Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702345  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodwyd datgan cysylltiad personol ar gyfer holl Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol ar eitem 4 ar y rhaglen - Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2023/24.

15.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 29 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Gillian Brockley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

16.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2023/24 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2023/2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) gyda chyfraddau taliadau arfaethedig i aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer 2023/24. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor cyn i’r Cyngor gyflwyno ymateb erbyn 1 Rhagfyr 2022. Roedd angen i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau ar y drafft cyn cyflwyno fersiwn derfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2023.

 

Cyfeiriwyd at fformat diwygiedig yr adroddiad a’r dull a ddefnyddiwyd gan yr IRPW i gysoni cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr drwy ddefnyddio Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2020 (ASHE) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd y cynnydd arfaethedig o rhwng 3.15% a 4.76% ymhell y tu ôl i lefel gyfredol chwyddiant.

 

Wrth roi cefndir, amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ystyriaethau'r Pwyllgor ar adroddiad IRPW 2022/23, gan gynnwys sylwadau y dylid rhoi cynyddrannau yn raddol dros gyfnod y Cyngor er mwyn osgoi'r angen am un cynnydd mawr, wrth hefyd ystyried lefelau chwyddiant ar y pryd. Awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried cyflwyno sylwadau i’r IRPW ddefnyddio ffynonellau cymharol eraill, yn ogystal ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (a oedd yn ymwneud â ffigyrau 2021) er mwyn osgoi dibynnu ar un ffynhonnell ddata a sicrhau nad oedd cyflogau cynghorwyr yn disgyn y tu ôl i’r rheini roeddent yn cynrychioli. Byddai hyn hefyd yn helpu i annog amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Ted Palmer sylw at bwysigrwydd yr IRPW fel corff annibynnol sy’n parhau i wneud y penderfyniad terfynol a dewis unigol yr Aelodau wrth ddewis derbyn unrhyw godiadau cyflog ai peidio.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, er bod hon yn broses annibynnol, roedd yr Aelodau etholedig yn gallu penderfynu a oeddent am dderbyn eu codiad cyflog neu os oeddent yn dymuno, gallent ddewis peidio â derbyn y codiad cyflog drwy roi gwybod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Steve Copple, eglurwyd bod adroddiadau’r IRPW wedi ystyried ond yn gwrthod seilio lwfansau ar y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol oherwydd nad oeddent yn adlewyrchu enillion cyfartalog. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i ddosbarthu dolen i'r papur esboniadol ar wefan IRPW a oedd yn egluro'r rhesymeg dros gadw'r cysylltiad ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i IRPW fod yn gyson wrth gyrraedd ei benderfyniadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Mynegodd y Pwyllgor gefnogaeth i'r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog.  Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Michelle Perfect a Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor yn nodi'r Penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2023/24; ac

 

(b)       Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i gyflwyno ymateb ar ran y Cyngor, gan adlewyrchu’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel a ganlyn:

 

Gofyn i’r IRPW ymhelaethu ar ffynonellau cymharol i sicrhau bod cyfraddau cyflog yn parhau’n gyfredol ac osgoi’r  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Arolwg ar amseroedd a fformat cyfarfodydd pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Gofyn am farn y Pwyllgor yngl?n â’r arolwg arfaethedig ar amseroedd a fformat cyfarfodydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i geisio barn y Pwyllgor ar yr arolwg arfaethedig ar amseroedd a fformat cyfarfodydd. Byddai’r arolwg yn rhoi cyfle i’r holl Aelodau rannu eu barn ynghylch pryd a sut y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal, gan ystyried gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfarfodydd aml-leoliad.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir ar y newidiadau deddfwriaethol a oedd yn cefnogi hygyrchedd ehangach i gyfarfodydd ffurfiol.  Gofynnodd a oedd y Pwyllgor yn fodlon y byddai'r arolwg yn galluogi pob unigolyn i fynegi ei farn yn llawn.

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bod y Pwyllgor yn symud ymlaen gyda’r argymhelliad gan y Cynghorydd Gillian Brockley. Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Michelle Perfect a Ted Palmer.

 

Eglurwyd y byddai'r arolwg yn cael ei gyhoeddi'n electronig ac y byddai'r Aelodau'n cael copi papur ar gais. Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a Gillian Brockley am gopïau papur.

 

Byddai canlyniad yr arolwg yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2023 ac unrhyw newidiadau yn cael eu hymgorffori yn y Rhestr o Gyfarfodydd ar gyfer 2023/24.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno â'r dull arfaethedig o gynnal yr arolwg ac yn cymeradwyo'r ffurflen arolwg i'w defnyddio.

18.

Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Hefyd Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.