Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Andrew Parkhurst a Carolyn Preece gysylltiad personol fel aelodau o Theatr Clwyd.
Datganodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Rhagfyr 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 fela gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey a’r Cynghorydd Debbie Owen.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol gan dynnu sylw at y diweddariadau a wnaed ers y cyfarfod diwethaf. Dywedodd y byddai’r adroddiad parcio ysgol yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Mawrth ac y byddai Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Bu iddi hefyd gadarnhau y byddai adroddiad Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023/28 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mawrth.
Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau. Derbyniwyd dyddiad arfaethedig ar gyfer y gweithdy ar y Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig a bu iddi gadarnhau unwaith y bydd hwn yn cael ei gadarnhau bydd e-bost yn cael ei gylchredeg i Aelodau.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.
|
|
Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd PDF 151 KB Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y Gwasanaeth Cerdd, yn cynnwys nifer y dysgwyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Liam Evans Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Mr Aled Marshman, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd i’r cyfarfod, a fyddai’n amlinellu sut y gwnaethon nhw ac aelodau o Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio i wella’r cyfleoedd dysgu a phrofiadau myfyrwyr.
Ychwanegodd y Cadeirydd bod cael eu haddysgu am gerddoriaeth a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â dysgu sut i chwarae offeryn wedi helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu sgiliau rhesymu, eu sgiliau dysgu’n gritigol a sensitif ac fe all ddiffinio datblygiad sgiliau echddygol a gwella’r cof. Mae ochr greadigol a pherfformio’r pwnc ynghyd â gwell dealltwriaeth o’r rôl mewn cerddoriaeth a hanes a chymdeithas gyfoes i gyd yn ychwanegu at addysg lawnach i’r myfyriwr. Fel awdurdod, roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhagweithiol yn eu hymdrechion i sicrhau bod bob myfyriwr yn cael y cyfle i wella eu profiad dysgu a hyrwyddo eu doniau, waeth pwy oeddent. Roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n derbyn grant disgyblion a ddyfarnwyd i ysgolion i gefnogi myfyrwyr a oedd yn gymwys am un ai prydau ysgol am ddim neu a oedd yn derbyn gofal. Roedd hwn yn grant wedi’i dargedu a roddwyd i oresgyn y rhwystrau a allai atal myfyriwr rhag cyrraedd ei botensial llawn.
Cyflwynodd Mr. Liam Evans-Ford adroddiad i roi diweddariad a throsolwg o Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn dilyn ei 18 mis cyntaf o ddarpariaeth, fel y gosodwyd yn erbyn egwyddorion trosglwyddo cytunedig yn 2019 gan y Portffolio Addysg o fewn y Cyngor i Theatr Clwyd. Dyluniwyd y trosglwyddiad hwn i ddiogelu i ddechrau, ond hefyd i wella darpariaeth cerdd gwasanaethau addysg ymhellachi blant a phobl ifanc Sir y Fflint a oedd o danfygythiad oherwydd y pwysau ariannol cynyddol ar y Cyngor.
Wrth gyfeirio at yr adroddiad, amlinellodd Mr. Aled Marshman yr effaith negyddol yr oedd y pandemig Covid wedi’i gael ar gerddoriaeth a’r celfyddydau, gyda gostyngiad o 75% mewn dysgwyr rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2020. Dywedodd y myfyrwyr hynny a oedd wedi aros gyda’r gwasanaeth pa mor bwysig yr oedd wedi bod i’w hiechyd a’u lles. Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y trafodaethau a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 o ran y ffordd ymlaen gyda’r penderfyniad i barhau ar-lein am y flwyddyn ond roedd hyn yn heriol ac roedd y cynnydd mewn niferoedd yn araf. Ym mis Medi 2021, gwelwyd niferoedd y dysgwyr yn dyblu wrth ddychwelyd i’r ysgol ond y nod oedd tyfu ymhellach i alluogi pob myfyriwr i gael y cyfle i fwynhau buddion cerddoriaeth yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Rhoddodd Mr. Marshman wybodaeth fanwl am y ddogfen gwmpasu, y polisi codi tâl a’r pum ensemble, a oedd wedi cynyddu i wyth yn dilyn y niferoedd cynyddol ym mis Medi 2022. Rhoddwyd mwy o bwyslais ar y dechreuwyr newydd i greu taith bwysig iddynt a rhoddodd wybodaeth ar hyblygrwydd y system sydd ar waith i ysgolion. Darparwyd gwybodaeth hefyd ar y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru a fyddai’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig mewn ysgolion ... view the full Cofnodion text for item 44. |
|
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 PDF 111 KB Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd roedd un gweithgaredd yn dangos statws COG coch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor o ran uwchsgilio gweithwyr portffolio trwy gynnig dysgu proffesiynol GwE a chyfleoedd hyfforddiant priodol eraill. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth at ei gilydd gyda manylion cylchredeg holiadur i weithwyr portffolio i ddeall pa hyfforddiant yr oeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol iddyn nhw. Roedd yr holiaduron wedi’u dychwelyd ac roeddent yn cael eu coladu ar hyn o bryd er mwyn galluogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd o angen datblygiadol ar gyfer y portffolio a byddai hwn ar waith erbyn mis Ebrill 2023.
Croesawodd y Cadeirydd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 yn cael ei fonitro’n gyson a bod ei gynnydd yn cael ei adolygu a’i fesur yn erbyn y meini prawf ar gyfer llwyddiant y camau gweithredu oddi fewn iddo. Bu iddi ddiolch i staff y portffolio addysg am yr adroddiad addysg a sgiliau cadarnhaol gyda’r data yn tynnu sylw at y sgorau COG oedd yn disgyn rhwng oren, lle’r oedd y camau gweithredu yn cael eu datblygu neu wyrdd, lle’r oedd y camau gweithredu yn gyflawn neu ar y trywydd iawn.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dysgu digidol a Gwasanaethau Ieuenctid Integredig, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd wedi darparu cymorth ardderchog i ysgolion gydag adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar yr offer, meddalwedd a chaledwedd sydd ar gael i alluogi gwelliannau yn y strwythur digidol. Roedd gwaith hefyd yn parhau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cael mynediad at y cyllid helaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer hyn a gafodd ei adrodd i gyfarfodydd Bwrdd Digidol Hwb. Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion, y gwaith a wnaed ar draws Cymru o ran cyflwyno’r rhaglen Hwb gyda’r Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r 24,000 o ddysgwyr ar draws yr holl ysgolion yn Sir y Fflint. Cynhaliwyd trafodaethau gydag ysgolion hefyd, a oedd gyda’r cysylltiad o ddydd i ddydd hwnnw gyda rhieni, i ddeall unrhyw newid mewn amgylchiadau neu anawsterau a wynebwyd gan ddisgyblion wrth gael mynediad at yr isadeiledd digidol y tu allan i’r ysgol. Cynhaliwyd trafodaethau parhaus gyda LlC o ran symud hwn ymlaen a chynnal buddsoddiad cenedlaethol trwy’r Rhaglen Hwb i wella’r strwythur digidol a darparu’r cwricwlwm newydd.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynllun cyflawni ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Integredig ac eglurodd bod y targedau yng Nghynllun y Cyngor wedi’u gosod cyn y flwyddyn adrodd hon ac y ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Aelodau'r wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |