Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Attendance Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Ionawr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Soniodd y Cynghorydd Ron Davies am y sylwadau cadarnhaol a wnaed i’r Rheolwr Rhaglenni Tai yn y cyfarfod diwethaf a’r diolch am ei waith dros sawl blwyddyn. Gofynnodd a oedd modd cynnwys y rhain yn y cofnodion. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’n adolygu’r cofnodion i sicrhau eu bod wedi’u cynnwys.
Cynigodd y Cynghorydd Ron Davies y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf a chadarnhaodd un diwygiad i’r rhestr o eitemau sydd wedi’u trefnu i gael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Mawrth. Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer yn cael ei chyflwyno, a fyddai’n rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ers i’r diweddariad diweddaf gael ei ystyried ym mis Rhagfyr, 2020.
Cadarnhaodd yr Hwylusydd na wnaeth unrhyw gamau godi o’r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, ac roedd pob cam gweithredu a oedd wedi codi o gyfarfodydd blaenorol wedi’u cwblhau, fel a ddywedwyd wrth y Pwyllgor eisoes.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Proses gaffael y Gwasanaeth Atgyweirio Tai i gael System Drefnu Adnoddau Deinamig ac Adolygu Proffil Swydd yr Arweinydd Tîm Pwrpas: Trafod y dewisiadau i brynu a gweithredu datrysiad Atgyweiriadau Tai symudol sy’n cynnwys modiwl atgyweirio, y trwyddedau cysylltiedig a Threfnydd Adnoddau Deinamig (DRS). Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r achos busnes ac arwydd o sut gallai buddsoddi mewn technoleg ddarparu swyddogaeth atgyweirio tai sy’n canolbwyntio fwy ar gwsmeriaid.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau gyflwyniad manwl, a gafodd ei rannu ar y sgrin. Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau am eu cyflwyniad cynhwysfawr.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Billy Mullin, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag Undebau Llafur Unison ac Unite am y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac roedd adborth cadarnhaol wedi’i ddarparu.
Gan ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau am yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog fod angen i’r modiwl atgyweirio gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig fod yn y contract presennol gyda Capita. Awgrymodd hefyd bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru blynyddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn galluogi’r Pwyllgor i gael sicrwydd bod y cyflawniadau a amlinellir yn y cynllun busnes yn cael eu bodloni.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau na fyddai Swyddogion Tai yn defnyddio’r dechnoleg a gynigiwyd, a rhoddodd enghreifftiau o’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd wrth gynorthwyo tenantiaid y Cyngor. Roedd potensial i ymestyn y dechnoleg a gynigir i Swyddogion Tai yn y dyfodol i gynorthwyo â threfnu apwyntiadau.
Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi prynu a gweithredu datrysiad Atgyweirio Tai symudol sy’n cynnwys modiwl atgyweiriadau, trwyddedau cysylltiedig ac adnodd Dynamic Resource Scheduler (DRS);
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhyddhau uchafswm o £420,000 o gyllid y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer gweithredu o flaen llaw a chostau cefnogaeth a chynnal a chadw parhaus yn unol â dyfarnu contract ar gyfer y datrysiad uchod;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r modiwl gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig yn y contract presennol gyda Capita;
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi caffael datrysiad DRS trwy Gytundeb Fframwaith Datrysiad Data a Chymwysiadau (DAS) am 5 mlynedd, gydag estyniad dewisol am ddwy flynedd arall; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhoi dirprwyaeth i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ymestyn y contract(au) +1 +1 ar ddiwedd cyfnod y contract, sef 5 mlynedd.
|
|
Aelodau o'r wasg yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |