Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

10.

Cofnodion pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019. 

 

Materion sy'n codi

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell a oedd nodyn atgoffa wedi’i anfon at yr holl Aelodau’n gofyn iddynt ddiweddaru’r cysylltiadau i’w datgan ac a oedd yr Aelodau’n adolygu’r cysylltiadau roeddent wedi’u datgan yn flynyddol. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd bod cais wedi’i anfon a bod nifer o Aelodau wedi diweddaru eu datganiadau o ganlyniad. Byddai nodyn atgoffa blynyddol yn cael ei anfon at yr holl Aelodau yn y dyfodol a byddai cofnod yn cael ei gadw o’r datganiadau wedi’u diweddaru.

 

Tudalen 4, Eitem 5 - Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at yr hyfforddiant i Aelodau i ategu’r polisi diwygiedig a gofynnodd pryd y byddai’n cael ei gynnal. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n edrych ar hyn ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

11.

Cod Ymddygiad pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        I ddiwygio’r Cod Ymddygiad yn unol â'r argymhellion o Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ddiwygio’r Cod Ymddygiad yn unol â'r argymhellion gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Pwyllgor Safonau, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, wedi ystyried argymhellion a chanfyddiadau arfer orau’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Credai y dylai’r Cyngor fabwysiadu Argymhelliad 6 mewn perthynas ag anrhegion a lletygarwch yn wirfoddol a newid ei God Ymddygiad i’w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan nid yn unig anrhegion o werth unigol penodol, ond hefyd anrhegion sydd werth mwy na swm penodol gyda’i gilydd. Y cynnig oedd y dylai unrhyw anrheg gwerth mwy na £10 gael ei gofrestru (fel sy’n wir ar hyn o bryd) ac os oeddent yn derbyn anrhegion gwerth £100 neu fwy gan yr un rhoddwr o fewn cyfnod o 12 mis, y dylai hyn gael ei gofnodi hefyd.  Dywedodd y Prif Swyddog bod y diwygiad awgrymedig yn lleihau’r risg y gallai anrhegion/lletygarwch osgoi cael eu cofrestru trwy gael eu rhoi mewn symiau bach dros amser.  Roedd y diwygiadau awgrymedig i’r Cod Ymddygiad i’w gweld yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Chris Bithell, rhoddodd y Prif Swyddog fwy o wybodaeth am ddiddymu Panel Dyfarnu Lloegr a soniodd am rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 15, adran 6 (1) yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd y datganiad hefyd yn berthnasol i gyrff/sefydliadau cenedlaethol neu leol eraill. Eglurodd y Prif Swyddog bod hwn yn ddatganiad gorfodol a oedd yn berthnasol i bob cyngor lleol, a chyrff eraill yng Nghymru, gan nodi’r Awdurdod Tân fel enghraifft. 

 

Ceisiodd yr Aelodau gyngor am yr angen i gofrestru anrhegion o werth ariannol bach a allai, er enghraifft, gael eu rhoi gan breswylydd fel arwydd o werthfawrogiad am gefnogaeth i ddatrys mater yn eu Ward. Rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad yngl?n â chofrestru anrhegion a lletygarwch a dywedodd fod angen i’r Aelodau gofrestru unrhyw anrheg neu letygarwch a bennir i fod werth £10 neu fwy a gwrthod unrhyw anrheg/letygarwch o unrhyw werth sy’n ymddangos i roi’r Cynghorydd dan rwymedigaeth amhriodol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 25, adran 17 (3), ac awgrymodd, lle’r oedd yn rhaid i Aelodau hysbysu Swyddog Monitro’r Awdurdod yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, y gallai’r Swyddog Monitro gydnabod derbyn yr hysbysiad. Gofynnodd hefyd a fyddai cysylltiadau mae’r Aelodau wedi’u datgan yn cael eu diweddaru’n awtomatig wrth dderbyn yr hysbysiad neu a fyddai angen i’r Aelodau sicrhau eu bod nhw’n gwneud hyn.

 

Wrth drafod, rhoddodd y Prif Swyddog fwy o gyngor am y cwestiynau a’r sylwadau a godwyd ynghlwm â’r Gofrestr o Gysylltiadau, a chysylltiadau personol, a rhoddodd enghreifftiau o’r adeg y byddai angen i Aelod ddatgan cysylltiad personol neu gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell bod y Cyngor Llawn yn cynnwys y diwygiad awgrymedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i anrhegion sydd werth cyfanswm o £100 neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis gael eu datgan yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Adolygu Safonau Sir y Fflint pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Adolygu’r safonau ymddygiad disgwyliedig a nodir yn Safonau Sir y Fflint /y Weithdrefn Ddatrys Leol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i adolygu’r safonau ymddygiad disgwyliedig a oedd yn Safon Sir y Fflint/y Weithdrefn Ddatrys Leol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod Swyddogion wedi adolygu’r Safon gydag Arweinwyr Grwpiau ac awgrymwyd rhai diwygiadau i ehangu ac egluro disgwyliadau o ran ymddygiad. Roedd y Pwyllgor Safonau, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, wedi cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig ac awgrymodd hefyd y dylai cwynion dan y Safon gael eu gwneud o fewn 3 mis yn hytrach na 12 mis.  Gan fod datrysiad lleol wedi’i fwriadu i fod yn ddatrysiad cyflym, roedd y newid awgrymedig yn gyson ag amcanion y broses.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 38, adran 6, yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd y penderfyniad i fynd ymlaen i gam 2 neu gam 3 yn cael ei wneud gan y Swyddog Monitro neu’r sawl sy’n cwyno. Cyfeiriodd hefyd at adran 7, Cam 2 yn y Weithdrefn a, gan gyfeirio at y pedwerydd pwynt bwled, gofynnodd beth fyddai’r weithdrefn pe bai Aelod yn annibynnol ac nad oedd yn perthyn i gr?p ac nad oedd ganddo/ganddi Arweinydd Gr?p.  Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a godwyd a chytunodd i roi mwy o ystyriaeth i hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at dudalen 38, adran 13 (b) a rhoddodd ei farn nad oedd y datganiad ‘dim angen gweithredu ymhellach’ yn foddhaol os oedd sail i g?yn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y tri dewis a oedd ar gael i’r Pwyllgor Safonau, fel yr oedd yr adroddiad yn ei nodi, a rhoddodd eglurhad ac enghreifftiau ar sut y gellid dod i gasgliad. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell ynghylch paragraff 16, tudalen 39, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod gan un sy’n cwyno hawl statudol i gyflwyno cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Dywedodd nad oedd gweithdrefnau lleol yr Awdurdod yn atal cwyn rhag cael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon bod Aelod wedi torri Cod Ymddygiad yr Aelodau.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 35 yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd angen pennawd ar gyfer Ymddygiad Cyhoeddus a phennawd ar wahân ar gyfer Ymddygiad yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgorau. Awgrymodd y Prif Swyddog y gellid cyfuno’r ddau bennawd i ffurfio un pennawd, ‘Ymddygiad a ddisgwylir tuag at eraill’, a chytunodd y Pwyllgor ar hynny. Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes y gellid cynnwys cyfeiriad dan y pennawd at yr angen i’r Aelodau ymddwyn yn barchus wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell Safon ddiwygiedig Sir y Fflint i’r Cyngor i’w mabwysiadu.

13.

Datblygu ac Ymgysylltu Aelodau pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i’r pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf.  Tynnodd sylw at y ‘gweithdai ward’ a oedd wedi’u trefnu ar ôl cyhoeddi cynigion Adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd hefyd y byddai ‘sesiwn galw heibio’ agored ar 24 Hydref ar gyfer unrhyw Aelodau a oedd eisiau trafod sut y byddai’r cynigion yn effeithio ar eu ward nhw. Ar 28 Hydref, byddai gweithdy adolygu Wardiau Etholiadol pob Aelod a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth ar gyfer adroddiad i gyfarfod y Cyngor Sir a fyddai’n cael ei gynnal ar 19 Tachwedd 2019.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at y digwyddiadau a oedd yn cael eu cynnal yn ystod egwyl yr haf a gofynnodd a ellid osgoi hyn yn y dyfodol. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd nad oedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ystod mis Awst yn gyffredinol ond nad oedd dyddiadau eraill ar gyfer y ddau ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 1 Awst eleni.  Amlygodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd gan y Cyngor egwyl ffurfiol, yn wahanol i’r Senedd. Roedd holl wasanaethau’r Cyngor yn parhau tra nad oedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a ellid cynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau mewn adroddiadau yn y dyfodol.  

 

PENDERFYNWYD:  

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd y digwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf; ac

 

 (b)      Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, bod gwahoddiad iddynt gysylltu â Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.

14.

Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Yn Bresennol

Report of the Chief Executive enclosed.

 

Purpose: To provide details of actions taken under delegated powers.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.