Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd David Mackie wedi datgan cysylltiad personol yn Eitem 10 ar yr Agenda – Adroddiad Cynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd, fel aelod o fwrdd Theatr Clwyd a Bwrdd Llywodraethu Theatr Clwyd.

10.

Cofnodion pdf icon PDF 99 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 24 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2020.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. Eiliwyd y cynnig gan Mr. David Hytch. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

11.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad cryno am y sefyllfa argyfyngus. Esboniodd bod y Prif Weinidog wedi rhoi eglurhad o’r holl faterion a’r rheoliadau a oedd yn weddill mewn perthynas â dod allan o'r Cyfnod Atal Byr ddydd Llun 9 Tachwedd a bod y Cwestiynau Cyffredin a ddangosir ar wefan Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu hynny.   Roedd nodyn cyhoeddus am ailgychwyn gwasanaethau wedi cael ei gylchredeg ond os oedd gan Aelodau unrhyw ymholiadau, gofynnodd iddynt gysylltu ag ef yn uniongyrchol.

 

            Bydd Aelodau wedi gweld bod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi agor ddydd Llun 9 Tachwedd fel ysbyty gweithredol ar gyfer gofal lefel isel a chleifion camu i lawr a fyddai fel arfer yn cael eu cefnogi trwy'r gwasanaeth rhyddhau gofal arbennig.  Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn falch o weld yr adeilad hwn yn cael ei roi i ddefnydd.

 

            Byddai aelodau yn parhau i gael diweddariad wythnosol ynghylch lefelau digwyddiadau ac esboniwyd y byddai’n cymryd tua 5 i 7 diwrnod cyn y byddai tueddiadau cadarn yn cael eu gweld o’r ffigyrau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

12.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf.   Yn unol â'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, wrth ystyried y Strategaeth Adfer, roedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cael ei llenwi, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.  O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at drafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 wrth drafod Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Plant.  Soniodd am yr amcan canlynol a amlygwyd yn yr adroddiad:-

 

  • Dod â staff gofal iechyd a chymdeithasol ynghyd i ddarparu asesiad dwys a chymorth therapiwtig i bobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd trothwyon CAMHS, ond sy’n dangos bod ganddynt anghenion sylweddol a bod angen cymorth arnynt.

 

Dywedodd bod nifer o gwestiynau wedi codi yn y cyfarfod a oedd yn cysylltu’r amcan ag addysg ac awgrymwyd bod adroddiad pellach ar y maes hwn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei roi iddi hi er mwyn ei galluogi i godi hyn mewn cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Pe bai angen ymgysylltu ymhellach ag ysgolion, gellid gwneud hynny trwy ddarparu adroddiad yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac Addysg ac Ieuenctid sydd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mehefin 2021.

 

Cynigodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)        Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

            ions be noted.

13.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 pdf icon PDF 107 KB

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth  Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a strategaeth gyffredinol y gyllideb.  Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am gam cyntaf y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi diweddariad am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ar ôl hynny. Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi cael ei gynnal i ddatblygu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau costau y bydd angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi cymryd i ystyriaeth effeithiau parhaus y sefyllfa argyfyngus gan gynnwys cyflymder adferiad incwm yn erbyn targedau a osodwyd.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r datrysiadau cyfyngedig a oedd ar gael i ariannu’r pwysau costau tra bo’r strategaeth ariannu yn hynod ddibynnol ar gyllid cenedlaethol digonol i lywodraeth leol.  Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y Dyfodol – Beth a ddywedom yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risg;
  • Sefyllfa a Chyllid Cenedlaethol;
  • Senarios Ariannu Posibl;
  • Amserlen y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw

 

Cafodd manylion ychwanegol am bwysau costau penodol i Addysg ac Ieuenctid eu darparu gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyfrifeg a Chyllid Ysgolion) fel rhan o'r cyflwyniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn cefnogi’r pwysau costau a ddangosir ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim a chyflwyno Cynghorwr Cynradd. Soniodd am y pwysau costau a ddangosir ar gyfer Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen a gofynnodd a ddylai’r rhain fod yn gyllid cyfalaf yn hytrach na refeniw gan ei fod yn gysylltiedig ag adeilad newydd. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyfrifeg a Chyllid Ysgolion) bod y pwysau costau a ddangosir ar gyfer cynnydd mewn capasiti yn ymwneud a chostau staffio ychwanegol a'r costau refeniw sy'n gysylltiedig â thaliadau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a oedd yn llawer uwch ar gyfer adeilad newydd a hefyd costau cynnal a chadw tiroedd ychwanegol.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad ac a amlinellir yn y cyflwyniad, sydd i gyd yn cael eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r strategaeth gyllideb yn gyffredinol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ailddatgan sefyllfa’r Cyngor o ran polisi trethu lleol;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o Lywodraethau, fel yr amlinellir yn y cyflwyniad a ddarparwyd; a

 

(d)       Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbed costau pellach i’w harchwilio ymhellach.

14.

Balansau Wrth Gefn Ysgolion Blwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2020 a Phrotocol ar gyfer Ysgolion Mewn Anawsterau Ariannol pdf icon PDF 151 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) falansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 a’r protocol ar gyfer ysgolion ag anawsterau ariannol.  Roedd y pwysau ar gyllidebau ysgolion yn parhau ac roedd hynny'n cael ei ddangos yn y gostyngiad yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgolion. Dangosir y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer pob ysgol yn Sir y Fflint ar ddiwedd Mawrth 2020 yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

            Roedd cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau arwyddocaol gyda nifer o ffactorau yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol bresennol fel y manylir yn adran 1.02 yr adroddiad. Yn y gorffennol, roedd balansau ysgolion cynradd wedi cynnal eu hunain yn dda er gwaethaf y pwysau parhaus gan fesurau cyni ac roedd hyn wedi gwrthbwyso sefyllfa ysgolion uwchradd a oedd yn gwaethygu. Rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion cynradd yn gostwng a byddai hynny’n creu heriau i Benaethiaid Cynradd wrth reoli eu cyllidebau yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol sy’n gwaethygu i rai ysgolion uwchradd, datblygodd y Portffolio Addysg ac Ieuenctid Brotocol i Ysgolion ag Anawsterau Ariannol.  Cafodd hwn ei gadarnhau a'i ddosbarthu i ysgolion ym mis Hydref 2019 a darparodd fframwaith i ysgolion wneud cais i'r Awdurdod am ddiffygion trwyddedig. Roedd y Protocol hefyd yn darparu fframwaith i’r Cyngor roi lefel briodol o her a chefnogaeth i helpu ysgolion ag anawsterau ariannol osod cyllideb gytbwys. Cynhaliodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Sir y Fflint adolygiad cynghorol o’r Protocol ym mis Mawrth 2020 a byddai Archwiliad Mewnol llawn yn cael ei gynnal o’r broses diffygion trwyddedig yn 2020/21. Roedd manylion yr argymhellion i’r adolygiad cynghorol i’w gweld yn adran 1.06 yr adroddiad ac roedd gwaith yn parhau i fynd i’r afael â’r argymhellion, fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

            Soniodd y Cynghorydd Dave Mackie bod maint yr ysgolion yn ffactor fawr mewn perthynas â diffygion a dywedodd ei bod yn ymddangos mai ysgolion llai oedd yn wynebu'r problemau mwyaf gyda’u balansau. Dywedodd bod rhai ysgolion wedi rheoli eu cyllidebau yn llwyddiannus ac awgrymodd bod ysgolion a oedd yn wynebu heriau yn cadw mewn cysylltiad â’i gilydd er mwyn dod o hyd i atebion. Ei brif bryder oedd ysgolion bach a’r cyfle i’r Cyngor gymryd camau i gynorthwyo i leihau eu diffygion fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ac edrych ar atebion ehangach i’w cynorthwyo yn y dyfodol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, i’r Cynghorydd Mackie am ei sylwadau a soniodd am yr heriau i ysgolion llai a oedd yn gorfod parhau i ddarparu’r cwricwlwm a chefnogaeth fugeiliol. Sicrhaodd y Pwyllgor bod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried i gefnogi ysgolion â diffygion a byddai cynigion yn cael eu cyflwyno yn fuan i fynd i'r afael â rhai o'r problemau gan gynnwys materion strwythurol y dylid mynd i'r afael â nhw.  Sicrhaodd y Pwyllgor hefyd, ynghyd â’r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog, bod yr ysgolion hynny â diffygion wedi cael her  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 115 KB

Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg a chamau lliniaru risg, fel y dangosir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad.

 

            Darparodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf am yr amcanion adfer i’r portffolio gwasanaeth, fel y manylion yn yr adroddiad, a thynnodd sylw’r Pwyllgor at risg EY33 – Methiant ysgolion i weithredu'n ddiogel a darparu addysg statudol oherwydd gostyngiad mewn lefelau staffio, a oedd yn risg newydd a ychwanegwyd ers y cyfarfod diwethaf. Ers canol mis Medi roedd cynnydd sylweddol wedi bod mewn lefelau absenoldeb oherwydd Covid ymysg gweithluoedd ysgolion ac er bod hynny’n bryder, nid oedd unrhyw ysgol wedi gorfod cau yn gyfan gwbl oherwydd pwysau staffio.  Er mwyn cefnogi ysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel, roedd proses gefnogi gadarn mewn lle rhwng y Rhaglen Profi Olrhain a Diogelu ac Iechyd Yr Amgylchedd i gymryd camau cyflym pan fyddai achosion positif yn cael eu canfod mewn ysgolion.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg yn gynharach yn y dydd a’i bod wedi amlygu ei phryder yngl?n ag absenoldeb yn troi’n broblem genedlaethol.    

 

            Holodd y Cynghorydd Dave Mackie a ddylid cau risg EY23 – canlyniad gwael yn Archwiliaid Y Weinyddiaeth Gyfiawnder am beidio â chydymffurfio â Safonau Cyfiawnder Ieuenctid Cenedlaethol a llywodraethu aneffeithiol gan Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.  Esboniodd y Prif Swyddog ar Uwch-Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig yr angen i gadw’r risg ar agor ar hyn o bryd a bod disgwyl i archwiliad gael ei gynnal ar ddechrau 2021.

 

            Holodd y Cadeirydd a ddylid ychwanegu dau risg at y gofrestr risgiau yn ymwneud â dysgu cyfunol a bwlio ar-lein. Teimlai y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor ddeall yr effaith y mae dysgu cyfunol yn ei gael ar ddisgyblion a pha llwyddiannus y bu a’r risg bosibl i fyfyrwyr sy’n dewis peidio ag ymgysylltu â’r trefniadau newydd.  Soniodd hefyd am ymrwymiad y Pwyllgor a’r holl Aelodau i sefyll yn erbyn bwlio ar-lein a gofynnodd a oedd y trefniadau gweithio newydd yn darparu mwy o gyfleoedd i fwlio ar-lein.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog mai risgiau i ysgolion oedd y rhain ac nid risgiau i bortffolios craidd a dywedodd bod adroddiad am ddysgu cyfunol wedi'i gynnwys yn rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor  ac y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf a oedd wedi’i drefnu ym mis Rhagfyr. Sicrhaodd yr Uwch-Reolwr - Newid a Chymorth Busnes, er bod dysgu cyfunol wedi bod yn heriol, roedd athrawon a disgyblion wedi ymateb yn bositif i’r heriau hynny. Roedd dysgu cyfunol wedi darparu cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd a fyddai’n ychwanegu at brofiad y dysgwyr wrth symud ymlaen i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at yr adroddiad blynyddol ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r rhyngrwyd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor y flwyddyn nesaf. Roedd yn cydnabod y pryder a dywedodd y byddai rheoli bwlio ar-lein yn her fawr i ysgolion ac awgrymodd y dylid  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Gwasanaethau Ieuenctid pdf icon PDF 140 KB

Rhoi gwybod am y newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid o ganlyniad i’r argyfwng presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith gwasanaethau Darpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) Sir y Fflint ar gyfer pobl ifanc a’r gwasanaeth cyfunol arfaethedig mewn ymateb i’r sefyllfa argyfyngus. Roedd y cynigion yn creu arbedion blynyddol posibl o £98,600 sy’n cynrychioli arbediad o 49% ar safleoedd ac 20% ar staffio.

 

Roedd gwasanaethau’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) wedi addasu yn ystod y sefyllfa argyfyngus, gan sicrhau cymysgedd o fynediad agored rheolaidd i glybiau ieuenctid a darpariaeth wedi'i thargedu, fel y manylir yn yr adroddiad. Byddai datblygiad gwasanaeth y DII yn ymwreiddio gwersi a ddysgwyd o’r ymateb i’r pandemig i wireddu gweledigaeth Strategaeth Ieuenctid Cymru 2019.  Byddai'r DII yn cynnal a datblygu ymgysylltiad digidol ac o bell gyda phobl ifanc a staff, gan ailagor darpariaeth clybiau ieuenctid yn fwy cynaliadwy a gweithio mwy mewn partneriaeth â’r trydydd sector ac ysgolion i fod yn fwy pellgyrhaeddol a chael effaith ehangach.  Roedd elfennau allweddol yn cynnwys:-

 

  • Datblygu ymgysylltiad digidol ac o bell;
  • Y DII yn ailagor darpariaeth ieuenctid mwy cynaliadwy; a
  • Y DII yn gweithio mwy mewn partneriaeth â'r trydydd sector ac ysgolion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch-Reolwr am ei adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud i drawsnewid y gwasanaeth i ateb yr heriau sy’n dod yn sgil y sefyllfa argyfyngus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn cefnogi’r adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddefnyddio’r sefyllfa argyfyngus mewn ffordd sy’n fanteisiol i’r bobl ifanc.  Soniodd am weithwyr ieuenctid trochi cymunedol ac ysgolion a gofynnodd am wybodaeth bellach am y rôl hon. Holodd hefyd am yr arbedion posibl wrth reoli safleoedd, a ddangosir yn yr adran sy’n sôn am oblygiadau adnoddau yn yr adroddiad, a oedd wedi'i gyfrifo'n wahanol a hefyd gofynnodd a oedd adborth ar gael o'r broses ymgynghori a ddechreuwyd ym mis Hydref.

 

Esboniodd yr Uwch-Reolwr rôl y gweithwyr ieuenctid trochi cymunedol ac ysgolion a dywedodd eu bod yn weithwyr ieuenctid â chymwysterau lefel gradd a oedd yn eistedd gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid ond yn darparu cymorth mewn ysgolion yn ôl yr angen. Roedd yr arbedion posibl a nodwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â’r ffigyrau uchaf posibl gan eu bod yn cynnwys costau glanhau, iechyd a diogelwch, ailwampio, gofalwyr a fandaliaeth. Roedd yr ymgynghoriad a ddechreuwyd ym mis Hydref yn ymgynghoriad gyda phobl ifanc i gael eu barn am sut yr hoffent i ni ymgynghori â nhw am wasanaeth cyfunol arfaethedig y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn Sir y Fflint fel y cyflwynwyd gan y Pwyllgor. Roeddent wedi gofyn am ymgynghoriad llawn, ac un o fanteision y sefyllfa argyfyngus oedd y cyfle i gyfarfod ar-lein a oedd wedi arwain at fwy o ymgysylltiad gyda phobl ifanc.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad yn cael cefnogaeth ganddo ef a'i gyd-swyddogion a dywedodd bod y gwasanaeth yn weledigaethol, integreiddiol a gwerthfawr wrth ymateb i anghenion pobl ifanc.  Diolchodd i’r Aelodau am eu sylwadau cefnogol a dywedodd y gallai'r gwasanaeth hwn ddod yn fodel rôl i eraill wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

18.

Model Cyflenwi Amgen Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd hyd yma ar y rhaglen i drosglwyddo Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cerdd o reolaeth y cyngor i fodel ymddiriedolaeth elusennol a chynnig amserlen a thelerau trosglwyddo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y sefyllfa ddiweddaraf a thelerau ac amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo gweithrediadau'r theatr a gwasanaethau cerddoriaeth i ymddiriedolaeth elusennol annibynnol fel y manylir yn yr adroddiad.

 

            Amlinellodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd ei gefnogaeth i’r trosglwyddiad a rhoddodd fanylion y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i ateb yr heriau mewn ymateb i’r sefyllfa argyfyngus.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am gostau gwasanaeth cerdd i ysgolion, esboniodd y Cyfarwyddwr Gweithredol bod gwaith wedi cael ei wneud i sicrhau bod y model gwaith newydd yn gostwng costau'r gwasanaeth cerdd i ysgolion yn y tymor hir.  Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y cynigion newydd yn cael cefnogaeth lawn gan ysgolion.

 

            Mewn ymateb i awgrym gan Mr. David Hytch y dylai’r undebau llafur gael cynrychiolydd ar y Bwrdd, cytunodd y Cyfarwyddwr Gweithredol fynd â’r awgrym hwn yn ôl i’r Bwrdd Cysgodol i’w drafod.

 

            Cytunwyd hefyd bod copi o atodiadau adroddiad y Cabinet yn cael eu cylchredeg i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod gan nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr Agenda.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod cynnydd y gwaith o drosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerdd i gorff elusennol newydd ar 31 Mawrth yn galonogol i’r Pwyllgor;

 

(b)          Bod Bwrdd Cysgodol y corff newydd sy’n creu cytundeb ffurfiol ar gyfer trosglwyddo yn cael ei gefnogi;

 

(c)          Bod egwyddorion trosglwyddo, fel y nodir yn adroddiad y Cabinet a ddangosir yn Atodiad 1, yn cael ei gefnogi;

 

(d)          Bod y cynigion penodol i drosglwyddo fel fframwaith ar gyfer cytundeb contract gwasanaeth, fel y nodir yn adroddiad y Cabinet yn Atodiad 1, yn cael ei gefnogi; a

 

(e)          Bod yr adborth gan y Pwyllgor yn cael ei ddarparu i’r Cabinet fel rhan o’r adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy, penderfynu unrhyw fanylion sy'n weddill ar gyfer y cytundeb contract gwasanaeth a'r cynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol.  

 

 

19.

Aelodau o'r cyhoedd a'r wasg yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.