Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Gorffennaf 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 83 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i gael ei ystyried, gan amlinellu’r diwygiadau arfaethedig canlynol:-
Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cadeirydd wedi gofyn i bob Aelod o’r Cyngor os oedd ganddynt eitemau yr oeddynt yn teimlo y dylai’r Pwyllgor ei ystyried ac ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Mae rhestr o eitemau awgrymedig wedi’i greu ac roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad 3. Dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn y cyfarfod, y byddai’n cysylltu â’r swyddogion a’r Cadeirydd i nodi sut y gellir eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Cafodd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) PDF 169 KB Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Rhaglenni Tai’r adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor o gynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ac i osod y Strategaeth ar gyfer tai newydd fforddiadwy o fewn y pum mlynedd nesaf.
Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Tai ddiweddariadau manwl ar y cynnydd dan bartneriaeth fframwaith caffael Cymru newydd a hefyd y gweithgor di-garbon net, ac amlygu’r newidiadau ym mlaenoriaethau adeiladu newydd Llywodraeth Cymru, rhaglen cyllido newydd a’i oblygiadau i Sir y Fflint a NEW Homes, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Tai ei fod yn ymwybodol o brosiect ym Maes Glas ac yn bwriadu ychwanegu hwn i’r SHARP.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin ar ymgynghoriad ag Aelodau lleol a’r anghenion o ran tai o fewn wardiau, sicrhaodd y Rheolwr Rhaglenni Tai’r Pwyllgor bod Aelodau lleol, ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hymgynghori ar unrhyw brosiectau yn y dyfodol. Dywedodd hefyd bod angen llunio portffolio ar anghenion adeiladau ar draws y Sir i gael safbwynt cyffredinol o beth mae angen i’r strategaeth sydd ei angen. Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai’r Cyngor yn gallu dylanwadu ar yr hyn sydd ei angen.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) hyd yma;
(b) Nodi’r newidiadau i gyllid Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol;
(c) Nodi’r newidiadau i feini prawf ar gyfer cofrestru gyda Thai Teg ar gyfer tai rhent fforddiadwy;
(d) Nodi rhaglen datblygu amlinellol SHARP 2; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ailddyrannu cyllideb o £121,000 ar gyfer ymchwiliad cynllun a gwaith dichonoldeb i gefnogi llwybrau cyflenwi newydd. |
|
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eiddo gwag a’r gwaith a wneir i ailddefnyddio’r eiddo yma. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i ddarparu diweddariad ar reoli unedau gwag a chyflawniad.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai a Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, cytunwyd y byddai copi o’r cyflwyniadau yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod. Hefyd rhoddodd y Cynghorydd Dolphin enghreifftiau i eiddo gwag yn ei ward a oedd wedi bod yn wag ers cyfnod hir iawn, a rhoddodd sylw ar yr angen i newid eiddo yn gynt i sicrhau refeniw parhaus i’r Cyngor.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch mater yn ei ward ac arhosiad am eiddo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethu Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i’r Cynghorydd Banks ddarparu manylion iddi ar ôl y cyfarfod fel y gellir edrych ar y mater hwn ymhellach.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer os oedd yno gontractwyr mewnol ychwanegol y gellir eu defnyddio. Hefyd gofynnodd sut y gellir gwella cyfraddau ynni i’r eiddo hyn a oedd wedi’u dyrannu’n barod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod timau eiddo gwag mewnol a oedd yn cael eu dyrannu i gyflawni mân waith. Hefyd darparodd fanylion am brosiect peilot ynghylch di-garboneiddio’r stoc dai ym Mostyn, ac ychwanegodd bod y gwaith hwn wedi’i gynnwys o fewn gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru.
Awgrymodd y Cynghorydd Dave Evans bod y Pwyllgor yn ymweld ag eiddo gwag pan mae’n dod yn wag, a hefyd eiddo gwag sydd wedi’i ailwampio’n ôl i ddefnydd er mwyn gweld safon y gwaith a gyflawnir. Hefyd cyfeiriodd at yr argyfwng costau byw a gofynnodd pa welliannau a gafodd eu gwneud i eiddo i gadw costau’n îs i denantiaid. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod yr holl foeleri, gwresogi a insiwleiddiad atig yn cael eu hasesu’n dda ar y cam gwag, ac ychwanegodd os byddai newid i bympiau gwres yr awyr yn opsiwn hyfyw i’r eiddo, yna byddai hynny yn cael ei asesu ar adeg pan mae’r eiddo’n wag hefyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd myfyrwyr coleg yn cael eu cyflogi i gynorthwyo i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y Cyngor wedi cysylltu gyda’r coleg ac yn hwyluso myfyrwyr sydd yn cyflawni gwaith ymarferol fel rhan o’u cwrs.
Cododd y Cynghorydd Dale Selvester bryderon ynghylch yr amser mae’n cymryd i gofrestru mesuryddion gyda chwmniau ynni, a oedd yn ychwanegu at yr oedi i ddyrannu eiddo gwag. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y tenant yn flaenorol yn gorfod cysylltu gyda’r cwmniau ynni yn uniongyrchol ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
Item 6 - Voids Management slides PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Ail-gartrefu Cyflym PDF 375 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y dull Ail-gartrefu Cyflym. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. Roedd gofyn bod Awdurdodau Lleol yn datblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i ddangos sut y bydden nhw’n symud dull newydd ymlaen i atal ac i liniaru digartrefedd.
Nododd yr adroddiad bod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei angen ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn ataliad digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefi Cyflym.
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal gwybodaeth fanwl ar yr Egwyddorion Allweddol, fel a ganlyn:-
1. Mynd i’r afael â Digartrefedd drwy bartneriaeth gadarn ac effeithiol. 2. Ailfodelu ein dulliau o ran data, systemau, polisiau a darpariaeth gwasanaeth. 3. Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd ei angen. 4. Trawsnewid ein cynnig tai dros dro 5. Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a chael gwared ar rwystrau i bobl sydd eisiau mynediad at dai fforddiadwy ar unwaith.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod adroddiad ar y Cynllun Gweithredu, Heriau a Blaenoriaethau penodol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref 2022.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am wybodaeth ar ddemograffeg pobl sy’n nodi eu bod yn ddigartref. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y mwyafrif o bobl yn sengl, a oedd yn amlygu’r galw o’r angen am lety un person yn y Sir.
Rhoddodd y Cynghorydd Pam Banks sylw ar bobl yn cael eu cartrefu mewn pentrefi gwledig, a theimlodd bod diffyg cymorth/ cefnogaeth yn y gymuned. Gofynnodd a oedd eu hanghenion yn cael eu hasesu cyn cael eu cartrefu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal o ran llety mewn argyfwng, bod tai yn brin ond ychwanegodd bodd yr holl anghenion yn cael eu hasesu gyda chynlluniau gweithredu personol yn cael eu llunio’n unol â hynny.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig gan Gynghorydd David Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r egwyddorion o Ailgartrefi Cyflym. |
|
Grant Cyfleusterau i'r Anabl PDF 112 KB Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ) adroddiad i ddiweddaru ar Bolisi Dewisol a newidiadau a wnaethpwyd yn y 12 mis diwethaf.
Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth y ddau brif newidiadau o fewn y Polisi, a oedd fel a ganlyn:
1. Mae gwerth profi modd wedi’i adolygu ac wedi cynyddu o £10,000 i £20,000; a’r
2. Angen i wneud cais am fridiant tir wedi’i dynnu. Os byddai eiddo wedi’i addasu yn cael ei werthu o fewn 5- 10 mlynedd o’r addasiadau, yna byddai’r Cyngor yn edrych i adennill y costau i ddarparu diogelwch a sicrwydd i’r pwrs cyhoeddus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans ynghylch adennill costau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hwn yn ddigwyddiad prin.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson os oedd eiddo a osodwyd mewn eiddo yn gallu cael eu hailgylchu a’u hailddefnyddio pan maent yn cael eu symud. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod system ailgylchu effeithiol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar, a bod pob cyfarpar yn cael eu profi cyn cael eu hailosod mewn eiddo arall. Ychwanegodd bod y cyfarpar hefyd yn cael eu gosod gyda gwarant pum mlynedd.
Cafodd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Rosetta Dolphins.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diweddar yn cael ei gefnogi a bod y gwaith parhaus i wella’r gwasanaeth yn cael ei nodi;
(b) Bod y diwygiad, a nodir yn Atodiad 2 y Polisi, ar gyfer cael gwared â phrawf modd i addasiadau maint canolig yn cael eu nodi; a
(c) Bod y newidiadau i Bridiannau Tir yn unol â Safonau Tai Diwygiedig Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cael eu nodi. |
|
Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 PDF 84 KB Pwrpas: Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 yn unol â chais y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr amserlen yn ymwneud â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n cynnwys dwyn rhai eitemau ymlaen y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw. Roedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddatblygu Cynllun pum mlynedd y Cyngor ar hyn o bryd a fyddai’n cynnwys rhagor o fanylion penodol mewn perthynas â defnyddio Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i nodi pynciau ar gyfer eu Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
I gytuno ar Ran 1 Cynllun y Cyngor yn cael ei adolygu a diweddaru amserlenni i gwblhau. |
|
Aelodau O'r Wasg Yn Bressennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |