Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Ymddiheuriadau

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Ian Smith, Mrs Wendy White, y Cynghorydd Ian Roberts - Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, ac Uwch-Reolwr (Gwella Ysgolion)

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

25.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 16 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 16 Medi.

 

Materion yn codi:

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw'r Pwyllgor at nifer o wallau yn y cofnodion.Dywedwyd y byddai’r gwallau’n cael eu cywiro cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie am gael newid ei sylwadau yn y cofnodion ynghylch adroddiadau Cyllideb 2022/23 – Cam 2 a Diweddariad Gweithredol Covid-19 i Ysgolion fel eu bod yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd yn well.Cefnogwyd ei awgrymiadau gan y Pwyllgor.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am eglurhad ynghylch pryd y bydd adborth ar gael ar y ffordd y bydd y buddsoddiad arfaethedig o filiwn o bunnau yn cael ei roi i ysgolion.Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd gwybodaeth am hyn ar gael a’i fod yn dibynnu ar setliad y gyllideb.Bydd hyn hefyd yn cael ei gyflwyno yn ystod y sesiwn friffio i aelodau ar y gyllideb cyn y Nadolig, a bydd cyfle i Aelodau wneud sylwadau cyn pennu’r gyllideb y flwyddyn nesaf.

 

Cynigiwyd bod y cofnodion, yn amodol ar y newidiadau a awgrymwyd, yn gofnod cywir o’r cyfarfod gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

 

26.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad a chadarnhaodd fod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i diwygio ers y cyfarfod diwethaf.Roedd diwygiad arfaethedig arall, sef cyflwyno adroddiad ar Ran 1 Cynllun y Cyngor 2022/23 i’r Pwyllgor ar 3 Chwefror 2022.

 

Gan gyfeirio at y camau gweithredu yn Atodiad 2 yr adroddiad, cadarnhaodd yr Hwylusydd fod llythyr wedi’i anfon at bob ysgol gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor.O ran y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd, mae’r eitem hon wedi’i gohirio tan gyfarfod mis Chwefror gyda gweithdy yn cael ei drefnu i’r Aelodau cyn y cyfarfod hwnnw ar yr “Addewid Caredigrwydd". Bydd y sesiwn friffio hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol.

 

            Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Tudor Jones ar y pwysau ar y gyllideb a darparu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion gwahanol, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn fater cymhleth iawn. Mae ysgolion ar ganol newid mawr o ran darpariaethau ADY ac mae gwaith yn cael ei wneud gyda phenaethiaid i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio cyllidebau i gefnogi hyn. Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cyflwyno adroddiad cryno i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2022.

 

            Adroddodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phenaethiaid ysgolion cynradd o ran dyrannu’r gyllideb a sut y bydd hynny’n cael ei wneud dan y system newydd.Roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar effaith y ddeddfwriaeth newydd ond byddai adolygiad o’r broses gyfan, gan edrych ar y gwasanaethau a gynigir i ysgolion a sut mae’r rheiny’n cael eu hariannu, yn fuddiol i’r Pwyllgor.Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai'r Cynghorydd Tudor Jones gwrdd â’r Uwch-Reolwr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gwaith sy'n cael ei wneud.Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r Prif Swyddog a’r Uwch-Reolwr, gan ddweud y byddai’n trefnu hynny yn y flwyddyn newydd.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y cynnydd yn nifer y disgyblion a oedd yn ailsefyll arholiadau ym mis Tachwedd, cyfeiriodd y Prif Swyddog at gyfarfod diweddar â phenaethiaid ysgolion uwchradd a dywedodd nad oedd hyn wedi’i amlygu. Cytunodd i siarad efo’r Uwch-Reolwr (Gwella Ysgolion) ac anfon rhagor o wybodaeth at y Cynghorydd Mackie ar ôl y cyfarfod.Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gan ddweud y byddai modd cynnwys hyn yn adroddiad Asesiadau Arholiadau 2022 sy’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fis Chwefror 2022.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cynnwys adroddiad ar raglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mehefin.Mae rhaglen lwyddiannus Haf o Hwyl wedi nodi meysydd allweddol a fyddai’n cefnogi gwaith lles plant a phobl ifanc yn y dyfodol.Maes nesaf rhaglen Llywodraeth Cymru yw “Gaeaf Llawn Lles”.Adroddodd y Prif Swyddog ar effaith bwerus a chadarnhaol hyn ar blant a theuluoedd sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen.

