Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Attendance Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd [name] yn Gadeirydd y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd ei fod wedi ei gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol. Gan fod y Cynghorydd Helen Brown wedi’i phenodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Helen Brown yn Gadeirydd y Pwyllgor.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Brown weddill y cyfarfod) |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd David Evans enwebu’r Cynghorydd Ray Hughes fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.
Bu i’r Cynghorydd Dale Selvester enwebu’r Cynghorydd Dennis Hutchinson fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Diolchodd y Cynghorydd Hutchinson i’r Cynghorydd Selvester ond tynnodd ei enwebiad yn ôl.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Chwefror 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022, ac fe’u cynigiwyd a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush a’r Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |