Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1 Chwefror 2024
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
Materion yn Codi
Tudalen 7
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar risgiau’r dyfodol o amgylch y ‘Gyllideb Ysgolion heb ei Dyrannu’. Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r Cynghorydd Parkhurst anfon e-bost ati gyda chwestiynau ar ôl y cyfarfod er mwyn iddi allu cysylltu â’r Rheolwr Cyllid a darparu ymateb i holl Aelodau’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Byddai’r Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru i gynnwys dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.
Wrth gyflwyno’r adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y camau ar recriwtio a chadw staff wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Hefyd, amlygwyd bod Adolygiad Ardal Saltney a Brychdyn a chamau Theatr Clwyd wedi eu cynnwys o dan eitemau i’w cynnwys. Roedd y llythyr gan y Cadeirydd yn diolch i Benaethiaid wedi cael ei ddosbarthu drwy e-bost a chadarnhawyd bod y camau oedd yn ymwneud â Chynllun y Cyngor wedi cael eu cwblhau gyda’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn dosbarthu e-bost i holl staff yn diolch iddynt am eu gwaith caled i gyflawni’r prif dargedau blaenoriaeth. Roedd yr holl gamau bellach wedi eu cwblhau.
Roedd y Cadeirydd wedi gofyn i adroddiad gan NEWydd mewn perthynas â Phrydau Ysgol gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Dave Mackie i adborth gan ysgolion/disgyblion gael ei gynnwys yn yr adroddiad, roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod Steve Jones a Claire Sinnott yn cydweithio ar adroddiad i nodi disgyblion yn ymgysylltu â NEWydd o amgylch Prydau Ysgol.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn gofyn i adroddiad ar Wella Ysgol mewn perthynas â GwE, yn benodol o amgylch cyllido’r sefydliad a chynigion wrth symud ymlaen gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith. Roedd y Prif Swyddog yn croesawu hyn ac yn awgrymu bod adroddiad yn manylu goblygiadau’r newidiadau, effeithiau ariannol a disgwyliadau ar yr Awdurdodau Lleol i wneud trefniadau gwahanol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Mai.
Roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod adroddiad ar Arolygiaeth y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith ar gyfer cyfarfod mis Medi.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a fyddai’r adroddiad i’r Cydbwyllgor Craffu ym mis Mehefin ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth ar ddarparu addysg i blant gydag Awtistiaeth. Dywedodd y Prif Swyddog o fewn yr adroddiad y byddai yna gyfeiriad penodol at addysg arbenigol a beth oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r galw cynyddol hwn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Parkhurst ar yr adroddiad Arian Wrth Gefn Ysgolion, dywedodd y Prif Swyddog bod yn rhaid i ysgolion gyflwyno eu cyllidebau i’r Cyngor erbyn 30 Mehefin a bod yna nifer o brosesau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd o amgylch ailstrwythuro’r gweithlu. Teimlwyd na fyddai hwn yn barod cyn gwyliau’r haf ac mai mis Medi oedd yr amser gorau i gyflwyno hwn i’r Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng ... view the full Cofnodion text for item 50. |
|
Trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng PDF 95 KB Rhoi gwybodaeth am gynllunio ac ymateb rhag argyfwng, trefniadau EMRT lleol, ac ymateb i ddileu gwasanaeth bws posib. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys gwybodaeth ar y digwyddiad yn ymwneud â phibell dd?r wedi byrstio a’r Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng ehangach yn ôl y gofyn gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol.
Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng wybodaeth gefndir ar ffurf a swyddogaeth Cynllunio Rhag Argyfwng yn Sir y Fflint. Roedd hyn yn cynnwys y cyfrifoldebau statudol o dan ddeddfwriaeth a rôl Prif Weithredwr Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS).
Cafwyd cyflwyniad yn cynnwys manylion ar y sleidiau canlynol:-
· Pam ein bod yn cynllunio rhag argyfwng · Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 · Deddfwriaethau eraill · Diffiniad o Argyfwng a Digwyddiadau Mawr · Beth sy’n gallu achosi argyfyngau? · Beth yw Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru · Strwythur Cynllunio Rhag Argyfwng Cyngor Sir y Fflint · Argyfyngau Diweddar yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru · Strwythur y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth · Ymateb i Covid · Ôl-drafodaeth · Prif risgiau yng Ngogledd Cymru · E-ddysgu Aelodau Etholedig
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y mater llifogydd y bu’n ymwneud ag ef a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu rhif cyswllt i’r Aelodau ar gyfer unigolyn a fyddai’n gallu arwain yr ysgol ar pa un ai i gau ai peidio.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at bwynt 1.03 yn yr adroddiad a’r ôl-drafodaeth yn dweud y dylai D?r Cymru gael cynllun uwchgyfeirio ar waith a fyddai wedi rhybuddio’r Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng a fyddai wedi cydlynu’r pwyntiau cyswllt. Ni wnaeth hyn ddigwydd. Yn dilyn y dysgu ar hyn a sefydlu’r cynllun prawf, dylai hyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol ei bod wedi gweithio gyda chyfoedion cynllunio rhag argyfwng o fewn D?r Cymru i sicrhau bod y cynllun ar waith er mwyn hysbysu’r tîm yn y dyfodol. Sicrhaodd yr Aelodau os byddent yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiad ac nad oeddent yn sicr pwy i gysylltu â nhw y gallent gysylltu â’i thîm am gyngor.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â chyllid, dywedodd y Prif Weithredwr fod gan bob Awdurdod Lleol ei dîm ei hun o’r blaen ac fel rhan o’r dull rhanbarthol i gwtogi a chreu cysondeb cafodd ei dynnu at ei gilydd gyda’r tîm yn delio gyda materion yn fwy effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail canran poblogaeth. Roedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer costau staffio, hyfforddi ar gyfer staff awdurdod lleol a chynhyrchu adroddiadau rheoli perfformiad ac e-Ddysgu. Roedd y tîm hefyd wedi mynychu chwe chyfarfod pwyllgor craffu ar gyfer pob awdurdod lleol gyda’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Roedd y tîm wedi gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gwybodaeth i drafod testunau ar gyfer dysgu ac edrych ar yr ôl-drafodaeth o ymosodiad Arena Manceinion yn benodol o amgylch rôl yr Aelodau. Roedd llawlyfr yn cael ei gynhyrchu i Aelodau a fyddai’n amlinellu’r cyfrifoldebau i Aelodau, Arweinwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod ... view the full Cofnodion text for item 51. |
|
Mynd i’r afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ddeilliannau Addysg PDF 135 KB Rhoi diweddariad ar sut mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cefnogi ysgolion i fynd i’r afael ag effaith anghydraddoldeb. Rhoi diweddariad hefyd ar yr adnodd ‘Cofia Ceri’ a’i effaith ar ôl ei ailgyflwyno. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan y Pwyllgor. Roedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith oedd yn cael ei wneud i gefnogi ysgolion i leihau effaith tlodi ar ddysgwyr oedd mewn amgylchiadau mwy dan anfantais
Roedd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion yn cyfeirio at yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mai 2023 oedd yn amlinellu’r heriau cenedlaethol ac ymchwil o amgylch mynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais. Roedd yr Aelodau wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y camau a’r cynnydd ac roedd yr adroddiad hwn yn amlygu’r prif agweddau. Roedd Adran 1.01 yn cyfeirio at y ffocws ar dlodi, edefyn oedd yn rhedeg drwy’r blaenoriaethau gwella strategol o fewn Cynllun y Cyngor. Roedd Adran 1.02 yn amlinellu’r data perfformiad blaenorol ar y deilliannau lleol a chenedlaethol gydag Adrannau 1.03 i 1.06 yn cyfeirio at y ffocws ar dri blaenoriaeth o fewn y Cynllun Corfforaethol. Roedd yr Awdurdod wedi llwyddo i gynnwys pob ysgol uwchradd yn y peilot ar gyfer prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, y peilot a ariannwyd yn genedlaethol a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2023. Roedd yna ganmoliaeth i’r rhwydwaith cyfnewid gwisg ysgol oedd yn bodoli ar draws y Sir a’r ymarfer mapio oedd wedi cael ei arwain gan gydweithwyr yn y tîm Refeniw a Budd-daliadau. Roedd adran 1.06 yn cyfeirio at y rhaglen bwyd a hwyl a ddarparwyd dros y 5 mlynedd ddiwethaf a chynhaliwyd yn ystod gwyliau’r haf gyda 300 o blant yn cymryd rhan y llynedd. Roedd Adran 1.07 yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar sut roedd ysgolion yn defnyddio’r adnoddau gan y Comisiynydd Plant a’r adnodd “Gwirio gyda Ceri’ a hefyd yn cynnwys adborth gan ysgolion. Roedd Adran 1.08 yn amlygu sut yr oedd ysgolion yn gwneud defnydd o’r arian Grant Datblygu Disgyblion (GDD) gydag enghreifftiau wedi eu cynnwys o adroddiadau Arolwg Estyn yn ddiweddar. Roedd Adran 1.09 o’r adroddiad yn cyfeirio at y prosiectau ysgolion bro gydag arian grant Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i dargedu meysydd ble roedd ei angen fwyaf. Roedd Adran 1.10 yn amlinellu’r gwaith gyda gwasanaethau canolog o fewn y portffolio yn darparu cyngor parhaus i deuluoedd i’w galluogi nhw i gael mynediad i fudd-daliadau a gwasanaethau priodol yr oedd ganddynt hawl iddynt.
Roedd y Cadeirydd yn falch o weld faint o fentrau yr oedd ysgolion wedi eu gweithredu er budd y myfyrwyr. Roedd y Cadeirydd hefyd yn atgoffa’r Pwyllgor bod llythyr wedi cael ei anfon i bob ysgol ar ran y Pwyllgor, yn annog y defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion.
Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cyfeirio at ei ymweliad diweddar i Ganolfan Westwood i dderbyn cyflwyniad gan Gail Bennett o fewn Gwasanaethau Plant ar y ffordd mae ymennydd plentyn yn datblygu. Gwnaed y pwynt os byddai plentyn yn derbyn y cymhelliant cywir yn yr oed cywir, roedd eu hymennydd yn datblygu mewn ffordd gadarnhaol, os nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 52. |
|
Aelodau o'r wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.
|