Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote attendance meeting

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu penodi’r Cynghorydd Rob Davies fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Cadeirydd enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.

 

Derbyniwyd dau enwebiad ar gyfer y Cynghorwyr Ian Hodge a Steve Copple.  Yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Hodge fel Is-gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Hodge yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 63 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 20 Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

5.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 82 KB

Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’w hystyried a chroesawyd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Mewn ymateb i gais i gynnwys eitem mewn perthynas â hyd cyfarfodydd a’r amser a ganiateir i Aelodau siarad, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i gymryd hyn fel cam gweithredu.

 

Mewn ymateb i’r cais ar gyfer gosod dyfais amseru yn Ystafell Bwyllgor Delyn, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ymchwilio i hyn ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith; a

 

(b)     Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

6.

Cyfarfodydd: Cofnodion a Threfniadau Cynnal pdf icon PDF 118 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y newidiadau i fformat cofnodion y Pwyllgor a’r effaith ar y trefniadau cynnal ar gyfer cyfarfodydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd rywfaint o wybodaeth gefndirol i’r rheswm dros gynnig y newidiadau a chyfeiriwyd Aelodau at yr atodiadau, a oedd yn enghreifftiau o’r fformat a ddefnyddiwyd.  Roedd y fformat hwn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac wedi’i dderbyn.   Eglurwyd wrth i ragor o gyfarfodydd gael eu cynnal ar ffurf hybrid, roedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr adnoddau o fewn y tîm.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Johnson, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellid cynnwys llinell ychwanegol i nodi’r deiliad portffolio - Aelod Cabinet.  Gofynnodd y Cynghorydd Johnson hefyd a ddylid gwahanu’r Datganiadau Cysylltiad a’r Datganiadau Chwipio i ddwy linell. 

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn derbyn y newid i fformat y cofnodion yn unol â’r templed a oedd ynghlwm fel Atodiad 1; ac

 

(b)     Yn dilyn gweithredu’r newid i fformat y cofnodion, darparu pob un o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau ar ffurf ‘hybrid’.

7.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.