Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Ymddiheuriadau

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd Sian Braun a Mrs Wendy White

15.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

16.

Cofnodion pdf icon PDF 126 KB

I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021, a chyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Addysg Ieuenctid a Diwylliant a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cydgyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin a’r cyfarfod cyffredin a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cydgyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Tudor Jones a’r Cynghorydd Paul Cunningham. 

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’r Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

17.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a chadarnhau bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i phoblogi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.  Tynnodd sylw’r Aelodau at yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, a drefnwyd i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a ychwanegwyd at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Gladys Healey yn y cyfarfod diweddar.   

 

Roedd yr Hwylusydd wedi awgrymu newidiadau i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, oedd yn cynnwys diweddariad ar lafar yn y cyfarfod nesaf a fyddai’n cynnwys y risgiau portffolio a nodwyd gan y Pwyllgor Adfer o amgylch effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ar eu hiechyd a’u lles emosiynol a gwytnwch mewn ysgolion tra’n rheoli nifer sylweddol o newidiadau.  Hefyd awgrymwyd bod adroddiad diweddariad ar ddarparu cynlluniau Chwarae Sir y Fflint yn llwyddiannus ac adroddiad ar Raglen Haf Llawn Hwyl Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr.    Roedd y Pwyllgor yn cefnogi ychwanegu’r eitemau a awgrymwyd. 

 

Roedd yr Hwylusydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar ddau gam parhaus, fel yr amlinellwyd yn atodiad 2 o’r adroddiad. 

 

            Mewn ymateb i’r cwestiynau ar yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, roedd y Prif Swyddog wedi cadarnhau y byddai’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am y nifer o ddisgyblion oedd yn derbyn addysg yn y cartref ar hyn o bryd ynghyd â Chyfrifoldebau Statudol y Cyngor a gorolwg o sut oedd y Gwasanaeth Lles Cynhwysiant yn rhyddhau swyddogaeth y Cyngor o ran y disgyblion hyn.  Byddai’r adroddiad hefyd yn darparu gorolwg eang o’r rhesymau pam bod rhieni wedi gwneud y penderfyniad i addysgu eu plant yn y cartref. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 (b)    Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 (c)    Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

18.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 144 KB

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl.  Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.

 

            Roedd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

           

·         Pwrpas a chefndir

·         Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau

ØPwysau Addysg ac Ieuenctid

ØPwysau Cyllideb Ysgolion

·         Crynodeb holl Bwysau Costau

·         Pwysau Cyllideb y Tu Allan i’r Sir

·         Datrysiadau Strategol

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd

·         Amserlenni Cyllideb

 

            Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau am gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod yr heriau i brynu prydau ysgol a byrbrydau wedi’i amlygu gan fyfyrwyr a gobeithio os byddai yna hyblygrwydd o fewn y gyllideb i godi hyn, byddai’n cael ei groesawu’n fawr.  Y sefyllfa mewn ysgolion cynradd oedd bod prydau yn brydau wedi eu paratoi o nifer o ddewisiadau.  Ar y lefel uwchradd roedd yn fwy o arddull caffeteria gyda mwy o ddewisiadau ar gael ar gyfer pobl ifanc.  Roedd y lwfans prydau ysgol am ddim presennol i bob sector yn £2.35 y dydd.  Roedd hyn yn ddigon mewn ysgol uwchradd i brynu brechdan, darn o ffrwyth a photel o dd?r neu gynnig pryd ond roedd adborth drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant yn nodi nad oedd hyn yn ddigon e.e. nid yw’n caniatáu ar gyfer brecwast neu fyrbryd canol bore.  Hefyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod NEWydd yn fedrus iawn yn darparu bwyd ardderchog a oedd yn bodloni gofynion maethol safonol.  Byddai cynnydd i ddisgyblion oed uwchradd yn fuddiol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod cynnydd mewn lwfans prydau ysgol am ddim wedi’i gynnwys o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, i gynyddu’r lwfans yn ddarostyngedig i fforddiadwyedd.  Roedd yn croesawu’r pwysau costau yn Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, a oedd yn dyheu i wella’r amgylchedd dysgu a darparu mwy o gymhwyster.  Yngl?n â’r pwysau costau ar gyfer swyddi newydd, roedd hyn wedi’i ddosbarthu ar gyfer pob portffolio i ddarparu gwybodaeth ar eu hanghenion hanfodol ble cynhaliwyd proses gadarn i flaenoriaethu’r sawl oedd angen ystyriaeth wirioneddol.  Roedd y pandemig wedi dwyshau rhai o’r bylchau ond byddai’r rhain yn cael eu hadolygu os na fyddai cyllideb gytbwys yn cael ei chyflawni’r flwyddyn nesaf. 

