Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Attendance Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 2 Rhagfyr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2021.
Cywirdeb:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at dudalen 7 yn y cofnodion ac awgrymodd y dylid newid y pedwerydd paragraff i ddarllen fel a ganlyn: -
Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y ffordd roedd cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ddyrannu a’i ddosbarthu i ysgolion unigol ac awgrymodd y bydd angen cyllid os bydd cynnydd yn nifer y disgyblion ADY neu os byddai gan unigolyn mewn un ysgol fwy o anghenion tra bod yr anghenion mewn ysgol arall yn lleihau. Cytunodd yr Uwch Reolwr i roi’r awgrym hwn i SSCE Cymru yn dilyn y cyfarfod.
Hefyd, awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones y newidiadau canlynol i baragraff 1 ar dudalen 9 o’r cofnodion: -
Yn amodol ar y newidiadau a restrir uchod, cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie fod y cofnodion yn cael eu derbyn fel cofnod cywir, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau a restrir uchod, bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddrafft a chadarnhaodd fod y cyfarfod nesaf ar 24 Mawrth wedi cael ei ganslo. Rhoddodd amlinelliad o’r adroddiadau i’w cyflwyno yn y cyfarfodydd a fyddai’n dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Gan symud ymlaen at yr adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd fod yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod diwethaf fel y’u dangosir yn Atodiad 2 o’r adroddiad, wedi cael eu cwblhau.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor ychwanegu dau adroddiad at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i ymdrin â’r meysydd canlynol: -
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Adferiad diweddar lle trafodwyd y broblem prinder sgiliau. Rhoddwyd esboniad o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn y sector addysg i hyrwyddo cyfleoedd addysgol/gwaith er mwyn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar draws Gogledd Cymru. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Adferiad, esboniodd yr Hwylusydd fod Mrs. Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cytuno i ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Adferiad i amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
a’r sector addysg. Awgrymodd y byddai’r cyflwyniad a roddwyd yn y Pwyllgor Adferiad yn darparu gwybodaeth a fyddai’n sail i’r adroddiadau sydd i’w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r Cadeirydd ac awgrymodd y dylid cyflwyno’r ddau adroddiad canlynol gerbron y Pwyllgor: -
1) Adroddiad yn rhoi trosolwg o effaith y pandemig ar sgiliau craidd disgyblion a sut roedd ymyriadau a chynlluniau yn cael eu defnyddio i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau. 2) Adroddiad i gysoni’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a’r Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion drwy Ddysgu Cymunedol i Oedolion, er mwyn cynorthwyo pobl yn y gymuned i wella eu sgiliau.
Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrymiadau a wnaed gan y Cadeirydd a’r Prif Swyddog.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie, a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y cynnydd a wnaed i gwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill yn cael ei nodi. |
|
Prosesau Asesiad Deilliannau Dysgwyr ar gyfer 2022 PDF 91 KB Darparu trosolwg i’r Aelodau o’r trefniadau arholiadau ac asesiadau ar gyfer Haf 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gwahanol ddulliau wedi cael eu defnyddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer dysgwyr cyfnod allweddol 4 a 5. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gyfer eleni yn dilyn trefniadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Rhoddodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion ddiweddariad ar y paratoadau ar gyfer arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd y pandemig, roedd yr arholiadau hyn wedi cael eu canslo ac yn eu lle cafwyd Graddau wedi’u hasesu gan ganolfannau yn 2020 a Graddau wedi’u pennu gan ganolfannau yn 2021. Cyflwynodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol, y cynlluniau wrth gefn a’r asesiadau a fyddai’n cael eu rhoi ar waith petai’r amgylchiadau yn newid. Roedd y rhain wedi cael eu rhannu gyda’r ysgolion, rhieni a dysgwyr a oedd yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn. Cadarnhaodd fod arholiadau’r gwanwyn wedi cael eu cynnal ym mis Ionawr a chanmolodd yr ysgolion am eu gwaith caled a’r cymorth roeddynt yn ei roi i ddysgwyr.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at yr holl darfu a’r newidiadau roedd myfyrwyr wedi’u dioddef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a’r ffaith bod myfyrwyr eleni yn wynebu llawer o heriau wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Cytunodd y Cadeirydd a dywedodd fod y pandemig wedi cael effaith ar addysg ein pobl ifanc ond canmolodd y ffordd roeddynt wedi ymdopi, a’r cymorth a ddarparwyd gan ysgolion a’r rhieni.
Cytunodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion a dywedodd fod pawb yn ymwybodol o’r heriau a oedd yn wynebu’r bobl ifanc hyn a thalodd deyrnged i’w hysbryd cydnerth. Er gwaethaf yr holl newidiadau, roedd rhai ffug arholiadau wedi cael eu cynnal. Rhoddodd wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gymwysterau Cymru a CBAC o ran y gwaith papur a’r cymorth a roddwyd er mwyn galluogi’r bobl ifanc hyn i lwyddo.
Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd y byddai’r papurau yn caniatáu elfen o hyblygrwydd gan fod rhai dysgwyr o bosibl wedi methu testunau gan eu bod yn hunan-ynysu neu oherwydd bod yr ysgol ar gau. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion fod Cymwysterau Cymru a CBAC wedi rhoi gwybodaeth i ysgolion ymlaen llaw o ran y gofynion ar gyfer yr arholiadau addasedig. Roedd yr heriau yn wahanol ar draws Cymru a byddai’r cwricwlwm newydd yn darparu cynnwys addysg a sgiliau i ddysgwyr ar lefel leol. Byddai’r wybodaeth hon yn rhan o drafodaethau am y math o gymwysterau ac asesiadau fyddai’n wynebu dysgwyr yn y dyfodol a sut byddai hyn yn rhan o’r cwricwlwm newydd o fis Medi nesaf ymlaen. Roedd llawer o ganlyniadau da yn dod o’r sefyllfa hon.
Cynigiwyd yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Janet Axworthy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ar gyfer asesiadau yn 2022 ac yn cydnabod gwaith caled yr ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint wrth gefnogi ... view the full Cofnodion text for item 40. |
|
Cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer Darpariaeth Ieuenctid Integredig 2021-2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn ystyried yr adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Mrs. Ann Roberts, Uwch Swyddog y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, yn ymddeol o’i swydd ar ddechrau mis Mawrth. Cyfeiriodd at gyfraniad aruthrol Ann Roberts i’r Pwyllgor a’i hangerdd ac ymroddiad dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl ifanc. Byddai cyfle i Aelodau gyflwyno eu sylwadau a fyddai’n cael eu casglu ynghyd a’u cyflwyno i Ann Roberts yn ystod ei chyflwyniad gadael. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr o werthfawrogiad at Ann Roberts yn diolch iddi am yr hyn roedd wedi’i gyflawni ar ran y gwasanaeth addysg dros y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol. Cefnogwyd yr awgrym hwn gan y Pwyllgor.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mick Holt (Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned) ac Ali Thomas (Gweithiwr Fforwm Ieuenctid), y ddau Uwch Weithiwr Ieuenctid, i’r Pwyllgor a diolchodd iddynt am eu cymorth. Amlinellodd y sefyllfa bresennol, ac esboniodd fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu ar ôl ymgynghori’n eang gyda phobl ifanc yn Sir y Fflint a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, y Tîm Ieuenctid ac amryw o bartneriaid a oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn i bobl ifanc yn y gr?p oedran 11-25. Esboniwyd dyheadau’r bobl ifanc ynghyd â’r cymorth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Roedd y ddarpariaeth ddigidol yn fuddiol ond wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio roedd modd darparu mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb. Roedd Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth Gwasanaethau Ieuenctid ac mae hyn bellach ar flaen trefn arolygu newydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Addysg. Roedd y Gwasanaeth Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid yn rhan medrus a gwerthfawr iawn o’r Gwasanaethau Addysg.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y dibenion allweddol yn adran 1.06 o’r adroddiad a oedd yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn darparu gwybodaeth am y prif enghreifftiau o waith partneriaeth. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau roeddynt yn eu derbyn drwy’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig a’r ffaith y byddai’r cynllun hwn yn cynnig llwybr ar gyfer y tair blynedd nesaf o ran y ffordd roedd gwasanaethau yn cael eu gwreiddio a’u hehangu i’w cefnogi. Cyfeiriodd at Strategaeth y Gymraeg mewn Addysg a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf a dywedodd fod y pwyslais ar ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwella cyfleoedd pobl ifanc yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y Pecyn Adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr Asesiad Effaith Integredig wedi’i gwblhau fel rhan o’r broses statudol ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor. Roedd hwn yn dempled safonol yr oedd yn rhaid ei ddefnyddio a chytunwyd bod rhai elfennau yn ailadroddus. Cadarnhaodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid fod y dull adrodd cynyddu effaith yn cael ei ddefnyddio gydag elfennau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a chadarnhaodd fod rhai o’r gwasanaethau hyn yn rhai wyneb yn wyneb, ac eraill yn cael eu darparu ar-lein. Er ei fod yn ymddangos bod hyn yn ailadroddus, roedd ystyriaeth yn cael ... view the full Cofnodion text for item 41. |
|
Diweddariad Moderneiddio Ysgolion PDF 131 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) at ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob yng Nghaerwys a oedd wedi’u ffederaleiddio’n ffurfiol ar 7Mehefin. Cyfeiriodd at y Rhaglen Gofal Plant, a dywedodd fod rheolaeth weithredol y rhaglen bellach wedi’i throsglwyddo o’r Gwasanaethau Cymdeithasol i’r portffolio Addysg. Rhoddodd amlinelliad o sut roedd y rhaglen yn cael ei hariannu a’i rhoi allan i dendr er mwyn cael y gwerth gorau am arian ac arian grant gan Lywodraeth Cymru.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fanylion am Gampws newydd Mynydd Isa a chadarnhaodd fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ym mis Ionawr. Roedd contract dylunio ac adeiladu wedi cael ei ddewis drwy Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCO) a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiectau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yng Nghymru. Byddai’r achos busnes yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth ac os byddai’n derbyn cymeradwyaeth y gweinidogion yna byddai papur yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Mehefin er mwyn cael cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam adeiladu. Y dyddiad cwblhau arfaethedig oedd mis Gorffennaf 2024 a’r disgwyl oedd y byddai’r ysgol yn agor ym mis Medi 2024.
Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad trylwyr. Gan gyfeirio at ffederasiwn Ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob roedd o’r farn bod y buddion i’r disgyblion a’r staff yn sylweddol. Roedd y ddwy ysgol yn rhannu staff a llwyth gwaith ac roeddynt yn credu fod hyn yn gwella ansawdd yr hyn roeddynt yn ei ddarparu, ynghyd â’r gwasanaeth gofal cofleidiol, a oedd yn wych ar gyfer yr ardal. Estynnodd ei longyfarchiadau i bawb a oedd wedi cynorthwyo hyn. Gan gyfeirio at y buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dywedodd y Cynghorydd Jones fod hyn yn profi bod y cyngor yn cymryd camau i ddarparu’r ddwy iaith ar draws y sir. Roedd yn cymeradwyo’r Uwch Reolwr, a phawb a oedd yn gysylltiedig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Smith at brosiectau gwych Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a oedd wedi dod â budd i Sir y Fflint i gyd. Gofynnodd a oedd hyn yn debyg i’r cynllun PFI ac a oedd y costau yn hysbys iddo ar gyfer MIM o’i gymharu â benthyca am dros 25 mlynedd yn ôl y drefn arferol. Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fod costau yn gysylltiedig pan gyflwynwyd yr achos busnes ac roedd hyn wedi cael ei gynnwys yng nghynlluniau ariannol a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (MTFS).
Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn croesawu’r buddsoddiad yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy a dywedodd fod 10 disgybl wedi gallu mynychu Ysgol Maes Garmon ym mis Medi. Talodd deyrnged i’r Pennaeth, Athrawon, Llywodraethwyr, a’r disgyblion am lwyddo i sicrhau ysgol cyfrwng Cymraeg yng nghanol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd a oedd unrhyw gynigion i gynnig darpariaeth o’r fath yn ardaloedd Bwcle a Mynydd Isa er mwyn efelychu llwyddiant Shotton yn y rhan honno o’r Sir hefyd. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y gellid sefydlu ... view the full Cofnodion text for item 42. |
|
Cynllun y Cyngor 2022-23 PDF 114 KB Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r fersiwn ddrafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod y Cynllun yn parhau i gynnwys y meysydd yn y themâu a nodwyd wrth i’r Cyngor adfer o’r pandemig. Tynnodd sylw at y newidiadau yn 1.02 a’r chwe thema a blaenoriaethau a oedd wedi aros yr un fath yn rhif 1.03 o’r adroddiad. Cadarnhaodd y byddai’n casglu’r sylwadau ynghyd ac yn eu rhannu gyda’r Aelodau cyn eu cyflwyno gerbron y Cabinet a’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at yr is-flaenoriaeth newydd ar Lesiant a oedd wedi’i chynnwys yng Nghynllun y Cyngor yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor Adferiad. Cyfeiriodd sylw’r Aelodau at dudalen 119 a oedd yn amlinellu sut roedd hyn yn cael ei hwyluso ynghyd â Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion i wreiddio dull ysgol gyfan at Iechyd Emosiynol a Llesiant a oedd yn cael ei arwain yn rhanbarthol gan Laura England, un o swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Byddai hyn yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn adnoddau digonol, hyfforddiant a chymorth i adolygu popeth roeddynt yn ei wneud drwy lens iechyd emosiynol a llesiant. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cydweithio gyda Gwasanaethau Ieuenctid yn Sir y Fflint a Wrecsam i gefnogi pobl ifanc a oedd yn ceisio lladd eu hunain ac a oedd yn mynd i’r ysbyty. Rhoddwyd amlinelliad hefyd o waith y Gwasanaethau Cynhwysiant a Chyfiawnder Ieuenctid i ddeall y trawma roedd pobl ifanc yn ei wynebu yn eu bywydau am amryw o resymau. Y nod oedd eu hannog i ddychwelyd at fyd addysg a chymryd rhan yn y byd o’u cwmpas.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 113, sef yr elfen newydd o’r addasiad Newid Hinsawdd ac roedd yn falch bod materion yn ymwneud â digwyddiadau tywydd gwael fel llifogydd, gwyntoedd cryfion a hafau hir poeth yn cael sylw. Dywedodd fod Sir y Fflint wedi cael ei enwi fel un o’r awdurdodau nad oedd ganddo Gynllun Newid Hinsawdd ond roedd hyn yn anghywir ac efallai y gellid cywiro hyn yng Nghynllun y Cyngor.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gan y Cyngor Strategaeth Newid Hinsawdd ac roedd Rheolwr Rhaglen yn arwain gr?p ar draws pob portffolio lle’r oedd gan bob portffolio gynrychiolaeth ac roeddynt wedi cyfrannu at Strategaeth Newid Hinsawdd fanwl iawn. Gan gyfeirio at Gynllun y Cyngor, cadarnhaodd fod y lliwiau gwahanol yn yr adrannau yn cyfeirio at bortffolios eraill a oedd yn gallu cyfrannu at y themâu hynny. Rhoddodd wybodaeth am y themâu ar gyfer y portffolio Addysg, yn enwedig drwy’r ysgolion iach, eco-ysgolion a COT26 a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith pobl ifanc Sir y Fflint. Yna rhoddodd wybodaeth am y camau a oedd yn cael eu cymryd o ran adeiladau ysgolion ac mai Ysgol Mynydd Isa fyddai’r prosiect carbon niwtral cyntaf.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Sean Bibby fod Strategaeth Newid Hinsawdd fanwl iawn yn cael ei chyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd a’r Economi, a’r Cabinet.
Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor fod ... view the full Cofnodion text for item 43. |
|
Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y fenter bwyd am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn anghysonder yn yr adroddiad a bod y ddwy eitem yn bethau ar wahân. Esboniodd fod brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn cael ei dargedu at ddisgyblion a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a’r gobaith oedd y byddai 100% o’r ysgolion yn darparu’r cynnig hwn. Oherwydd y pandemig a’r trefniadau ar gyfer darparu prydau yn ystod Covid, roedd wedi bod yn heriol iawn oherwydd y mesurau diogelwch a oedd yn eu lle a’r ffaith nad oedd ystafelloedd bwyta yn gweithredu yn ôl eu harfer. O ran y ffrwythau am ddim, roedd y cynllun hwn yn cael ei ddarparu gan NEWydd drwy’r Strategaeth Dlodi i ysgolion a chytunwyd i aralleirio’r testun yn ymwneud â’r amcan hwnnw.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham, a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd aelodau o’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 4.30 pm)
………………………… Cadeirydd
|