Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Cyngor, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, wedi penderfynu y dylai'r Gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.  Fel Cynghorydd, roedd Teresa Carberry wedi’i phenodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau penodiad y Cynghorydd Teresa Carberry fel Cadeirydd y Pwyllgor. 

 

(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Carberry weddill y cyfarfod)

2.

Penodi is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Carolyn Preece fel Is-gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Ryan McKeown.   Eiliwyd hyn gan Mrs Lynn Bartlett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Carolyn Preece yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 118 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022, ac fe’u cynigiwyd a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie a Mrs Lynn Bartlett.                           

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

5.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 2.10pm)

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd