu rhaglen Cynllun Chwarae’r Haf Sir y Fflint, a diolchodd y Prif Swyddog Mrs. Janet Roberts (Swyddog Datblygu Chwarae) a’r tîm o weithwyr chwarae a oedd wedi sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu cefnogi’n dda eto yn 2021.  

 

Eglurodd y Prif Swyddog ym mis Mehefin 2021, bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ei raglen ‘Haf o Hwyl’ sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda Chomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)  Roedd Llywodraeth Cymru sicrhau bod £5miliwn ar gael ar draws Cymru, a Sir Y Fflint yn cael dyraniad o £218,000 i ddarparu ‘Haf o Hwyl’ i blant a phobl ifanc i gynorthwyo i liniaru ychydig o effeithiau negyddol yn dilyn y cyfyngiadau COVID-19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhagnodi pwy ddylai gael eu targedu i’r rhaglen hon, a rhoddodd wybodaeth ar y rhestr o weithgareddau a ddarparwyd a oedd yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer plant h?n yn eu arddegau. Mae ymrwymiad y tîm wedi bod yn wych a roedd y swyddogion yn y broses o ddarparu adborth i Lywodraeth Cymru a fydd yn paratoi adroddiad gwerthuso. Yn dilyn llwyddiant rhaglen Haf o Hwyl, roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu hwn ac yn cynllunio Rhaglen Gaeaf Llawn Lles i’w gynnal rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, gyda ffocws benodol ar hanner tymor mis Chwefror.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod y Swyddog Datblygu Chwarae yn casglu adborth gan rieni a phlant ar y Rhaglen, ac awgrymodd ar ôl derbyn adborth, y byddai yn ei ddosbarthu i’r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a chanmolwyd y gwaith a gyflawnwyd i ddarparu cyfle i’r plant, a chroesawyd yr ymrwymiad a roddwyd i ddarparu Rhaglen Gaeaf Llawn Lles.  Ailadroddodd Arweinydd y Cyngor y sylwadau a wnaethpwyd gan y Cadeirydd a diolchodd hefyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu cyfraniad parhaus i sicrhau bod y Rhaglenni yn cael eu darparu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am y nifer o safleoedd Cymraeg iaith gyntaf gan fod y nifer y safleoedd yn wahanol o fewn yr adroddiad. Cytunodd y Prif Swyddog i wirio hyn ac i adrodd yn ôl i’r Cynghorydd Jones yn dilyn y cyfarfod.  

 

Cynigiwyd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd David Mackie a’r Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael y cyfle i gael mynediad a manteisio ar ystod o weithgareddau gwerthfawr dros wyliau’r haf drwy Gynllun Chwarae Sir y Fflint a Rhaglen Haf o Hwyl; a

 

 (b)   Bod y Pwyllgor yn canmol ymdrech sylweddol gan Swyddogion y Cyngor a Swyddogion mewn sefydliadau partneriaid allweddol i ddarparu rhaglenni llwyddiannus yn gyflym ac yn ddiogel, yn arbennig o fewn amserlenni heriol.

36.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.