 

Cafodd yr argymhellion a amlinellwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg i’r Pwyllgor o’r Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol a’i chyfraniad at y blaenoriaethau tlodi o fewn Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg o’r dull a ddefnyddiwyd i ddarparu elfen ‘Bwyd a Hwyl’ Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol yn ystod y gwyliau.Hon yw trydedd flwyddyn y rhaglen yn Sir y Fflint a’r un mwyaf llwyddiannus hyd yma, gan atgyfnerthu effaith gadarnhaol gweithio mewn partneriaeth ar gymunedau.

 

            Adroddodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol wedi’i darparu ar draws Cymru yn defnyddio dull partneriaeth a oedd yn cynnwys ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a staff chwaraeon cymunedol. Yn Sir y Fflint roedd y bartneriaeth yn cynnwys Hamdden Aura, Arlwyo NEWydd a dietegwyr BIPBC, wedi’i chydlynu gan y tîm Ysgolion Iach.

 

            Croesawodd y Cadeirydd MrAlex Jones (Athro Ymarfer Corff yn Ysgol Uwchradd Cei Connah) i’r cyfarfod.Cyflwynodd Mr Alex Jones ei hun i’r Pwyllgor a darparodd drosolwg o’i rôl addysgu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Oherwydd y pandemig roedd yr ysgol yn teimlo y byddai disgyblion diamddiffyn yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ac y byddai cymryd rhan yn y rhaglen yn gyfle i’r ysgol weithio gydag ysgolion cynradd i nodi’r disgyblion hynny a fyddai'n elwa ar y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol.Rhoddodd Mr Alex Jones gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Amserlen Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol

·         Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o’r chwaraeon a ddarparwyd, sesiynau maetheg a sesiynau cyfoethogi mewnol a phecynnau bwyd i deuluoedd

  • Beth sydd wedi digwydd ers y rhaglen yn yr ysgol uwchradd

Ø  Disgyblion y flwyddyn 7 bresennol wedi ffurfio cyfeillgarwch –

·         Roedd y gemau yn canolbwyntio ar feithrin tîm a chyfathrebu i fagu hyder

·         Darparwyd 6 sesiwn ar faeth yn ystod y deuddeg diwrnod

Ø  Cynhaliodd aelodau o staff Ysgol Uwchradd Cei Connah ddigwyddiadau fel celf a chrefft a dylunio crysau T

Ø  Cynhaliodd Pete Hawley, aelod arall o dîm yr ysgol uwchradd, sesiynau byw yn y gwyllt

Ø  Roedd y cwmnïau allanol yn cynnwys AURA, Rygbi Cymru a Chlwb Pêl-droed Nomadiaid Cei Connah

Ø  Ymrwymiad gan y pennaeth i’r rhaglen yn 2022

Ø  Mwy o staff Ysgol Uwchradd Cei Connah am gymryd rhan yn 2022

 

            Canmolodd y Cynghorydd Martin White MrAlex Jones a’i dîm am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a chyfeiriodd at ymateb cadarnhaol rhieni a phobl ifanc.Roedd yn credu bod y cardiau rysáit yn syniad gwych a gofynnodd a fyddai modd rhannu’r rhain gyda phob disgybl i annog disgyblion i goginio a bwyta’n iach.Mynegodd bryderon ynghylch diffyg cadarnhad gan Lywodraeth Cymru am ddyfodol y rhaglen ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu budd Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a’u hannog i ddarparu cyllid i’r dyfodol. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod rhannu’r cardiau rysáit yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried. Mae’r ryseitiau yn cael eu defnyddio gan NEWydd ar gyfer prydau ysgol a’r gobaith yw ehangu’r sgiliau coginio ymarferol a’r gweithgareddau, gan annog rhieni i gymryd rhan hefyd.Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Addysg Ddewisol yn y Cartref pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a goruchwyliaeth y Cyngor o’r dysgwyr hyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Sir y Fflint a rôl y Cyngor o ran monitro a chefnogi.

 

            Eglurodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod addysg yn orfodol ond bod modd i rieni ddewis sut y caiff ei darparu, gyda rhai yn dewis anfon eu plant i ysgol ac eraill yn dewis addysgu eu plant gartref.Does dim cyfrifoldeb ar rieni i roi gwybod i’r awdurdod lleol eu bod yn dewis addysgu eu plant gartref. Os nad yw plentyn yn rhan o’r system addysg yna nid yw’r awdurdod yn ymwybodol ohono.Mae prosesau yn eu lle pan fo plentyn yn cael ei dynnu o ysgol; byddai’r awdurdod lleol yn cael gwybod ac yn anfon ffurflenni i’r rhieni eu llenwi.

