Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Mawrth a 14 Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Mawrth ac 14 Mehefin 2021.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad a chadarnhaodd fod dyddiadau'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai. Mae’r adroddiadau rheolaidd ac eitem ychwanegol ar gyfer mis Medi ar y Gwasanaeth Archif wedi’u hychwanegu a chadarnhaodd y bydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn cael ei llenwi cyn cyfarfod mis Medi.Bydd eitem ar Addysg Gartref, a awgrymwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey, hefyd yn cael ei chynnwys a dywedodd fod modd i aelodau ychwanegu eitemau eraill at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol drwy gysylltu â hi.Mae’r holl gamau gweithredu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau.
Cafodd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Bob Connah.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Adroddiad Blynyddol gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE PDF 97 KB Pwrpas: Derbyn diweddariad ar y gefnogaeth gan y gwasanaeth gwella effeithlonrwydd ysgolion rhanbarthol, GwE a'i effaith i’r ysgolion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion ac roedd yn cynnwys trosolwg o’r gefnogaeth a roddir gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a’u hadroddiad blynyddol yngl?n â’u gwaith ar draws y gogledd.Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y gwaith yn ystod y pandemig, a oedd yn cynnwys dysgu o bell a dysgu cyfunol, cymorth ac arweiniad i ysgolion a’r diwygio cenedlaethol a’r cwricwlwm newydd, a diolchodd iddynt am gefnogi ysgolion Sir y Fflint.
Darparwyd yr adroddiad a’r cyflwyniad gan MrMartyn Froggett, Arweinydd Craidd Uwchradd Sir y Fflint a MrDavid Edwards, Arweinydd Craidd Cynradd Sir y Fflint ac roeddynt yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a ddarparwyd a’i heffaith ar ysgolion.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar:
Diolchodd y Cynghorydd Mackie i’r swyddogion am yr adroddiad.Gwnaeth sylwadau ar gynnwys yr adroddiad a’r wybodaeth, megis nifer yr ymweliadau ysgol a gofynnodd beth oedd pwrpas yr ymweliadau hyn.Gofynnodd hefyd am adborth cyffredinol gan bobl sydd wedi bod ar gyrsiau, gwybodaeth am ddysgu proffesiynol a nifer y swyddogion o Sir y Fflint sy’n cymryd rhan a’u hadborth, a sut mae datblygiad rhaglen Sir y Fflint yn cymharu â rhaglenni awdurdodau eraill y gogledd.
Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-Reolwr mai hwn oedd Adroddiad Blynyddol Gogledd Cymru GwE a chytunodd fod rhai elfennau o’r adroddiad wedi'u cyflwyno i’r Pwyllgor yn barod ond bod y sleidiau yn darparu gwybodaeth gadarnhaol ar sefyllfa ddiweddar ysgolion.Fel gyda mesuryddion perfformiad eraill, mae adrodd cenedlaethol a chanlyniadau’r system arholi wedi’u hatal a’r ffocws wedi’i roi ar gefnogi i sicrhau bod darpariaeth yn ei lle.
Roedd yr Arweinydd Craidd Uwchradd yn deall sylwadau’r Cynghorydd Mackie ond dywedodd nad oedd y data arferol ar gael i’w gyflwyno a bod lles wedi bod wrth wraidd eu dull ar gyfer ysgolion.Cadarnhaodd fod data ar gael ar y cyrsiau a ddarparwyd a’r hyn sy’n digwydd yn Sir y Fflint.Cytunodd, i’r dyfodol, y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiadau o safbwynt Sir y Fflint ac er mwyn cymharu ac ychwanegodd y bydd gwybodaeth am gyfranogiad y gweithdai Cwricwlwm i Gymru ar gael yn fuan a bod modd cynnwys y wybodaeth honno hefyd.Cytunodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyda’r sylwadau a dywedodd nad oes data cadarn ar gael ar y funud oherwydd y pandemig, ond y byddai’n cael ei gynnwys pan fydd data cadarnach ar gael.Adroddodd ar y rôl weinyddol newydd ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a fydd yn gyfrifol am wahanu’r data ar gyfer bob awdurdod lleol er mwyn ei gyflwyno i bwyllgorau.Mae penaethiaid wedi derbyn cymorth gyda’r adroddiadau hunanwerthuso gan fod ysgolion wedi bod dan lawer o bwysau a phenaethiaid yn brin o amser i fyfyrio ar y pethau cadarnhaol a’r meysydd i’w gwella.
Canmolodd y Cadeirydd y ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Sleidiau Cyflwyno Gwe PDF 452 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd PDF 136 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad i Aelodau ar bolisi a darpariaeth y Portffolio ar y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion a’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am bolisi Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd y Portffolio, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles dysgwyr.Mae technoleg wedi caniatáu i addysg barhau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, er y manteision, mae ymddygiad a chynnwys niweidiol ar-lein yn gallu rhoi dysgwyr mewn perygl os nad oes strategaethau priodol ar waith.Cadarnhaodd fod yr Awdurdod a'r ysgolion yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a gyflwynwyd i sicrhau’r Pwyllgor bod plant a phobl ifanc yn derbyn cymorth priodol mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Mae’r adroddiad yn amlygu gwaith yr Awdurdod ynghyd â’r canllawiau cenedlaethol.Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi ysgolion a’r Awdurdod i gyfathrebu’n gyflym gyda phlant a rhieni ond mae yna fanteision ac anfanteision, gyda phobl ifanc yn wynebu’r un heriau ag oedolion sy’n defnyddio’r llwyfannau hyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys data a chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd bellach yn cael eu dilyn yn lleol.Darperir gwybodaeth am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a chadarnhawyd y bydd yr arolwg nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref.
Tynnodd yr Ymgynghorydd Dysgu sylw’r aelodau at y Mesur Diogelwch Ar-lein, y Cynllun Gweithredu, y Canllawiau a’r Cwricwlwm i Gymru.Amlinellwyd gwybodaeth am gylch gwaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ynghyd â’r rhaglen “Getting on Togerther” sy’n edrych ar herio eithafiaeth.I gloi, amlinellodd Fframwaith Arolygu newydd Estyn a dywedodd y bydd prosiect peilot yn dechrau yn ystod gwanwyn 2022.
Croesawodd y Cynghorydd Mackie yr adroddiad a’r dolenni at ddogfennau ar-lein cysylltiedig.Fel llywodraethwr ysgol, gofynnodd pa gwestiynau y dylai ef fod yn gofyn i’w ysgolion ac a yw ysgolion yn gwybod am yr adroddiad hwn.
Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i ddarparu hyfforddiant a chyngor priodol a bod hyn eisoes yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Portffolio.Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd hyfforddwr sydd wedi darparu hyfforddiant ar gyfer y rhaglen ysgolion yn gallu cynnal sesiwn i lywodraethwyr ysgol a fydd yn cynnwys cwestiynau iddynt ofyn i’w cyrff llywodraethu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at bwynt 1.08 lle nodir fod 68 allan o 78 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer 360 Degree Safe Cymru a gofynnodd sut y mae modd annog y 10 ysgol sy’n weddill i gofrestru.Mewn ymateb dywedodd yr Uwch-Reolwr fod hwn yn offeryn pwysig ond bod rhai ysgolion o bosibl yn defnyddio offerynnau eraill sydd ar gael. Fodd bynnag, cytunodd y byddai o fantais petai bob ysgol yn cofrestru. Bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei annog yn y flwyddyn academaidd newydd.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau bwlio seiber disgybl i ddisgybl, sydd i lawr i 20% o ddysgwyr yn rhoi gwybod am achosion o’r fath o gymharu â 23% yn 2017 (ond sy’n dal yn uwch na’r ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol PDF 119 KB Pwrpas: Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-Daliadau yr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.Mae rhoi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol.
Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:
· Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud? · Telerau allweddol · Anghydraddoldebau canlyniadau · Enghreifftiau o dlodi · Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio · Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud · Canlyniadau gwell · Astudiaeth achos
Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi sy’n cyd-fynd ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.Mae’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Portffolio Addysg a’r agwedd tlodi bwyd, a bod prydau ysgol am ddim yn gymorth i fynd i’r afael â hyn.Mae tlodi digidol wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol a dyfeisiau’n cael eu darparu i wneud yn si?r bod plant yn gallu parhau i ddysgu.Gofynnodd a oes ffordd arall y gall addysg ac ysgolion gynorthwyo gyda’r agwedd hwn ar dlodi.Mewn ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol y dylid ystyried tlodi a’r plant a’r teuluoedd a effeithir arnynt wrth godi ysgolion newydd neu gynllunio strategaethau newydd.Hefyd, dylid sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu i helpu teuluoedd dderbyn y cymorth a’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Ychwanegodd yr Uwch-Reolwr fod tlodi yn uchel ar raglen y Portffolio Addysg, gyda’r Prif Swyddog yn arwain y gwaith.Mae ysgolion eisoes yn edrych ar anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd ac yn darparu cymorth. Dywedodd fod cynhwysiant digidol yn rhan o’r Strategaeth Ddigidol, gyda thema newydd Dysgu a Diwylliant i ddatblygu hyn ymhellach. Mae’r Portffolio Addysg yn croesawu’r fframwaith i agor trafodaeth ehangach i gefnogi anghenion dysgwyr a theuluoedd.
Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r swyddogion am y cyflwyniad a dywedodd fod tlodi wedi gwaethygu oherwydd y pandemig.Dywedodd fod tlodi yn effeithio ar amrywiaeth o bobl ond ei fod yn braf clywed fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i leddfu problemau.
Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett a’r Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn barod i gyflawni’r ddyletswydd newydd.
|
|
Sleidiau cyflwyniad dyletswydd economaidd-gymdeithasol PDF 561 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn PDF 107 KB Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr (Newid Busnes a Chymorth) yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o gynnydd gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Oherwydd bod yr ysgolion wedi bod ar gau nid oedd modd casglu ffigyrau targedau perfformiad allweddol ar gyfer presenoldeb, gwaharddiadau neu ddim mewn addysg na chyflogaeth ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf.Roedd yr Uwch-Reolwr yn falch o amlygu tri tharged perfformiad sydd wedi symud i wyrdd a melyn, yn cynnwys y system cyfiawnder ieuenctid a oedd wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl ifanc newydd i’r system.
Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr (Newid Busnes a Chymorth) at sylwadau’r Cynghorydd Mackie yngl?n â chymorth i lywodraethwyr ysgol a dywedodd fod gwybodaeth am ddiogelu, mynediad at hyfforddiant 360 a chwestiynau y dylai llywodraethwyr ofyn ar gael yn Governors Cymru a bod modd i ysgolion ddefnyddio’r adnodd hwn.Awgrymodd fod hyn yn cael ei gynnwys fel cam gweithredu i atgoffa llywodraethwyr bod ganddynt fynediad at y wefan ddefnyddiol hon.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at fformat adroddiadau eithrio, sy'n glir ac yn hawdd eu darllen yn enwedig y nodiadau ar y gwaelod, a chroesawodd y ffaith bod aelodau yn gallu deall y data yn iawn.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey ac Ian Smith.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn.
|