Rhaglen a chofnodion

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 

Eitemau
Rhif eitem

4.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet, o dan God Ymddygiad y Cynghorwyr, nad oedd ganddo gysylltiad â’r adroddiad.

5.

Adolygiad o’r Polisi Cludiant Ôl-16 dewisol pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Polisi Cludiant Dewisol yn ngoleuni’r newidiadau deddfwriaethol cysylltiedig â Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cabinet, ym mis Mehefin 2019, wedi gwneud penderfyniad i ddiwygio’r Polisi Cludiant Dewisol a dechrau codi tâl am gludiant ôl-16 o fis Medi 2020. Penderfynwyd codi tâl er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o’r pwysau costau yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

            Cyhoeddwyd Rheoliadau ar gyfer Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) ym mis Awst 2019 a daeth y goblygiadau ar ddarpariaeth cludiant i'r ysgol i’r amlwg. Ni fyddai’r rheoliadau hynny yn caniatáu codi tâl am leoedd ar goetsys a bysus nad oeddent yn cydymffurfio’n llawn o ran hygyrchedd. Roedd disgwyl i’r rheoliadau ddod i rym ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

 

            Gan nad oedd y fflyd a ddefnyddiwyd yn lleol i gludo dysgwyr yn bodloni’r gofynion hynny’n llawn, ac oni bai bod ‘eithriad cyffredinol’ yn cael ei gyflwyno gan yr Adran Gludiant mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, byddai’r Cyngor yn torri’r rheoliadau hynny wrth iddynt ddod i rym pe bai’n gweithredu polisi o godi tâl ar gyfer cludiant ôl-16 dewisol.

 

            Mae’r Cyngor wedi gorfod ail ystyried y penderfyniad cynharach yn seiliedig ar (1) ddiffyg cynaliadwyedd y polisi o godi tâl ar ddechrau Rheoliadau’r Llywodraeth; (2) y risgiau o geisio cyflwyno polisi tymor byr mewn sefyllfa argyfwng heb sicrwydd o ran pryd fydd ysgolion yn ailagor; a (3) dewisiadau ar gyfer model ariannu cludiant gwahanol gyda Choleg Cambria.

 

            Roedd y Cyngor yn cludo 1950 o fyfyrwyr ôl-16 – 1500 i Goleg Cambria a 450 i Ysgolion Uwchradd (Chweched Dosbarth). Y gost flynyddol o ddarparu’r cludiant dewisol hwn oedd £860k. O dan gytundeb lefel gwasanaeth hir sefydlog gyda Choleg Cambria, roedd y Coleg yn cyfrannu 25% tuag at y costau cludiant hynny ac felly yn lleihau’r costau gwirioneddol i’r Cyngor i £645k y flwyddyn.Roedd cyfraniad Coleg Cambria o £215k (25%) yn gyfatebol isel o ystyried bod 77% o fyfyrwyr yn cael eu cludo i’r coleg.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Phrif Weithredwr newydd Coleg Cambria i ystyried y goblygiadau o ran y rheoliadau cludiant newydd. Roedd Corff Llywodraethu Coleg Cambria yn ystyried dewisiadau megis ad-dalu myfyrwyr yn unigol o fis Medi 2020 i wrthbwyso’r tâl am gludiant.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod angen i’r Cyngor ystyried a oedd yn briodol i gyflwyno tâl, gyda’r holl swyddogaethau gweinyddol a oedd yn ofynnol i reoli’r broses, a dod â’r tâl hwn i ben flwyddyn yn ddiweddarach. Cymhlethwyd yr ystyriaeth hon gan y cyfnod argyfwng presennol ac ansicrwydd o ran pryd a sut i ailagor ysgolion e.e. dull graddol posibl.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y ceisiwyd estyniad gan yr Adran Gludiant i oedi gweithrediad y rheoliadau newydd ond nad oedd wedi cael ymateb hyd yma.Byddai gwaith yn cael ei gynnal gyda gweithredwyr ond y byddai’n sawl blwyddyn nes eu bod i gyd yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Roberts y sail resymegol y tu ôl i’r argymhellion yn yr adroddiad a phwysleisiodd mai nid tro pedol oedd hyn, sef  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Hyd Y Cyfarfod

Cofnodion:

Dechreuodd y cyfarfod am 12.15pm a daeth i ben am 12.30pm.