Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

28.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol a ddiwygiwyd i gynnwys yr eitem ychwanegol ar Barcio ar Safleoedd Ysgol.   Roedd hyn yn dilyn cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a byddai Aelodau’r Pwyllgor hwnnw’n cael eu gwahodd i ymuno â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem honno.   Nid oedd unrhyw newidiadau pellach i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 Gan gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod bob un o’r camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi cael eu cynnwys.   Eglurodd bod y cam gweithredu mewn perthynas â’r wybodaeth a geisiwyd gan y Cynghorydd Crease bellach wedi’i gwblhau.  Yr unig gam gweithredu a oedd eto i’w gwblhau oedd yr ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie.   

 

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf, trefnwyd gweithdy gyda Swyddogion GwE ar gyfer dydd Llun, 5 Rhagfyr am 2.00 pm a byddai cadarnhad yn cael ei anfon dros e-bost at Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am ei hymateb i’w gais mewn perthynas â bwlch cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal.    Roedd yn falch y bydd adolygiad o berfformiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn nes ymlaen eleni. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.                          

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau.

29.

Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022 pdf icon PDF 90 KB

Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Uwch Reolwr - Darpariaeth Ieuenctid Integredig bod Cynlluniau Chwarae’r Haf wedi bod yn cael eu cynnal yn llwyddiannus ers 1996.   Darparodd wybodaeth ar y 57 o gynlluniau chwarae a oedd yn cynnwys meini prawf ar gyfer safleoedd, a chyfranogiad 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a’r 2 safle sy’n targedu’r Gymraeg.   Roedd dull dwyieithog yn cael ei ddatblygu gyda phob gweithiwr chwarae a oedd yn derbyn hyfforddiant Cymraeg.   Dros yr haf, cafwyd bron i 4,000 o gofrestriadau, gyda 15,500 yn mynychu’r sesiynau 2 awr, roedd y data’n cael ei gasglu’n ddigidol ar gyfer bob sesiwn.  Roedd hyn yn galluogi rhieni i gofrestru eu plant cyn mynychu er mwyn sicrhau bod y sesiynau’n cael eu cynnal yn llyfn gyda gwybodaeth mewn perthynas â’r plant eisoes wedi’i huwchlwytho.    Amlinellodd yr Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch ar-lein a’r refeniw gan Gynghorau Tref a Chymuned, y Grant Gwaith Chwarae a’r Grant Haf o Hwyl i gefnogi’r cynlluniau.   Roedd y sefyllfa mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles yn parhau i fod yn aneglur.    Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr hefyd at yr ymgynghoriad a gwblhawyd gyda’r bobl ifanc a’u teuluoedd a gafodd ei fwydo’n ôl er mwyn datblygu’r ddarpariaeth, ac amlinellodd sut y gellid datblygu’r ddarpariaeth chwarae ymhellach.

  

Myfyriodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a gwblhawyd gan Janet Roberts dros y 26 mlynedd diwethaf.   Roedd Janet yn ymddeol ac roedd arno eisiau diolch iddi’n bersonol am ei chefnogaeth.   Roedd hi’n gadael y gwasanaeth mewn sefyllfa gadarnhaol gyda 90 o bobl ifanc wedi’u cyflogi dros yr haf a rhai’n ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn drist pan glywodd fod Janet yn gadael, a myfyriodd ar y trafodaethau yr oedd wedi’u cael gyda hi yn y Pwyllgor dros y blynyddoedd.   Cyfeiriodd at weithdai yr oedd wedi’u mynychu gyda Janet, dywedodd fod ei brwdfrydedd yn amlwg, a’i fod wedi bod yn bleser bod yn rhan o’i siwrnai.    

