Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

13.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigodd y Cynghorydd Geoff Collet fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

14.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol a’r adroddiad olrhain camau gweithredu a dywedodd fod y ddau gam gweithredu a oedd wedi codi o’r cyfarfod blaenorol wedi’u cwblhau. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd fod argymhelliad wedi’i wneud mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Adferiad, sef fod y risgiau portffolio a nodir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu priodol. Y risgiau a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor hwn oedd rhai yn ymwneud ag Ôl-Ddyledion Rhent, Digartrefedd a Deunyddiau Crai. Dywedodd y byddai’r Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru ar Rhent Tai a Diwygo Lles yng nghyfarfod mis Rhagfyr, gyda diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog ar ddeunyddiau crai yn cael ei ystyried yng nghyfarfod heddiw.  Byddai’n cysylltu â’r Swyddogion priodol i sicrhau bod adroddiad am Ddigartrefedd wedi’i ychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar ôl y cyfarfod. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

                                                                                                                                

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

15.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Cymuned, Tai ac Asedau a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr (Tai ac Asedau) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl. Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Roedd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

           

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau
  • Pwysau Costau’r Portffolio Tai ac Asedau 2022/23

ØPwysau Tai ac Asedau

  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau am Ostyngiadau Treth y Cyngor a dywedodd eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol o ran gwariant. Ychwanegodd fod llawer iawn o gefnogaeth sylweddol ar fin dod i ben (cynllun ffyrlo a chredydau treth) a fyddai’n cael effaith. Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau drosolwg i’r Pwyllgor am lefel y risg a amlygwyd a dywedodd y byddai effaith sylweddol o ran Credyd Cynhwysol a bod y gwasanaeth ar gyfer y cynllun wedi’i gynyddu i ddarparu mesurau cynhwysfawr i helpu gyda chyngor a chymorth i’r cyhoedd ac incwm aelwydydd.

 

Soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau hefyd am y cynllun ‘Help You’ ar gyfer tenantiaid y Cyngor a chymorth â thanwydd oherwydd y cynnydd o ran prisiau tanwydd a’r grant ar gyfer caledi tenantiaeth.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau costau’r Portffolio Tai ac Asedau; a

 

(b)       Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbed costau pellach i’w harchwilio ymhellach.

16.

Prosbectws Angen o Ran Tai Sir y Fflint pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Cefnogi cyflenwi tai fforddiadwy, siapio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol trwy osod beth yw blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol a darparu canllaw o ran yr angen am dai ym mha ardaloedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Gwasanaethau Rhaglen Tai y Prosbectws o Anghenion Tai ar y cyd, a fyddai’n llywio Rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol.

 

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol ddatblygu Prosbectws o Anghenion Tai. Nod y prosbectws oedd llywio cyflenwi tai fforddiadwy, llunio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol trwy nodi beth oedd blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol a darparu canllaw am pa fath o dai oedd eu hangen ym mha leoliadau.   

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod LlC wedi dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol ar sail swm pro-rata’r dyraniad Cymru gyfan. Dywedodd fod y dyraniad ar gyfer Cyngor Sir y Fflint wedi cynyddu’n sylweddol ar gyfer 2021/22.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnwys Prosbectws o Anghenion Tai Sir y Fflint yn cael ei nodi.

17.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i wella’r gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Budd-Daliadau y polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd. Fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ym mis Mehefin 2018, nodwyd bod angen cynnal adolygiad o’r polisi presennol er mwyn sicrhau bod y broses a’r manylion yn fwy clir a haws i’w deall.  

 

Amlinellodd y Rheolwr Budd-Daliadau newidiadau i’r polisi newydd ac eglurodd fod y broses wedi’i symleiddio’n fawr ar gyfer gwneud cais am grant £36,000 ar sail cyfnod 5 mlynedd o argymhellion gan arbenigwyr fel Iechyd Galwedigaethol. Ychwanegodd nad oedd prawf modd ar gyfer plant, ac nad oedd prawf modd ar gyfer unrhyw waith oedd i’w wneud dan £10,000.  Roeddent hefyd wedi dileu’r gofyniad ecwiti ar gyfer grant atodol, ac roedd grantiau adleoli o hyd at £20,000 ar gael o hyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau wrth y Pwyllgor fod amserlenni Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer addasu wedi’u mabwysiadu a lle’r oedd y gwaith a wnaed wedi’i gofnodi fesul nifer dyddiau o’r blaen, byddai’n cael ei drefnu yn unol â LlC bellach, a byddai’r geiriad yn newid i fisoedd/wythnosau.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y grant yn aros ar £36,000.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd.

