Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Ian Dunbar yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.
Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Ian Dunbar wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Ron Davies y Cynghorydd Ray Hughes fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 7 Gorffennaf 2020. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar) Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth. Cofnodion: Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai’r Prif Weithredwr a’i Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briffiau o’r sefyllfa a gafodd eu rhoi i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad ar lafar. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 85 KB Pwrpas: Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymuned ag Addysg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn yn cynnwys cael gwared ar eitemau adfywio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd ac Adfywio ac ychwanegu’r eitemau canlynol:
PENDERFYNWYD:
Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi. |
|
Strategaeth Adferiad PDF 89 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestru risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.
Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:
· Argymhellion gan y Cabinet · Amcanion y Strategaeth Adferiad · Amcanion yr ymateb · Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb · Adferiad – trefniadau trosglwyddo · Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol · Amcanion adferiad - Gwasanaethau · Gweithgareddau adferiad · Adferiad cymunedol · Cynllun a pherfformiad y Cyngor · Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Uwch Reolwyr gyflwyniad manwl ar y gofrestr risg ar gyfer y portffolio gwasanaeth oedd yn cynnwys y canlynol:
· Risgiau Asedau a Thai · Dyrannu Risg · Tuedd Risg · Ariannol · Gweithlu · Eiddo ac Asedau · Llywodraethu a’r Gyfraith · Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Fe awgrymodd yr Hwylusydd fod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli i gyfrannu at y rhaglen waith i’r dyfodol i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Wrth ymateb i gwestiwn am eiddo gwag fe gynghorodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod yna ystod eang o eiddo gwag ar draws y Sir, eiddo 1 a 2 lofft yn bennaf.
Mewn ymateb i gwestiwn am grantiau cyfleusterau i’r anabl fe gynghorodd y Rheolwr Budd-daliadau fod gwaith wedi ail-ddechrau ar brosiectau canolig a mawr. Fe sicrhaodd y Pwyllgor fod yr achosion mwyaf brys wedi parhau yn ystod y sefyllfa o argyfwng ond fe amlinellodd pa mor betrusgar oedd rhai pobl o gael gweithwyr yn gweithio ar eu cartrefi felly roedden nhw’n cydweithio’n agos gyda’r bobl hyn. Hefyd darparodd ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi’i wneud â’r Tîm Caffael i sicrhau mwy o ymrwymiad gyda chontractwyr cyn dechrau ar y gwaith ar yr eiddo.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r argymhellion yn cynnwys y blaenoriaethau adferiad nesaf a nodwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â chytuno â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru. Cafodd y rhain eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y gyfres lawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adfer y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a
(b) Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei ail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |