Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

26.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer pob Aelod ar eitem 6: Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), Chwefror 2023

 

27.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Ionawr  2023.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023.   Cadarnhawyd y cofnodion fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Gillian Brockley a Steve Copple.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

 

28.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad.   Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.  Roedd y newidiadau a argymhellwyd wedi eu hamlinellu yn adran 1.01 o’r adroddiad a’r geiriau angenrheidiol i weithredu’r newidiadau wedi’i ychwanegu i’r Cod Ymddygiad fel newidiadau drafft yn Atodiad1.    Darparwyd copi glân o’r “fersiwn gorffenedig” yn Atodiad 2.

 

Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan Aelodau yn ymwneud â’r diffiniad o ‘drosedd/ymddygiad troseddol’ fel y cyfeirir yn y paragraff newidiadau arfaethedig 1.01 (vi).  Eglurodd fod yna rwymedigaeth yn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr adrodd am fater o drosedd/ymddygiad troseddol fyddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod priodol i gymryd camau priodol.   Eglurodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw Gynghorydd oedd yn euog o drosedd/ymddygiad troseddol yn destun y gyfraith troseddol ac os yn cael eu canfod yn euog yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn awgrymu bod gofyniad yn cael ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad bod holl Aelodau yn derbyn gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) manylach ar ddechrau’r tymor mewn swydd.    Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Attridge ac eglurodd y byddai’n cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i hysbysu am y cyngor cyfreithiol ar pa swyddi o fewn y Cyngor y gellir cynnal gwiriad GDG a’r angen am bolisi yn y dyfodol.  Roedd y Cadeirydd yn argymell y dylid cynnwys hyn fel eitem yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’r Pwyllgor ei ystyried ac roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn eilio hyn.   Roedd y bleidlais ddilynol o blaid y cynnig.   

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad Cynghorwyr yn 

cael eu cymeradwyo; a

 

(b)       Bod adroddiad ar y potensial i gynnal gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) i holl Gynghorwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

29.

Cymeradwyo'r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i'r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o'r Cyfansoddiad. pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a Chyfansoddiad wedi’i ddiweddaru.  Roedd wedi darparu gwybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y gweithgor oedd wedi ymgynnull i ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023.    Dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor wedi argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin ar gyfer y cyfansoddiad a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023.    Roedd drafft o’r cyfansoddiad a’r canllaw iaith gyffredin ynghlwm i’r adroddiad.   Roedd y newidiadau yr oedd y gweithgor yn eu cynnig i gyfansoddiad y Cyngor wedi eu dangos fel newidiadau, gan gynnwys y newidiadau ychwanegol a wnaed o ganlyniad i’r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor.    Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r gweithgor am ei waith ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft.  Cyfeiriodd at baragraff 1.14 o’r adroddiad a dywedodd ei fod yn teimlo nad oedd y pwynt a godwyd gan y Pwyllgor yngl?n ag Undebau Llafur a pholisi rhannu pryderon y Cyngor wedi derbyn sylw.    Hefyd, cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at baragraff 4.6.21 o’r cyfansoddiad drafft oedd ynghlwm i’r adroddiad a dywedodd os mai’r bwriad oedd i’r Cyngor gynnal y broses hunanasesu yn unig, byddai’r geiriad yn cael ei adolygu i nodi hyn.  Roedd y Prif Swyddog wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Ibbotson ac awgrymodd bod paragraff 4.6.21 yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformiad o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)” i egluro’r ddyletswydd hunanasesu corfforaethol a chadarnhau nad oedd wedi’i fwriadu i ddileu swyddogaethau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.    Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson i’r eglurhad ar lafar gan y Prif Swyddog gael ei gynnwys yn y paragraff ar gyfer cadarnhad.   

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Steve Copple.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor bod y cyfansoddiad diwygiedig drafft yn cael ei fabwysiadu, gyda’r eithriad o ddisgrifiadau rôl yn Adran 31 o’r cyfansoddiad drafft ac yn ddarostyngedig i wiriad cysondeb mewnol terfynol, prawf-ddarllen a chroesgyfeirio gyda’r canllaw iaith gyffredin;

 

(b)       bod paragraff 4.6.21 o’r Cyfansoddiad drafft yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformio o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)”

 

(c)       Y bydd unrhyw waith ychwanegol a ystyrir gan y Pwyllgor sy’n cael ei gynnal

mewn perthynas â chyfansoddiad y Cyngor yn ffurfio rhan o raglen

gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

30.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), Chwefror 2023 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion am adroddiad blynyddol terfynol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi manylion yr adroddiad blynyddol terfynol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-24.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd na fu unrhyw newidiadau i’r cynigion oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad drafft a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar  9 Tachwedd 2022 ac felly byddai’r holl ffigyrau a ddarparwyd yn adroddiad Tachwedd yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2023.   

 

Wrth gymeradwyo’r argymhelliad, cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at baragraff 1.05 o’r adroddiad a mynegodd bryder y gall Aelodau neu aelodau cyfetholedig deimlo dan bwysau gan y datganiad IRPW i hepgor unrhyw ran o’u hawliad i dâl o dan benderfyniad y Panel ar gyfer y flwyddyn arbennig honno.   Cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24.

 

31.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Weithgor - Fformat Cyfarfodydd

Pwrpas:        Rhoi diweddariad llafar a chyflwyniad i’r Pwyllgor am waith y Gweithgor a sefydlwyd i adolygu a diweddaru’r ‘Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad dros dro’ ac edrych ar oblygiadau unrhyw newidiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyflwyniad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gweithgor hyd yma a sefydlwyd i adolygu a diweddaru’r ‘Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad dros dro’ ac edrych ar oblygiadau unrhyw newidiadau.  Roedd y cyflwyniad yn trafod y pwyntiau a ganlyn:

 

  • nod y gweithgor
  • gweithgareddau a gwblhawyd
  • camau nesaf - polisi cyfarfodydd aml-leoliad

 

32.

Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd neu a drefnwyd ers yr adroddiad diwethaf.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y rhaglen sefydlu wedi’i bwriadu i roi gorolwg i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd o sut roedd y Cyngor yn gweithio, gan gynnwys rheolau a rheoliadau, rôl Aelodau Etholedig a rôl Swyddogion.    Gan fod Aelodau nawr wedi setlo i’w rolau, roedd yn briodol ystyried sut y gallent gael eu cefnogi yn eu datblygiad dros y 4 blynedd nesaf.    Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad a dywedodd bod ‘dadansoddiad anghenion hyfforddiant’ holl Aelodau wedi’i awgrymu i sicrhau bod yr hyfforddiant yn berthnasol i ddymuniadau ac anghenion Aelodau a hefyd i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau sy’n bodoli ar draws y Sir.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Hodge a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ‘dadansoddiad o anghenion hyfforddiant’ yn cael ei gynnal ar gyfer pob Aelod gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i lywio rhaglenni

datblygu yn well yn y dyfodol.

 

(b)       Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer datblygu, eu bod yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod; a

 

(c)       Bod cynllun hyfforddiant a datblygu drafft yn cael ei gyflwyno i’r

Pwyllgor ym mis Mehefin. 

 

33.

Members of the public and press in attendance

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 3.23pm)