 

Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog o amgylch y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, a godwyd fel pryder gan bobl ifanc mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant.  Roedd yn gwneud sylw ar bwysau costau a dywedodd y cytunwyd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Balansau Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion y Flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 pdf icon PDF 104 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar lefel gyffredinol o arian wrth gefn a gynhelir gan ysgolion Sir y Fflint.  Roedd lefel arian wrth gefn i ysgolion wedi cynyddu ar draws pob sector ac roedd yn rhannol o ganlyniad i’r nifer o grantiau ychwanegol a ddyfarnwyd i ysgolion i gydnabod y materion a achoswyd gan y pandemig.  Roedd y grantiau hyn wedi eu dyfarnu’n hwyr yn ystod y flwyddyn ariannol ac wedi chwyddo cronfeydd wrth gefn ysgolion. 

 

            Roedd y Cynghorydd Dave Mackie wedi gwneud sylw ar drafodaethau blaenorol o amgylch y fformiwla cyllid ysgol diwygiedig ac y dylai gael ei newid i’w gwneud yn haws i’w ddiweddaru. Roedd yn teimlo bod yr anghysonderau yn y cronfeydd wrth gefn ysgol uwchradd hyn nawr yn nodi bod angen adolygiad.  Roedd yn mynegi pryderon o amgylch y gwahaniaeth mewn cyllid i ysgolion oedd â niferoedd tebyg o ddisgyblion ac awgrymodd oherwydd hyn, y dylai’r cyllid a ddyrannwyd a’r cyfanswm cyllid oedd yna gael ei adolygu i sicrhau nad oedd yna gymaint o wahaniaeth mewn cyllid mewn gwahanol siroedd ar draws Cymru.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd yn bosibl cymharu cyllid ar gyfer ysgolion o’r maint tebyg ar draws gwahanol siroedd yng Nghymru gan y gallai fod yna nifer o resymau am y gwahaniaeth.  Yn Sir y Fflint, roedd pob disgybl ysgol uwchradd yn cael eu trin yr un fath heblaw am y sawl ag anghenion ychwanegol.  Ychwanegodd bod cymhariaeth data amrwd yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn dibynnu ar y math o sir, gydag ysgolion mwy mewn ardaloedd trefol.  Roedd ysgolion gwledig llai yn hanfodol i ddarparu addysg i ddisgyblion yn yr ardaloedd ble roeddent yn byw.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno gyda sylwadau’r Arweinydd ac yn dweud bod gwariant mwyaf y Cyngor ar addysg.  Roedd Sir y Fflint yn parhau’n Gyngor oedd yn cael llai o arian ac os bydd hyn yn cynyddu yna byddai’n bosibl cynyddu gwariant fesul disgybl.    Er gwaethaf hyn, roedd gan y Cyngor fwy o arian ble bo’n bosibl gydag adnoddau cyfyngedig.          

 

Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Ian Smith.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi lefel arian wrth gefn ysgolion hyd at 31 Mawrth 2021, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

20.

Diweddariad Gweithredol Covid-19 i Ysgolion pdf icon PDF 107 KB

Darparu trosolwg i’r Pwyllgor o’r mesurau Covid-19 diwygiedig ar gyfer gweithredu ysgolion yn ddiogel.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn manylu’r trefniadau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel, fel yr amlinellwyd yn y Canllawiau Gweithredol Covid-19 diwygiedig gan Lywodraeth Cymru a Fframwaith Penderfyniad Haint Covid-19 Lleol. 

 

            Dywedodd yr Uwch-Reolwr (Gwella Ysgolion) yn dweud bod y Gweinidog Addysg wedi cynghori pob ysgol ar ddiwedd tymor yr haf mai’r

egwyddor arweiniol ar gyfer mis Medi oedd y dylent weithredu mor normal â phosibl gan gynnwys darparu brecwast am ddim a chlybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau allgwricwlar a phynciau ymarferol.    Roedd y canllawiau gweithredol manwl ar gyfer ysgolion wedi’i gwtogi ac yn cael ei ddisodli gan Fframwaith Penderfyniad Haint Covid-19 Lleol. Roedd y Fframwaith yn galluogi ymyrraeth i gael ei theilwra i lefel risg lleol a disgwylir i ysgolion newid i’r Fframwaith newydd hwn erbyn 20 Medi 2021.

 

Roedd pob ysgol yn Sir y Fflint wedi agor yn llwyddiannus ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd gydag ysgolion yn parhau i gael asesiadau risg manwl ar waith i sicrhau lefel o reolaeth addas.  Mae’r rhain yn cael eu newid i alinio gyda’r Fframwaith newydd. 

 

            Roedd y Cadeirydd yn croesawu sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mewn cyfarfod Pwyllgor Adferiad diweddar o amgylch y nifer isel o absenoldeb athrawon a staff cynorthwyol, oedd wedi bod yn gadarnhaol.  Dywedodd ei fod yn bryderus yngl?n â disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ond roedd yn falch bod y tymor wedi dechrau’n gadarnhaol.     

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r Pwyllgor ddangos ei werthfawrogiad o arweinyddiaeth yr ysgol, oedd wedi galluogi disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol yn ddiogel.  Dywedodd am ysgolion yn cymryd camau mwy trugarog er mwyn cefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig ond teimlodd wrth symud ymlaen, roedd yn rhaid i ysgolion ailgyflwyno disyblaeth mewn ffordd ofalgar a chefnogi rhieni i sicrhau bod hyn yn digwydd.  Roedd yr Hwylusydd wedi cadarnhau yn ystod y cyfarfod nesaf, byddai’r Pwyllgor yn darparu diweddariad ar lafar ar effaith yr oedd y pandemig wedi’i gael ar bobl ifanc yn arbennig ar eu hiechyd a lles a’u gallu i ymgysylltu a dysgu. 

 

            Roedd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Mackie ac amlinellu bod ysgolion wedi gweithio’n galed iawn i hysbysu rhieni ar gyfyngiadau presennol Covid-19 mewn ysgolion.  Rhoddwyd sicrwydd ar y mesurau ar waith mewn ysgolion i rieni hefyd.    Roedd gwasanaethau ehangach y Cyngor hefyd wedi gweithio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni ar brosesau, gan ddarparu cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth i gael mynediad i TG ar draws gwasanaethau’r Cyngor.     

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at y pwysau ar blant a phobl ifanc oedd nawr yn cynnwys brechiad gyda’r cynnig i frechu plant 12 oed a h?n.  Gan fod disgyblion nawr yn gallu rhoi eu cydsyniad eu hunain oedd hyn yn ychwanegu at eu pwysau.   Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn gwestiwn moesegol yn cydbwyso hyn gyda’r Ddeddf Hawliau Dynol a Hawliau Cyfreithiol Plant.  Ei ddealltwriaeth ef oedd mai’r brechlynwyr neu feddygon teulu fyddai’n penderfynu pa  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad Thematig Estyn pdf icon PDF 90 KB

Rhoi sicrwydd i’r Scrutiny o ran ymateb y Portffolio Addysg i gefnogi dysgu ac addysgu yn ystod pandemig Covid-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y pump prif argymhelliad i Lywodraeth Cymru a Chynghorau i roi sylw yn dilyn yr adolygiad thematig o’r gwaith a wnaed gan adrannau addysg pob Cyngor yng Nghymru i gefnogi eu cymunedau sy'n dysgu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ystod y cyfnod o Mawrth i Hydref 2020.

 

            Roedd llythyr adolygiad cyntaf Sir y Fflint, a dderbyniwyd ym mis Ionawr 2021 wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Yn ystod tymor yr haf 2021, roedd Estyn wedi cynnal adolygiadau dilynol gyda holl Cynghorau yng Nghymru i ystyried y cynnydd a wnaed yn erbyn eu hargymhellion cychwynnol yn yr adolygiad thematig cenedlaethol.    Roedd yr adolygiad wedi arwain at ail lythyr at y Prif Weithredwr oedd yn rhoi lefel uchel o sicrwydd bod y Portffolio yn parhau i weithio’n effeithiol drwy ei adnoddau ei hun a thrwy ei gefnogaeth i ysgolion mewn partneriaeth â GwE.  Roedd copi o lythyr, oedd yn cynnwys adborth ar ymateb y Cyngor i bump argymhelliad y Cyngor ynghlwm fel Atodiad 1 o’r adroddiad. 

 

            Daeth yr Uwch-Reolwr i’r casgliad bod yr adolygiad thematig wedi casglu’r newidiadau positif o amgylch dysgu cyfunol a digidol a’r cynnydd a wnaed tuag at y cwricwlwm newydd.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r llythyr a dywedodd ei fod yn cynnig lefel o sicrwydd.    Roedd y Cadeirydd y adleisio’r sylwadau a wnaed a dywedodd y dylid canmol ysgolion am y gwaith a wnaed.      

 

Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cynghorydd Janet Axworthy.          

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith effeithiol y Portffolio Addysg, ar y cyd â’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion GwE, i sicrhau fod dysgwyr Sir y Fflint wedi parhau i gael darpariaeth addysgol effeithiol trwy’r pandemig Covid-19; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd cadarnhaol a wnaed yn erbyn pob un o’r pum argymhelliad gan Estyn yn yr adolygiad thematig cenedlaethol gan y Portffolio Addysg ac ysgolion.