Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton / 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

15.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 98 KB

Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 12 Gorffennaf 2022 yn ymwneud â Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Cau Ariannol ar gyfer Prosiect Campws 3-16, Mynydd Isa wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod bod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Terfyn Ariannol ar gyfer y prosiect Campws 3-16 ym Mynydd Isa a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022. Galwyd y penderfyniad i mewn (Cofnod Penderfyniad 4001) gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, Richard Jones, Dave Mackie a Mike Peers.   Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi dau reswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen.

 

Eglurodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant y weithdrefn ar gyfer galw penderfyniad y Cabinet i mewn fel y manylir yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor.

16.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Cau Ariannol ar gyfer Prosiect Campws 3-16, Mynydd Isa pdf icon PDF 129 KB

AdroddiadPrifSwyddog (Addysg ac Ieuenctid) - Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden.

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad - Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Cau Ariannol ar gyfer Prosiect Campws 3-16, Mynydd Isa

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Y Cynghorydd David Mackie

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a oedd y Cabinet blaenorol wedi cymeradwyo prosiect Mynydd Isa.   Eglurodd na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o adroddiad yn ystyried hyfywedd prosiect Mynydd Isa nac unrhyw opsiynau neu werthusiad o’r effaith ar ysgolion eraill.   Yn ogystal â hynny, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o benderfyniad gan Aelodau i ddymchwel Ysgol Argoed.    Roedd y weinyddiaeth flaenorol wedi nodi y dylai Pwyllgorau Craffu ystyried yr eitem hon er mwyn bwydo barn Aelodau’n ôl i’r Cabinet.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 lle ystyriwyd adroddiad ar brosiect Mynydd Isa.   Darparodd wybodaeth am gyfarfodydd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid lle darparwyd adroddiadau ar y prosiect MIM ers 2019. Nododd y Cynghorydd Mackie, pan holodd Aelodau gwestiynau am y MIM, mai’r ymateb a gafwyd oedd nad oedd MIM yr un fath â PFI. Ni rannwyd unrhyw wybodaeth â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ynghylch dymchwel Ysgol Argoed.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at eitemau 1.16 ac 1.17 yn yr adroddiad i gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 lle ystyriwyd adroddiad ar y prosiect Mynydd Isa.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie hefyd at adroddiadau yn ymwneud â phrosiect Mynydd Isa a’r MIM a oedd wedi cael eu cyflwyno i gyfarfodydd o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2020, 14 Gorffennaf 2020 ac 16 Mawrth 2021.   Dywedodd y Cynghorydd Mackie nad oedd unrhyw wybodaeth yn yr adroddiadau i’r Cabinet ynghylch cynlluniau i ddymchwel Ysgol Uwchradd Argoed.  

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Mackie bod y llofnodwyr yn teimlo y dylid llunio adroddiad yn amlinellu’r opsiynau, rhesymau a’r goblygiadau ehangach cyn dymchwel Ysgol Argoed.   Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried opsiwn 4 er mwyn rhoi ystyriaeth bellach i’r eitem yn y Cyngor.   Eglurodd y Cynghorydd Mackie ei bryderon mewn perthynas â defnydd y Cyngor o gynllun y MIM.  

 

Anerchodd y Cynghorydd Richard Jones y Pwyllgor.   Dywedodd ei fod yn bryderus nad oedd y prosiect yn cynrychioli gwerth am arian da i Sir y Fflint na Chymru.   Cyfeiriodd at yr adroddiad diweddaru ar Ysgolion yr 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020, dywedodd fod cost arfaethedig y tâl gwasanaeth blynyddol wedi cynyddu’n sylweddol i £1.187 miliwn fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Gwnaeth y Cynghorydd Jones sylw ar gyfanswm cost y prosiect dros 25 mlynedd.   Dywedodd nad oedd y Pwyllgorau Craffu wedi cyfrannu llawer, os o gwbl, at y penderfyniad mewn perthynas â dull ariannu.   Gofynnodd am gyfraddau ymyrraeth, costau cyfalaf ar gyfer dodrefn, gosodiadau, offer a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), cyfnod cyfalafu’r adeilad, costau ffioedd ofer, ystyriaeth o opsiynau eraill oni bai am y cynllun MIM o ran gwerth am arian ac ansawdd cynnyrch am y cyfnod o 25 mlynedd a thu hwnt.  

 

Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am oedran Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle, a oedd yn dipyn  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer ystyriaeth o’r eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan  Baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Oedwyd y recordio a’r ffrydio byw ar y pwynt hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

ATODIADAU CYFRINACHOL I EITEM 4 AR Y RHAGLEN: CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU - MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANNOL (MIM) - TERFYN ARIANNOL AR GYFER Y PROSIECT CAMPWS 3-16 YM MYNYDD ISA

Cododd y Cynghorydd Richard Jones nifer o gwestiynau mewn perthynas â’r manteision ychwanegol sydd ynghlwm â’r Contract i’r Cyngor, a chyfeiriodd at y manteision cymunedol, diddordeb lleol, a threfniadau contract lleol.    Ceisiodd eglurhad ynghylch paragraff 12.13.1 (tudalen 57 yn yr adroddiad), a’r cyfeiriad at fasnach gwerth isel yn ogystal â pharagraff 2.05 yn adroddiad y Cabinet a’r cyfeiriad at draul.  

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Jones ar y goblygiadau gwerth cymdeithasol a nododd mai un o ragofynion y contract oedd y dylai’r gadwyn gyflenwi geisio defnyddio gymaint o adnoddau a llafur â phosibl o Gymru.

 

Gan gefnogi ymateb y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Jones, cynghorodd y Prif Swyddog (Addysg, Ieuenctid a Diwylliant) fod gan y Cyngor swyddog arbennig i fonitro gwerth cymdeithasol contractau. Darparodd y Rheolwr Corfforaethol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau ymateb pellach ac eglurodd y gwerth cymdeithasol, dirprwyaethau, trefniadau cynnal a chadw a rheolaeth y contract i’r Cynghorydd Jones.

 

Dogfennau ychwanegol:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - I AIL-DDECHRAU FFRYDIO BYW AR GYFER Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r eitem gyfrinachol, ail-ddechrau’r ffrydio byw er mwyn galluogi’r wasg a’r cyhoedd i wylio gweddill y cyfarfod. 

 

Parhawyd â’r recordio a’r ffrydio byw ar y pwynt hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU - MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANNOL - TERFYN ARIANNOL AR GYFER Y PROSIECT CAMPWS 3-16 YM MYNYDD ISA

Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn i grynhoi.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones ar ran y llofnodwyr a alwodd y penderfyniad i mewn a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.   Soniodd am gostau cynyddol y prosiect MIM, gan nodi’r cynnydd yn y tâl gwasanaeth blynyddol, ac eglurodd nad ystyriaethau ariannol yn unig oedd yn berthnasol i’r cysyniad o sicrhau ‘gwerth am arian’, roedd y buddion cymdeithasol ac addysgol cysylltiedig hefyd yn ystyriaethau pwysig.  Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y llofnodwyr a alwodd y penderfyniad i mewn yn parhau i bryderu pam fod prosiect cynharach ar gyfer adeilad ysgol newydd yn Saltney wedi cael ei ddisodli gan brosiect Mynydd Isa.   Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y llofnodwyr yn awyddus i’r Cabinet ailystyried y prosiect ym Mynydd Isa o ran y pryderon a godwyd a phennu p’un a yw’n parhau i gynnig ‘gwerth am arian’. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y gwneuthurwyr penderfyniad i grynhoi.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Ian Roberts yr Aelodau y bu cyfleoedd i godi pryderon ar y materion a godwyd ar gam cynharach. Cynghorodd nad oedd y cynnydd yn y tâl gwasanaeth blynyddol o £681,000 yn 2017 yn cymharu gyda’r costau cyfredol.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn ac mewn ymateb i’r ail reswm, anogodd aelodau’r Pwyllgor i godi unrhyw eitemau yr oeddent yn awyddus iddynt gael eu craffu wrth ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts bod y Cabinet wedi ystyried y prosiect ar sawl achlysur, fel y nodwyd eisoes.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg i atgoffa Aelodau o’r opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniadau a amlinellir yn eitem 3 yn y rhaglen.

 

Cynigodd y Cynghorydd David Mackie Opsiwn 4, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bill Crease.  

 

Cynigodd y Cynghorydd Ted Palmer Opsiwn 1, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins-Cogan.

 

Atgoffodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r aelodau am y broses bleidleisio a dywedodd y byddai angen pleidleisio ar y cynnig o sylwedd am ei fod wedi ei gynnig a'i eilio cyn y gellid ystyried opsiwn arall.   

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau bleidleisio ar Opsiwn 4.  Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau bleidleisio ar Opsiwn 1.  Roedd y cynnig yn llwyddiannus yn dilyn pleidlais.

 

Yn ei sylwadau i gloi, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniad, a nododd bod craffu agos yn cael ei groesawu a’i werthfawrogi.   Dywedodd y byddai’r prosiect yn lleihau effaith pontio ar ddisgyblion, yn cynyddu’r arbenigedd sydd ar gael i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, hwyluso perthnasoedd gwell gyda theuluoedd, bodloni anghenion unigol disgyblion, a darparu hygyrchedd corfforol i bawb. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Wedi ystyried y penderfyniad, bod y Pwyllgor yn fodlon â’r eglurhad a dderbyniwyd felly gellir yn awr gweithredu’r penderfyniad.

 

Dogfennau ychwanegol:

17.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.