Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

24.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i gael ei hystyried, gan amlinellu’r diwygiad arfaethedig canlynol:-

 

·         Y byddai adroddiad am Gontract Storfeydd yn cael ei ddwyn ymlaen a’i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 16 Tachwedd

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau.  Ar gyfer y camau a oedd yn barhaus, eglurodd yr Hwylusydd fod sesiwn friffio ar gyfer pob Aelod wedi’i threfnu, a bod hysbysiad wedi’i anfon at Aelodau.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi dyddiad ar gyfer ymweliad safle a byddai Aelodau’n cael gwybod pan fyddai dyddiad wedi’i gytuno.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tina Claydon at yr eitem ar Dlodi a oedd wedi’i threfnu i’w chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2023 ac awgrymodd ei bod yn cael ei dwyn ymlaen i gyfarfod cynharach.  Cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â’r swyddog perthnasol am hyn ar ôl y cyfarfod.

 

            Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

25.

Perfformiad Rhaglen Gyfalaf SATC - Adroddiad Sicrwydd pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru, y mae’r Cyngor yn ei wneud drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth Safon Ansawdd Tai Cymru gan y Cyngor trwy’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Gwasanaeth yn trafod y meysydd canlynol:-

 

·         Safon Ansawdd Tai Cymru – Eglurhad

·         Safon Ansawdd Tai Cymru – Y Sefyllfa Gyfredol

·         Safon Ansawdd Tai Cymru – Heriau

·         Safon Ansawdd Tai Cymru – Datgarboneiddio

·         Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

·         Llafur Lleol a Phrentisiaethau

·         Safon Ansawdd Tai Cymru - Camau Nesaf

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am arolygiadau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai ymweliadau ac arolygon yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o eiddo’r Cyngor fel rhan o Arolwg Cyflwr Stoc mewnol. 

 

Soniodd y Cynghorydd Dale Selvester am effeithlonrwydd ynni thermol a gofynnodd a oedd y gwaith allanol i ddisodli gwaith rendro ar eiddo wedi’i gwblhau ar bob eiddo, neu a oedd rhai eiddo’n dal i aros gwaith.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r rhaglen yn canolbwyntio ar fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a hefyd ar ddatgarboneiddio, a byddai arolwg yn cael ei gynnal ar effeithlonrwydd ynni pob eiddo.  Pan fo angen cydrannau newydd, byddai’r rhain yn cael eu disodli i sicrhau bod yr eiddo mor thermol effeithlon ag sy’n bosibl.    

 

            Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd Dale Selvester. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei cham nesaf o ran cydymffurfio, wrth iddi symud tuag at Safonau Ansawdd Tai Cymru wedi’u diweddaru, a’r gofyniad, yn cael eu nodi.

Item 4 - WHQS presentation pdf icon PDF 47 KB

Dogfennau ychwanegol:

26.

Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym pdf icon PDF 217 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am egwyddorion craidd Ailgartrefu Cyflym a’r broses o ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Sir y Fflint, sy’n cefnogi uchelgais y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.  Nododd yr adroddiad fod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai angen i Gyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn atal digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefu Cyflym. 

 

Dywedodd fod rhaglen TrACE yn cael ei datblygu o ran trawma ac anghenion cymhleth.  Ychwanegodd hefyd fod cefnogi’r gweithlu trwy ddatblygiad a hyfforddiant er mwyn meithrin cadernid yn y gwasanaeth, er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar staff, a fyddai yn ei dro yn helpu i gynnal a chadw staff hefyd, yn rhan hanfodol o hyn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor eu bod yn ceisio sicrhau darpariaeth ar gyfer ail ganolbwynt digartrefedd ar gyfer gogledd a de Sir y Fflint, a soniodd am yr angen i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.  Rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor fod ymrwymiad i barhau i helpu pobl i gynnal tenantiaethau.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad manwl.  Soniodd am astudiaeth achos lwyddiannus o ran Ailgartrefu Cyflym yr oedd wedi clywed amdani ar gyfer Perth & Kinross, a dywedodd y byddai’n hapus i rannu’r wybodaeth gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Ychwanegodd y byddai’n hoffi gweld rhagor o straeon llwyddiant yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd yn y dyfodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin mai’r her fwyaf oedd caffael mwy o stoc tai a gofynnodd beth ellid ei wneud i hwyluso mwy o asedau ar gyfer fflatiau dwy ac un ystafell wely.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn gweithio’n agos gydag asedau i archwilio rhagor o gyfleoedd o ran stoc.

 

Soniodd y Cynghorydd Glyn Banks am eiddo gwag a dywedodd ei fod yn teimlo bod angen rhoi ystyriaeth i hyn ym mhob cyfarfod, er bod y Pwyllgor wedi cytuno o’r blaen i gael adroddiad diweddaru am eiddo gwag ymhen chwe mis.  Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Kevin Rush.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor wedi argymell adroddiad diweddaru ymhen chwe mis yn ei gyfarfod diwethaf, i ganiatáu i’r camau yn y cynllun gweithredu gael eu gweithredu.  Yn y cyfamser, byddai’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i ymweliad safle, i gymryd rhan mewn eglurhad fesul cam o’r broses eiddo gwag o’i dechrau i’w diwedd. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd iddi fynychu cyfarfodydd y Gweithgor Eiddo Gwag, fel Cadeirydd y Pwyllgor, fel arsylwr.  Eglurodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio y byddai’n rhan o’r Gweithgor Eiddo Gwag bellach a byddai’n croesawu presenoldeb Aelodau’r Pwyllgor pan fo hynny’n briodol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw gynnydd wrth nodi lleoliadau addas newydd i’r canolbwynt Digartrefedd presennol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod safle posibl wedi’i nodi yn ardal Glannau Dyfrdwy.  Byddai angen cynnal astudiaeth ddichonoldeb a byddai ymgysylltu ag Aelodau lleol, cyn i adroddiad diweddaru gael ei gyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y Blaenoriaethau arfaethedig, Is Flaenoriaethau a’r Amcanion Lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Atgoffwyd Aelodau fod hon yn ddogfen gryno lefel uchel, a chaiff rhagor o fanylion eu hadrodd yn Rhan 2 Cynllun y Cyngor.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddisodli ac adnewyddu paneli ynni/solar, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai fod paneli solar yn cael eu gwasanaethu, eu hasesu a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd, a byddent yn cael eu disodli pan fo’r gofyn.  Dywedodd nad oes cylch oes pendant i’r offer, ond byddai’n disgwyl iddynt bara tua 15 mlynedd.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd Dale Selvester. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

28.

Aeoldau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.