 

Eglurodd yr Uwch-Reolwr fod plant gydag anghenion addysgol arbennig yn faes pryder posibl a bod gan yr awdurdod rhywfaint o bwerau yn hyn o beth i wneud yn si?r bod yr addysg yn bodloni gofynion unrhyw ddatganiad AAA.Cadarnhaodd nad oes yn rhaid i rieni gadw at y cwricwlwm cenedlaethol ac nad oes gan yr awdurdod unrhyw b?er i weld y plant na gweld pa addysg sy’n cael ei ddarparu.Y Gwasanaeth Lles Addysg sy’n gyfrifol am fonitro hyn, yn rhannol oherwydd eu harbenigedd mewn perthynas â diogelu.Mae’r swyddogion yn chwarae rôl allweddol gan ymweld â chartrefi’n flynyddol fel rhan o’r broses fonitro a mynegi unrhyw bryder yngl?n â diogelu fel y bo’n briodol.Ers 2020 mae cyllid wedi’i dderbyn ar gyfer hyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ystyried cyllid parhaus ar sail tair blynedd.Mae’r cyllid, na chafodd ei ddarparu yn y gorffennol, yn caniatáu rhywfaint o gymorth swyddog i alluogi’r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’n darparu £14,000 i rieni brynu eitemau penodol fel gliniaduron a desgiau ac i ariannu ymweliadau addysgol. Eleni prynwyd aelodaeth iau Aura i gefnogi’r plant hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwrdd â phlant eraill.Dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar ei pholisi ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ers sawl blwyddyn, ond nid yw hyd yma wedi darparu pwerau statudol i awdurdodau fonitro’r maes hwn yn llawn.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylwadau ar y rhesymau dros dderbyn addysg yn y cartref, fel y dangosir yn nata Llywodraeth Cymru yn Atodiad 1, a dywedodd fod dau o’r prif resymau yn cynnwys y gair ‘gorbryder’.Gofynnodd a fyddai’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol, a drafodwyd yn gynharach, yn gallu helpu i leihau gorbryder plant sy’n symud o’r ysgol ganradd i’r ysgol uwchradd.Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr fod y Rhaglen TRAC wedi’i ehangu i gynnwys disgyblion blwyddyn 6 ac yn nodi plant sy’n orbryderus ynghylch mynd i flwyddyn 7.Mae ysgolion cynradd yn nodi disgyblion sydd â lefelau uchel o orbryder ac mae rhaglenni unigol yn cael eu rhoi ar waith ar eu cyfer.Soniodd y Cadeirydd pa mor bwysig yw hi i rieni gael gwybod am  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar lafar i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch yr amcan adfer a amlygir o ystyried cyfarfod diweddar y Pwyllgor Adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ar lafar ar y tair risg fwyaf a nodwyd yn ystod cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Adfer.

 

            Darparodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau wrth reoli ansicrwydd a newidiadau gweithredol a all fod angen eu gwneud ar ddechrau’r tymor newydd.Dywedodd fod yr ysgolion wedi bod ar agor am hanner tymor ac yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth reoli effaith achosion Covid-19 ar ddisgyblion a staff.Mae newidiadau Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ddysgwyr aros yn yr ysgol, hyd yn oed os ydynt wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi derbyn prawf positif, wedi arwain at niferoedd uchel o heintiau ymhlith disgyblion a staff.Mae argaeledd cyfyngedig staff llanw ar gyfer amrywiaeth o swyddi ysgol yn rhoi pwysau ar allu gweithredol ysgolion ac yn cadw lefelau gorbryder staff ac arweinyddion ar lefel uchel.Mae newidiadau i ganllawiau ysgolion arbennig wedi bod yn broblemus iawn.Mae canllawiau’r broses Profi, Olrhain a Diogelu hefyd wedi’u hadolygu’n ddiweddar ac wedi’u diweddaru er mwyn ceisio symleiddio rhannu gwybodaeth a lleihau llwyth gwaith y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac ysgolion. Fodd bynnag, dim ond newydd ddigwydd mae hyn ac felly mae'n rhy gynnar i asesu'r effaith.Mae’r Portffolio Addysg, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn parhau i ddarparu lefelau uchel o gymorth i ysgolion. Fodd bynnag, mae gwytnwch arweinyddion ysgol yn cael ei ymestyn ac mae’r risg barhaus o amhariadau ar addysg yn dal yn uchel.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie bryderon ynghylch yr anawsterau wrth recriwtio staff ysgol llanw a chyfeiriodd at raglen deledu ddiweddar a amlygodd hyn fel problem genedlaethol. Cytunodd y Prif Swyddog fod hyn yn heriol ac yn cynnwys cymorthyddion dosbarth, arlwywyr, glanhawyr ac aelodau eraill o staff yn ogystal ag athrawon.Mae hyn wedi effeithio ar bob ysgol, ac nid yw’n rhywbeth y gall yr awdurdod ei ddatrys. O ran cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, cadarnhaodd fod ysgolion wedi derbyn y cyllid yma ers peth amser bellach ac roedd hi’n hyderus, os yw ysgolion wedi cael yr aelodau hynny o staff, y bydd y cyllid hwn yn galluogi ysgolion i barhau â’r contractau.Adroddodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi nodi carfan o athrawon newydd gymhwyso heb brofiad digonol mewn ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 20 athro newydd gymhwyso i ennill profiad mewn ysgolion er mwyn iddynt dderbyn eu statws athro cymwysedig a darparu cymorth ychwanegol mewn ysgolion. Mae’n debyg y bydd y cyllid hwn yn cael ei estyn i dymor y gwanwyn, a fyddai’n galluogi ysgolion i gadw eu hathrawon newydd gymhwyso. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleddfu rhywfaint o’r heriau ac mae’n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant y rhaglen a’r cymorth y mae’n ei ddarparu i ysgolion.

 

            Darparodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar lafar ar y risg o ran effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Eglurodd fod cyswllt rheolaidd yn cael ei wneud gydag ysgolion a'i bod wedi cwrdd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Cadernid ysgolion wrth reoli nifer sylweddol o newidiadau

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar lafar i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch yr amcan adfer a amlygir o ystyried cyfarfod diweddar y Pwyllgor Adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ar lafar ar gadernid ysgolion wrth reoli nifer sylweddol o newidiadau h.y. y cwricwlwm newydd, trawsnewid ADY a chyflwyno arolygiadau Estyn.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog fod y risg hon yn fater hirdymor.Mae’r Portffolio Addysg a’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE) yn cefnogi ysgolion i gydbwyso’r galw yn sgil y newidiadau sylweddol hyn. Fodd bynnag, yn ôl adborth gan benaethiaid, mae cydbwyso’r holl flaenoriaethau a delio gydag achosion o Covid ac absenoldebau staff ar yr un pryd yn heriol dros ben.Mae adborth ar realiti bywyd ysgol yn ystod y tymor wedi’i gyflwyno i gyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae penaethiaid hefyd wedi rhannu problemau yn uniongyrchol gyda’r Gweinidog Addysg yn ystod cynhadledd genedlaethol.Mae’r risg yn parhau'n uchel.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Dave Mackie sylwadau’r Prif Swyddog.Roedd yn teimlo bod yna feysydd sy’n peri pryder sydd angen eu dwyn i sylw Llywodraeth Cymru, o ystyried y pwysau presennol ar ysgolion gyda’r Ddeddf ADY a’r Cwricwlwm i Gymru.

                Ategodd y Cynghorydd Paul Cunningham sylwadau’r Cynghorydd Dave Mackie a chanmolodd waith y swyddogion wrth gefnogi myfyrwyr drwy eu haddysg.Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham am eu sylwadau a dywedodd fod hyn yn ymdrech tîm, gyda chymorth gan ymgynghorwyr gwella GwE sy’n darparu cefnogaeth wych i ysgolion a phenaethiaid.Eglurodd ei bod yn ysgrifennu at bob pennaeth ar ddiwedd bob tymor i ddiolch iddynt am eu hymdrechion a dywedodd y byddai’n cynnwys sylwadau’r Pwyllgor hwn yn llythyr y tymor hwn.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a dywedodd y byddai cynnwys sylwadau’r Pwyllgor yn yr e-bost ar ddiwedd y tymor yn briodol. Dywedodd, ar ben yr heriau gyda Covid, y cwricwlwm newydd a’r Ddeddf ADY, eu bod nhw hefyd wedi gorfod delio gyda newidiadau technolegol. Roedd yn gwerthfawrogi’r ffordd yr oedd staff wedi ymdopi â’r holl newidiadau.

 

            Dywedodd yr Hwylusydd y bydd yr adborth ar ystyried y risgiau a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Adfer. Gofynnodd i’r Pwyllgor a ydynt wedi’u sicrhau, yn dilyn y diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog, bod y risgiau yn cael eu rheoli.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r adborth i’r Pwyllgor Adfer fod fel a ganlyn: “Mae'r Pwyllgor yn parhau i bryderu ynghylch y pwysau sydd ar swyddogion ac ysgolion, ond maent yn gwerthfawrogi bod tîm y Prif Swyddog yn gwneud popeth o fewn ei allu i reoli’r risg ac yn gefnogol o hynny”.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r diweddariad ar lafar; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn parhau i bryderu ynghylch y pwysau sydd ar swyddogion ac ysgolion, ond eu bod yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi bod tîm y Prif Swyddog yn gwneud popeth o fewn eu gallu i reoli’r risg.