Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd David Healey yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y Cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y byddai’r Gr?p Llafur yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Cafodd y Pwyllgor wybod mai’r Cynghorydd David Healey oedd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Cadeiriodd y Cynghorydd Healey y cyfarfod o’r pwynt hwn ymlaen.

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Gladys Healey y Cynghorydd Tudor Jones fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Cunningham.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Tudor Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Ymddiheuriadau

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Joe Johnson.  Rebecca Stark, Lynn Bartlett a Wendy White.  Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid).

4.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

5.

Cydnabod David Hytch a Rebecca Stark

Cydnabodcyfraniad David Hytch a Rebecca Stark i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, y daw eu tymhorau fel aelodau cyfetholedig o’r Pwyllgor i ben ym mis Mehefin, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r cyfnod mewn swydd ar gyfer David Hytch a Rebecca Stark, a oedd yn aelodau cyfetholedig o’r Pwyllgor, yn dod i ben ym mis Mehefin 2021. Talodd deyrnged i David a Rebecca i gydnabod eu gwasanaeth hirsefydlog a’u cyfraniad cadarn i waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.  Diolchodd hefyd i David am ei gefnogaeth effeithiol fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Cunningham ymrwymiad a gwaith David a Rebecca a dywedodd y byddai colled ar eu hôl.

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i David a Rebecca am eu gwasanaeth hirsefydlog fel aelodau cyfetholedig o’r Pwyllgor ac am eu cyfraniad i Wasanaethau Addysg a darpariaeth iaith Gymraeg yn Sir y Fflint.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr David Mackie a Tudor Jones sylwadau ar sgiliau proffesiynol a rhinweddau personol David a Rebecca a byddai hiraeth amdanynt.  Dywedodd yr Aelodau fod David a Rebecca wedi bod yn ased mawr i’r Pwyllgor a bod eu mewnbwn a’u safbwyntiau wedi bod yn amhrisiadwy.   

 

Diolchodd Mr Hytch i’r Aelodau am eu geiriau caredig a dywedodd ei fod wedi bod yn falch o fod yn rhan o broses adeiladol i gyflawni’r canlyniadau gorau mewn addysg i blant a phobl ifanc yn Sir y Fflint.  Talodd deyrnged i’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a Phrif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y cynnydd a wnaed o ran addysg cyfrwng Cymraeg a dymunodd lwyddiant i’r Aelodau gyda’r gwaith a’r heriau y bydd y Pwyllgor yn mynd i’r afael â nhw yn y dyfodol.

 

Yn ei habsenoldeb, darllenodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd lythyr gan Rebecca Stark a oedd wedi’i gyfeirio at Aelodau’r Pwyllgor.  Dywedodd Rebecca ei bod wedi bod yn fraint i gynrychioli rhieni ar y Pwyllgor yn ei rôl fel aelod cyfetholedig a diolchodd i’r Aelodau, swyddogion a David Hytch am eu gwaith caled a’u cefnogaeth.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r aelodau cyfetholedig sy’n ymddeol yn derbyn dau wydr Cyngor Sir y Fflint mewn bocs anrheg arbennig, fel arwydd o ddiolch gan y pwyllgor.