Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arTachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at dudalen rhif 10 o’r cofnodion a gofynnodd am gadarnhad yr ymgynghorir gyda’r Ffederasiwn Tenantiaid ar yr adolygiad o’r stoc o dai gwarchod. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’r Cyngor yn parhau i ymgysylltu gyda’r Ffederasiwn Tenantiaid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, dywedodd y Prif Swyddog y byddai swyddogion yn gweithio gyda gwarchod y cyhoedd i nodi Tai Amlfeddiannaeth y Cyngor.  

 

Yna, gofynnodd am eglurder ar sylwadau a wnaed mewn cyfarfod blaenorol gan y Cynghorydd Veronica Gay, pan awgrymodd fod rhai Tai Cyngor yn Saltney yn cael eu defnyddio fel Tai Amlfeddiannaeth, eglurodd y Cynghorydd Gay bod y sylw blaenorol yn cyfeirio at hen dai Cyngor.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ron Davies bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

20.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr argyfwng.  Esboniodd y byddai Ysbyty’r Enfys yng Nglannau Dyfrdwy nawr hefyd yn ganolfan brechu torfol erbyn 4 Ionawr 2021 ac ychwanegodd fod oddeutu 3000 o bobl eisoes wedi cael eu brechu yn Sir y Fflint, a oedd yn cynnwys gweithwyr gofal.  Dywedodd eu bod ar hyn o bryd yn edrych ar ddiweddaru’r drefn rheoli traffig o amgylch y safle i baratoi. Dywedodd hefyd bod gwaith yn cael ei wneud i ganfod safle brechu ychwanegol yn Yr Wyddgrug a soniodd am lwyddiant y ganolfan galw heibio ar gyfer profion Covid yn Neuadd Ddinesig, Cei Connah.

 

            Soniodd y Prif Weithredwr am Lefelau Rhybudd Coronafeirws y Prif Weinidog yng Nghymru a dywedodd fod disgwyl i hyn godi i lefel rhybudd 4 ar ôl y Nadolig. Eglurodd pa wasanaethau fyddai’n aros ar agor fel arfer ar lefel 4, a oedd yn cynnwys Canolfannau Ailgylchu / Gwastraff y Cartref a Pharciau.Byddai diweddariad yn cael ei roi ar ysgolion yn nes ymlaen.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Prif Weithredwr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

21.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.

 

Dywedodd yr Hwylusydd wrth y Pwyllgor na fyddai’r diweddariadau rheolaidd ar y Sefyllfa Argyfwng yn cael eu cynnwys ar Raglenni yn y dyfodol gan y byddai Aelodau yn parhau i gael diweddariadau wythnosol gan y Prif Weithredwr. Dywedodd hefyd bod y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer, a oedd wedi bod yn eitem sefydlog ar y Rhaglen, dan adolygiad ar hyn o bryd ac y byddai’r wybodaeth nawr yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor bob chwarter.

 

Roedd dau gyfarfod ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at yr amserlen o gyfarfodydd yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol a byddai’r Hwylusydd yn cysylltu gyda’r Cadeirydd a swyddogion yn dilyn y cyfarfod i nodi adroddiadau ar gyfer y cyfarfodydd ym mis Chwefror a Mai 2021.

 

Dywedodd yr Hwylusydd hefyd bod yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau fel oedd i’w weld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.     

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

 (c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

22.

Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol - buddion cymunedol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar Fudd Cymunedol yn cael ei ddarparu trwy’r Rhaglen SHARP.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Angie Eardley, Rheolwr Buddsoddiad Cymunedol, Wates Construction Limited i’r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad manwl ar y canlynol:-

 

  • Cyllid Cymunedol a Chyflogaeth a Sgiliau Lleol; Wythnosau hyfforddi ar y safle;
  • Creu swyddi;
  • Cefnogaeth i geiswyr gwaith lleol drwy dîm Cymunedau am Waith Sir y Fflint;
  • Rhoddion cymunedol drwy Wates Family Enterprise Trust a chodi arian yn lleol; a
  • Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr a Chwrdd â’r Fenter Gymdeithasol i dyfu cwmnïau lleol.

 

Cafodd Wates ganmoliaeth gan y Cadeirydd am eu cymorth a’u cefnogaeth o ran hyfforddiant ar y safle a chefnogaeth gymunedol leol.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi cynnwys Crynodeb Perfformiad Buddion Cymunedol a gynhyrchwyd gan Wates ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020.

Item 6 - Community Benefits Presentation Slides pdf icon PDF 434 KB

Dogfennau ychwanegol:

23.

Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 179 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru hyn a chefnogi aelwydydd.

