Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 129 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Mawrth a 14 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Mawrth ac 14 Mehefin 2021.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

 

8.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad a chadarnhaodd fod dyddiadau'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai. Mae’r adroddiadau rheolaidd ac eitem ychwanegol ar gyfer mis Medi ar y Gwasanaeth Archif wedi’u hychwanegu a chadarnhaodd y bydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn cael ei llenwi cyn cyfarfod mis Medi.Bydd eitem ar Addysg Gartref, a awgrymwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey, hefyd yn cael ei chynnwys a dywedodd fod modd i aelodau ychwanegu eitemau eraill at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol drwy gysylltu â hi.Mae’r holl gamau gweithredu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Bob Connah.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)    Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)    Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)    Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

9.

Adroddiad Blynyddol gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar y gefnogaeth gan y gwasanaeth gwella effeithlonrwydd ysgolion rhanbarthol, GwE a'i effaith i’r ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion ac roedd yn cynnwys trosolwg o’r gefnogaeth a roddir gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a’u hadroddiad blynyddol yngl?n â’u gwaith ar draws y gogledd.Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y gwaith yn ystod y pandemig, a oedd yn cynnwys dysgu o bell a dysgu cyfunol, cymorth ac arweiniad i ysgolion a’r diwygio cenedlaethol a’r cwricwlwm newydd, a diolchodd iddynt am gefnogi ysgolion Sir y Fflint.

 

            Darparwyd yr adroddiad a’r cyflwyniad gan MrMartyn Froggett, Arweinydd Craidd Uwchradd Sir y Fflint a MrDavid Edwards, Arweinydd Craidd Cynradd Sir y Fflint ac roeddynt yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a ddarparwyd a’i heffaith ar ysgolion.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar:

  • Y gefnogaeth gyffredinol a ddarparwyd i ysgolion a’r Awdurdod Lleol ers mis Ionawr
  • Cymorth a ddarparwyd i ysgolion yn dilyn argymhellion Estyn ar ddiwedd yr adolygiad thematig
  • Cynllunio a chymorth i ysgolion roi Cwricwlwm i Gymru ar waith ym mis Medi

            Diolchodd y Cynghorydd Mackie i’r swyddogion am yr adroddiad.Gwnaeth sylwadau ar gynnwys yr adroddiad a’r wybodaeth, megis nifer yr ymweliadau ysgol a gofynnodd beth oedd pwrpas yr ymweliadau hyn.Gofynnodd hefyd am adborth cyffredinol gan bobl sydd wedi bod ar gyrsiau, gwybodaeth am ddysgu proffesiynol a nifer y swyddogion o Sir y Fflint sy’n cymryd rhan a’u hadborth, a sut mae datblygiad rhaglen Sir y Fflint yn cymharu â rhaglenni awdurdodau eraill y gogledd.

 

            Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-Reolwr mai hwn oedd Adroddiad Blynyddol Gogledd Cymru GwE a chytunodd fod rhai elfennau o’r adroddiad wedi'u cyflwyno i’r Pwyllgor yn barod ond bod y sleidiau yn darparu gwybodaeth gadarnhaol ar sefyllfa ddiweddar ysgolion.Fel gyda mesuryddion perfformiad eraill, mae adrodd cenedlaethol a chanlyniadau’r system arholi wedi’u hatal a’r ffocws wedi’i roi ar gefnogi i sicrhau bod darpariaeth yn ei lle.

 

            Roedd yr Arweinydd Craidd Uwchradd yn deall sylwadau’r Cynghorydd Mackie ond dywedodd nad oedd y data arferol ar gael i’w gyflwyno a bod lles wedi bod wrth wraidd eu dull ar gyfer ysgolion.Cadarnhaodd fod data ar gael ar y cyrsiau a ddarparwyd a’r hyn sy’n digwydd yn Sir y Fflint.Cytunodd, i’r dyfodol, y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiadau o safbwynt Sir y Fflint ac er mwyn cymharu ac ychwanegodd y bydd gwybodaeth am gyfranogiad y gweithdai Cwricwlwm i Gymru ar gael yn fuan a bod modd cynnwys y wybodaeth honno hefyd.Cytunodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyda’r sylwadau a dywedodd nad oes data cadarn ar gael ar y funud oherwydd y pandemig, ond y byddai’n cael ei gynnwys pan fydd data cadarnach ar gael.Adroddodd ar y rôl weinyddol newydd ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a fydd yn gyfrifol am wahanu’r data ar gyfer bob awdurdod lleol er mwyn ei gyflwyno i bwyllgorau.Mae penaethiaid wedi derbyn cymorth gyda’r adroddiadau hunanwerthuso gan fod ysgolion wedi bod dan lawer o bwysau a phenaethiaid yn brin o amser i fyfyrio ar y pethau cadarnhaol a’r meysydd i’w gwella.

 

            Canmolodd y Cadeirydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

Sleidiau Cyflwyno Gwe pdf icon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i Aelodau ar bolisi a darpariaeth y Portffolio ar y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion a’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am bolisi Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd y Portffolio, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles dysgwyr.Mae technoleg wedi caniatáu i addysg barhau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, er y manteision, mae ymddygiad a chynnwys niweidiol ar-lein yn gallu rhoi dysgwyr mewn perygl os nad oes strategaethau priodol ar waith.Cadarnhaodd fod yr Awdurdod a'r ysgolion yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

 

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a gyflwynwyd i sicrhau’r Pwyllgor bod plant a phobl ifanc yn derbyn cymorth priodol mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Mae’r adroddiad yn amlygu gwaith yr Awdurdod ynghyd â’r canllawiau cenedlaethol.Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi ysgolion a’r Awdurdod i gyfathrebu’n gyflym gyda phlant a rhieni ond mae yna fanteision ac anfanteision, gyda phobl ifanc yn wynebu’r un heriau ag oedolion sy’n defnyddio’r llwyfannau hyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys data a chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd bellach yn cael eu dilyn yn lleol.Darperir gwybodaeth am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a chadarnhawyd y bydd yr arolwg nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref.

 

Tynnodd yr Ymgynghorydd Dysgu sylw’r aelodau at y Mesur Diogelwch Ar-lein, y Cynllun Gweithredu, y Canllawiau a’r Cwricwlwm i Gymru.Amlinellwyd gwybodaeth am gylch gwaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ynghyd â’r rhaglen “Getting on Togerther” sy’n edrych ar herio eithafiaeth.I gloi, amlinellodd Fframwaith Arolygu newydd Estyn a dywedodd y bydd prosiect peilot yn dechrau yn ystod gwanwyn 2022.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Mackie yr adroddiad a’r dolenni at ddogfennau ar-lein cysylltiedig.Fel llywodraethwr ysgol, gofynnodd pa gwestiynau y dylai ef fod yn gofyn i’w ysgolion ac a yw ysgolion yn gwybod am yr adroddiad hwn.

 

            Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i ddarparu hyfforddiant a chyngor priodol a bod hyn eisoes yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Portffolio.Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd hyfforddwr sydd wedi darparu hyfforddiant ar gyfer y rhaglen ysgolion yn gallu cynnal sesiwn i lywodraethwyr ysgol a fydd yn cynnwys cwestiynau iddynt ofyn i’w cyrff llywodraethu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at bwynt 1.08 lle nodir fod 68 allan o 78 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer 360 Degree Safe Cymru a gofynnodd sut y mae modd annog y 10 ysgol sy’n weddill i gofrestru.Mewn ymateb dywedodd yr Uwch-Reolwr fod hwn yn offeryn pwysig ond bod rhai ysgolion o bosibl yn defnyddio offerynnau eraill sydd ar gael. Fodd bynnag, cytunodd y byddai o fantais petai bob ysgol yn cofrestru. Bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei annog yn y flwyddyn academaidd newydd.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau bwlio seiber disgybl i ddisgybl, sydd i lawr i 20% o ddysgwyr yn rhoi gwybod am achosion o’r fath o gymharu â 23% yn 2017 (ond sy’n dal yn uwch na’r  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-Daliadau yr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.Mae rhoi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol.

 

Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth achos

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi sy’n cyd-fynd ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.Mae’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Portffolio Addysg a’r agwedd tlodi bwyd, a bod prydau ysgol am ddim yn gymorth i fynd i’r afael â hyn.Mae tlodi digidol wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol a dyfeisiau’n cael eu darparu i wneud yn si?r bod plant yn gallu parhau i ddysgu.Gofynnodd a oes ffordd arall y gall addysg ac ysgolion gynorthwyo gyda’r agwedd hwn ar dlodi.Mewn ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol y dylid ystyried tlodi a’r plant a’r teuluoedd a effeithir arnynt wrth godi ysgolion newydd neu gynllunio strategaethau newydd.Hefyd, dylid sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu i helpu teuluoedd dderbyn y cymorth a’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

 

            Ychwanegodd yr Uwch-Reolwr fod tlodi yn uchel ar raglen y Portffolio Addysg, gyda’r Prif Swyddog yn arwain y gwaith.Mae ysgolion eisoes yn edrych ar anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd ac yn darparu cymorth. Dywedodd fod cynhwysiant digidol yn rhan o’r Strategaeth Ddigidol, gyda thema newydd Dysgu a Diwylliant i ddatblygu hyn ymhellach. Mae’r Portffolio Addysg yn croesawu’r fframwaith i agor trafodaeth ehangach i gefnogi anghenion dysgwyr a theuluoedd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r swyddogion am y cyflwyniad a dywedodd fod tlodi wedi gwaethygu oherwydd y pandemig.Dywedodd fod tlodi yn effeithio ar amrywiaeth o bobl ond ei fod yn braf clywed fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i leddfu problemau.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett a’r Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn barod i gyflawni’r ddyletswydd newydd.

 

Sleidiau cyflwyniad dyletswydd economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr (Newid Busnes a Chymorth) yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o gynnydd gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Oherwydd bod yr ysgolion wedi bod ar gau nid oedd modd casglu ffigyrau targedau perfformiad allweddol ar gyfer presenoldeb, gwaharddiadau neu ddim mewn addysg na chyflogaeth ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf.Roedd yr Uwch-Reolwr yn falch o amlygu tri tharged perfformiad sydd wedi symud i wyrdd a melyn, yn cynnwys y system cyfiawnder ieuenctid a oedd wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl ifanc newydd i’r system.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr (Newid Busnes a Chymorth) at sylwadau’r Cynghorydd Mackie yngl?n â chymorth i lywodraethwyr ysgol a dywedodd fod gwybodaeth am ddiogelu, mynediad at hyfforddiant 360 a chwestiynau y dylai llywodraethwyr ofyn ar gael yn Governors Cymru a bod modd i ysgolion ddefnyddio’r adnodd hwn.Awgrymodd fod hyn yn cael ei gynnwys fel cam gweithredu i atgoffa llywodraethwyr bod ganddynt fynediad at y wefan ddefnyddiol hon.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at fformat adroddiadau eithrio, sy'n glir ac yn hawdd eu darllen yn enwedig y nodiadau ar y gwaelod, a chroesawodd y ffaith bod aelodau yn gallu deall y data yn iawn.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey ac Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn.