Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol. Cyfeiriodd at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 19 Mai 2021 gan egluro y byddid yn adrodd ar yr eitem ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, y rhestrwyd ar gyfer ei ystyried, i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn hytrach. Nid oedd unrhyw newidiadau eraill i’r Flaenraglen Waith fel yr adroddwyd ar hynny yn y cyfarfod diwethaf. Dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar amserlennu cyfarfodydd o Fedi 2021 ymlaen ac y byddid yn cyflwyno dyddiadur drafft i gyfarfod blynyddol y Cyngor Sir ar 11 Mai ar gyfer ei gymeradwyo.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad tracio gweithgareddau a atodwyd i’r adroddiad. Dywedodd bod y gweithgaredd unigol a gododd o’r cyfarfod diwethaf wedi cael ei gwblhau ac yr ychwanegwyd diweddariad ar y System Rhestrydd Adnoddau Deinamig (DRS) i’r Blaengynllun Gwaith fel eitem i’w ystyried gan y Pwyllgor i’r dyfodol.
Awgrymodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad er mwyn darparu manylion ar y broses dyrannu tai i Aelodau. Dywedodd Y Cynghorydd Dave Hughes ei fod wedi gofyn am gyflwyniad ar bolisi SARTH a’r polisi dyrannu er mwyn diweddaru’r holl Aelodau, a rhoddodd sicrwydd y byddai hynny yn digwydd. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal i ddarparu sesiwn friffio i’r Pwyllgor cyn dechrau cyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi trosolwg ar sut yr oedd y polisi SARTH yn gweithio, a mwy o eglurder ar y broses ddyrannu.
Cynigiwyd yr argymhellion ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorwyd Ron Davies a Dennis Hutchinson
PENDERFYNWYD:
(A) Nodi’r Blaenraglen Waith;
(B) Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, fel bo’r angen yn codi; a
(C) Nodi’r cynnydd a wneir o ran cwblhau’r camau sydd ar ôl i’w cwblhau.
|
|
Adfywio'r Stoc Tai Bresennol PDF 153 KB Pwrpas: Amlinellu’r gwaith a wneir i adfywio stoc tai bresennol y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac asedau) adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y llwyddiannau a’r daith hyd yma. Eglurodd y byddai’r Rhaglen Waith WHQS wedi cyrraedd ei blwyddyn olaf (2020-2021) o’r Rhaglen Gyfalaf chwe blynedd, ond fe’i hestynnwyd am flwyddyn arall oherwydd effaith pandemig Covid. Roedd yr adroddiad yn ddiweddariad ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni a sydd i’w gyflawni cyn y terfyn amser estynedig yn Rhagfyr 2021.
Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Asedau wybodaeth gefndirol a chyflwynodd ystyriaethau allweddol fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad. Dywedodd bod yna nifer o eiddo ble nod oedd y Cyngor yn gallu darparu’r WHQS oherwydd, am amrywiaeth o resymau, ni roddodd y tenantiaid ganiatâd i’r gwaith gael ei wneud, ond pan fo’r eiddo yn dod yn wag, roedd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn codi’r eiddo i’r safon ofynnol. O 23 Mawrth 2020 daeth yr holl waith WHQS ar eiddo’r cyngor ac ardaloedd cymunol i ben, gyda’r adnoddau yn cael eu canolbwyntio ar eiddo oedd yn cael eu cau/cwblhau’n ddiogel a sicrhau bod yr holl denantiaid a gwaith yn cael ei gadael yn ddiogel. O ran elfen gyfalaf y gwaith, parhaodd yr holl waith ymatebol, brys a chydymffurfiaeth. Ar ôl llacio’r cyfyngiadau clo a chyhoeddi mwy o ganllawiau ar 14 Mehefin 2020, cymerwyd mwy o gamau. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar effaith y pandemig ar raglen WHQS.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod y Gwasanaeth wedi bod yn destun archwiliadau ac adolygiadau ar berfformiad y Cyngor o ran darparu’r WHQS. Rhoddodd sicrwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) ac Archwilio Mewnol wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd WHQS ac ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol. Adroddodd hefyd bod yr archwiliadau wedi nodi bod tenantiaid y Cyngor yn fodlon ag ansawdd y gwaith a wnaethpwyd ar eu cartrefi a dywedodd bod Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid WHQS ar 96% (yr uchaf hyd yma).
Adroddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod LlC wedi ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil. Roedd Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i LlC leihau allyriadau nwyon t? gwydr (GHG) yng Nghymru o 80% o leiaf erbyn 2050, gyda system o dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon. Byddai’n ofynnol i’r Cyngor sicrhau bod ei gartrefi yn cyflawni’r lefel uchaf posibl o ran effeithiolrwydd thermol a pherfformiad ynni (EPC lefel A) erbyn 2030. Fel rhan o’r WHQS, ar hyn o bryd mae’n ofynnol i eiddo’r Cyngor fodloni isafswm o SAP 65 (EPC Lefel D). Mae trafodaethau â LlC yn parhau ynghylch y gofyniad i gaffael a chyflawni rhaglen ôl-osod fawr. Yn ystod y 12 mis nesaf bydd swyddogion yn darparu cynlluniau fel rhan o’r rhaglen reoli asedau ... view the full Cofnodion text for item 48. |
|
Adroddiad Diweddaru Digartrefedd PDF 428 KB Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir i atal digartrefedd ar draws Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud i atal digartrefedd ledled Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at effaith pandemig Covid. Dywedodd bod yna dri cham i’r ymateb i ddigartrefedd a bod y Cyngor ar hyn o bryd ar gam 3, sef y symud i’r ‘Normal Newydd’ a dywedodd bod yna rai agweddau cadarnhaol a heriau o’n blaenau. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:
· Cam 1 Ymateb · Cam 2 Cynllunio · Cam 2 Arian Cyfalaf · Cam 3 Y Normal Newydd · Galw am wasanaethau · Ymateb y tu allan i oriau · Tai mewn achos brys · Rhain sy’n cysgu ar y strydoedd · Cefnogaeth tai · Cofrestr tai · Yr Holl dai cymdeithasol a osodir · 50% enwebiadau Covid · Teithiau pobl · Hyb digartrefedd · Gwasanaethau cymorth newydd · Edrych i’r dyfodol
Diolchodd y cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei adroddiad a’i gyflwyniad llawn gwybodaeth a siaradodd yn gefnogol i’r ymrwymiad brwdfrydig a llwyddiant y gwaith sydd wedi cael ei wneud er mwyn mynd i’r afael â phroblem digartrefedd yn y Sir.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Rush cytunodd y rheolwr Gwasanaeth i rannu’r rhif ffôn digartrefedd y tu allan i oriau i Aelodau yn dilyn cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd yna gynlluniau i ymestyn cyfleusterau a thai i bobl ddigartref i ardaloedd eraill yn y Sir yn ychwanegol i’r ardaloedd yr adroddwyd arnynt eisoes. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod angen cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a llety rhent dros dro. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y strategaeth hirdymor ac at waith ar y rhaglen SHARP er mwyn adeiladu capasiti a hefyd er mwyn lleihau rhestrau aros am dai.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ron Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
(A) Nodi’r adroddiad; a
(B) Bod y gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gwasanaeth yn parhau i gael ei gefnogi.
|
|
Diweddariad Strategaeth Adferiad PDF 101 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad er mwyn darparu trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer portffolios perthnasol y Pwyllgor. Cyfeiriodd at y gofrestr risg portffolio a’r camau lliniaru risg a atodwyd i’r adroddiad, ac adroddodd ar y risgiau coch canlynol: CF14, HA04, HA06, CP03, HA27, HA30, a HA33.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at risg CP11 (costau a chymhlethdodau ynghylch dychwelyd ac adsefydlu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o ganlyniad i gyfnod estynedig o’i defnyddio fel ysbyty brys) a gofynnodd a fyddai’r gost o adsefydlu yn cael ei ariannu gan y Cyngor neu’r Gwasanaeth Iechyd. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ysbyty Enfys yn cael ei symud i gam cynllunio ar gyfer adsefydlu wrth i’r rhaglen frechu ranbarthol ddirwyn i ben. Fel rhan o’r rhaglen adsefydlu byddai’r Cyngor yn archwilio’r opsiynau fydd ar gael ar gyfer darparu ei wasanaethau hamdden a gwasanaethau eraill yn y dyfodol ar y safle.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid ystyried defnydd ar y cyd o’r safle gan y Cyngor Sir a BCUHB petai’r angen am ganolfan hamdden a gwasanaethau ysbyty yn parhau i’r dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd adsefydlu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i’r un sefyllfa a darpariaeth gwasanaethau hamdden ag oedd yn bodoli cyn creu’r Ysbyty Enfys ar y safle.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Gofrestr Risg ddiweddariedig a'r Camau Lliniaru Risg, fel yr amlinellwyd hynny yn yr adroddiad.
|
|
AELODAU'R WASG OEDD YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yna un aelod o’r wasg yn bresennol.
|