 

Roedd Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â’i bartneriaid, wedi bod yn gweithio i leihau effeithiau llawn y diwygiad lles rhag bod yn faich ar drigolion diamddiffyn Sir y Fflint, ac fe amlinellodd yr adroddiad sut y byddai hyn yn parhau i gael ei reoli o dan ddarpariaeth Deddf Diwygio'r Gyfundrefn Les a Gwaith 2016.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau y wybodaeth ddiweddaraf ar yr effaith yr oedd y diwygiad lles yn parhau i’w gael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo i liniaru hyn a chefnogi’r cartrefi hyn, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies, esboniodd y Rheolwr Budd-Daliadau mai bwriad y Taliad Bonws i Ofalwyr oedd i bob gofalwr cymwys dderbyn ac elwa o’r taliad llawn o £500, fodd bynnag, cadarnhaodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi bod y taliadau hyn yn cael eu hystyried fel enillion ac y byddai’r derbynwyr yn atebol am dalu treth, cyfraniadau yswiriant gwladol ac ad-daliadau benthyciad myfyriwr.Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies ei fod yn siomedig bod rhaid talu treth ac yswiriant gwladol ar y taliadau hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod diolchiadau’r Pwyllgor yn cael eu cyfleu i’r tîm cyfan am y gwaith a oedd yn cael ei wneud i gefnogi pobl fwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae’r Diwygiad Lles yn ei gael ac yn parhau i’w gael ar gartrefi mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

24.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar gasglu rhent ac ôl-ddyledion rhent ar gyfer 2020/21. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod yr ôl-ddyledion rhent yn 2020/21, hyd at wythnos 34 (23/11/2020) yn £2.49 miliwn, o’i gymharu â £2.31 miliwn ar yr un pwynt yn 2019/20. Roedd y gwasanaeth Incwm Rhent yn parhau i gefnogi tenantiaid a sicrhau bod ymyrraeth a chyfathrebu rheolaidd yn cael eu cynnal i atal cymryd camau cyfreithiol pellach i sicrhau bod tenantiaid yn cwrdd â’u rhwymedigaethau talu.

 

            Roedd yr argyfwng Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu ar amser, fodd bynnag, mewn achosion lle na wnaeth tenantiaid ymgysylltu neu dalu, er yr holl gymorth a chefnogaeth a gynigiwyd, roedd y gwasanaeth nawr yn ail-weithredu’r broses o adennill rhent, yn cynnwys drwy’r llys pan fo angen, i sicrhau bod tenantiaid yn cadw at delerau eu cytundebau tenantiaeth.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-

 

·         Crynodeb o Ôl-ddyledion Rhent dros y degawd;

·         Crynodeb - sefyllfa derfynol Casgliadau Rhent 2019/20;

·         19/20 ac effeithiau 20/21;

·         Tenantiaid yn hawlio Credyd Cynhwysol;

·         Casglu Rhent: Sefyllfa ddiweddaraf 20/21 (hyd at wythnos 36);

·         Newid i lefelau ôl-ddyledion (mis Ebrill i fis Tachwedd);

·         Ôl-ddyledion Rhent – yr heriau lleol a chenedlaethol;

·         % Ôl-ddyledion Tenantiaid Presennol yn ôl ALl (dienw);

·         Cynllunio Adferiad ar gyfer 20/21 a 21/22

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet y buddsoddiad mewn meddalwedd "Rent Sense" Mobysoft a oedd wedi helpu swyddogion i nodi tenantiaid yn gynnar i ddarparu cefnogaeth a chymorth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a fyddai modd darparu dadansoddiad o lefelau ôl-ddyledion rhent tenantiaid a oedd yn fwy na £5,000, ynghyd â gwybodaeth am y ffigyrau uchaf o ran ôl-ddyledion rhent. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu’n gyfrinachol i Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casglu rhent yn 2020/21, fel yr oedd yn yr adroddiad.

Item 8 - Rent Collection Presentation Slides pdf icon PDF 513 KB

Dogfennau ychwanegol:

25.

Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Ystyried y polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a darparu sylwadau i’w hystyried ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a oedd yn cyflawni gofyniad cyfreithiol y Ddeddf Tai 1996 ac a oedd wedi’i ddylunio i roi datganiad clir o’r ymagwedd y byddai Cyngor Sir y Fflint, fel landlord, yn ei gymryd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cylch gwaith y Tîm Rheoli Tai.

 

Nod y polisi oedd ceisio sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosibl drwy ymyriadau priodol ac amserol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Tai bod y Cyngor wedi gweithio gydag adrannau mewnol ac asiantaethau mewnol i gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol ac esboniodd y byddai copi o’r polisi, ynghlwm yn Atodiad 1 o’r adroddiad, yn cynorthwyo Cynghorwyr â chyfeirio unrhyw broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eu wardiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd y Cyngor yn gallu gweithredu ar achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn digwydd mewn eiddo preifat gan fod hyn yn fater i’r Heddlu ond fe allai weithredu os oedd yr achosion yn effeithio ar denantiaid tai Cyngor cyfagos.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

26.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer a chyfeiriodd at y risgiau a oedd wedi’u haddasu ers y cyfarfod diwethaf. Roedd y tueddiad risg mewn perthynas â Digartrefedd a’i effaith ar allu gweithlu wedi cynyddu oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cyflwyno eu hunain fel bod yn ddigartref.O ran yr ôl-groniad o unedau gwag yn effeithio’n negyddol ar y Cynllun Busnes NEW Homes, cynyddwyd y risg hwn hefyd oherwydd ei bod yn cymryd mwy o amser i osod eiddo oherwydd nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i’w gweld ac oedi o ran atgyweirio unedau gwag.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel yr oeddent yn yr adroddiad.

27.

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad ar ganol blwyddyn a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau sicrwydd i’r Pwyllgor bod mesurau cadarn mewn lle i ganiatáu ar gyfer cwblhau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac y gallai gwaith barhau os oedd preswylwyr yn fodlon i waith fynd rhagddo yn eu cartrefi yn ystod yr argyfwng.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad.

28.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.