Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 55 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 16 Mehefin 2022.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022.

 

Cynigodd y Cynghorydd David Mackie bod y cofnodion yn gywir ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion yn rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, sef Atodiad 2 i’r adroddiad, ac eglurodd fod y ddogfen wedi’i diwygio ers y sesiwn briffio a gynhaliwyd yn y cyfarfod diwethaf.  Rhoddwyd disgrifiad byr o’r eitemau ar y rhestr ar gyfer Medi, Hydref, Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023.  Cadarnhaodd yr Hwylusydd y cyflawnwyd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. 

 

Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n ag ansawdd cysylltiadau rhyngrwyd mewn ysgolion a’r prydau ysgol a ddarperid, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod yn ymwybodol o’r anawsterau â’r rhyngrwyd a ddeilliai o Raglen Seilwaith Cenedlaethol  Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.  Cadarnhaodd fod adran TG y Cyngor wrthi’n ceisio datrys y problemau ond dywedodd nad Sir y Fflint yn unig oedd yn eu cael.  Rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth yngl?n â’r newidiadau yn null gweithredu busnes NEWydd ar gyfer prydau bwyd, a’r gegin gynhyrchu ganolog yn Neuadd y Sir.  Cytunodd y byddai’n gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr NEWydd lunio adroddiad yn sôn am y problemau recriwtio’r oeddent yn eu cael, a’r newidiadau yn narpariaeth y prydau ysgol, gan gynnwys gwybodaeth yngl?n â chyflwyno prydau bwyd am ddim i’r holl blant mewn dosbarthiadau babanod.  Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a ellid cynnwys yr Adroddiad ar Falansau Ysgolion yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod mis Medi.

 

 Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â fêpio mewn ysgolion a soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am drafodaethau a gafwyd yng nghyfarfodydd diweddar Ffederasiwn y Penaethiaid a’r Pwyllgor Ymgynghori Addysg.  Roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i ddarparu canllawiau polisi gwerth chweil i gynorthwyo athrawon i reoli’r sefyllfa mewn ysgolion, gan nad oedd dealltwriaeth gyflawn o’r goblygiadau i iechyd plant.  Roedd y gwasanaeth Safonau Masnach yn rhan o hynny hefyd gan ei bod yn anghyfreithlon gwerthu nwyddau fêpio i blant dan ddeunaw oed, ac eglurodd y gweithdrefnau a gâi eu sefydlu i’r ysgolion gysylltu â Safonau Masnach i godi pryderon neu rannu gwybodaeth.  Roedd hyn yn fater o bwys ac awgrymodd y gellid rhoi sylw iddo yn y gwanwyn fel rhan o’r cynllun Ysgolion Iach.  Rhoes sicrwydd i’r Aelodau y cedwid llygad barcud ar hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a ganiateid fêpio ar dir ysgol, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na chaniateid hynny.   Eid i’r afael â hyn ym mholisïau’r ysgolion ac roedd dan reolaeth ar hyn o bryd, ond mater ydoedd o ddeall y ddeddfwriaeth yngl?n â’r hyn oedd yn dderbyniol ar dir ysgol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)          Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cylch Gorchwyl Y Pwyllgor pdf icon PDF 87 KB

Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddogion wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny.  Gofynnodd i’r aelodau ddarllen Atodiad 2 ar dudalen 26 o’r adroddiad lle’r oedd y newidiadau wedi’u hamlygu’n goch er cymeradwyaeth y pwyllgor.

 

Cynigiodd Mrs Lynn Bartlett ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad a eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor o blaid y diwygiadau arfaethedig yn ei gylch gorchwyl fel y’u nodwyd yn Atodiad 2.

10.

Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau pdf icon PDF 101 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint a chymorth a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Ymgynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) wybodaeth fanwl yngl?n â lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ledled y sir, sef y rhesymau pennaf am absenoldeb disgyblion rhwng Medi 2020 a Haf 2021. Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â’r tueddiadau ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion, lefelau gwaharddiadau dros dro a pharhaol, ond roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i rannu gwybodaeth am y sefyllfa genedlaethol yn ystod y cyfnod hwn ac felly roedd y wybodaeth wedi’i chasglu gan ein hysgolion lleol a’i seilio ar ddata Systemau Rheoli Gwybodaeth Ysgol.  Gofynnodd i’r Aelodau droi at Atodiad 1 ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu marciau penodol i’r ysgolion eu defnyddio ar gyfer absenoldebau oherwydd Covid-19, ond fod llawer o’r absenoldebau wedi’u cofnodi â’r marc (i).  Bu’n rhaid i’r Gwasanaeth Lles Addysg a thimau eraill weithio mewn ffyrdd gwahanol yn ystod y pandemig Covid-19 ac yn ei sgil, ac eglurodd y prosesau a’r gefnogaeth a ddarparwyd i ddysgwyr agored i niwed er mwyn cadw mewn cysylltiad a sicrhau eu bod mewn lle diogel fel y gallant ddal i gyfranogi o’u haddysg.

 

            Rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaharddiadau Cyfnod Penodol a Pharhaol, a fu ar gynnydd mewn blynyddoedd diweddar, ac eglurodd y rhesymau am y gwaharddiadau hynny.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl yngl?n â sut roedd y tîm wedi newid ei ddull gweithredu er mwyn mynd ati i chwilio am broblemau a meithrin cyswllt â’r disgyblion dan sylw yn y gobaith o wella’r sefyllfa a’u galluogi i ddychwelyd i’r ysgol.

             

            Yn dilyn nifer o gwestiynau gan Aelodau, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth fanwl yngl?n â’r drefn gwaharddiadau, patrymau ymddygiad, y marciau’r oedd Penaethiaid yn eu defnyddio a phwy oedd yn gyfrifol am gofnodi absenoldebau.  Roedd y pandemig wedi effeithio ar bresenoldeb disgyblion ac roedd Covid, iechyd meddwl a materion eraill yn peri pryder.  Eglurodd y dull rhagweithiol o feithrin cyswllt â’r disgyblion hyn er mwyn deall y rhesymau dros eu habsenoldeb a darparu cefnogaeth i ddisgyblion a’u teuluoedd fel y gallant ddychwelyd i’r ysgol.  

 

            Wrth sôn am absenoldebau heb eu hawdurdodi, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am drothwyon Llywodraeth Cymru a’r lefelau yn ysgolion Sir y Fflint.  Rhagwelid y byddai’r sefyllfa’n gwella yn sgil dulliau gweithredu newydd y Gwasanaeth Lles Addysg o fis Medi ymlaen. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dymunai ysgolion sicrhau fod cyn lleied â phosib o absenoldebau heb eu hawdurdodi o safbwynt diogelu ac eglurodd y systemau oedd ar waith mewn ysgolion, fel y Polisi Presenoldeb a oedd yn gofyn bod yr ysgol yn gwneud ymholiadau o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb os nad oedd y rhieni wedi cysylltu â’r ysgol.Gallai Penaethiaid uwchgyfeirio absenoldebau heb eu hawdurdodi i’r Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn cyflwyno rhybuddion talu cosb.  Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu yngl?n â’r cyfarfodydd misol a gynhelid â’r Tîm Addysg Heblaw yn yr Ysgol a rhoes fraslun o’r Strategaeth Ymyrraeth Gynnar a oedd â’r nod o helpu disgyblion a theuluoedd, eu cynorthwyo a’u cefnogi er mwyn cael gwell canlyniadau.    

 

            Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd pdf icon PDF 120 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar bolisi a darpariaeth Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei fod yn dod gerbron y pwyllgor bob blwyddyn, ac amlygodd rai o’r prif bwyntiau. Roedd disgyblion ac ysgolion yn wynebu heriau mawr ac roedd hi’n bwysig eu bod yn cadw’u hunain yn ddiogel ar-lein. 

 

Gofynnodd i’r Aelodau droi at y prif bwyntiau yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion yngl?n â Chyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd.  Roedd gwybodaeth ar y safle Hwb yn hyrwyddo Offeryn 360° Safe Cymru i ysgolion a dymunai’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r holl ysgolion ei ddefnyddio.  Soniwyd am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a’r hyfforddiant yr oedd y Gwasanaeth Gwella Rhanbarthol (GwE) yn ei ddarparu, ynghyd â’r ffaith fod yr holl ysgolion yn medru defnyddio’r ffurflen bwlio ar-lein ac yn gwybod sut ddylid rhoi gwybod am hynny.  Esboniodd y Prif Swyddog y systemau TG ar gyfer hidlo’r we, a rhoes wybodaeth am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a’r “Addewid i Fod yn Glên Ar-lein”. 

 

Holodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a oedd yr aelodau o’r farn y dylai’r adroddiad Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd ddal i fod yn rhan o’r adroddiad blynyddol ynghylch Diogelu mewn Addysg, ynteu a ddylid ei gyflwyno fel adroddiad ar wahân i’r pwyllgor, neu’n wir ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Yn sgil hynny dywedodd rhai o’r Aelodau y dylai’r adroddiad fynd gerbron y Cydbwyllgor fel y gellid cael trafodaeth ehangach.

 

Gofynnwyd i’r aelodau anfon eu cwestiynau drwy e-bost at yr Ymarferydd Ysgolion Iach a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid), a chadarnhawyd y rhennid yr holl gwestiynau a’r ymatebion iddynt ag aelodau’r pwyllgor.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Preece bryderon yngl?n â’r ail argymhelliad, gan ddweud y gallai fynd yn angof i raddau fel rhan o’r prif adroddiad. Rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sicrwydd y byddai adran neilltuol ar gyfer hyn yn yr adroddiad Diogelu mewn Addysg.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhelliad cyntaf a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr ail argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Preece y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod yr aelodau’n cadarnhau eu bod wedi cael sicrwydd digonol ynghylch y drefn o gefnogi a monitro ysgolion ynghylch cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd.

 

(b)         Bod yr aelodau’n cytuno y dylai’r adroddiad fod yn rhan o’r adroddiad blynyddol Diogelu mewn Addysg yn y dyfodol ac y dylid ei gyflwyno gerbron y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

12.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 108 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd a wnaed erbyn diwedd 2021/22 wrth gyflawni blaenoriaethau Cynllun y Cyngor fel y bônt yn berthnasol i’r portffolio Addysg ac Ieuenctid.  Roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol dros ben ac yn dangos y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau.  Gofynnodd i’r aelodau droi at dudalen 69 a oedd yn cynnwys yr amryw dargedau, y rhan helaeth ohonynt yn wyrdd ac ychydig yn oren.

 

Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â’r targedau a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod a wnelo’r rhain â phresenoldeb a gwaharddiadau, gan egluro na chasglwyd y targedau wedi i Lywodraeth Cymru roi’r mesuryddion perfformiad o’r neilltu oherwydd y pandemig.  Cadarnhaodd y cofnodwyd data lleol yr awdurdod ynghylch presenoldeb a gwaharddiadau fel data heb eu gwirio a’u bod wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ar y sail honno, a chytunodd y byddai’n cyfleu sylwadau’r Cynghorydd Mackie i’r tîm.   Nid oedd Llywodraeth Cymru’n mynnu bod yr awdurdod yn pennu targedau, ond dywedodd fod y rhain wedi’u gosod ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac y byddai’r adroddiad cryno’n rhoi’r cyd-destun. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Preece i’r tîm am adroddiad trylwyr ac ardderchog, a rhoes glod i’r tîm, yr ysgolion a’r staff am y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig ac yn ei sgil.  Cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’n cyfleu’r diolchiadau i’r tîm a’r ysgolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod meddu ar y wybodaeth yn galluogi craffu effeithiol, ac edrychai ymlaen at adroddiadau â mwy o wybodaeth wrth i bethau fynd yn ôl i’r arfer ar ôl y pandemig.   Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn falch bod aelodau’r pwyllgor yn craffu ar hyn gan ei bod yn broses bwysig.  Dywedodd eto y gallai unrhyw aelod gysylltu â hi unrhyw bryd i drafod unrhyw bryderon.

 

Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healey â sylwadau’r Cynghorydd Mackie a mynegodd bryderon dybryd ynghylch tai a thlodi.  Yn yr hinsawdd oedd ohoni gyda biliau’n mynd yn uwch, byddai hyn yn gwaethygu problemau tlodi, er ei bod yn deall y wasgfa ar gyllidebau.  Gofynnodd a fedrai’r Arweinydd gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru am ragor o arian i gefnogi pobl mewn tlodi.

 

 Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y pwyllgor yn cynnwys Cynllun newydd y Cyngor, a bod holl bortffolios y Cyngor yn cyfrannu at Dlodi.  Soniodd am y cynllun Tlodi Plant, Well Fed a’r taliadau dewisol ychwanegol yr oedd y Cabinet wedi’u cymeradwyo yn ddiweddar.  Roedd yno gyfrifoldeb corfforaethol i fynd i’r afael â’r effeithiau ar blant a theuluoedd, ond roedd rhai o’r problemau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

 

Rhoes yr Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden sicrwydd i’r aelodau eto ei fod yn cyflwyno’r ddadl yngl?n â hyn i Lywodraeth Cymru’n gyson.  Cytunodd â sylwadau’r Prif Swyddog yngl?n â’r ymateb corfforaethol, a rhoes glod i’r ysgolion am y gwaith arwyddocaol yr oeddent yn ei wneud gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol..