Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

48.

Penodi Cadeirydd

Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Grwp Llafur yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Teresa Carberry yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25.

 

49.

Cyflwyniad Gan Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Castekk Alun - Pecyn Cymorth Ar Newid Hinsawdd

Bydd disgyblion o Gastell Alun yn bresennol i gyflwyno eu gwaith gan ddefnyddio pecyn cymorth newid hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey Dr. Amanda Heath a disgyblion o Ysgol Uwchradd Castell Alun, ac fe’u gwahoddodd nhw i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor ar eu defnydd o Becyn Gwaith Newid Hinsawdd.

 

Yn dilyn sylwadau a wnaed gan Aelodau’r Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ysgrifennu at Bennaeth Castell Alun i ganmol y cyflwyniad a roddodd y disgyblion a diolch iddynt am y cyflwyniad a’u presenoldeb.

 

Fe awgrymodd y Pwyllgor bod y Cadeirydd yn ysgrifennu i bob ysgol er mwyn tynnu sylw at y cyflwyniad a roddwyd a’u hannog nhw i ddefnyddio’r pecyn gwaith Newid Hinsawdd.

50.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y Cynghorydd Carolyn Preece.  Eiliwyd yr enwebiad hwnnw gan y Cynghorydd Dave Mackie. 

 

Enwebodd y Cynghorydd Ryan McKeown y Cynghorydd Gina Maddison. Eiliwyd yr enwebiad hwnnw gan y Cynghorydd Fran Lister.

           

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Gina Maddison yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25.

51.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion (eitem rhif 6 ar y rhaglen) y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2024. 

 

Tynnwyd sylw at y camgymeriadau teipio yn y cofnodion Saesneg:-

 

  • Y gair ‘Theatr’ ar dudalen 5 y cofnodion; a
  • Y gair ‘Learner’ ar dudalen 6 y cofnodion; a

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau a restrwyd uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024, fel cofnod cywir.

53.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.

 

Yn dilyn yr awgrym gan y Pwyllgor o dan yr eitem flaenorol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai’n trafod gydag Ysgol Uwchradd Castell Alun i drefnu dyddiad addas i ddisgyblion fynychu cyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi diweddariad pellach ar Becyn Gwaith Newid Hinsawdd a diwygio’r Rhaglen Waith i adlewyrchu hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Preece at y weithred oedd yn ymwneud â chyflwyno’r Cynllun Busnes ar gyfer Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Sir y Fflint i’r Pwyllgor, a mynegodd bryderon am yr ymateb bod y cwmni angen amser i ystyried a llunio cynllun busnes tymor canolig i hir. Fe ofynnodd pam nad oedd cynllun busnes eisoes wedi cael ei lunio ac fe awgrymwyd fod yr Hwylusydd yn symud ymlaen â’r cwestiwn hwn ar ôl y cyfarfod. 

 

Wrth ymateb i bryderon a godwyd gan yr Aelod ar faint dognau prydau ysgol, fe awgrymodd yr Hwylusydd y dylid gofyn i Gyfarwyddwr NEWydd ddarparu nodyn briffio ar faint dognau a fydd yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor ac fe fydd y mater yn cael ei ailystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst nad oedd wedi cael gwybodaeth ychwanegol am gontractau uniongyrchol yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Cytunodd yr Hwylusydd i godi hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Parkhurst am adroddiadau’r gyllideb yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn cyfarfodydd y Cabinet a Chyngor Sir y Fflint ym mis Chwefror, dywedodd yr Hwylusydd y byddai cyfarfod y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Chwefror yn cael ei ddwyn ymlaen er mwyn i’r Pwyllgor gael amser i ystyried cynigion y gyllideb a rhoi adborth i’r Cabinet. Byddai gwybodaeth am ddyddiad y cyfarfod diwygiedig yn cael ei roi i Aelodau cyn gynted â phosibl.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.

54.

Diweddariad gan y Gwasanaethau Ieuenctid pdf icon PDF 134 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gwasanaethau Ieuenctid, gan gynnwys gwybodaeth am Glwb Pontio Coed-llai a’r Marc Ansawdd Efydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) i amlinellu sut roedd Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn symud ymlaen yn gadarnhaol tuag at fodel mwy cynaliadwy oedd yn diogelu amrywiaeth a maint y ddarpariaeth yn y tymor canol i hirdymor, er gwaethaf amgylchiadau economaidd heriol llywodraeth leol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod pobl ifanc sydd yn cymryd rhan yn rhaglenni Athena (ymyrraeth merched) a Goliath (ymyrraeth bechgyn) sydd yn targedu gwrywdod gwenwynig, ac a enillodd Wobr Cymunedau Mwy Diogel yn ddiweddar yn y categori Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod yn y dyfodol i roi cyflwyniad byr i’r Pwyllgor ar y rhaglen.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi creu strategaeth ddigidol ar gyfer darpariaeth Gwaith Ieuenctid yn Sir y Fflint, gan gynnwys darpariaeth ar-lein sy'n ategu mynediad agored corfforol a darpariaeth wedi'i thargedu;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi creu tîm cyflwyno mewnol ar gyfer cymwysterau gwaith ieuenctid sy'n cefnogi creu Partneriaeth Hyfforddiant Gogledd Cymru yn ddiweddar. Sicrhau bod cymwysterau'r dyfodol yn fforddiadwy, yn hygyrch ac yn adlewyrchu anghenion lleol a rhanbarthol;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r gwasanaeth am ennill Gwobr Efydd y Marc Ansawdd a'r Wobr Cymunedau Diogelach ar gyfer Rhaglenni Athena a Goliath;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cais am Wobr Arian y Marc Ansawdd yn 2025 fel rhan o'r gwaith parhaus o wella gwasanaethau; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhau i greu gwasanaeth ieuenctid cynaliadwy, fforddiadwy, teg ac o safon sy'n blaenoriaethu darpariaeth rheng flaen.

55.

Cofrestr Risgiau Gorfforaethol pdf icon PDF 112 KB

I adolygu Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol a Phrif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) oedd yn amlinellu’r broses o adnabod ac asesu risgiau, gwerthuso eu goblygiadau posib, a’u lliniaru nhw er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau’n cael eu cyflawni. Y nod oedd lleihau difrifoldeb eu canlyniad a pha mor debygol ydyn nhw o ddigwydd pan fo modd.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod adroddiad Cofrestr Risgiau Gorfforaethol y Cyngor, yn benodol REY01 - Hyfywedd Ariannol Ysgolion yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd am y trefniadau sydd ar waith i reoli risg REY01 - Hyfywedd Ariannol Ysgolion.

56.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25 pdf icon PDF 106 KB

Adolygu a monitro perfformiad canol blwyddyn y Cyngor, gan gynnwys camau gweithredu a mesurau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a oedd yn darparu crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2024/25 ar ganol y flwyddyn (Chwarter 2).  Roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n ag ydi’r weithred sy’n ymwneud â chefnogi ysgolion gyda’u strategaethau tlodi plant wedi cael ei chwblhau, cytunodd y Prif Swyddog i roi ymateb ar ôl y cyfarfod.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion / mesurau perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

 

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.