Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

29.

Cynghorydd Kevin Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel teyrnged i’r Cynghorydd Kevin Hughes a fu farw, cafwyd ennyd o dawelwch o dan arweiniad y Cadeirydd.

30.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020 yn gywir. Cynigiodd y Cynghorydd Rush eu derbyn ac eiliodd y Cynghorydd Eastwood hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Penderfynwyd derbyn y cofnodion fel cofnod cywir.

32.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Cynllun Gwaith o Flaen Llaw diweddaraf.  Roedd yn cynnwys nifer o newidiadau ers y cyfarfod blaenorol. O ran tracio gweithrediadau, roedd yr holl gamau a oedd heb eu cyflawni bellach wedi'u cwblhau.

 

Cynigiwyd i gefnogi’r argymhellion gan y Cynghorydd Eastwood ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies-Cooke. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Nodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni’r camau oedd heb eu cwblhau.

33.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        I ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2020/21 a’r Achos Busnes CRT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a Chynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai. Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Rheolwr Cyllid Strategol yn ymwneud â:

 

• Polisi Rhent Llywodraeth Cymru

• Codiad Rhent Arfaethedig 2021/22

• Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhent Ehangach

• Taliadau am Wasanaeth

• Incwm Arall

• Cynnig Buddsoddi i Arbed

• Pwysau ac Effeithlonrwydd Arfaethedig

• Cronfeydd wrth gefn

• Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2021/22

• Buddsoddiad Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai

• Rhaglen Gyfalaf

• Datblygu Safon Ansawdd Tai Cymru diwygiedig

• Rhaglen Gyfalaf 2021/22

• Cyllid Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2021/22

 

Roedd y cynigion a nodwyd yn yr adroddiad yn cwrdd â gofynion y polisi rhent diwygiedig gan Lywodraeth Cymru. Bydd y codiad rhent arfaethedig ar gyfer 2021/22 yn sicrhau na fydd unrhyw denant yn talu mwy na'r uchafswm a ganiateir o dan y polisi. Bydd hyn hefyd yn arwain tuag at fynd i'r afael unwaith eto â'r gwahaniaeth rhwng rhenti sydd unai o dan neu yn cyrraedd y targed, tra’n ceisio gwneud newidiadau rhent tecach i bob tenant. Bydd y cynnig i rewi taliadau gwasanaeth ar gyfer 2021/22 ar y cyfraddau cyfredol yn helpu i amddiffyn tenantiaid. Mae llawer ohonynt yn profi anawsterau ariannol yn sgil y sefyllfa argyfyngus. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i waith pellach gael ei wneud er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gwerth am arian.

 

O ran buddsoddiad y Rhaglen Gyfalaf, byddai’r cynllun busnes yn adlewyrchu dyddiad cau estynedig Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS).  Pennwyd y dyddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r argyfwng cenedlaethol.  Un o’r meysydd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yw creu model ar gyfer datgarboneiddio.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, cafwyd ymateb gan y Prif Swyddog. Cyfeiriodd at y strategaeth fuddsoddi, sydd wedi cynorthwyo i leihau costau ynni yng nghartrefi’r tenantiaid. 

 

Diwygiwyd yr argymhellion er mwyn adlewyrchu’r drafodaeth. Cynigiwyd i’w cefnogi gan y Cynghorydd Lloyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies-Cooke.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn atodiadau’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 0.68% (ynghyd â hyd at £2);

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi codiad rhent garej o £0.20 yr wythnos a chynnydd o £0.03 yr wythnos ar gyfer plot garej;

 

(ch)     Bod y Pwyllgor yn gefnogol i rewi’r cynnydd mewn adferiad Tâl Gwasanaeth am flwyddyn;

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad C yn yr adroddiad.

Item 5 - Presentation Slides pdf icon PDF 545 KB

Dogfennau ychwanegol:

34.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y Llawlyfr Refeniw Tai arfaethedig pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Ceisio adborth y Pwyllgor Craffu ar y Llawlyfr Refeniw Tai er mwyn ein cynorthwyo i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad oedd yn gofyn am adborth ar y Llawlyfr Cyfrif Refeniw Tai drafft.  Datblygwyd y llawlyfr gan Lywodraeth Cymru  i roi arweiniad i gynghorau a sicrhau eglurder a chysondeb o ran yr opsiynau wrth weithredu’r Cyfrif Refeniw Tai.  Byddai adborth y Pwyllgor yn helpu i lywio ymateb ffurfiol y Cyngor i'r ymgynghoriad.

 

Cytunwyd fod Aelodau'n cyfeirio unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn uniongyrchol at y Prif Swyddog i fod yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Gay a’r Cynghorydd Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi'r adroddiad; a

 

(b)          Bod Aelodau'r Pwyllgor yn anfon sylwadau'n uniongyrchol at y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), er mwyn llywio ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

35.

Diweddariad Strategaeth Tai pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad ar y Strategaeth Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad cynnydd o ran cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.

 

Er gwaethaf y sefyllfa argyfyngus, gwnaethpwyd cynnydd da. Mae blaenoriaethau allweddol yn y cynllun gweithredu wedi eu cyflawni. Bydd diweddariadau pellach yn parhau i gael eu rhannu gyda'r Pwyllgor.

 

O dan arweiniad y Cadeirydd, bu cydnabyddiaeth i'r Rheolwr Rhaglenni Tai, Mel Evans, sydd ar fin gadael y Cyngor. Cafodd ei ganmol gan y Prif Swyddog am ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'w waith dros y blynyddoedd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gefnogi’r argymhelliad gan y Cynghorydd Davies a’r Cynghorydd Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnydd a wnaed fel rhan o Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

36.

Adroddiad Cynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu ar Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn ymwneud â chynnydd y Cyngor hyd yma o ran y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar gynlluniau tai eraill, sydd wedi gweithredu trwy weithdrefnau ar wahân i’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhaglenni Tai drosolwg o'r pwyntiau allweddol.  Roedd ffigyrau diweddaraf y Rhaglen yn dangos bod deg eiddo rhent fforddiadwy ychwanegol wedi cynyddu'r cyfanswm i 93. Roedd 149 o gynlluniau rhent cymdeithasol wedi eu gwireddu. Rhagwelwyd y byddai gwaith ar 71 o unedau rhent cymdeithasol ychwanegol yn cychwyn ym mis Ebrill/Mai 2021. Disgwylir cadarnhad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru am y cais grant llwyddiannus am nawdd o’r Gronfa Rhyddhau Tir.  Yna gellir bwrw ymlaen â chynllun tai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar dir sydd eisoes yn eiddo i'r Cyngor.

 

Amcangyfrifwyd bod y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, yn ogystal â chynlluniau eraill, wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod oddeutu 600 eiddo ar gael hyd yma.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, cafwyd gwybodaeth gan y Rheolwr Rhaglenni Tai am waith ymchwil o ran dichonoldeb ar safle cyn ddepo Canton. Nododd y bydd yn trosglwyddo’r pryderon i Edwards Homes ynghylch hysbysebu eiddo newydd a oedd wedi’u lleoli yng Nghei Connah.

 

Diolchodd y Cynghorydd Davies i staff yr Adran Dai am eu holl waith.

 

Cynigiwyd i dderbyn yr argymhellion gan y Cynghorydd Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dulliau effeithiol o ddarparu cartrefi rhent cymdeithasol a fforddiadwy newydd. Mae hyn yn cynnwys Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn gefnogol i ddyrannu cyllideb flynyddol o £121,000 am yr eildro, ar gyfer gwaith ymchwil a dichonoldeb sy’n rhan o’r Rhaglen ac er mwyn gwireddu dulliau cyflenwi newydd.

37.

Cynllun y Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) gynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22.  Roedd y cynllun yn edrych yn benodol ar bortffolios y Pwyllgor, sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau o dan y chwe thema. Bydd cynnwys Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn parhau i ystyried adferiad parhaus yn ogystal ag amcanion strategol yn y tymor hir.

 

Cytunodd y Cadeirydd bod mwyafrif y materion sy’n cael eu crybwyll yn y ddogfen yn briodol i'r Pwyllgor. Awgrymodd y dylai Aelodau'r Pwyllgor gyfeirio unrhyw sylwadau yn uniongyrchol at y swyddogion.

 

Soniodd y Cynghorydd Mullin am ffrydiau gwaith o dan y thema Tlodi. Un enghraifft oedd cynorthwyo i alluogi disgyblion i barhau i gael eu haddysgu gartref.

 

Esboniodd yr Hwylusydd y bydd pob Pwyllgor Trosolwg a Craffu yn ystyried perfformiad yn eu meysydd perthnasol. Bydd gan bob un hefyd drosolwg ar berfformiad o dan yr holl themâu er mwyn adnabod materion trawsbynciol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Davies a’r Cynghorydd Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r themâu sydd wedi eu datblygu yng Nghynllun y Cyngor 2021/22 cyn eu cymeradwyo gan y Cabinet.

38.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Hutchinson i gefnogi gwaharddiad y wasg a’r cyhoedd ar gyfer yr eitem sy’n dilyn.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Brown.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod.  Mae hyn oherwydd ystyrir bod yr eitem sy’n dilyn wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

39.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2020/2049

Pwrpas:        I ystyried y Cynllun Busnes NEW Homes.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Rhaglenni Tai ar Gynllun Busnes Drafft Cartrefi (Newydd) Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer 2020-2049.  Nododd elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy a ddarperir dros y tair blynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn targedau ac effaith y sefyllfa argyfyngus.

 

Cynigiwyd i dderbyn yr argymhelliad gan y Cynghorydd Davies ac eiliwyd gan y Cynghorodd Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Newydd 2020-2049.

40.

PRESENOLDEB AELODAU'R WASG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r wasg yn bresennol.