Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Bob Connah a Tudor Jones gysylltiad personol yn Eitem 5 ar y Rhaglen – Diweddariad ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Esboniodd yr Hwylusydd fod y Cynghorydd Jones wedi cael cadarnhad gan y Swyddog Monitro fod y cysylltiad yn un personol ac na ddylai gymryd rhan yn y bleidlais ar yr argymhelliad yn ymwneud â Chanolfan Hamdden Treffynnon yn yr adroddiad.
Datganodd y Cynghorwyr Paul Cunningham, Gladys Healey, Dave Mackie, Tudor Jones a Mr. David Hytch a Mrs. Rebecca Stark gysylltiad personol yn Eitem 6 ar y Rhaglen – Diweddariad ar Gyllid y Cyngor ar gyfer Ysgolion, fel Llywodraethwyr Ysgolion.
Datganodd y Cynghorydd Gladys Healey gysylltiad personol yn Eitem 7 ar y Rhaglen – Adroddiad Hunanwerthuso’r Gwasanaethau Addysg, fel Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun.
|
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 28 Ionawr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021.
Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, fel a gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorwyr Tudor Jones a Martin White.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau PDF 101 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) drosolwg o bresenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer blwyddyn 2019/20, a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth am y tueddiadau a welwyd ar gyfer presenoldeb, absenoldeb rheolaidd a pharhaol a gwaharddiadau cyfnod penodol a amlygwyd gan Estyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y tabl a ddangosai waharddiadau cyfnod penodol a gofynnodd pa brosesau sy’n bodoli er mwyn deall pam y gwelir cynnydd yn y ffigurau hyn a pha gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw. Wrth ymateb, rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaith mae’r tîm yn ei wneud, sy’n fwy rhagweithiol, gan weithio gyda phlant, teuluoedd, penaethiaid a chymunedau er mwyn deall materion yn well yn gynharach.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi’r data presenoldeb ar gyfer ysgolion Sir y Fflint a’r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion i gefnogi mesurau ymgysylltu a diogelu yn ystod y cyfnod clo; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod cyfnod clo COVID-19 a chau ysgolion wedi effeithio ar y data a ddarparwyd.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad yn cadarnhau mai cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd y cyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhelir ar 17 Mehefin. Cynhelir cyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor ar 1 Gorffennaf pan roddir cyflwyniad am Adroddiad Blynyddol GwE am y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y We. Roedd yr holl gamau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol wedi eu cwblhau.
Gwnaeth yr Hwylusydd hefyd atgoffa Aelodau am y sesiynau briffio y Tu Allan i’r Sir a drefnwyd ar gyfer yr holl Aelodau a’r Aelodau cyfetholedig ar 22 Mawrth. Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Mrs Lynne Bartlett.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Diweddariad ar drosglwyddiad Asedau Cymunedol PDF 98 KB Rhoi diweddariad ar effaith y sefyllfa argyfyngus ar Gynllun Busnes Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) a rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed gyda’r ddau Drosglwyddiad Asedau Cymunedol mwyaf a sut mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw. Cafodd Cambria Aquatics ei drosglwyddo yn 2016 a dechreuodd Canolfan Hamdden Treffynnon fasnachu yn 2017. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl ar fanteision hyn i’r Cyngor, yr effaith ariannol arwyddocaol oherwydd y pandemig, ynghyd â’r camau rhagofalus a gymerwyd er mwyn ailagor yn ddiogel. Rhoddodd wybodaeth hefyd am y cynlluniau cymorth grant a’r cyfleoedd ffyrlo. Talodd deyrnged i’r ffordd mae’r sefydliadau hyn wedi cael eu rheoli a bod ganddyn nhw gefnogaeth gref iawn gan gymunedau a theimlai’n hyderus y byddai hyn yn parhau ar ôl y pandemig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at yr anawsterau digynsail mae’r ddau sefydliad wedi eu hwynebu ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu atyn nhw i ganmol gwaith y rheolwyr a’r gwirfoddolwyr am y ffordd maen nhw wedi ymdrin â’r sefyllfa. Cytunodd yr Hwylusydd i anfon llythyr at y ddau sefydliad ar ran y Pwyllgor.
Ymdriniwyd â’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ar wahân. Cafodd yr argymhelliad cyntaf a’r ail un eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White a Mrs. Rebecca Stark. Cafodd y trydydd argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Gladys Healey. Ni wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones gymryd rhan yn y bleidlais ar y trydydd argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnydd y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol; (b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Cambrian Aquatics yn 2021/22; a (c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon yn 2021/22.
|
|
Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg PDF 89 KB Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar berfformiad hollgynhwysfawr gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad hunanwerthuso ac esboniodd, oherwydd y pandemig, nad yw’r wybodaeth wedi’i strwythuro yn y ffordd arferol yn erbyn Fframwaith Estyn ar gyfer archwilio Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, sydd wedi ei ohirio dros dro ynghyd â chasgliadau data allweddol gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at adroddiadau blaenorol i gyfarfodydd a fynychwyd gan gydweithwyr o GwE ac Estyn, gydag Adolygiad Thematig y Gwasanaethau Rhanbarthol a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf, ac ynghlwm â’r adroddiad roedd y llythyr a anfonwyd at Gyngor Sir y Fflint gan Estyn a oedd yn crynhoi asesiad cadarnhaol o’r gwaith a wnaed mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn. Darparwyd gwybodaeth hefyd am y camau nesaf a’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.
Dywedodd y Cadeirydd fod fformat yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn er mwyn darparu gwybodaeth am yr holl feysydd gwasanaeth. Gwahoddodd gwestiynau ar bob un o’r meysydd gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Gwasanaeth Cynhwysiant a Datblygu
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y paragraff olaf ar dudalen 54 a gofynnodd pam nad yw’r hyfforddiant ar gael i bawb, gan gofio ei fod nawr yn gynnig ar-lein heb gyfyngiadau ymarferol. Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfeirio hyn at yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygu) i roi ymateb.
Gofynnodd Mrs Stark a ystyriwyd darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cwnsela a seicoleg ar gyfer pobl ifanc wrth symud ymlaen ac a yw ysgolion yn gwybod am ddisgyblion sydd eisoes angen y gefnogaeth honno. Wrth ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Comisiynydd Plant wedi tynnu sylw at hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela i gefnogi gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y gorffennol ac y byddai hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Mae rhaglen adfer gyfannol gref ar waith gan gydweithwyr yn y byd Iechyd a CAMMS a Gwasanaethau Plant er mwyn sicrhau model gofal estynedig i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc hyn. Ychwanegodd fod cyllid ychwanegol ar gael y llynedd i gefnogi iechyd a lles emosiynol pobl ifanc.
Gwasanaeth Cyfle Cynnar
Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws. Wrth ymateb, esboniodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi atal y cynnig gofal plant dros dro a chreu Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws ac, yn debyg i ysgolion a fu’n cynnig gofal plant i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn er mwyn cynnig yr un gefnogaeth i weithwyr allweddol. Cafodd ei reoli gan y tîm Gofal Plant yn adran y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gofynnodd Mrs Stark a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld effaith y bwlch mewn addysg ar gyfer dysgwyr ifanc yn y blynyddoedd cynnar ac a fyddai hyn yn cael ei ystyried wrth fesur eu perfformiad. Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei drafod a chyfeiriodd at Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed sy’n edrych ar y plentyn a’u ... view the full Cofnodion text for item 44. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y Cyngor i ysgolion PDF 109 KB Amlinellu i'r Pwyllgor y cynnig ar gyfer dosbarthu'r £1m ychwanegol a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i amlinellu i’r Pwyllgor y cynnig i rannu’r £1m ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22. Oherwydd amseriad a diben y cyllid, bydd y Cyngor yn dyrannu’r cyllid yn 2021/22 fel dyraniad atodol.
Yn arolygiad Estyn o’r Awdurdod Lleol yn 2019, mynegwyd pryderon am natur hirdymor y diffygion yng nghyllideb rhai ysgolion uwchradd, ac fel rhan o’u hadroddiad arolygu, un o’r prif argymhellion oedd y dylai’r Awdurdod gymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion. Roedd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gael yn bennaf er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i’r ysgolion hynny sydd â phroblemau ariannol.
Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd datrysiad ariannol ar gael i ymdrin â’r diffygion, ond drwy weithio’n galed i osod cyllideb 2021/22, ynghyd ag edrych ar y cyfleoedd yn setliad Llywodraeth Cymru i ail alinio cyllid ychwanegol i Ysgolion, cafwyd datrysiad i ddarparu cyllid ychwanegol i ysgolion uwchradd. Wrth esbonio sut y dyrannwyd y cyllid, soniodd am y pryderon a glywodd rhai Penaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion. Dywedodd fod yr Awdurdod yn cydnabod bod cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly byddai cyfran o’r cyllid yn mynd i’r ysgolion hynny nad oedd wedi cwrdd â’r egwyddorion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei gefnogaeth i’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr a dywedodd fod y Cyngor Sir yn llwyr gefnogi’r cyllid ychwanegol arfaethedig. Soniodd am y sefyllfa heriol sy’n wynebu ysgolion o ganlyniad i gyni ariannol ond dywedodd fod gan bobl ifanc ar draws Sir y Fflint yr hawl i gael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na ddylai pobl ifanc mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint ddioddef oherwydd amrywiaeth o ffactorau cymhleth iawn sydd wedi arwain at y diffygion hyn. Rhoddodd esboniad manwl o’r egwyddorion dyrannu, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys ffactorau amddifadedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion a fydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Er bod hyn i’w groesawu, dywedodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y Cyngor yn manteisio i’r eithaf ar gyllideb y Cyngor er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffygion ysgolion.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Jim Connelly, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Fflint, a oedd hefyd yn bresennol, i wneud sylw ar y cynnig.
Diolchodd Mr Jim Connelly i’r Cadeirydd am y cyfle i fynychu’r cyfarfod a chyfarch y Pwyllgor. Croesawodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r Prif Swyddog, a dywedodd eu bod wedi esbonio rhywfaint o sail resymegol y cynnig a phe bai Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd wedi derbyn yr wybodaeth hon o flaen llaw, byddai wedi lleddfu rhywfaint ar y pryderon. Gofynnodd a ellid gwella’r broses ymgynghori yn y dyfodol a soniodd am y penderfyniadau anodd a wnaed gan bob ysgol yn Sir y Fflint, o ganlyniad i gyni ariannol a chwtogi ar gyllidebau ysgolion. Dywedodd ei fod ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Rhaglen Ddigidol Hwb PDF 118 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Ddigidol Hwb a chanlyniad yr asesiad i nodi lefelau mynediad i ddyfeisiau a band eang i ddysgwyr ar draws Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd adroddiad a oedd yn rhoi manylion am sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion.
Yn ystod y pandemig, cyfathrebwyd â’r ysgolion yn rheolaidd a chynhaliwyd dadansoddiad o'r bylchau o ran y dyfeisiau a oedd ar gael. Roedd hyn yn cynnig gwybodaeth am faint o ddyfeisiau a oedd gan yr ysgolion yn barod, a oedd yn galonogol iawn, ond roedd angen mwy er mwyn bodloni’r fformiwla y cytunwyd arni gyda’r ysgolion. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod angen 6,000 yn fwy o ddyfeisiau yn dilyn y cyflenwad diwethaf a roddwyd i ysgolion yn Ionawr a Chwefror a chadarnhaodd hefyd y disgwylir archeb Chrome Books gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai a fydd yn diwallu rhai o’r anghenion yn y dadansoddiad o'r bylchau.
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion am ddysgu cyfunol a dangoswyd dadansoddiad manwl yn adran 1.04 yr adroddiad. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod dyfeisiau MiFi wedi eu caffael fel rhan o HWB a bod y rhain wedi cael eu rhoi i deuluoedd nad oedd â digon o gysylltiad Wi-Fi. Cyfeiriodd at Sefydliad Neumark a gefnogodd bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru i gaffael 110 o ddyfeisiau eraill a chafodd tua 80 neu 90 o ddyfeisiau eu rhoi’n uniongyrchol i ysgolion lle roedd eu hangen. Bydd model cynaliadwy’n cael ei gyflwyno drwy’r fformiwla ariannu Ysgolion i sicrhau bod gan bob ysgol yr un offer gan y bydd angen i ysgolion nawr gynnal yr un lefel o ddyfeisiau, yn y gobaith y bydd gan yr holl ddysgwyr fwy o ddyfeisiau i wneud eu gwaith cartref.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr effaith ariannol ar ysgolion er mwyn diweddaru’r dyfeisiau’n barhaus a thalu am waith trwsio ayb a allai fod yn gostus yn y dyfodol. Deallai fod hyn yn cael ei ystyried fel dyraniad ar gyfer cyllid yn y fformiwla cyllideb ysgolion a gofynnodd a yw'r ysgolion yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran cost. Wrth ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Ysgolion gan y byddai dyfeisiau digidol nawr yn rhan allweddol o addysg disgyblion ac offer digidol yw’r adnodd newydd y mae angen i ysgolion gyllidebu ar ei gyfer. Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion.
Gofynnodd y Cynghorydd Smith am eglurder ar Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA). Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai hwn yw rhwydwaith y rhyngrwyd sy’n teithio drwy rwydwaith y cyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod y waliau tân yn cael eu cynnal, ynghyd â chyflymder y rhyngrwyd. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod hyn yn cael ei fonitro gan adran TG y Cyngor a bod gan fwyafrif yr ysgolion gapasiti digonol yn ystod y cyfnod clo. Os byddai unrhyw broblemau gyda’r lled band a ddefnyddiwyd gan ysgolion i gyflwyno gwersi, cadarnhaodd y Prif Swyddog y gallai ysgolion uwchgyfeirio hyn ... view the full Cofnodion text for item 46. |
|
Diweddariad Strategaeth Adferiad PDF 95 KB Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi cipolwg ar y gwaith cynllunio ar gyfer adfer ym mhortffolio’r Pwyllgor hwnnw. Cyfeiriodd at gofrestr risg y portffolio a’r camau lliniaru risg sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a soniodd am y risg fwyaf sylweddol; cyllid i ysgolion uwchradd, a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Roedd y Cadeirydd yn uchel ei glod am y gefnogaeth a gafodd ysgolion gan y tîm Adnoddau Dynol a gofynnodd a ellid estyn gair o ddiolch iddyn nhw gan y Pwyllgor.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan Mrs Rebecca Stark a’r Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad. . |
|
Aelodau o'r Wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |