Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant i’r Cyngor.

10.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 25 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2020 ac fe gawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

11.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr argyfwng. Dywedodd y byddai’n cymryd tua 3 wythnos o ddechrau’r cyfnod atal byr i weld yr effaith a’r gobaith oedd y byddai’n rhoi darlun llawer gwell yn gyffredinol i Gymru. Roedd y Prif Weinidog wedi dweud y byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu bythefnos ar ôl diwedd y cyfnod atal byr i weld a oedd y ffigyrau’n parhau i fod yn sefydlog ac osgoi mesurau eraill tan y Flwyddyn Newydd ar y cynharaf.

 

            Roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i ddyblu ei allu Profi, Olrhain, Diogelu, ac roedd pob gwasanaeth a oedd wedi’i effeithio ar y trywydd iawn i ddychwelyd ar 9 Tachwedd yn ôl y bwriad. Roedd yr holl sylw ar hyn o bryd ar gadernid iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd misoedd y gaeaf ac roedd cynllun brechu i Ogledd Cymru’n barod ar gyfer un neu fwy o frechlynnau fel y byddent ar gael. Byddai papur briffio arall i Aelodau’n cael ei anfon yn nes ymlaen yr wythnos honno. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

12.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf. Yn unol â’r argymhelliad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, wrth ystyried y Strategaeth Adfer, roedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i llenwi, fel oedd i’w weld yn Atodiad 1 i’r adroddiad. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd pob cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.     

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

13.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Cymuned, Tai ac Asedau a strategaeth gyffredinol y gyllideb.  Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad cam cyntaf y gyllideb a oedd yn cynnwys y rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n creu cyfanswm y gyllideb angenrheidiol.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi diweddariad ar y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol. Roedd adolygiad llawn wedi’i gynnal ar y rhagolwg i greu sylfaen gywir a chadarn o ran y costau fyddai angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau’r argyfwng presennol gan gynnwys pa mor gyflym y gellid adfer incwm yn erbyn targedau penodol.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r ffyrdd eithaf prin oedd ar gael i ariannu pwysau’r costau ac roedd y strategaeth ariannu’n dibynnu’n helaeth ar ddigon o gyllid cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion y costau ar gyfer Tai ac Asedau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y dyfodol – beth wnaethom ni ei gynghori yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfanswm Pwysau Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Sefyllfaoedd Cyllid Posib’;
  • Amserlen y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fanylion ychwanegol am gostau penodol eraill o ran Tai ac Asedau yn rhan o’r cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brown, dywedodd y Prif Swyddog bod rhestr o unedau masnachol a oedd ar gael i’w rhentu i’w gweld ar wefan y Cyngor ac roedd gwaith yn cael ei wneud i’w gwneud yn fwy amlwg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai setliad dros dro’r gyllideb yn cyrraedd ar 22 Rhagfyr ac roedd cyfarfod briffio wedi’i drefnu at 23 Rhagfyr er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl Aelodau. 

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad ac a nodwyd yn y cyflwyniad, a gafodd eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi strategaeth gyffredinol y gyllideb;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn cadarnhau safbwynt y Cyngor ar bolisi trethu lleol;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o’r Llywodraethau, fel y nodwyd yn y cyflwyniad uchod;

 

 (d)     Nodi’r costau o ran Cymunedau, Tai ac Asedau, fel mae’r adroddiad yn ei nodi; ac

 

 (e)     Nad yw’r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbedion i gael eu hystyried ymhellach.

14.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer a chyfeiriodd at y risgiau a oedd wedi’u haddasu ers y cyfarfod diwethaf. Roedd y risg o ran Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wedi dod i lawr gan ei bod bellach yn haws cael gafael arno, ac roedd gwaith hanfodol yn dal i gael ei wneud ar Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl os oedd tenantiaid yn fodlon i’r gwaith gael ei wneud.  O ran rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru a fu ar stop, roedd asesiadau risg bellach wedi’u cynnal ac roedd y rhaglen wedi ailgychwyn yn ofalus ac roedd gwelliannau’n cael eu gwneud mewn ffordd ddiogel i’r tenantiaid a’r contractwyr.

 

Mynegodd y Cynghorydd Brown bryder am faterion gorfodi ar denantiaethau ac adennill gordaliadau’r Budd-dal Tai. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) nad oedd delio â gorfodi’n flaenoriaeth gan y llysoedd ar hyn o bryd a’i fod yn creu nifer o heriau a byddai angen peth amser i’w goresgyn. Soniodd y Rheolwr Budd-daliadau am or-dalu Budd-dal Tai a dywedodd wrth y Pwyllgor bod gwaith i’w adennill ar fynd yn sensitif ac yn ofalus.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel yr oeddent yn yr adroddiad.

15.

Digartrefedd Cam 2 – Ymateb Covid 19 pdf icon PDF 150 KB

Pwrpas:        Rhannu’r dull arfaethedig ar gyfer Ymateb Tai Cymdeithasol i’r Argyfwng Covid-19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y gefnogaeth a’r ymagwedd ynghlwm â digartrefedd yn ystod yr argyfwng a soniodd am yr ymagwedd a’r dulliau at y dyfodol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (LlC). 

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn trafod y meysydd canlynol:   

 

-       Canllawiau gan Lywodraeth Cymru a chyllid

-       Canolbwyntio ar gefnogi pobl i’w hatal rhag dychwelyd i’r strydoedd

-       Symud pobl o gartrefi brys

-       Mynediad at dai sefydlog hirdymor

-       Help i gynnal tenantiaethau

-       Dychwelyd at deulu a ffrindiau

-       Tai cymdeithasol

-       Rhentu’n breifat

-       Tai â chymorth

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal hefyd y dull ar gyfer Cam 3 a fyddai’n cychwyn ym mis Ionawr 2021. Dywedodd y byddai Cam 3 yn canolbwyntio’n fwy ar atal, adeiladu tai fforddiadwy, gwella’r cynnig o dai sydd ar gael ar frys a goblygiadau ar adnoddau o ran sut mae gwneud y mwyaf o gyfleoedd a gweithio mewn partneriaeth.

 

Er ei bod yn croesawu’r canolbwynt digartrefedd, mynegodd y Cynghorydd Helen Brown bryderon am broblemau a oedd yn codi yn yr ardal a gofynnodd i gynrychiolwyr o The Wallich gael eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y dylai siarad â’r Cynghorydd Brown ar ôl y cyfarfod i roi sicrwydd iddi yngl?n â’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu yn y canolbwynt digartrefedd a’r gwaith oedd yn cael ei wneud ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru.  Cytunwyd y gallai awgrym y Cynghorydd Brown gael ei ystyried ymhellach cyn i’r Pwyllgor dderbyn adroddiad arall ar ddigartrefedd ym mis Mawrth 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Brown am wasanaethau a oedd yn cael eu darparu yn y canolbwynt digartrefedd, cytunwyd y byddai rhestr o’r gwasanaethau’n cael eu darparu ar ôl y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer yngl?n â defnydd o’r stoc dai bresennol yn rhan o’r prosiect yn Nhreffynnon, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y byddai’r holl stoc dai’n cael ei hystyried.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, nododd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal fanteision Tai Amlfeddiannaeth ar gyfer pobl ifanc. Dywedodd nad oedd yn gwybod am lawer o Dai Amlfeddiannaeth gwag ar draws y Sir ond roedd yn croesawu adborth gan Gynghorwyr os oeddent yn gwybod am unrhyw rai.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymagwedd a’r dull hyd yma trwy Gam 1 “Rheoli Argyfwng”; a

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi ymagwedd a dull Cam 2 “Ymateb”, sy’n cynnwys amrywiad dros dro i’r Polisi Dyraniadau Cyffredin, fel mae’r adroddiad yn ei nodi.

16.

Diweddariad Adolygiad o Dai Gwarchod pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg a diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Asedau'r diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod yn dilyn adolygiad y cam cyntaf a oedd wedi cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Chwefror 2019. 

 

Dywedodd bod yr ystod o ofynion a chydymffurfiad yn parhau i gynyddu gydag un rhan o dair o’r stoc dai yn cael ei chyfrif yn dai gwarchod a bod angen sicrhau oes o 30 mlynedd wrth symud ymlaen. Roeddent ar hyn o bryd yn adolygu’r holl stoc warchod yn Nhreffynnon, Bwcle a’r Fflint a’r gobaith oedd cwblhau’r adolygiad erbyn Mawrth 2021.  Roedd disgwyl i’r adolygiad ddatgelu pa stoc oedd yn gweithio’n dda a dod o hyd i’r rhai lle’r oedd angen gwaith arnynt. Roedd angen i’r holl stoc dai fod yn addas at y diben ac yn fywiog ac yn ymarferol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i ddod o hyd i gyllid grant. 

 

Holodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd angen adolygiad gan fod adolygiad wedi’i gynnal ond ychydig flynyddoedd ynghynt. Cydnabu’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylwadau’r Cynghorydd Brown a dywedodd y byddai’r adolygiad presennol yn nodi pa gyfleoedd oedd ar gael i gael y canlyniad gorau i denantiaid a phan fyddai’r holl wybodaeth wedi’i chasglu, byddai adroddiadau eraill yn cael eu darparu i’r Pwyllgor eu hystyried. 

 

Nododd y Prif Swyddog hefyd yr awgrym gan y Cynghorydd Brown i Ffederasiwn y Tenantiaid a’r Aelod Cabinet fod yn rhan o’r broses ymgynghori gan ychwanegu bod y gwaith a oedd wedi’i wneud hyd yma’n dal i fod yn y camau cynnar.  Soniodd am werth ymgysylltu â Ffederasiwn y Tenantiaid a chadarnhaodd y byddai hyn yn cael ei wneud.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi’r gwaith ynghlwm â phroses Cam 2 yr Adolygiad o Dai Gwarchod;

 

 (b)     I adroddiadau diweddaru rheolaidd gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w hystyried a’u trafod, pan oedd hynny’n briodol; a

 

(c)      Cefnogi’r Cylch Gorchwyl arfaethedig ar gyfer adolygiad Cam 2, fel yr oedd yn yr adroddiad.

17.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.