Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

52.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

53.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 23 Chwefror a 10 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021 fel cofnod cywir a chawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Kevin Rush.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 hefyd fel cofnod cywir a chawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Mared Eastwood.  Ar gofnod rhif 48, dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod rhai cymunedau hefyd yn cael eu heffeithio gan denantiaid llety rhent preifat sy’n methu â chynnal a chadw’r eiddo. Byddai’r Hwylusydd yn cymryd camau gweithredu ar ei gais am eitem ar hyn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

54.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried, yn cynnwys newidiadau ers y cyfarfod blaenorol.  Byddai dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22 yn cael eu llenwi pan fydd y Cyngor wedi cytuno ar y Rhestr Cyfarfodydd.  Roedd yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

55.

Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar baratoadau’r Cyngor at pan fydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn dechrau.  Roedd hwn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau yn deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-Daliadau gyflwyniad ar y cyd ar y canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Termau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus - trywydd archwilio

·         Bodloni’r ddyletswydd – yr hyn rydym yn ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth achos

 

Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn croesawu’r ddeddfwriaeth i helpu i gefnogi gwaith ar drechu tlodi, oedd yn un o’r meysydd blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor.  Tynnodd y cyflwyniad sylw at y rhwymedigaethau ychwanegol sydd eu hangen yn y sector cyhoeddus i gyflawni’r Ddyletswydd, nad oedd o anghenraid yn golygu costau ychwanegol.  Roedd ystyried ac ymgynghori’n gynnar yn allweddol i sicrhau bod lleisiau’n cael eu clywed a bod tystiolaeth yn cael ei chasglu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad ac mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd wybodaeth am y broses ymgynghori i gasglu a deall data i lywio darpariaeth y gwasanaeth.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei bryder nad oedd y Ddyletswydd wedi ei blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru i’w rhoi ar waith yn gynharach.  Roedd y Cynghorydd Ron Davies yn cytuno, ac felly eiliodd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)         Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

 (b)         Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau am barodrwydd y Cyngor i fodloni’r ddyletswydd newydd.

Item 5 - Socio-economic Duty presentation slides pdf icon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

56.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Patrick Heesom, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

57.

Glanhau ac Arlwyo NEWydd

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar effaith y sefyllfa argyfyngus ar Gynllun Busnes Gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo NEWydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Glanhau ac Arlwyo NEWydd Cyf y wybodaeth ddiweddaraf ar effaith y sefyllfa frys ar y Cynllun Busnes ar gyfer Gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo NEWydd.

 

Wrth roi trosolwg o berfformiad yn 2020/21, tynnwyd sylw at y pwysau sylweddol yn codi o’r sefyllfa frys genedlaethol, ynghyd â datblygu modelau darparu gwasanaeth newydd i fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaethau a sicrhau diogelwch gweithwyr.  Rhannwyd cynllun busnes diwygiedig i gefnogi adferiad busnes ac ailadeiladu ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Gyfarwyddwr am ei adroddiad manwl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod yr adroddiad yn atgyfnerthu’r heriau oedd yn codi o’r sefyllfa frys.  Wrth gyfeirio at bwysigrwydd cynnal y cyflenwad o brydau ysgol am ddim, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei gais am i Aelodau lleol gael gwybod am unrhyw newidiadau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a wnaed i’r Cynllun Busnes ac Amcanion Strategol y busnes a gafodd eu heffeithio’n ddifrifol gan y pandemig; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi cyflawniadau NEWydd yn ystod y flwyddyn anodd hon a chefnogi’r busnes drwy ei gam adferiad ac ymlaen tuag at y cynlluniau ar gyfer twf yn y dyfodol.

58.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.