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mackie yr hoffai fod wedi gweld yr amcanion a gwybodaeth ynghylch yr hyn roeddent yn ceisio ei gyflawni yn ystod paratoadau’r cynlluniau chwarae ynghyd â’r canlyniadau yn yr adroddiad.   Teimlai y byddai hyn yn galluogi’r Pwyllgor i ddeall cyfeiriad y gwasanaeth a gofyn cwestiynau.   Mewn ymateb i hynny, ystyriodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig bwyntiau’r Cynghorydd Mackie gan ddweud y byddai’r gwasanaeth yn gweithredu system newydd ym mis Ionawr, a fyddai’n galluogi proses ar gyfer mapio’r ddarpariaeth yn erbyn yr asesiad cyfleoedd chwarae digonol a data lleol eraill.   Amlinellodd sut fyddai’r data’n amlygu’r rhesymau pam fod cynlluniau’n cael eu lleoli mewn cymunedau arbennig, y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau a ble nodwyd darpariaeth gynaliadwy. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece, cytunodd y Prif Swyddog i fynd i’r afael â’r mater mewn perthynas â’r llythyrau i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn ceisio cael yr hysbysiadau allan yn gynt yn ogystal â dangos effaith y cyfraniadau ar y cynllun.    Gan gyfeirio  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 116 KB

Cyflwyno Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Llongyfarchodd y Cadeirydd y Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned am yr adroddiad cadarnhaol yn dilyn yr Arolwg Estyn.   Roedd hi’n falch o weld bod Estyn wedi gwneud cais am ddwy astudiaeth achos gan eu bod wedi arsylwi arfer gorau ac yn awyddus i’w rhannu.    Roedd hi hefyd yn fodlon bod y meysydd i’w gwella a nodwyd yn yr adroddiad eisoes wedi cael eu cydnabod gan y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n amlygu eu hunanwerthusiad cadarn.

 

            Diolchodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion i’r Cadeirydd am ei sylwadau.   Darparodd amlinelliad cryno o’r gwaith partneriaeth uchelgeisiol gyda Wrecsam a oedd wedi galluogi Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru i ehangu’r ddarpariaeth a chyfleoedd i oedolion sy’n dysgu.   Cwblhawyd llawer o’r gwaith hwn yn ystod y pandemig a thyfodd y Bartneriaeth yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig lefel y cyswllt â Phartneriaid.   Rhoddwyd amlinelliad o’r cynnydd ers y cyfnod hwn a’r trafodaethau a gafwyd gydag Estyn mewn perthynas â’r weledigaeth ar gyfer y Bartneriaeth a’r angen am gyllid cynyddol i ddarparu’r momentwm i sicrhau bod hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.   Gan gyfeirio at yr adroddiad gan Estyn, dywedodd fod y cais am ddwy astudiaeth achos yn ategu at weledigaeth a chyfeiriad y Bartneriaeth, yn ogystal ag argymhellion 1 i 3 a oedd eisoes wedi’u nodi yng Nghynllun Gwella Ansawdd y Bartneriaeth a rannwyd gydag Estyn yn ystod yr Arolwg.  O ran argymhelliad 4, roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a ddarparwyd yn 2020/21 yn amlygu sut darparwyd cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn, a darparodd wybodaeth ar sut gall dysgwyr ganfod mwy am gyrsiau a chofrestru, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer ymgysylltu pellach i’r dyfodol.

 

            Dywedodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned ei bod yn falch iawn o ganlyniad yr adroddiad yn arbennig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.    Darparodd sicrwydd i’r tîm mewn perthynas â phrosesau megis yr adroddiad hunanwerthuso a’r cynllun gwella ansawdd.   Roedd hyn hefyd wedi helpu i nodi’r camau nesaf i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau i bob oedolyn sy’n dysgu yn Sir y Fflint.

 

            Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie’r tîm ar adroddiad yr arolwg a’r gwaith a gwblhawyd o fewn blwyddyn.   

 

            Mewn ymateb i sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd  Dave Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod y cwestiynau hyn wedi codi yn y Bwrdd Rheoli, cyfarfodydd Cwricwlwm ac Ansawdd ac yn dod o dan y Cynllun Gwella Ansawdd ar gyfer y Bwrdd.   Roedd hi’n gobeithio y byddai adroddiadau i’r Pwyllgor yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth ar ganlyniadau a chyflawniadau wrth i’r Bartneriaeth ddatblygu.   Oedwyd prosesau casglu data cenedlaethol ar bresenoldeb, cyfraddau cwblhau a chyfraddau cyflawni yn ystod Covid, ond dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y set ddata nesaf a gesglir yn cael ei chyflwyno.   Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol i egluro sut datblygwyd yr argymhellion hyn i gamau gweithredu a chanlyniadau.   Darparodd wybodaeth ynghylch mapio  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Dysgu o'r Grwp Monitro Perfformiad Ysgolion pdf icon PDF 117 KB

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a dysgu gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion y gwaith mae’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion wedi’i gwblhau gan gynnwys y gefnogaeth a ddarparwyd a’r heriau a wynebwyd gan ysgolion sy’n tanberfformio.   Darparodd wybodaeth ar y newidiadau cyson mewn perthynas â gwella ysgolion, p’un a yw hynny’n lleol neu’n genedlaethol, gyda phob ysgol ar eu siwrnai eu hunain tuag at welliant er mwyn canolbwyntio’n well ar ganlyniadau eu pobl ifanc.  Roedd gan bob ysgol gynlluniau a dulliau cefnogaeth i’w helpu i ddarparu eu blaenoriaethau mewn perthynas â gwelliant.   Roedd angen cefnogaeth â mwy o ffocws o bryd i’w gilydd, a soniodd am gyfarfodydd y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru (GwE) a oedd yn ystyried cynnydd ysgolion unigol, ac amlinellodd sut byddent yn ymdrin ag ysgolion.   Os oedd unrhyw ysgol yn ymofyn cefnogaeth ychwanegol, byddai hyn yn cael ei uwchgyfeirio at y Bwrdd Ansawdd ar gyfer yr Awdurdod Lleol a GwE, a byddai penderfyniad yn cael ei wneud i uwchgyfeirio at y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn dilyn hynny.   Roedd hon yn broses gynhyrchiol a chadarnhaol a oedd yn galluogi gwelliannau cyflym.   Ni fyddem yn dymuno i unrhyw ysgol fynd drwy’r broses hon, ond roedd yn anochel o ystyried yr heriau sy’n wynebu ysgolion.   Oedwyd hyn yn ystod y pandemig, ac yn sgil gohirio ymweliadau Estyn, bu rhai ysgolion yn destun y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn hirach na’r disgwyl.   Y pwyntiau allweddol oedd y camau nesaf a gytunwyd i helpu ysgolion i wella ac eglurodd y fframwaith gwahanol ar gyfer atebolrwydd. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie fel aelod panel blaenorol ac eglurodd ei fod wedi parhau i ddysgu gyda chefnogaeth y Prif Swyddog.   Dywedodd fod y broses hon yn gweithio ac yn creu’r amgylchedd a’r canlyniadau cywir i helpu i gael ysgolion ar y trywydd iawn.

 

Cytunodd y Cynghorydd Carolyn Preece gan ddweud ei bod wedi mynychu nifer o arolygon lle bu’n rhaid gosod ysgolion dan fesurau arbennig.   Roedd yn amlwg yn ystod ei hail ymweliad â’r ysgol gydag Estyn ei fod yn llwyddiannus.   Cyfeiriodd at yr ail argymhelliad a gofynnodd a fyddai modd iddi gynnig ei henw.

 

Cyfeiriodd Mrs Wendy White at yr ysgolion ffydd o fewn Sir y Fflint a chanmolodd yr Uwch Reolwr a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y gefnogaeth a ddarparwyd a dywedodd bod Sir y Fflint yn gweithio mewn modd cadarnhaol iawn gyda’r Esgobaeth Gatholig.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y broses yn un llwyddiannus a sefydledig sy’n darparu cefnogaeth a her i ysgolion gan ddarparu ymyrraeth cyn arolwg Estyn.   Cyfeiriodd at yr arolwg Estyn yn 2011 a argymhellodd y dylai aelodau gymryd rhan yn y panel hwn i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa mewn ysgolion, ac roedd swyddogion yn gwerthfawrogi safbwynt Aelodau ar y Panel.    Roedd gan Aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol brofiad o’u hysgol eu hunain yn ogystal â barn wrthrychol i ofyn cwestiynau i ysgolion a herio swyddogion i sicrhau fod y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu.   Roedd y cyfarfodydd  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 96 KB

Cytuno ar y Blaenoriaethau arfaethedig, Is Flaenoriaethau a’r Amcanion Lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           

            Gan gyflwyno Adroddiad Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 a dywedodd nad oedd yn ofyniad statudol mwyach i baratoi Cynllun y Cyngor.   Roedd y Cynllun yn amlinellu sail y Cyngor ar gyfer bodloni gofynion perfformiad ac yn cynnwys cynlluniau cadarn yn amlinellu’r siwrnai i fodloni’r gofynion hynny.   Cyfeiriodd Aelodau at adran 1.02 o’r adroddiad, ac eglurodd sut cwblhawyd yr adolygiad.   Cyfeiriodd Aelodau at adran 1.04 o’r adroddiad a’r Atodiad a oedd yn amlinellu’r blaenoriaethau arfaethedig a fyddai’n cael eu hadolygu gan y Pwyllgor yn rheolaidd.   

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y diffiniadau dan Addysg a Sgiliau ac nid oedd yn gallu gweld unrhyw beth a oedd yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb o ran canlyniadau yn arbennig ar gyfer plant difreintiedig a’r rheiny sy’n mynd drwy’r system ofal.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at yr eitem gyntaf mewn perthynas ag Addysg a Chyflawniad, a dywedodd nad oedd hi’n gallu sicrhau cydraddoldeb o ran canlyniadau ar gyfer bob dysgwr.   Roedd cefndiroedd, profiadau a gallu gwybyddol bob dysgwr yn wahanol, a oedd yn cael effaith ar eu cyflawniad addysgol.   Rôl y cyngor a’r ysgol oedd darparu cyfleoedd cyfartal i bob dysgwr gan roi cyfle iddynt ymgysylltu gyda’r cynnig cwricwlwm a’r cynnig cwricwlwm ychwanegol ehangach ar iechyd a lles emosiynol.   

 

            Roedd y Cynghorydd Parkhurst yn derbyn bod hyn y tu hwnt i allu’r Cyngor, ond nid oedd yn gweld y dyhead na’r amcan, ac roedd yn bryderus na fyddai’n derbyn y sylw hanfodol.    Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn amcan lefel uchel ac y byddai cyfres o dargedau arbennig o fewn Cynllun y Cyngor y gallai’r portffolio weithio tuag atynt.   Rhoddodd sicrwydd i’r Cynghorydd Parkhurst fod y targedau hynny’n adlewyrchu bob dysgwr o fewn Sir y Fflint ac yn rhoi ystyriaeth arbennig i anghydraddoldeb, a’i effaith ar addysg.   Dywedodd y byddai hi’n bwydo hyn yn ôl i sicrhau ei fod yn derbyn sylw priodol mewn modd ymarferol a hawdd i’w reoli.

 

Teimlai’r Cadeirydd yr ystyriwyd bod Sir y Fflint yn darparu cyfleoedd i wella hunanhyder, lles ac addysg ar gyfer ystod eang o bobl.   Diolchodd i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â hyn, am fagu hyder, darparu llefydd diogel a pharatoi nifer o bobl i ehangu eu sgiliau er mwyn sicrhau cyflogaeth a gwella eu sgiliau bywyd a chymdeithasol.   Roedd effaith y gwaith hwn yn dechrau dod i’r amlwg yn y gymuned ehangach, ac roedd cydnabyddiaeth amlwg bod gwaith ar y cyd rhwng partneriaid wedi ehangu’r cynnig hwn.   Roedd y Cadeirydd yn cytuno gyda’r awgrym a wnaed gan y Cynghorydd Preece y byddai’r Pwyllgor yn elwa o weithdy Estyn ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd David Richardson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1 yr  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.