Rhaglen a chofnodion

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 

Eitemau
Rhif eitem

13.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet, o dan God Ymddygiad y Cynghorwyr, nad oedd ganddo gysylltiad â’r adroddiad.

14.

Ymgynghoriad ar Ryddhad Ardrethi Elusennol i Ysgolion ac Ysbytai pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar ryddhad ardrethi elusennol i ysgolion ac ysbytai yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn gofyn am farn o ran a oedd angen diwygio Rhyddhad Ardrethi Elusennol i rai ysgolion ac ysbytai i sicrhau bod y gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy’r cynlluniau rhyddhad ardrethi yn cael ei thargedu’n gywir. Roedd cyfnod yr ymgynghoriad wedi’i ymestyn i 29 Mai o ganlyniad i’r mesurau brys cenedlaethol a’r pwysau sylweddol ar fudd-ddeiliaid allweddol.

 

Roedd gan Sir y Fflint 13 o Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu Ysgolion Catholig Rhufeinig a oedd yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Elusennol o 80% sy’n gyfanswm o £185k o ryddhad ardrethi'r flwyddyn. Roedd hefyd tri safle addysg bellach yn y Sir a oedd hefyd yn gymwys am ryddhad ardrethi o £556K y flwyddyn.

 

Yng Nghymru, roedd 30 eiddo wedi’u categoreiddio fel ysbytai preifat, doedd dim un yn Sir y Fflint.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver, y sylw canlynol:

 

 ‘Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cytuno’n llwyr â’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef “y dylid gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol’.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

15.

Gwerthu Newtech Square, Parc Busnes Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, CH5 2NT

Pwrpas:        Cymeradwyo gwerthu Newtech Square, Parc Busnes Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, CH5 2NT.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor yn berchen ar y rhydd-ddaliad i Newtech Square.  Nid oedd y tenant diweddaraf yno mwyach ac roedd yn dymuno arfer ei gymal terfynu yn 2021. 

 

Yn dilyn prisiad annibynnol, ystyriwyd cynnig a wnaed i’r Cyngor yn un derbyniol ac argymhellwyd ei gymeradwyo.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, cyflwynodd y Cynghorydd Carver, y sylwadau canlynol:

 

 ‘Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn credu:

 

(1)       bod tenant 1 Newtech Square wedi arfer ei gymal terfynu ac er gwaethaf yr ymdrech i farchnata’r eiddo er mwyn aseinio neu isosod heb lwyddiant. Dangosodd gwmni fferyllol, sydd eisoes wedi’i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ddiddordeb yn yr eiddo ac ystyriwyd cynnig y cwmni yn dderbyniol.

 

(2)       Mae gan y Cyngor adeilad i gael gwared ohono, mae ganddo brynwr sydd wedi gwneud cynnig derbyniol a fydd yn arbed y Cyngor rhag gorfod talu Tâl Gwasanaeth o £8,000 y flwyddyn ac Ardrethi Annomestig o oddeutu £6,875 y flwyddyn os nad yw’r cynnig yn cael ei dderbyn a’r eiddo yn aros yn wag.

 

Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r cynnig i dderbyn y cynnig’.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cefnogi gwerthiant Newtech Square, swyddfa a gofod labordy 22,500 troedfedd sgwâr ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

16.

Gwerthu Hope Hall Farm, yr Hôb

Pwrpas:        I gefnogi gwerthiant Hope Hall Farm, yr Hôb sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor yn berchen ar y rhydd-ddaliad i Hope Hall Farm, Yr Hôb.

 

Roedd y fferm wedi’i rhannu i dair llain:

 

·         Y fferm a 101 erw o dir;

·         Llain 7 erw sy’n cael ei gwaredu ar wahân; a

·         Thir a gedwir sy’n wynebu’r briffordd pe bai modd ei ddatblygu yn y dyfodol.

 

Byddai gwerthu yn amodol ar gymal adfachu a fyddai’n aros mewn grym am y 25 mlynedd nesaf.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

 ‘Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, rwy’n ei gweld hi’n od bod y mater o werthu Hope Hall Farm yn cael ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet, rai misoedd ar ôl gwerthu. Yn ôl yr adroddiad, yn dilyn cefnogaeth Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf i gael gwared ar y fferm ym mis Chwefror 2018, cafodd ei gwerthu drwy dendr anffurfiol ym mis Tachwedd 2019.  

 

Rwy’n derbyn er y byddai wedi bod yn well petai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet wedi cael eu cynnwys yn gynt, yn sicr yn y sefyllfa bresennol mae’n bosib y buasai cyflwr y farchnad wedi gwaethygu a’r prynwr wedi ailfeddwl y swm a gynigiwyd. Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r argymhelliad bod y Cabinet yn cefnogi gwerthu Hope Hall Farm, Yr Hôb, sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.’

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cefnogi gwerthiant Hope Hall Farm, Yr Hôb sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.

17.

Hyd Y Cyfarfod

Cofnodion:

Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 1.30pm.