18.

Cynnydd y Cynllun Cartrefi Gwag yn Sir y Fflint pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cartrefi Gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned adroddiad i ddarparu trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Cartrefi Gwag. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â’r Swyddog Datblygu a oedd yn cwmpasu’r canlynol:         

 

  • cyd-destun
  • cyflawniadau ers 2019
  • astudiaethau achos

 

Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y cartrefi gwag fel pe bai’n uchel, ond ychwanegodd fod safon y gwaith ailwampio’n ardderchog. Ychwanegodd yr Uwch Syrfëwr fod y ffigurau ar gyfer nifer yr eiddo gwag wedi dod o ffigurau Treth y Cyngor. Dywedodd hefyd eu bod wedi defnyddio ymchwilydd preifat ardderchog i nodi perchnogion cartrefi, a bod landlordiaid preifat yn aml yn rhan o’r datrysiad.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger am eiddo gwag yn ardal Glannau Dyfrdwy, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod gwaith yn mynd rhagddo ar nodi datrysiad i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio eto.  

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod pob eiddo’n cael ei werthu mewn arwerthiant i sicrhau’r pris gorau posibl ar unrhyw adeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies a oedd sylw’n cael ei roi i adeiladau gwag ynghyd â chartrefi gwag. Dywedodd yr Uwch Syrfëwr mai dim ond eiddo preswyl gwag oedd yn cael eu targedu oherwydd nad oedd digon o adnoddau yn y tîm i fynd i’r afael ag eiddo masnachol. 

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Veronica Gay a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

19.

Cyflenwadau Deunydd Crai

Pwrpas:        Cael adroddiad ar lafar a darparu sicrwydd i’r Pwyllgor ar y risg a nodwyd gan y Pwyllgor Adferiad ynghylch prinder deunydd crai a allai arwain at gostau cynyddol, oedi yn y rhaglen ac achosion cynyddol o anghydfod contract.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chief Officer (Housing & Assets), relayed the impact that Covid and Brexit has had on suppliers, and that it had created and continues to create a number of pressures for activities & works including the impact on the speed of a build and the costs of construction.  For example, the costs of timber and windows had increased 30-40% in the current market, and the waiting time for lift components had increased from 12 to up to 30 weeks wait.  Haulage had also been hugely impacted with the shortage of lorry drivers and how quickly goods could come into the Country.

 

He commented that the situation was likely to settle down within the next 12/18 months and added that Officers were currently reviewing all projects to identify which would continue and which would have to be put on hold.

 

Councillor Ron Davies moved that the Committee felt assured that the risk around raw material supplies was being managed.  This was seconded by Councillor Kevin Rush. 

 

            RESOLVED:

 

That the Committee feel assured that the risk around raw material supplies was being managed.Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am yr effaith roedd Covid a Brexit wedi’i chael ar gyflenwyr, a’i bod wedi creu, ac yn parhau i greu, llawer o bwysau ar gyfer gweithgareddau a gwaith gan gynnwys effaith ar gyflymder adeiladu a chost adeiladu.  Er enghraifft, roedd costau pren a ffenestri wedi cynyddu 30-40% yn y farchnad bresennol, ac roedd yr amseroedd aros ar gyfer cydrannau lifftiau wedi cynyddu o 12 wythnos i hyd at 30 wythnos.  Roedd effaith fawr wedi bod ar gludo nwyddau hefyd, gyda phrinder gyrwyr loriau a pha mor gyflym allai nwyddau gyrraedd y Wlad.

 

Dywedodd fod y sefyllfa’n debygol o dawelu o fewn y 12/18 mis nesaf a dywedodd fod Swyddogion yn adolygu pob prosiect ar hyn o bryd er mwyn nodi pa rai fyddai’n parhau a pha rai fyddai’n gorfod cael eu hoedi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ron Davies fod y Pwyllgor yn teimlo sicrwydd fod y risg o ran cyflenwadau deunydd crai yn cael ei rheoli. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn teimlo sicrwydd fod y risg o ran cyflenwadau deunydd crai yn cael ei rheoli.

20.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.